Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 22ain Awst, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, P.M. Edwards, K. Madge a J.E. Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 445 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/38980

Addasu eiddo teras yn d? amlfeddiannaeth 6 ystafell wely, Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3EN

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 840 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

S/21597

Adeiladu 100 o anheddau a gwaith cysylltiedig ar dir ger Garreglwyd, Pen-bre, Sir Gaerfyrddin

 

Cyflwynwyd sylw gan yr Aelod Lleol a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn gweld effaith yr amwynder gweledol a'r mynediad a gwelededd annigonol i'r safle.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad â'r safle.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y datblygiad arfaethedig ac i asesu'r effaith ar y briffordd a'r amwynderau lleol.

 

 

4.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/38939

Estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo a thramwyfa newydd y tu blaen, 46 Heol Nant, Dyffryn y Swistir, Llanelli SA14 8EN

 

S/38967

Cynnig i addasu'r garej presennol, estyniad cyswllt a phortsh blaen, 29 Heol Saron, y Bynea, Llanelli SA14 9LT

 

S/39013

Llecynnau addysgu ac ymarfer newydd, Clwb Golff Ashburnham, Teras y Graig, Porth Tywyn SA16 0HN

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 447 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/38894

Cynnig i newid defnydd y siop bresennol i ddefnydd preswyl, 15 Heol y Bont, Caerfyrddin, SA31 3JS

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25AIN GORFFENNAF, 2019 pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 25 Gorffennaf 2019 gan eu bod yn gywir.