Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies
01267 224059
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.C.
Jones, J. Lewis, K. Madge, G.B. Thomas a J.E. Williams.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 567 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
E/38833
|
Variation
of conditions 2 and 13 of E/33695 at Godre Garreg,
Llangadog, SA19 9DA;
|
E/38956
|
2.8 metre
high fence to left, rear and right boundary at 2 Parc Y Llan,
Llandybie, Ammanford, SA18
3HY
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 637 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/37922
|
Cynllun ffordd ynghyd â chadw deunydd mewnlenwi
anadweithiol i godi lefelau'r safle er mwyn hwyluso draenio ar y
safle ar gyfer datblygiad preswyl yn y dyfodol ar dir y tu ôl
i Y Garreg Llwyd, Heol Ebenezer, Llanedi, Llanelli;
|
S/38899
|
Estyniad unllawr ym mlaen yr adeilad fel rhan o gais
am grant anabledd yn 8 Penybryn, Llanelli, SA14 8PS;
|
4.2
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio
ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
Cynllunio ymweld â'r safleoedd:-
S/38535
|
Helaethu'r safle teithwyr S/34755 [a gymeradwywyd ar
20.03.2018] er mwyn caniatau trydedd lain ar gyfer aelod o'r teulu,
yn ogystal â newidiadau i'r cynllun tirweddu a chaniatau i'r
safle gael caniatâd parhaol ar dir yn Hillside View, yr
Hendy, Llannon, Llanelli, SA14 8JX;
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle o
ystyried y pryderon yn ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth i
amodau sydd ynghlwm ag unrhyw ganiatâd blaenorol.
Yn unol
â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwyr oedd
wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno
eu sylwadau yn y cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r
safle.
|
S/38787
|
Adeiladu dau d? deulawr ar wahân, safle'r hen
glwb bowlio a chymdeithasol, 38 Heol Fair, Cydweli, SA17
4UD;
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yng nghyd-destun
pryderon amwynder a phreifatrwydd.
|
S/38916
|
Estyniad unllawr ar ochr yr eiddo, sy'n cynnwys
ffenestri yn y to yn lle'r t? allan presennol cysylltiedig, decin
wedi'i godi a tho gwastad yn Nhre Neddyn, Pontarddulais, Abertawe, SA4
0FP.
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yng
nghyd-destun pryderon preifatrwydd
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 669 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y
cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r
safle:-
W/37120
|
Datblygu safle drwy adeiladu bwyty
annibynnol a siop goffi annibynnol, ill dau â chyfleusterau
gyrru drwyddo cysylltiedig.Gosod ffordd fynediad, maes parcio cysylltiedig,
patio, offer echdynnu a gwaith gysylltiedig ehangach i'r safle
ar dir wrth
gylchfan Sanclêr, Hen Heol Dinbych-y-pysgod, Sanclêr,
Sir Gaerfyrddin, SA33 4JW
Yn unol â phrotocol y Pwyllgor
Cynllunio roedd y gwrthwynebwyr oedd wedi gofyn am gael siarad
ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod
ar ôl yr ymweliad â'r safle.
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y mynediad i'r
safle.
|
5.2
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
W/38412
|
Newid defnydd o storfa amaethyddol i breswylfa 4
ystafell wely anghenion lleol gan gynnwys estyniad yng nghefn yr
eiddo, yn dilyn cais cynllunio W/13476 yn Cystanog, Capel Dewi,
Caerfyrddin, SA32 8AY;
|
5.3
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol ar gais y Pennaeth
Cynllunio:-
W/38722
|
Cadw gwaith ar Adeilad Rhestredig nas cyflawnwyd yn
unol â Chaniatâd Adeilad Rhestredig cyfeirnod W/08409
yn Yr Hen Dy Fferm, Penrallt, Login, Hendy-gwyn ar Daf, SA34
0TL.
|
|