Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 19eg Mawrth, 2019 12.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd. K. Lloyd.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enw

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd P. M. Edwards

5 – Cais Cynllunio S/37852 - Gosod wyneb newydd ar batio, gwaredu'r grisiau metel a gosod patio ychwanegol yn eu lle.  Gosod balwstrad perimedr o amgylch y patio.  Ymestyn palmentydd y dramwyfa a chael gwared ar y darnau llechi rhydd (ôl-weithredol) ar 19 Heol Elgin, Pwll, Llanelli, SA15 4AD

Cyswllt personol â'r ymgeisydd.

John Thomas (Uwch-swyddog Rheoli Datblygu)

6 - Cais Cynllunio W/38395 - Cais am adeilad newydd ar gyfer da byw yn lle'r un presennol gan gynnwys storfa biswail dan y llawr, Fferm Nantygelli, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6UT

Ymgeisydd yn berthynas

 

 

3.

S/34991 - DATBLYGIAD PRESWYL O HYD AT 94 O BRESWYLFEYDD, MYNEDIAD I GERBYDAU O HEOL MAES-AR-DDAFEN, LLE AGORED, TIRWEDDU A SEILWAITH CYSYLLTIEDIG ARALL AR DIR YNG NGHEFNCAEAU, ODDI AR HEOL MAES-AR-DDAFEN AC ERWLAS, LLWYNHENDY, LLANELLI pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 7 Mawrth 2019), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon lleol ynghylch diogelwch ffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd nad oedd y graddfa a'r dyluniad yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos, llifogydd a'r effaith ar seilwaith a chyfleusterau. Felly, roedd y gwrthwynebydd o'r farn bod y cynnig yn groes i Bolisi SP1, SP3, GP1 a GP4 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL caniatáu cais cynllunio W/34991 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

4.

S/38295 - ADEILADU TY NEWYDD Â GAREJ O DAN YR UNTO AR LAIN 3, HEOL BRONALLT, FFOREST, LLANELLI, SA4 7TE pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 7 Mawrth 2019) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL caniatáu Cais Cynllunio S/38295 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail y barnwyd ei fod yn unol â Pholisi GP1, yn amodol ar yr amodau i'w drafftio gan y Pennaeth Cynllunio a fydd yn cynnwys Ymgymeriad Unochrog.

 

5.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod;

 

S/37358

Hyd at 27 o breswylfeydd - Materion a Gadwyd yn ôl i gymeradwyaeth amlinellol S/29469, tir i'r gogledd o Glwb Rygbi T?-croes, Heol Penygarn, T?-croes, Rhydaman, SA18 3NY

 

Cafwyd sylwadau gan y Cyng. Tina Higgins yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roeddynt yn cynnwys y canlynol:

 

  • roedd y clos adeiladu yn rhy agos i'r preswylfeydd presennol;
  • effaith ecolegol ac amgylcheddol y datblygiad;
  • mynediad annigonol i'r safle;
  • roedd y safle yn agored i lifogydd;
  • ni fyddai'r seilwaith presennol yn ymdopi â thraffig adeiladu.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cydgysylltydd Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd.

 

S/37852

 

Gosod wyneb newydd ar batio, gwaredu'r grisiau metel a gosod patio ychwanegol yn eu lle.  Gosod balwstrad perimedr o amgylch y patio.  Ymestyn palmentydd y dramwyfa a chael gwared ar y darnau llechi rhydd (ôl-weithredol) ar 19 Heol Elgin, Pwll, Llanelli, SA15 4AD

 

[Sylwer: Gan fod y Cynghorydd P Edwards wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Gwrthodwyd cais ysgrifenedig i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, gan ail-bwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

  • gellid defnyddio'r ardaloedd storio fel llety / ardaloedd byw;
  • colli preifatrwydd;
  • ystyriwyd nad oedd y clawdd presennol yn sgrin parhaol addas.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd.

 

Nodwyd bod gwall teipograffeg yn amod 3 y cais ac er mwyn bodloni'r gofynion perthnasol o ran rhesymoldeb, dylai nodi bod angen cadw'r clawdd presennol ar uchder o 1.8m o leiaf ac nid 1.9m.

 

S/38175

Preswylfa ar wahân ar dir sy'n rhan o 11 Heol Pen-y-gaer, Llanelli, SA14 8RU

 

 

 

6.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 992 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

W/36559

 

 

Newid defnydd o dir gwag ar gyfer gosod 18 carafán sefydlog fel estyniad   i faes carafanau cyfagos presennol Ants Hill Caravan & Camping Park, Talacharn, Caerfyrddin, SA33 4QN

 

 

W/38395

 

Adeilad newydd ar gyfer da byw yn lle'r un presennol gan gynnwys storfa biswail dan y llawr, yn Fferm Nantygelli, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6UT

 

(NODER: Roedd John Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Datblygu wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd y cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei gylch.)

 

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG CHWEFROR, 2019 pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 19 Chwefror 2019 yn gywir, yn amodol ar y newid canlynol – roedd y Cynghorwyr J James a K Howell wedi datgan buddiant yn yr eitem ac wedi gadael y Siambr tra oedd cais S/38235 yn cael ei drafod, ac nid cais S/37075 fel y nodwyd.