Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H. I. Jones

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnol.

 

 

3.

W/37267 - CODI 2 BRESWYL 3 YSTAFELL WELY (1 FFORDDIADWY, 1 FARCHNAD AGORED) AR DIR GERLLAW LLYS BRIALLU, SARNAU, BANCYFELIN, SA33 5EA pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddid yn gohirio ystyried y cais hwn tan gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 947 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

4.1      PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

 

Error! Reference source not found.

Dymchwel y wal derfyn frics a'r sied bresennol, a gosod garej newydd sy'n cynnwys lle storio, stiwdio a gweithdy yn eu lle, er mwyn adeiladu man ategol ychwanegol yn 1 Heol y Bailey, Cydweli, SA17 5AZ

 

Nododd y Pwyllgor y cyflwynwyd y cais hwn fel Cais Cynllunio Llawn a Chaniatâd Ardal Gadwraeth. Fodd bynnag, rhannwyd y cais hwn yn y broses gofrestru felly roedd cais cyfochrog (S/37981) ar waith gan fod y cynnig yn cynnwys dymchwel wal brics sylweddol ar hyd wyneb y ffordd. 

 

Dywedodd yr aelod lleol wrth y Pwyllgor nad oedd hi yn bersonol wedi gwneud penderfyniad eto o ran canlyniad y cais hwn a byddai'n gwrando ar y cais a gyflwynwyd ger bron y Pwyllgor heddiw. Fodd bynnag, cyflwynodd sylwadau a oedd yn adleisio'r pryderon yr oedd pobl wedi'u cyfeirio ati hi a oedd yn bennaf yn gwrthwynebu'r cais, ac hefyd yn ailbwysleisio'r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, fel a ganlyn:-

 

·         Pryderon ynghylch diogelwch priffyrdd/cerddwyr;

-       parcio;

-       gwelededd.

·         Preifatrwydd/amwynder;

­   Codwyd pryderon ynghylch uchder y talcen cefn sy'n edrych dros yr ardd breifat.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Error! Reference source not found.

Dymchwel y wal derfyn frics a'r sied bresennol, a gosod garej newydd sy'n cynnwys lle storio, stiwdio a gweithdy yn eu lle, er mwyn adeiladu man ategol ychwanegol yn 1 Heol y Bailey, Cydweli, SA17 5AZ

 

Nododd y Pwyllgor fod y cais hwn am Ganiatâd Ardal Gadwraeth a oedd i'w ystyried ochr yn ochr â'r cais Cynllunio Llawn (S/37968) uchod.

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 901 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r amodau a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y'u manylwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol, y rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog ar 13 Rhagfyr, 2018, yn amodol ar newid amod 6 i ddatgan:

 

‘Rhaid i'r defnydd a ganiateir trwy hyn ddigwydd rhwng 06:00 a 21:00 ddydd Llun i ddydd Gwener; rhwng 06:00 a 16:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar ddydd Sul, Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc';

 

W/36131

Newid defnydd rhannol arfaethedig i ardal fach mewn ffatri/gweithdy ffrâm bren i'w defnyddio fel gofod campfa ffitrwydd a chwilbedlo (i'w osod). Newid defnydd rhan o'r cae cyfagos i fod yn faes parcio pwrpasol at ddefnydd y gampfa a chwilbedlo arfaethedig yn y gweithdy, Bwlch y Domen Isaf, Pant y Bwlch, Castellnewydd Emlyn, SA38 9JF

 

[Sylwer: Nid oedd y Cynghorwyr J. Gilasbey, G.B. Thomas a J. Prosser yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2018 ac felly nid oeddent wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ar benderfyniad y cais.]

 

Nododd y Pwyllgor fod yr amodau a oedd wedi'u cynnwys yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio yn adlewyrchu sylwadau'r Pennaeth Trafnidiaeth, y Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd, Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a ddaeth i law mewn ymateb i'r cais, ynghyd â'r angen i sicrhau gwaith tirlunio a draenio addas, a barnwyd eu bod yn briodol i gael eu gosod ar y caniatâd cynllunio.

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol yn cefnogi'r amodau drafft a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio. Fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch amod 6 sy'n nodi mai 7:00am yw'r amser agor. Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried diwygio Amod 6 er mwyn nodi amser agor o 6:00am oherwydd gallai amser hwyrach gael effaith ar y busnes drwy eithrio'r cwsmeriaid hynny sy'n mynd i'r gampfa cyn teithio i'r gwaith. 

 

 

 

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

6.1

27 TACHWEDD 2018 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27Tachwedd 2018, gan eu bod yn gywir.

 

 

6.2

13 RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 13 Rhagfyr, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau