Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 12fed Rhagfyr, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enw

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Carys Jones

5 - Cais W/38933 - Newid defnydd t? allan diangen yn un uned breswyl, adeilad ym Mharc y Cnwc, Heol yr Hen Ysgol, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5HA.

Mae gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos iddi. 

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 588 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/38716

Materion a gadwyd yn ôl - Uned ddiwydiannol, maes parcio a gwaith seilwaith cysylltiedig - W/33578 (amrywio amod 3 ar ganiatâd cynllunio amlinellol W/23782 a gymeradwywyd ar 29/11/2012) (estyniad o ran amser o 9 mlynedd o ddyddiad y caniatâd amlinellol) ar dir y tu cefn i Continental Leisure, Heol Parc Mawr, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RE

 

3.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, yn amodol ar hysbysiad gwyro ac amodau a fydd yn cael eu drafftio gan y Pennaeth Cynllunio:-

 

E/39533

Byngalo fforddiadwy wedi'i addasu ar gyfer pobl ag anableddau, gyda storfa amaethyddol ar wahân ar dir ger Maesyllyn, Salem, Llandeilo, SA19 7NA

 

Darllenodd yr Aelod Lleol ddatganiad ar ran yr ymgeisydd. Wrth i'r datganiad gael ei ddarllen, cafodd gwe-ddarllediad y cyfarfod ei oedi gan fod y datganiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol.

 

Yn dilyn trafodaethau, penderfynwyd caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar sail y canlynol:

·         bod y datblygiad arfaethedig yn cydweddu ag arddull adeiladau presennol yn y cyffiniau

·         bod caniatáu'r cais yn hyrwyddo bywyd gwledig

·         bod y cais yn cefnogi hawliau dynol a chydraddoldeb

·         angen lleol ac amgylchiadau cymdeithasol.

.

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 997 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1         PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

S/38285

Adeiladu datblygiad preswyl sy'n cynnwys hyd at 210 o unedau ynghyd â gwaith tirweddu a seilwaith cysylltiedig ar dir yn Noc y Gogledd, Seaside, Llanelli, SA15 2LY

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle er mwyn gweld yr effaith bosibl ar y briffordd a'r amwynderau lleol.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y datblygiad arfaethedig er mwyn asesu'r effaith ar y briffordd a'r amwynderau lleol.

 

 

4.2         PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/39456

37 o breswylfeydd (fforddiadwy) ar dir i'r gogledd o Glwb Rygbi T?-croes, Heol Pen-y-garn, T?-croes, Rhydaman, SA18 3NY

 

Cafwyd sylw gan Gyngor Cymuned Llanedi yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig gan ailbwysleisio’r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai bryder fel a ganlyn:

 

1.    Maint y datblygiad

2.    Nid oedd y datblygiad o fewn y CDLl

3.    Materion presennol o ran d?r wyneb/llifogydd

4.    Dim galw am dai fforddiadwy yn Nh?-croes

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r ymgeisydd i'r materion a godwyd.

S/39662

Garej ar wahân yng Nghlos Cae Derw, Llangennech, Sir Gaerfyrddin, SA14 8WF

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 532 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/38933

Newid defnydd t? allan diangen yn un uned breswyl wrth adeilad ym Mharc y Cnwc, Heol yr Hen Ysgol, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5HA.

 

[Sylwer: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd C. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

W/39362

Ailraddio'n rhannol y llawr caled estynedig a gadwyd ger tyrbin T6 drwy gyflwyno 7 grid gwartheg yn Fferm Wynt Alltwalis (Statkraft), Heol Coedllwydion, Alltwalis, Caerfyrddin, SA32 7ED

 

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14EG TACHWEDD, 2019 pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019 yn gywir.