Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd I.W. Davies a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enw

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd B.D.J. Phillips

4 – Cais Cynllunio W/39269 - Preswylfa arfaethedig ar dir ger Talar Deg, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, SA34 0EL

Mae'r ymgeisydd yn gwsmer ac mae'r gwrthwynebydd yn aelod o'r teulu.

 

 

3.

YSTYRIED ADRODDIAD PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CAIS CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLE YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CAIS

Dogfennau ychwanegol:

3.1

S/21597 - ADEILADU 100 O ANHEDDAU A GWAITH CYSYLLTIEDIG AR DIR GER GARREGLWYD, PEN-BRE, SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 489 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 22 Awst 2019) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd yn lleol ynghylch yr effaith y briffordd a'r amwynderau lleol. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Daeth sylwadau i law gan yr Aelod Lleol a phreswylwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd pryder yw llifogydd posibl a'r systemau draenio d?r brwnt, yr effaith ar seilwaith, diogelwch priffyrdd a cherddwyr, ac amwynderau. Felly, roedd y gwrthwynebwyr o'r farn bod y cynnig yn groes i Bolisïau TR1, TR3, EQ5, TAN 15, TAN 20 a TAN 24.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.

 

PENDERFYNWYD gwrthod Cais Cynllunio S/21597, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ar y sail ganlynol:-

 

3.1.1 Mae'n groes i Bolisïau TR1 a TR3, tagfeydd traffig a mynediad annigonol i'r safle; yn groes i Bolisi EQ5, yr effaith ar y Gymraeg ac yn groes i TAN 5, yr effaith ecolegol (pathewod). 

 

3.1.2 Bydd y swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio ynghylch Adran 77 (Erthygl 18) yn cael ei galw i mewn.

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 535 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

W/39269

 

Preswylfa arfaethedig ar dir ger Talar Deg, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, SA34 0EL

 

[Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd B.D.J Phillips Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau