Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, K. Madge a G.B. Thomas
|
||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 2 Mai 2019) er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y trefniadau o ran cael mynediad i'r safle a gadael y safle yn sgil pryderon ynghylch diogelwch ar y ffordd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle roedd y prif bryderon yn ymwneud â threfniadau mynediad i'r safle drwy Ddôl Y Dderwen, diogelwch wrth y gyffordd â Heol yr Ysgol a'r B4312, y mynediad arall a awgrymir drwy Ffordd yr Eglwys, yr effaith amgylcheddol bosibl ar breswylwyr ynghyd â'r effaith bosibl ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach sy'n deillio o'r cynnydd yn y traffig a gynhyrchir gan y datblygiad, yn benodol mewn perthynas â llif traffig ar hyd Heol Allt-y-cnap, Tre Ioan.
Bu i asiant yr ymgeisydd, y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Cynlluniwr Trafnidiaeth ymateb i'r materion a godwyd.
Wrth roi sylw i'r adroddiad bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a wnaed gan y trigolion i gael mynediad arall ar hyd Ffordd yr Eglwys ynghyd â pharodrwydd honedig y tirfeddianwyr cyfagos i gyfnewid tir â'r ymgeisydd i hwyluso ehangu Heol Yr Eglwys er mwyn creu mynediad arall i'r safle datblygu. O ganlyniad, mynegwyd y farn y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel bod modd i'r datblygwr, y tirfeddiannwr cyfagos a'r adran gynllunio drafod y mynediad arall hwnnw.
Dywedodd y Pennaeth Cynllunio petai'r ymgeisydd yn barod i gytuno ar fynediad arall a awgrymir, y byddai angen cyflwyno cais cynllunio newydd a chynnal ail ymgynghoriad perthnasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar Gais Cynllunio W/38125 fel bod modd i'r datblygwr, y tirfeddiannwr cyfagos a'r adran gynllunio drafod y posibilrwydd o gael mynediad i'r safle datblygu drwy Ffordd yr Eglwys.
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (SYLWER: Gan fod y Cynghorydd D. Phillips wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bo'r Pwyllgor yn ystyried y mater)
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Gorffennaf 2019) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y trefniadau mynediad i'r safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, roedd y prif bryderon yn ymwneud â'r effaith bosibl y gallai'r bwyty pryd-ar-frys ei chael ar iechyd pobl ifanc, nid oedd y safle o fewn terfynau datblygu Sanclêr, nid oedd y cynnig yn cwrdd â dyheadau Bwrdd Datblygu Gwledig y Cyngor i annog pobl ifanc i ddychwelyd i'w gwreiddiau, cyn bo hir byddai cam 2 o'r datblygiad ar waith drwy greu tafarndy/bwyty er anfantais i fusnesau presennol yn Sanclêr, byddai unrhyw elw a ddeilliai o'r datblygiad yn cael ei gadw gan gwmnïau rhyngwladol ac nid cwmni lleol ac roedd y cynnig yn anelu at fanteisio i'r eithaf ar draffig a deithiai heibio Sanclêr er anfantais fusnesau lleol.
Bu i asiant yr ymgeisydd, y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Cynlluniwr Trafnidiaeth ymateb i'r materion a godwyd.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr aelod lleol yn gallu dod i'r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau blaenorol a'i fod wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'w darllen gerbron y pwyllgor. Darllenodd lythyr a oedd yn gofyn am i'r cais gael ei ohirio er mwyn galluogi i lif traffig presennol ac arfaethedig yn yr ardal gael ei fesur yn fanwl gywir.
Wrth roi sylw i'r adroddiad bu'r Pwyllgor yn ystyried darpariaethau'r Cynllun Datblygu Lleol a'r ffaith fod y safle y tu hwnt i derfynau datblygu Sanclêr. Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylid gwrthod y cais am y rheswm hwnnw.
PENDERFYNWYD gwrthod Cais Cynllunio W/37120, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio gan fod y safle tu hwnt i derfynau datblygu Sanclêr fel y ddiffinnir yng Nghynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin.
(Noder: Ar ôl i'r eitem uchod ddod i ben, cafodd y pwyllgor egwyl am 2.05 p.m., gan ailgynnull am 2.15 p.m.)
|
||||||||||||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
||||||||||||||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 438 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 5.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Awst 2019 yn gofnod cywir.
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Awst 2019 yn gofnod cywir.
|