Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, P.M. Edwards, K. Lloyd, K. Madge, G.B. Thomas a J.E. Williams.
|
|
DATGAN BUDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 7.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 31 Hydref 2017) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar fynediad Lôn y Sipsiwn wrth ei chyffordd â'r A4138. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd bod yna safle teithwyr yn yr ardal gyfagos eisoes sy'n hanner gwag, tarfu a thraffig yn cynyddu ar hyd Lôn y Sipsiwn a'r effaith ar ddiogelwch ffyrdd.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd, y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio), a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/35265, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 16 Tachwedd, 2017) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar safle i gael amcan o'r breswylfa arfaethedig mewn perthynas ag eiddo cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Cafwyd sylw oedd yn cefnogi'r cais ac yn ailbwysleisio'r sylwadau cefnogi y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, sef bod yna gymysgedd o dai o ran maint a math yn yr ardal, byddai'r breswylfa arfaethedig wedi'i lleoli ar amlinelliad y breswylfa bresennol ac ni fyddai unrhyw broblemau o ran bod yn ormesol ac edrych dros dai eraill.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cynllunio W/36194, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, yn amodol ar yr amodau a fyddai'n cael eu llunio gan y Pennaeth Cynllunio, gan fod y Pwyllgor yn fodlon na fyddai'r breswylfa arfaethedig yn ormesol, mae cymysgedd o dai o ran maint a math yn yr ardal ac nad oes gwrthwynebiadau i'r cynnig yn lleol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2017), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar natur safle'r cais. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Cafwyd sylw oedd yn cefnogi'r cais ac yn ailbwysleisio'r sylwadau cefnogi y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, sef ei fod yn fusnes bach sy'n darparu ar gyfer anghenion y preswylwyr lleol, ni fyddai fawr dim o draffig ychwanegol, a'r ffaith bod y busnes wedi bod yn masnachu am tua dwy flynedd heb drafferthion.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio), i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio W/36197 am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 16 Tachwedd 2017), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon ynghylch agosrwydd eiddo preswyl a diogelwch ffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd gwrthwynebiadau i'r cais wedi cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor eu hystyried oherwydd bod gan y Cyngor fuddiant yn y safle o ran perchnogaeth tir. Argymhellodd y Pennaeth Cynllunio y dylid cymderadwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw oedd yn codi pryderon ynghylch y cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd agosrwydd eiddo preswyl i safle'r cais a hefyd y ffaith bod yna bryderon ynghylch diogelwch ffyrdd eisoes yn yr ardal.
Ymatebodd y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais cynllunio W/35655, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|