Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Allen, E.G. Thomas, M.J.A. Lewis a J.E. Williams.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU pdf eicon PDF 893 KB

Dogfennau ychwanegol:

3.1

S/34755 - DWY GARAFÁN BRESWYL SEFYDLOG YNGHYD AG ADEILADU YSTAFELL DDYDD/AMLBWRPAS, DWY GARAFÁN DEITHIOL A STABLAU (RHANNOL ÔL-WEITHREDOL), TIR SY'N RHAN O HILLSIDE VIEW, YR HENDY, LLANNON, SA14 8JX. pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1.       S/34755 - DWY GARAFÁN BRESWYL SEFYDLOG YNGHYD AG ADEILADU YSTAFELL DDYDD/AMLBWRPAS, DWY GARAFÁN DEITHIOL A STABLAU (RHANNOL ÔL-WEITHREDOL), TIR SY'N RHAN O HILLSIDE VIEW, YR HENDY, LLANNON, SA14 8JX

 

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 8 Mawrth 2018) a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y mynediad i'r safle yn sgil pryderon a fynegwyd mewn perthynas ag anhawster gweld yn glir wrth fynd ar y B4306. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyno, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai prif bwyslais y gwrthwynebiadau oedd pryderon ynghylch diogelwch yn ymwneud â mynd i mewn ac allan o'r eiddo i'r B4306.  Mynegwyd pryderon ychwanegol hefyd ynghylch yr effaith ar y cynefin glöyn byw cyfagos ac a gydymffurfid ag Amod 5.

 

Ymatebodd yr asiant i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/34755, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.

 

 

3.2

S/36679 - MATERION A GADWYD YN ÔL MEWN PERTHYNAS Â MYNEDIAD, GWEDD, TIRWEDDU, CYNLLUN A MAINT, YNGHYD Â DIDDYMU AMODAU 7, 9 A 11 SY'N RHAN O GANIATÂD CYNLLUNIO S/27346, TIR MAES Y BRYN, HEOL PENLLWYNGWYN, Y BRYN, LLANELLI, SA14 9RQ. pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.2.       S/36679 - MATERION A GADWYD YN ÔL MEWN PERTHYNAS Â MYNEDIAD, GWEDD, TIRWEDDU, CYNLLUN A MAINT, YNGHYD Â DIDDYMU AMODAU 7, 9 A 11 SY'N RHAN O GANIATÂD CYNLLUNIO S/27346, TIR MAES Y BRYN, HEOL PENLLWYNGWYN, Y BRYN, LLANELLI, SA14 9RQ

 

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 8 Mawrth 2018) a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar fynediad y datblygiad arfaethedig yn sgil pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyno, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai prif bwyslais y gwrthwynebiadau oedd gorddatblygu'r safle a'r effaith ddilynol ar ddiogelwch y rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu. Mynegwyd y pryderon canlynol hefyd:-

·         Diffyg cydlyniant cymunedol a chynhwysiad cymdeithasol;

·         Heb fod yn unol â pholisi TR3 yn ymwneud â dylunio priffyrdd a chynllun;

·         Hyfywedd ariannol y datblygiad;

·         Nid yw'r deunyddiau i'w defnyddio wrth adeiladu ochrau allanol y preswylfeydd wedi cael eu cymeradwyo eto, fel y nodwyd yn Amod 7;

·         Diffyg darpariaeth o ran cyfleusterau hamdden.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Wrth ystyried y cais, ac yn sgil y pryderon a godwyd ynghylch y tro cas lle mae Maes y Bryn yn ymuno â Heol Fferm Penllwyngwyn, petai'r cais yn cael ei gymeradwyo, gofynnodd y Pwyllgor am i'r Is-adran Priffyrdd ailystyried a cheisio gwella agweddau diogelwch a gwelededd o ran y tro cas uchod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cynllunio S/36679 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a bod cais yn cael ei wneud i'r Is-adran Priffyrdd ystyried a ellir gwella gwelededd ac agweddau diogelwch o ran y tro cas lle mae Maes y Bryn yn ymuno â Heol Fferm Penllwyngwyn.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau