Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Davies a S.Curry.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

3.1       PENDERFYNWYD gohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle:-

 

S/34755

Dwy garafán breswyl sefydlog ynghyd ag adeiladu ystafell ddydd/amlbwrpas, dwy garafán deithiol a stablau (rhannol ôl-weithredol), ar dir sy'n rhan o Hillside View, yr Hendy, Llannon, SA14 8JX

 

[Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd G.B. Thomas y cyfarfod cyn ystyried a phenderfynu ar y mater, yn dilyn cyngor gan y cyfreithiwr oherwydd yn ei rôl fel aelod lleol byddai gan y cynghorydd farn eisoes am y cais dan sylw S/34755].

 

Gwnaed cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn cael golwg ar y mynediad.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn ystod y cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld y mynediad i'r safle oherwydd y pryderon ynghylch y ffaith ei bod yn anodd gweld ffordd y B4306 wrth adael y safle.

 

S/36679

Materion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â mynediad, gwedd, tirweddu, cynllun a maint, ynghyd â diddymu Amodau 7, 9 a 11 sy'n rhan o ganiatâd cynllunio S/27346, ar dir ym Maes y Bryn, Heol Penllwyngwyn, y Bryn, Llanelli, SA14 9RQ

 

Cafodd y Pwyllgor gais i gynnal ymweliad safle ar sail y ffaith y byddai traffig ychwanegol y datblygiad yn cyfrannu at y broblem draffig a'r tagfeydd sy'n bodoli eisoes a'r effaith ar ddiogelwch ffyrdd.

 

Y RHESWM: Er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor gael golwg ar y mynediad ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn dilyn y pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd.

 

 

3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/36707

Adeiladu 29 o unedau preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig o ran mynediad, tirweddu, ac isadeiledd ar dir gerllaw Teras Frondeg, Llanelli, SA15 1QB

 

[Sylwer: Gwnaed cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle.  Cynigiwyd ac eiliwyd y cais yn briodol ond yn dilyn pleidlais gwrthodwyd y cais.]

 

 

3.4       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhesymau dros wrthod oedd wedi eu drafftio gan y Pennaeth Cynllunio, fel yr oeddynt yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol yr oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi gwrthod caniatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ar 8 Chwefror 2018.

 

S/35645

Preswylfa a garej ar dir oddi ar Heol yr Hafod, T?-croes, Rhydaman, SA18 3GA

 

[Sylwer: Nid oedd y Cynghorydd H. I. Jones yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2018 ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y penderfyniad na phleidleisio ar benderfyniad y cais].

 

 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36448

Garej ddwbl arfaethedig yn 9 Trysor, Glenfryn, Porth-y-rhyd, Caerfyrddin, SA32 8PP

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a oedd yn cefnogi’r datblygiad arfaethedig ac roedd yn cynnwys y canlynol:-

 

  • Cydnabuwyd o ran termau cynllunio nad yw golygfa yn hawl.
  • Mae'r cais cynllunio ar gyfer garej domestig na fyddai'n cael ei defnyddio at ddibenion masnachol;
  • Roedd y trefniadau draenio a gwaredu d?r wyneb yn cael eu hystyried yn ddigonol.

 

 

4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais canlynol W/36577 oherwydd bod yr ymgeisydd yn ddiweddar wedi cyflwyno'r rhybudd gofynnol ar drydydd parti sydd â diddordeb yn y safle.

 

W/36577

 

Amrywio amod 2 o ganiatâd cynllunio W/30595 (estyn yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl), ar dir yng Nghaeglas, Sanclêr, Caerfyrddin, SA33 4ET

 

 

4.3 Penderfynwyd caniatáu y cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, yn amodol ar gytundeb Adran 106 ac amodau perthnasol;

W/36522

 

Adeiladu preswylfa ar wahân (anghenion lleol) ar lain gyferbyn ag Ael-y-Bryn, Caerfyrddin, SA33 3EH

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Dwyrain] wrth y Pwyllgor petai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu byddai'n ofynnol i'r ymgeisydd ddilyn amodau Adran 106.

 

RHESYMAU: Roedd y Pwyllgor o'r farn bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau GP1, TAN 6, AH3, a bod y cais yn bodloni angen lleol gwirioneddol.

 

 

 


 

 

5.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8FED CHWEFROR 2018 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau