Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 27ain Tachwedd, 2018 12.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Madge a J. Prosser

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

3 - Cais Cynllunio W/37575 - Estyniad deulawr y tu cefn i'r breswylfa yn rhif 13 Plas Penwern, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3PN

Yn perthyn i wrthwynebwr y cais

 

3.

W/37575 - ESTYNIAD DEULAWR Y TU CEFN I'R BRESWYLFA YN RHIF 13 PLAS PENWERN, TRE IOAN, CAERFYRDDIN, SA31 3PN pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gadawodd y Cynghorydd K. Lloyd, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor ac ni chymerodd unrhyw ran ym mhenderfyniad y Pwyllgor ar yr eitem)

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 2 Hydref 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon  mewn perthynas ag effaith bosibl y datblygiadau ar yr eiddo cyfagos.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.  Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a oedd yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio a chyfeirio at yr effaith bosibl o golli golau a'r effaith niweidiol ar eiddo cyfagos, byddai'r estyniad arfaethedig yn groes i ethos dylunio'r ystâd dai, a oedd wedi cael ei hadeiladu yn unol â dwysedd penodol tra sicrhau preifatrwydd a golau naturiol. Hefyd cafodd y cynnig ei ystyried yn groes i Bolisi GP6 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/37575, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.

4.

W/37263 - ADEILADU UN ANNEDD AR LAIN 4, HEOL DREFACH, PLASYDDERWEN, MEIDRIM, SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 18 Hydref 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â Pholisi GP1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin o ran cynaliadwyedd a dylunio o ansawdd uchel a oedd hefyd yn ceisio sicrhau bod y datblygiadau'n cyd-fynd â chymeriad ac ymddangosiad yr ardal ac yn eu gwella.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/37263, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.

5.

W/35898 - ADEILADU GWEITHDY/GAREJ FASNACHOL AR GYFER SARNAU MOTORS, CAE GER HAFOD BAKERY, HEOL LLYSONNEN, BANCYFELIN, CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 15 Tachwedd 2018), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a chynaliadwyedd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Wrth ystyried y cais, cyfeiriodd y Pwyllgor at bolisïau cynllunio EMP 2 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â Chyfleoedd Gwaith Newydd, EMP 3 - Cyflogaeth - Estyniadau a  dwysâd, ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol 6 - Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010) a Nodyn Cyngor Technegol 23 mewn perthynas ag asesu manteision y datblygiad yn unol â'r manteision o ran ateb y galw ar y safle nesaf a ffefrir. O ystyried y polisïau hynny, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylid caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio W/35898 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, gan yr ystyrid bod y cais yn cydymffurfio ag egwyddorion polisïau EMP 2 ac EMP3 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a'r egwyddorion a nodir yn TAN 6 a TAN 23.

6.

W/37484 - ADEILADU UN BRESWYLFA AR GYFER PERCHNOGION A GWEITHREDWYR Y CWRS GOLFF CYFAGOS; YNGHYD AG ADEILADU STORFA AR GYFER PEIRIANNAU CYNNAL A CHADW'R CWRS GOLFF, CLWB GOLFF DERLLYS COURT, HEOL LLYSONNEN, BANCYFELIN, CAERFYRDDIN, SA33 5DT pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 15 Tachwedd 2018),  a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â'r ardal gyfagos, hygyrchedd i'r cyhoedd a chynaliadwyedd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio W/37484 am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.