Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Jones a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

5.1 Cais Cynllunio - W/37518 - Amrywio Amod 2 o W/35339 er mwyn newid uchder t? i alluogi'r atig i gael ei ddefnyddio fel ystafell snwcer at ddefnydd personol ar lain ger Cwm Parc, Peniel, Caerfyrddin, SA32 7HT

 

Yn adnabod yr ymgeisydd;

K. Lloyd

5.1 Cais Cynllunio – W/37871 – Gosod plac glas ar y ffasâd blaen i goffáu Alice Abadam (1856-1940) ym Mhorth Angel, 26 Heol Picton, Caerfyrddin, SA31 3BX

 

Bu'r Cynghorydd Lloyd yn bresennol pan ddadorchuddiwyd y plac (cafodd y plac wedyn ei dynnu i ffwrdd cyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch y cais presennol am Ganiatâd Adeilad Rhestredig);

A. Lenny

5.1 Cais Cynllunio – W/37871 – Gosod plac glas ar y ffasâd blaen i goffáu Alice Abadam (1856-1940) ym Mhorth Angel, 26 Heol Picton, Caerfyrddin, SA31 3BX

 

Byddai'r plac yn cael ei osod ar eiddo'r Cynghorydd Lenny.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 942 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, gan ystyriwyd ei fod yn cyd-fynd â  Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 a Pholisi GP1:

 

E/37466

Adeiladu sied amaethyddol a thrac mynediad ar gyfer storio offer fferm, gwair a bwyd anifeiliaid ar dir ger Bron yr Haul, Llansawel, Llandeilo, SA19 7PE

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:

 

 

S/36098

Datblygu 2 breswylfa ar dir ar Heol Bronallt, Yr Hendy, Abertawe, SA4 0UD

 

S/36934

Adeiladu 48 uned breswyl ynghyd â gwaith tirweddu a mynediad cysylltiedig ar dir i'r dwyrain o Heol y Plas, Llannon, Llanelli SA14 6AX

 

[SYLWER: Mae awdurdod wedi'i ddirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio gytuno ar fanylion cyswllt priodol i gerddwyr wrth ymgynghori â Swyddogion Priffyrdd a chytuno ar unrhyw ddiwygiadau dilynol i'r cynllun.]

 

S/37753

Newid defnydd gosodiadau preswyl i fod yn 2 fflat 1 ystafell wely a 2 fflat 2 ystafell wely yn Avenue Villas, Stryd Lloyd, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2PU

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod;

 

 

W/37518

Amrywio Amod 2 o W/35339 er mwyn newid uchder t? i alluogi'r atig i gael ei ddefnyddio fel ystafell snwcer at ddefnydd personol ar lain ger Cwm Parc, Peniel, Caerfyrddin, SA32 7HT

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd K. Lloyd Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r datblygiad arfaethedig ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roeddynt yn cynnwys y canlynol:

 

·         Cais ôl-weithredol;

·         Graddfa/maint y breswylfa a adeiladir;

·         Cynnydd yn uchder cyffredinol y breswylfa;

·         Effaith weledol y breswylfa a adeiladir ar yr ardal leol uniongyrchol ac yn ehangach;

·         Edrych dros safleoedd eraill a cholli preifatrwydd;

·         Mynd yn groes i'r cynlluniau a ganiateir h.y. graddfa/uchder/ffenestri;

·         Diffyg camau gorfodi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol;

·         Diffyg lle ar gyfer troi cerbydau.

 

Gwrthododd yr ymgeisydd wahoddiad i ymateb.

 

Ymatebodd y Swyddog Cynllunio i'r materion a godwyd.

 

W/37871

Gosod plac glas ar y ffasâd blaen i goffáu Alice Abadam (1856-1940) ym Mhorth Angel, 26 Heol Picton, Caerfyrddin, SA31 3BX

 

[Sylwer: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd A. Lenny a'r Cynghorydd K. Lloyd Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno. Y Cynghorydd H.I. Jones a gadeiriodd y cyfarfod tra oedd y cais hwn dan sylw.]

 

 

 

5.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safleoedd:-

 

W/35898

Adeiladu gweithdy/garej fasnachol ar gyfer Sarnau Motors ar gae ger Hafod Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin;

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle mewn perthynas â mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a chynaliadwyedd;

 

W/37484

Adeiladu preswylfa ar gyfer perchnogion a gweithredwyr y cwrs golff cyfagos;ynghyd ag adeiladu storfa ar gyfer peiriannau cynnal a chadw'r cwrs golff yng Nghlwb Golff Derllys Court, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin, SA33 5DT;

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle mewn perthynas â'r ardal gyfagos, hygyrchedd cyhoeddus a chynaliadwyedd.

 

6.

COFNODION - 2AIL HYDREF 2018 pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

7.

COFNODION - 18FED HYDREF 2018 pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau