Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 15fed Mai, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.K. Howell.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

W/35903 – Datblygiad preswyl – cadw'r holl faterion yn ôl ar dir yn Lluest y Bryn, Caerfyrddin.

Mae ganddo fuddiant rhagfarnol yn y cais hwn.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/35873

T? newydd gyda garej integrol ar Lain 11, Gwaun Henllan, Tir-y-dail, Rhydaman SA18 2FD

 

[SYLWER: Roedd y penderfyniad ynghylch y cais uchod yn unfrydol.]

 

E/36854

Newid defnydd y breswylfa 3 ystafell wely o ddefnydd C3 i d? amlfeddiannaeth C4 â 6 ystafell wely.  Newidiadau cysylltiedig i un ffenestr yn y cefn a newid ffenestri eraill sy'n berthnasol yn ogystal â tho penty er mwyn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch yn 16 Stryd y Neuadd, Rhydaman SA18 3BW.

 

3.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

E/33695

Cais cynllunio llawn i godi uned ddofednod ar fferm er mwyn cadw ieir maes (i gynhyrchu wyau) ynghyd â biniau bwydydd cysylltiedig, mynediad mewnol o'r fferm a gwaith cysylltiedig yng Ngodre Garreg, Llangadog, SA19 9DA.

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 938 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/36946

Adeiladu preswylfa ar wahân ar dir yn 61 Heol Pwll, Llanelli SA15 4BD.

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36577

Amrywio amod 2 o ganiatâd cynllunio W/30595 (estyn yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl) ar dir yng Nghaeglas, Sanclêr, Caerfyrddin SA33 4EY.

 

 

5.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle:-

 

W/35903

Datblygiad preswyl - cadw'r holl faterion yn ôl ar dir ger Lluest y Bryn, Caerfyrddin.

 

[SYLWER: Gan ei fod wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd K. Lloyd y siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle

 

W/37038

 

Addasu adeilad amaethyddol diangen presennol yn 2 uned wyliau i'w gosod yn Nhycerrig, Nant-y-caws, Caerfyrddin, SA32 8EW.

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle.

 

Cafwyd sylw yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle. 

 

 

5.3   PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhesymau dros wrthod a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y'u manylwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r ceisiadau cynllunio canlynol y gwrthododd y Pwyllgor Cynllunio roi caniatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar 17 Ebrill 2018:-

 

W/35450

Datblygiad preswyl arfaethedig gan gynnwys 42 o breswylfeydd ar dir ger Ysgol Gynradd Talacharn, Talacharn SA33 4SQ.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig fod neges e-bost wedi dod i law gan asiant yr ymgeisydd, a darllenodd y neges er gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

W/35730

Adeiladu dwy uned A1 ac un uned A3 ynghyd â lleoedd parcio cysylltiedig ar hen safle Cartref Tawelan, Llwyn Onn, Caerfyrddin SA31 1PY.

 

[SYLWER: Roedd y penderfyniad ynghylch y cais uchod yn unfrydol.]

 

 

 

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

5ED EBRILL 2018; pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2018 yn gywir.

 

</AI7>

<AI8>

 

 

6.2

17EG EBRILL 2018. pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2018 yn gywir.

 

 

 

[SYLWER: Mae'r cofnodion hyn yn dilyn trefn y materion oedd ar agenda'r cyfarfod, a allai fod yn wahanol i drefn y materion mewn unrhyw weddarllediad gan y byddid wedi ymdrin gyntaf ag unrhyw geisiadau yr oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol i siarad amdanynt.]