Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd

Cofnod

Y Math o Fuddiant

P Edwards

3 – W/35730  Adeiladu dwy uned A1 ac un uned A3 ynghyd â llefydd parcio cysylltiedig ar hen safle Cartref Tawelan, Llwyn Onn, Caerfyrddin, SA31 3PY

Aelod o'r Gymdeithas Gydweithredol

 

3.

W/35730 - ADEILADU DWY UNED A1 AC UN UNED A3 YNGHYD Â LLEFYDD PARCIO CYSYLLTIEDIG, HEN GARTREF TAWELAN, LLWYN ONN, CAERFYRDDIN, SA31 3PY pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[NODER:  Roedd y Cynghorydd P. Edwards wedi datgan buddiant yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle a'r mynediad iddo.    Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.

 

Yr oedd sylwadau wedi dod i law a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ail-bwysleisio’r gwrthwynebiadau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif bryderon oedd colli llecynnau glas, parcio/mynediad annigonol, s?n, llygredd golau, yr effaith ar fusnesau cyfagos ac ar draffig, yn enwedig o ystyried y cynnydd posibl mewn traffig pan fydd canolfan newydd S4C yn agor, yn ogystal â'r defnydd a wneir o hen Gartref Tawelan pan ddeuir i benderfyniad yn ei gylch.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd, y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio), a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio W/35730, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod pryderon ynghylch Polisïau GP1, GP4, SP14 ac RT8, a Nodyn Cyngor Technegol 20.

 

4.

W/36625 - NEWID DEFNYDD ARFAETHEDIG AC ADDASU'R LLAWR GWAELOD AC ADDASU'N RHANNOL Y LLAWR CYNTAF ER MWYN DEFNYDDIO'R ADEILAD AT DDEFNYDD BWYTY (DOSBARTH A3) YN Y NEUADD SIROL, Y CLOS MAWR, CAERFYRDDIN, SA31 3LE pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

W/36625

Cais am newid defnydd ac addasu'r llawr gwaelod, ynghyd ag addasu'r llawr cyntaf yn rhannol, er mwyn hwyluso'r gwaith o greu bwyty (Dosbarth A3) yn y Neuadd Sirol, Clos Mawr, Caerfyrddin, SA31 3LE.

 

5.

W/36626 - NEWID DEFNYDD ARFAETHEDIG AC ADDASU'R LLAWR GWAELOD AC ADDASU'N RHANNOL Y LLAWR CYNTAF ER MWYN DEFNYDDIO'R ADEILAD AT DDEFNYDD BWYTY (DOSBARTH A3) YN Y NEUADD SIROL, Y CLOS MAWR, CAERFYRDDIN, SA31 3LE pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

W/36626

Cais am newid defnydd ac addasu'r llawr gwaelod, ynghyd ag addasu'r llawr cyntaf yn rhannol, er mwyn hwyluso'r gwaith o greu bwyty (Dosbarth A3) yn y Neuadd Sirol, Clos Mawr, Caerfyrddin, SA31 3LE.

 

6.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1   PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/34933

Adeiladu 20 o dai preswyl ar wahân ar gyfer y farchnad breifat gyda garejis yn rhan o'r tai, a 2 d? pâr fforddiadwy, pob un â lle parcio a darn preifat o dir ar y llain; gwella a lledu'r ffordd fabwysiedig bresennol ac adeiladu ffyrdd mabwysiedig newydd ar dir sydd wedi'i glustnodi yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer datblygiad preswyl ym Mron yr Ynn, Drefach, Llanelli, SA14 7AH

 

Gwnaed cais i'r Pwyllgor ymweld â'r safle er mwyn cael golwg ar y safle a'r mynediad iddo.

 

Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwgar y safle a'r mynediad iddo.

 

 

6.2    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36892

Cais am helaethu a newid y breswylfa yn6 Lôn Clychau'r Gog, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JX

 

Yr oedd sylwadau wedi dod i law a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y rhai canlynol:-

·                    S?n, baw ac amharu ar breifatrwydd yn ystod y gwaith adeiladu;

·                    Mae tai mwy o faint ar werth ar yr ystâd ar hyn o bryd;

·                    Mae maint y cynnig yn annerbyniol;

·                    Byddai'r estyniadau yn cael effaith weledol sylweddol iawn ar gymdogion;

·                    Yr effaith ar olygfeydd;

·                    Byddai'r estyniad yn oramlwg;

·                    Yr effaith ar breifatrwydd ac amwynder;

·                    Colli golau.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

6.3     PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod pryderon ynghylch Polisïau GP3 ac SP16:-

W/35450

Datblygiad preswyl arfaethedig, gan gynnwys 42 o breswylfeydd, ar dir ger Ysgol Gynradd Talacharn, Talacharn, SA33 4SQ

 

[NODER: Gadawodd y Cynghorwyr G.B. Thomas ac E. Williams y cyfarfod am nad oeddent wedi ymweld â'r safle ar 23 Ionawr 2018 mewn perthynas â'r cais hwn]

 

Yr oedd sylwadau wedi dod i law a oedd yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, gan ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn y cyfarfod ar 23 Ionawr 2018 [gweler cofnod 3] ac a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, yn enwedig ynghylch y farn gyfreithiol fod y Cytundeb Adran 106 wedi dod i ben pan wnaeth y caniatâd cynllunio blaenorol ddod i ben yn 2013.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r swyddogion i'r materion a godwyd.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau