Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H.I. Jones.
|
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
YSTRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Nid oedd y Cynghorydd Eirwyn Williams yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017 ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y penderfyniad na phleidleisio ar benderfyniad y cais].
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor allu asesu gwelededd a mynediad yn/i'r safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.
Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) fod y cais yn gais ôl-weithredol ar gyfer cael gwell mynediad i ffordd dosbarth C, i hwyluso 5 carafán neu gartref modur arfaethedig wedi'u hardystio (Lleoliad Ardystiedig). Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod gan y Clwb Gwersylla a Charafanio dystysgrif eithrio o dan Adran 269 (6) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 ac Adran 2 o Atodlen Gyntaf Deddf Meysydd Carafanau a Rheoli Datblygiad 1960, sy'n caniatáu i'r Clwb sefydlu safleoedd bach heb orfod cael caniatâd cynllunio penodol. Yn y broses gadarnhau honno roedd yn rhaid ymgynghori â'r Awdurdod Lleol ynghylch diogelwch ffyrdd.
Yn ei hadroddiad roedd y Pennaeth Cynllunio wedi ymateb i'r materion a godwyd yn y chwe llythyr o wrthwynebiad a ddaeth i law oddi wrth drigolion lleol. Nododd y Pwyllgor nad oedd gan y Pennaeth Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r cais, yn amodol ar gynnwys amodau perthnasol fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys amod ychwanegol i drawsleoli'r berth bresennol i gefn y lleiniau gwelededd gofynnol.
|
||||||||||
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 962 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
||||||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 954 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
5.1 bod y cais cynllunio canlynol yn cael ei wrthod
yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio oherwydd bod y
Pwyllgor o'r farn nad oedd hyn yn eithriad o dan y polisi AH1 (Tai
Fforddiadwy) ynghyd â'r Canllawiau Cynllunio
Atodol. 5.2. bod y Pennaeth Cynllunio yn cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol, i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor, yn manylu ar y rhesymau cynllunio dros wrthod y cais a hynny'n seiliedig ar yr uchod
|
||||||||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn yr Adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol yr adroddwyd ar lafar yn y cyfarfod bod angen darparu 2 o lecynnau pasio ar ffordd yr C3204 yn unol â chais y Pennaeth Cynllunio:-
6.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol, yn unol ag argymhelliad y Pennaeth Cynllunio:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, a hynny ar gais yr ymgeisydd, fod y cais cynllunio canlynol yn cael ei ohirio:-
|
||||||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11EG IONAWR 2018 PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr gan eu bod yn gywir.
|