Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Davies

3.1 - Cais Cynllunio E37648 Adeiladu mynediad gât i'r safle o'r enw Penygroes Concrete Works yn ogystal â gwneud gwaith draenio cysylltiedig, y ceir mynediad iddo o'r ffordd gyswllt economaidd (wrthi'n cael ei hadeiladu) a hefyd adeiladu mynediad amaethyddol newydd o'r ffordd gyswllt economaidd yn Penygroes Concrete, Heol Norton, Pen-y-groes, Llanelli, SA14 7RU

Yn adnabod perchennog y gwaith concrid.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 961 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod;

 

E/37648

Adeiladu mynediad gât i'r safle o'r enw Penygroes Concrete Works yn ogystal â gwneud gwaith draenio cysylltiedig, y ceir mynediad iddo o'r ffordd gyswllt economaidd (wrthi'n cael ei hadeiladu) a hefyd adeiladu mynediad amaethyddol newydd o'r ffordd gyswllt economaidd yn Penygroes Concrete, Heol Norton, Pen-y-groes, Llanelli, SA14 7RU

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Davies Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [De] wrth y Pwyllgor, ers cyhoeddi'r agenda a'r atodiad, fod y Pennaeth Trafnidiaeth wedi nodi nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiadau i'r cais yn amodol ar yr amodau a argymhellir yn yr adroddiad.

 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod;

W/18258

17 o anheddau, cynllun y safle a ffyrdd mynediad ym Maesyderw, Heol Aberteifi, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin

SA38 9RD

 

[Cymeradwywyd y cais yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106 sy'n ymwneud â darparu cyfran o dai fforddiadwy neu gael cadarnhad gan Bennaeth Eiddo Corfforaethol y Cyngor o ran cytuno â'r casgliadau yn yr asesiad hyfywedd a gyflwynwyd, yn unol â'r hyn a argymhellwyd yn yr adroddiad.]

 

W/37415

Bwriad i ddymchwel yr amgueddfa cyflymder bresennol ynghyd ag adeilad preswyl a bloc amwynderau i hwyluso'r gwaith o adeiladu amgueddfa newydd traeth y gwibwyr ynghyd ag eco-hostel â 42 o welyau, caffi, lle parcio i gerbydau, a gwaith cysylltiedig o ran tirweddu a seilwaith yn Amgueddfa Cyflymder Pentywyn, Marsh Road, Pentywyn, Caerfyrddin, SA33 4NY

 

 

4.2       PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio oherwydd yr amgylchiadau eithriadol dan sylw;

 

W/37321

Caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer pedair llain a lle parcio cyffredinol ar dir ger Wood End/Dukes Meadow, Pentywyn, Caerfyrddin, SA33 4UG

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, gan ail-bwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·      Pryderon ynghylch problemau hirdymor â'r system garthffosiaeth annigonol bresennol

·      Pryderon ynghylch problemau d?r wyneb a llifogydd gan gynnwys llifogydd llanw

·      Mae'r safle o fewn 20m i'r nant

·      Pryderon ynghylch preifatrwydd, ffenestri ochr yn edrych dros y safle

·      Cymeriad ac ymddangosiad

·      Pryderon ynghylch diogelwch priffyrdd gan gynnwys

­  Cynnydd yn y traffig

­  Defnyddiwyd y safle ar gyfer troi lorïau trwm oherwydd pontydd gwan

­  Parcio

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y d?r wyneb a'r system gwanhad arfaethedig, ac roedd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [De] wedi ymateb yn unol â hynny.

 


4.3    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod;

 

W/37135

Adeiladu Preswylfa Anghenion Arbennig ar y tir yng Nghilhir Isaf, Meidrim, Caerfyrddin, SA33 5PX

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Dwyrain] grynodeb ar lafar i'r Pwyllgor o lythyr a gafwyd gan Gyngor Cymuned Tre-lech a'r Betws a gefnogai'r cais.

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol ar ran yr ymgeisydd yn cefnogi'r cais, drwy dynnu sylw at y rhesymau o ran pam y mae'r breswylfa anghenion arbennig arfaethedig yn ofynnol er mwyn darparu ar gyfer anghenion iechyd arbennig g?r yr ymgeisydd.

 

Wrth ystyried y cais ac yn sgil anghenion meddygol g?r yr ymgeisydd, roedd y Pwyllgor o'r farn bod y cais hwn yn un ag amgylchiadau eithriadol, a bernid eu bod yn ystyriaeth berthnasol a oedd, ar yr achlysur penodol hwn, yn drech na'r polisi cynllun datblygu.

 

 

5.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 AWST 2018 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 23 Awst, 2018 yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau