Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 4ydd Medi, 2018 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.A. Davies, A.C. Jones a G.B. Thomas

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

D. Phillips

4.1 - Cais Cynllunio W/37471 – Estyniad ar ochr y llawr cyntaf ac estyniad unllawr yn y cefn, 42 Maes Abaty, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0HQ

Buddiant Busnes Personol

 

 

3.

W/34933 - ADEILADU 20 O DAI PRESWYL AR WAHÂN AR GYFER Y FARCHNAD BREIFAT GYDA GAREJIS YN RHAN O'R TAI, A 2 DY PÂR FFORDDIADWY, POB UN Â LLE PARCIO A DARN PREIFAT O DIR AR Y LLAIN; GWELLA A LLEDU'R FFORDD FABWYSIEDIG BRESENNOL AC ADEILADU FFYRDD MABWYSIEDIG NEWYDD AR DIR SYDD WEDI'I GLUSTNODI YN Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YM MRON YR YNN, DREFACH, LLANELLI, SA14 7AH pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 6.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle a threfniadau o ran mynediad.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ynghyd â'r atodiad a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol oedd yn berthnasol i'r asesiad o'r cais.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio mewn perthynas â lleoli'r ffordd fynediad yn agos at dro ar y B4310 a'r ysgol gynradd gyfagos ynghyd â'r potensial i bobl ddefnyddio'r ffordd fel llwybr i osgoi traffig rhwng Heol Cwm-mawr a Heol Blaenhirwaun. Codwyd pryderon ychwanegol ynghylch yr effaith bosibl y gallai'r traffig ychwanegol a grëir gan y datblygiad ei chael ar y rhwydwaith priffyrdd/cerddwyr ar ystad Bron yr Ynn a'r lleoedd parcio ar y stryd presennol ar gyfer y byngalos sy'n wynebu'r safle datblygu, ynghyd â cholli'r llecyn gwyrdd presennol i hwyluso adeiladu ffordd fynediad yr ystad newydd. Cyfeiriwyd hefyd at yr angen i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at ddarparu cyfleusterau chwarae yn yr ardal.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y trefniadau arfaethedig o ran y priffyrdd ac arafu traffig sydd i'w cyflwyno fel rhan o'r datblygiad arfaethedig a'r farn oedd y dylent gynnwys gosod 'Arwydd Ymateb i Yrwyr' sy'n fflachio ar ochr ddwyreiniol y B4310 cyn y mynediad newydd arfaethedig a dechrau'r terfyn cyflymder o 20mya.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol - Cydgysylltu Cynllunio i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/34933 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a'r amod ychwanegol a oedd yn mynnu bod Arwydd Ymateb i Yrwyr sy'n fflachio yn cael ei gosod. 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 898 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1  PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio

 

W/37471

Estyniad ar ochr y llawr cyntaf ac estyniad unllawr yn y cefn, 42 Maes Abaty, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0HQ

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd D. Philips wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd y cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei gylch)