Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Curry a K. Howell.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnol.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 937 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

E/37292

Codi garej ar wahân â tho â phig, 125 Heol Saron, Saron, Rhydaman, SA18 3LH

 

Nododd yr Aelodau fod cais [E34372] wedi cael ei wrthod yn flaenorol gan y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2016 a bod y cais hwn yn ceisio datrys y materion a amlygwyd.

 

Yng ngoleuni'r uchod, cafwyd cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle ar y sail y byddai'n fuddiol i'r aelodau newydd o'r Pwyllgor Cynllunio gael golwg ar y safle.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle.

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 962 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1   PENDERFYNWYD caniatáu y ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, ynghyd â Chytundeb Adran 106:-

 

S/36649

Cais am dair preswylfa ddeulawr â phedair ystafell wely a llety yn yr atig ynghyd â garej gysylltiedig/ar wahân fel sy'n briodol i'r llain.Ynghyd â mynediad oddi ar y safle a phrif ffyrdd a gwaith draenio cysylltiedig, tir ger Pen y Môr Cottage, Myrtle Hill, Cynheidre, Llanelli, SA15 5YE

 

S/36848

Datblygiad preswyl i gynnwys dwy breswylfa, tir ger S?n Aderyn, Cynheidre, Llanelli, SA15 5YE

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1002 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1   PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail y byddai'r datblygiad arfaethedig yn groes i Bolisi RE2 oherwydd afresymoldeb y cynnig mewn perthynas â'r effaith ar drigolion lleol.

 

W/37323

Amrywio Amod 5 ar gais W/31099 (lefel y s?n a gynhyrchir) ar dir yn Wern, Pencader, SA39 9AL

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu fod llythyr wedi dod i law gan y datblygwr, ers cyhoeddi'r agenda a'r atodiad, a oedd yn ailbwysleisio pwyntiau a oedd eisoes wedi eu codi yn y dogfennau a gyflwynwyd.

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais am newid Amod 5, gan ailbwysleisio'r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roeddent yn cynnwys y canlynol:

 

·                     Pryder cyffredinol ynghylch y cynnydd yn y terfyn s?n a osodir gan Amod 5 ar gais W/31099 o 35db i 37dB.

 

·                     Pryder ynghylch y cynnydd yn y terfyn s?n, o ystyried bod y tyrbin gweithredol eisoes yn aflonyddu ac yn arwain at effaith niweidiol ar amwynder.

 

·                     Pryder nad oedd unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o'r tyrbin presennol i gael gwybod a oedd yn cydymffurfio â'r terfynau s?n cymeradwy ac a oedd llafn y rotor wedi cael ei gwtogi.

 

·                     Pryderon a oedd eisoes wedi eu codi gan amrywiol gymdogion yn ymwneud ag effaith s?n a godwyd yn ystod yr asesiad o gais W/31099.

 


 

 

·                     Pryderon ynghylch diffyg cydnabyddiaeth o "wyntoedd croesrym" yn asesiad s?n yr ymgeisydd.

 

·                     Pryder nad oedd p?er y tyrbin gweithredol wedi cael ei leihau.

 

·                     Mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i ddiogelu trigolion.

 

·                     Bod y tyrbin gwynt o fewn yr uchafswm pellter gwahanu a argymhellir sef 500m.

 

·                  Byddai caniatáu newid yr amod yn cael effaith ddifrifol ar yr eiddo cyfagos.

 

·                  Roedd cyfluniad presennol y tyrbin gwynt eisoes wedi cael effaith niweidiol ar iechyd a llesiant perchenogion yr eiddo cyfagos.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu ac Ymarferwyr yr Amgylchedd i'r materion a'r ymholiadau a godwyd.

 

 

5.2  PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, ynghyd â Chytundeb Adran 106:-

 

W/37528

Preswylfa ar dir ger Rhos Wen, Heol Caegwyn, Dre-fach, Llanelli, SA14 7BB

 

 

 

 

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 AWST 2018 pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 7Awst, 2018 i nodi eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau