Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

4.2 - Cais Cynllunio W/37575 - Estyniad deulawr y tu cefn i'r breswylfa yn rhif 13 Plas Penwern, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3PN

Yn perthyn i wrthwynebwr y cais

J. James

6.1 - Cais Cynllunio S/36993 - Adeiladu 103 o breswylfeydd, ffordd fynediad ac isadeiledd cysylltiedig ar dir sy'n rhan o'r hen Goodig Hotel, Heol Pwll, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin

Ei gefnder yn byw ger y datblygiad

 

 

3.

E/37292 - CODI GAREJ AR WAHÂN Â THO Â PHIG, 125 HEOL SARON, SARON, RHYDAMAN, SA18 3LH pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] at yr ymweliad preifat i'r safle a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (cofnod 3.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gyhaliwyd ar 23 Awst 2018 yn cyfeirio at hyn), er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Cafwyd sylw yn gwrthwynebu'r cais, a ail-bwysleisiai’r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio a oedd hefyd yn cyfeirio at hanes y safle, natur ormesol y datblygiad, uchder y wal derfyn gyfagos, y gwaith o godi'r llawr gwaelod i'w uchder presennol, safle cwteri d?r glaw, craciau ar y llwybr i'r eiddo cyfagos a'i fod yn groes i Bolisi GP6 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin oherwydd ei effaith ar amwynder y breswylfa gyfagos.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd ac Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd. Gan gyfeirio'n benodol at bryderon y cymydog o ran uchder ac effaith y wal derfyn, cynigodd yr ymgeisydd leihau uchder y wal drwy gael gwared â dwy res o flociau concrid yn hytrach nag un rhes fel y cynigwyd yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio E/37292, yn amodol ar gyflwyno cynlluniau diwygiedig sy'n rhoi manylion ynghylch lleihau uchder y wal derfyn, fel y cynigwyd gan yr ymgeisydd. 

 

 

4.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU pdf eicon PDF 980 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

E/37720

Codi adeilad â ffram eang o ddur, waliau panel concrid a phroffil bocs â thalennau dur i'r bondo at ddefnydd storfa dail dan do, ynghyd â'r holl waith cysylltiedig yng Ngodre Garreg, Llangadog, SA19 9DA

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU pdf eicon PDF 944 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

W/37444

Cynnig am faes ymarfer ceffylau yn Ysgubor Goch, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0EE

 

(Noder: bydd trafodaethau pellach ynghylch diwygio amod rhif 4 o ran estyn y terfyn amser ar gyfer defnyddio llifeoluadau o 8.00 p.m. tan 9.00 p.m, yn cael eu cynnal â'r ecolegydd cynllunio)

 

4.2    PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/37575

Estyniad deulawr y tu cefn i'r breswylfa yn rhif 13 Plas Penwern, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3PN

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd ynghylch yr effaith bosibl ar eiddo cyfagos)

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd y cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei gylch)

 

 

 

6.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

S/36993

Adeiladu 103 o breswylfeydd, ffordd fynediad ac isadeiledd cysylltiedig ar dir sy'n rhan o'r hen Goodig Hotel, Heol Pwll, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin

 

(Noder: Roedd y Cynghorydd J. James wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd y cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei gylch)

 

 

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD MEDI, 2018 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 4 Medi 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau