Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Gilasbey a K. Madge.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

I. W. Davies

5.1 – Cais Cynllunio W/35336 – Adeiladu preswylfa gan gynnwys trefniadau parcio / mynediad newydd i'r breswylfa bresennol, tir Frondeg, 2 Bro Rhydybont, Llanybydder, SA40 9QX

Yn perthyn i'r ymgeisydd

 

 

3.

W/37328 - CAIS CYNLLUNIO ÔL-WEITHREDOL AM FAN GWERTHU PEIRIANNAU AMAETHYDDOL GAN GYNNWYS GWAITH TIR CYSYLLTIEDIG, SIED STORIO A THIRWEDDU, TAN Y BRYN, NANTGAREDIG, CAERFYRDDIN, SA32 7LH pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at yr ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 10 Gorffennaf 2018), a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â'i leoliad yn Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.

 

Cafwyd sylw a gefnogai'r cais yn yr ystyr bod y busnes, a oedd yn cael ei redeg gan yr ymgeisydd yn unig, wedi bodoli ar y safle ers 1998 ac wedi tyfu'n raddol dros y blynyddoedd. Gellid mynd i'r afael â'r effaith bosibl ar Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi trwy waith tirweddu priodol. Roedd modd unioni'r materion a godwyd gan y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn rhwydd.  Roedd gan yr ardal hanes o fusnesau eraill oedd y tu allan i derfynau datblygu. Nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynnig.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, clywodd y Pwyllgor sylwadau a oedd o'r farn na fyddai'r cais yn cael effaith negyddol ar Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi. Yn yr un modd, er bod y safle'r tu allan i derfynau datblygu Nantgaredig, barnwyd ei fod yn briodol i'r lleoliad o ystyried ei natur amaethyddol, ynghyd â'r hanes o fusnesau eraill yn gweithredu/wedi gweithredu yn yr ardal.  Am y rhesymau hynny, barnwyd na fyddai'r cais yn gwrthdaro â Pholisïau EMP2 ac EQ6 a nodwyd gan y Pennaeth Cynllunio fel rhesymau dros wrthod y cais.

 

PENDERFYNWYD, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, fod cais cynllunio W/37328 yn cael ei ganiatáu ar y sail na fyddai'r datblygiad yn gwrthdaro ag egwyddorion Polisïau EMP2 ac EQ6, oherwydd ni fyddai'n niweidiol i gymeriad a gwedd y dirwedd, roedd yn addas ar gyfer ei leoliad a defnyddiau cyfagos, ac ni fyddai'n cael effaith negyddol ar Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi:

 

W/37328

Cais cynllunio ôl-weithredol am fan gwerthu peiriannau amaethyddol gan gynnwys gwaith tir cysylltiedig, sied storio a thirweddu, Tan y Bryn, Nantgaredig, Caerfyrddin, SA32 7LH

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 979 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/36302

Cadw defnydd cymysg fel tir amaethyddol a safle tanio reifflau aer, gyda gwaith peirianegol i godi lefelau â deunydd anadweithiol i wella'r borfa, a lleoli dau adeilad allanol o bren i'w defnyddio fel storfa offer mân a chuddfan saethu reifflau, Gelli Hwaid, Llannon, Llanelli, SA14 8JW

 

(NODER: gosodir amod ychwanegol i Hysbysiad y Penderfyniad a oedd yn cyfyngu ar y reifflau a ddefnyddir i'r rheiny nad oedd angen trwydded dryll ar eu cyfer)

S/37357

Estyniad deulawr i ochr yr adeilad ar gyfer ystafell wely ac estyniad unllawr yn y cefn ar gyfer cegin, 107 Hill Top, Llanelli, SA14 8DB 

S/37468

Adeiladu t? ar wahân 3 / 4 ystafell wely â lle parcio a lle troi yn y blaen ar dir sy'n ffurfio rhan o 37 Heol Llanelli, Pont-iets, Llanelli, SA15 5UB

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 927 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod

 

W/35336

Adeiladu preswylfa gan gynnwys trefniadau parcio / mynediad newydd i'r breswylfa bresennol, tir Frondeg, 2 Bro Rhydybont, Llanybydder, SA40 9QX

 

(NODER: Gadawodd y Cynghorydd I.W. Davies, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais)

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad arfaethedig ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·        Roedd y llain yn rhy fach, dim ond lle i ddau gar oedd, ac nid oedd digon o le ar gael ar gyfer man troi  

·        Byddai'r adeilad arfaethedig yn newid cymeriad y stryd a byddai modd edrych i mewn i'r eiddo cyfagos

·        Gan fod cerbydau'n parcio ar y stryd ar hyn o bryd, ni fyddai'r cerbydau fyddai'n gadael y llain arfaethedig yn gallu gweld yn glir, ac roedd yr un peth yn wir o ran y mynediad newydd i'r eiddo presennol, a fyddai'n arwain at bryderon diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig o gofio cyflymder y traffig oedd yn teithio ar hyd y B4337.  

·        Roedd nadroedd defaid ar y safle

·        Problemau parhaus yn yr ardal o ran ymdopi â charthffosiaeth

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) a'r Uwch-beiriannydd (Cydgysylltu Cynllunio) i'r materion a godwyd.

 

 

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

6.1

28AIN MEHEFIN, 2018 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2018 yn gofnod cywir.

 

6.2

10FED GORFFENNAF, 2018 pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau