Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

3 – W/35903 – Datblygiad Preswyl – Cadw'r holl faterion yn ôl, tir ger Lluest y Bryn, Caerfyrddin

Ariannol

 

3.

E/33695 - CAIS CYNLLUNIO LLAWN I GODI UNED DDOFEDNOD AR FFERM ER MWYN CADW IEIR MAES (I GYNHYRCHU WYAU) YNGHYD Â BINIAU BWYDYDD CYSYLLTIEDIG, MYNEDIAD MEWNOL O'R FFERM A GWAITH CYSYLLTIEDIG YNG NGODRE GARREG, LLANGADOG, SA19 9DA pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Dwyrain) at ymweliad safle preifat y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 15 Mai 2018), a drefnwyd i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle. Gyda chymorth sleidiau PowerPoint, cyfeiriodd at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ynghyd â'r atodiad a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol oedd yn berthnasol i'r asesiad o'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, er fod y Pennaeth Cynllunio wedi argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig, y byddai unrhyw ganiatâd a roddid yn amodol ar gael sylwadau boddhaol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar y Prawf o Effaith Sylweddol Tebygol. Yn ogystal, gan fod cais galw i mewn wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cais, os oedd y Pwyllgor yn cefnogi argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, gallai ond penderfynu cymeradwyo'r cais yn amodol ar benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch a oedd yn mynd i alw'r cais i mewn, yr oedd disgwyl y byddai'n dod i law erbyn 8 Mehefin, 2018.

 

Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai pryder yn cynnwys sylwadau bod y cais yn mynd yn groes i Bolisïau Cynllunio Cenedlaethol a Lleol TAN 6, ENP 4, TR3 a GDP1. Gwnaed cyfeiriad penodol at symudiadau traffig cynyddol, mynediad i'r safle arfaethedig, y trefniadau ar gyfer cael gwared ar y tail o'r datblygiad, ynghyd ag effaith bosibl amonia ar iechyd trigolion lleol ac ar Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Tywi a chwar Talon Wen, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. James wedi gadael y cyfarfod yn dilyn casgliad o sylwadau a wnaed gan asiant yr ymgeisydd a chyn i'r Pwyllgor drafod y cais).

 

PENDERFYNWYD, ar yr amod na fyddai Llywodraeth Cymru yn galw'r cais i mewn, fod y Pwyllgor yn cymeradwyo cais cynllunio E/33695 yn amodol ar y telerau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, a hefyd ar gael sylwadau boddhaol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar y Prawf o Effaith Sylweddol Tebygol.

4.

W/37038 - ADDASU ADEILAD AMAETHYDDOL DIANGEN PRESENNOL YN 2 LETY GWYLIAU, TYCERRIG, NANT-Y-CAWS, CAERFYRDDIN, SA32 8EW pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mai 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ynghyd â'r atodiad a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol oedd yn berthnasol i'r asesiad o'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig hi.

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio W/37038 am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.

5.

W/35903 - DATBLYGIAD PRESWYL - CADW'R HOLL FATERION YN ÔL, TIR GER LLUEST Y BRYN, CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NOTE: Councillor K. Lloyd, having earlier declared a pecuniary interest in this item left the meeting during its consideration)

 

The Development and Built Heritage Manager referred to the private site visit undertaken by the Committee earlier that day (minute 5.2 of the Planning Committee meeting held on the 15th May, 2018 refers) the purpose of which was to enable the Committee to view the site  He referred, with the aid of powerpoint slides, to the written report of the Head of Planning, together with the addendum circulated at the meeting, which provided an appraisal of the site together with a description of the proposed development, a summary of consultation responses received and information relating to local and national policies relevant to the assessment of the application. The Committee was advised that the Head of Planning had recommended approval of the application for the reasons detailed within her written report

 

Representations were received objecting to the application re-iterating the objections detailed within the Head of Planning’s report, with the main areas of concern including the protection of trees and hedgerows on the site, the impact of additional vehicles on the local highway network, the impact on local wildlife and biodiversity and visual impact on the Carmarthen townscape

 

The applicant’s agent and the Senior Development Management Officer responded to the issues raised.

 

UNANIMOUSLY RESOLVED that planning application W/35903 be granted subject to the conditions detailed within the Head of Planning’s written report and to the applicant entering into a Section 106 Agreement.

6.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 923 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn yn amodol ar y telerau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac ar gyflwyno manylion pellach ynghylch y Datganiad Dull Lliniaru:-

 

W/36321

Materion a gadwyd yn ôl – mynediad i Gerddwyr a Cherbydau, tirlunio, gosodiad a graddfa (caniatâd cynllunio amlinellol W/30638) ar dir tu ôl i rif 9 Brynderi, Pont-iets, Llanelli, SA15 5SU

 

7.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20FED MAWRTH, 2018 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 20 Mawrth 2018 gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau