Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 10fed Gorffennaf, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Penny Edwards a Jeannette Gilasbey.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36571

Datblygiad preswyl (4 preswylfa) ar dir ger Heol Capel Ifan, Caerfyrddin, SA31 1HJ

 

Roedd sylwadau wedi dod i law a oedd yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, gan ailbwysleisio rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y rhai canlynol:-

·       Pryder ynghylch colli trefniadau parcio ar y stryd, er anfantais i'r preswylwyr presennol, y mae gan rai ohonynt anhwylderau meddyliol a chorfforol;

·        Ni chredwyd bod parcio ar y strydoedd cyfagos yn ddewis hyfyw o ystyried yr anhwylderau y cyfeirir atynt uchod, yn ogystal â'r ffaith eu bod eisoes yn llawn ceir.

·        Credwyd y gallai traffig y gwaith adeiladu gael effaith ar lif y traffig ar hyd Heol Capel Ifan, er anfantais i ddefnyddwyr y ffordd a'u diogelwch

·        Gallai'r cynnydd mewn traffig oherwydd y datblygiad gael effaith niweidiol ar ddefnyddwyr presennol y ffordd a cherddwyr, yn enwedig gan fod bysiau a phlant sy'n cerdded i'r ysgol yn defnyddio'r ffordd.

·        Mae'r diffyg lleoedd parcio ar hyd Heol Capel Ifan wastad wedi bod yn broblem i'r preswylwyr nad yw'r Cyngor wedi mynd i'r afael â hi.

 

Ymatebodd y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd. 

 

W/37278

Cadw a chwblhau lolfa haul/orendy i gynnwys heulfan newydd yn Church House Farm, Heol Penycoed, Llan-gain, Caerfyrddin, SA33 4EB

 

3.2    PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar eu cyfeirio at CADW i'w hystyried ac nad yw'r cofnod penderfyniadau yn cael ei gyhoeddi nes bod sylwadau CADW wedi dod i law:

 

W/37289

Newid defnydd o lys sui generis i swyddfeydd, gan osod arwyddion allanol a man cymorth cyhoeddus yn 8 Heol y Neuadd, Caerfyrddin, SA31 1PH

W/37326

Newid defnydd o lys sui generis i swyddfeydd, gan osod arwyddion allanol a man cymorth cyhoeddus yn 8 Heol y Neuadd, Caerfyrddin, SA31 1PH

 

3.3    PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/37328

Cais cynllunio ôl-weithredol am fan gwerthu peiriannau amaethyddol gan gynnwys gwaith tir cysylltiedig, sied storio a thirweddu, Tan y Bryn, Nantgaredig, Caerfyrddin, SA32 7LH

 

RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle a'r ardal gyfagos mewn perthynas â'i leoliad yn Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle i gael golwg ar ei leoliad a'i welededd o'r briffordd.