Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas, yn sgil marwolaeth ei fam. Ar ran y Pwyllgor, estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf â'r Cynghorydd Thomas a'i deulu.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Dot Jones

Cais Cynllunio W/36812 – Adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, ynghyd â chae chwarae a man chwarae amlddefnydd newydd, ar gyfer 210 o ddisgyblion a 30 o blant meithrin, ynghyd â gwaith cysylltiedig o ran tirweddu, mynediad a seilwaith, ym Mharc Hamdden Gors-Las, Heol Cefneithin, Gors-Las, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 7HY

 

Mae wedi mynegi barn am y cais o'r blaen.

 

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio drafod â'r ymgeisydd y cyfraniad tuag at wella ysgolion lleol y dalgylch:-

 

S/36380

Cynigir adeiladu 14 o dai fforddiadwy newydd ar ddarn o dir diffaith ar ddiwedd ystad dai bresennol Garreglwyd.  Bydd y rhan fwyaf o'r tai ar gyfer 4 person ac â 2 ystafell wely, ond bydd dau d? ar gyfer 7 person ac â 4 ystafell wely, ar dir yn Garreglwyd, Pen-bre, Porth Tywyn, SA16 0UH.

 

3.2  PENDERFYNWYD gwrthod y ceisiadau cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, gan fod y Pwyllgor o'r farn fod y ceisiadau yn mynd yn groes i bolisïau GP1 a H3 o'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

S/36834

Newid defnydd o fod yn breswylfa 4 ystafell wely, Dosbarth C3 i fod yn d? amlfeddiannaeth 4 ystafell wely, Dosbarth C4.  Newidiadau cysylltiedig i ddwy ffenest flaen i ddarparu mynediad mewn argyfwng yn 9 Teras Great Western, Llanelli, SA15 2ND.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·       Nid oes angen amdano yn yr ardal am fod saith t? amlfeddiannaeth yn yr ardal eisoes a byddai'r cais hwn yn arwain at ormodedd ohonynt;

·       Mae Stryd Siôr yn unffordd ac mae pobl yn ei defnyddio fel tramwyfa i gyrraedd yr ysgol newydd; 

·       Y pryder yn y gymuned am fod llawer o bobl h?n a theuluoedd yn byw yn yr ardal;

·       Mae tai eraill dan sylw yn yr ardal o ran eu troi’n dai amlfeddiannaeth posibl;

·       Dylwn fod yn codi proffil yr ardal oherwydd bydd y Ganolfan Lesiant newydd gerllaw. 

 

Ymatebodd y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

S/36835

Newid defnydd o fod yn breswylfa 4 ystafell wely, Dosbarth C3 i fod yn d? amlfeddiannaeth 4 ystafell wely, Dosbarth C4.  Newidiadau cysylltiedig i ddwy ffenest ystafell wely ar y llawr cyntaf i ddarparu mynediad mewn argyfwng yn 7 Teras Great Western, Llanelli, SA15 2ND.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·       Nid oes angen amdano yn yr ardal am fod saith t? amlfeddiannaeth yn yr ardal eisoes a byddai'r cais hwn yn arwain at ormodedd ohonynt;

·       Mae Stryd Siôr yn unffordd ac mae pobl yn ei defnyddio fel tramwyfa i gyrraedd yr ysgol newydd;

·       Y pryder yn y gymuned am fod llawer o bobl h?n a theuluoedd yn byw yn yr ardal;

·       Mae tai eraill dan sylw yn yr ardal o ran eu troi’n dai amlfeddiannaeth posibl;

·       Dylwn fod yn codi proffil yr ardal oherwydd bydd y Ganolfan Lesiant newydd gerllaw;

·       Mae'r holl strydoedd cyfagos yn ddwyffordd ond mae Stryd Siôr bellach yn unffordd, sydd wedi gwaethygu'r problemau parcio ar strydoedd eraill.

 

3.3   PENDERFYNWYD  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio    canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36812

Adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, ynghyd â chae chwarae a man chwarae amlddefnydd newydd, ar gyfer 210 o ddisgyblion a 30 o blant meithrin, ynghyd â gwaith cysylltiedig o ran tirweddu, mynediad a seilwaith, ym Mharc Hamdden Gorslas, Heol Cefneithin, Gorslas, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 7HY. 

 

[NODER:  Gan iddi ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, fe wnaeth y Cynghorydd D. Jones adael y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Cafwyd sylw oedd yn mynegi pryderon ynghylch y cais ac roedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·       Y cynnydd o ran traffig a pharcio o ystyried faint o draffig sydd yn yr ardal hon yn ystod yr oriau brig, a seilwaith y ffordd, nad ystyrir yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad o'r fath;

·       Dylid cynnwys amod bod cynllun teithio ar waith unwaith y bydd yr ysgol yn agor, i sicrhau bod ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio, megis cerdded a beicio, yn cael eu defnyddio;

·       Dylid cynnwys amod bod asesiad trafnidiaeth yn cael ei gynnal 6 mis ar ôl agor i adolygu'r tagfeydd traffig posibl ar y ffyrdd cyfagos;

·       Dylid cynnwys amod bod cyfyngiadau cyflymder addas a chroesfannau diogel i gerddwyr yn cael eu mabwysiadu ar bob heol sy'n gysylltiedig â'r gyffordd chwe-ffordd;

·       Dylid pennu amodau i sicrhau na fydd d?r wyneb yn effeithio ar weddill y parc a'r tai cyfagos;

·       Ar hyn o bryd mae trigolion Gors-las yn cael myned pryd y mynnant i'r parc a'r cae chwarae a theimlwyd na ddylid gosod amodau o ran yr amserau y gellid defnyddio'r llefydd hyn. Dylid gosod amod fod y gymuned yn cael myned yn agored i'r maes chwarae amlddefnydd a'r cae chwarae yn syth ar ôl oriau'r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac na ddylai'r Awdurdod Lleol na chwaith yr ysgol fod yn gallu newid y cytundeb hwn.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio), i'r materion a godwyd.

 

 

4.2      PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/35730

Adeiladu dwy uned A1 ac un uned A3 ynghyd â llefydd parcio cysylltiedig ar hen safle Cartref Tawelan, Llwyn Onn, Caerfyrddin, SA31 3PY.

 

Y RHESWM: Oherwydd y pryderon a godwyd ynghylch diogelwch ar y ffordd.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle yn sgil pryderon ynghylch y cynnydd a grëir mewn traffig, ac o ystyried yr hanes a fu o ddigwyddiadau a gwrthdrawiadau traffig yn yr ardal.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad â'r safle.

 

4.3      PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL wrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36584  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

23AIN IONAWR, 2018 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod y penderfyniad parthed cofnod 3 yn unfrydol ac y dylid newid y cofnodion yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 23ain Ionawr, 2018 yn gywir, yn amodol ar gynnwys y newid uchod.

 

 

5.2

20FED CHWEFROR, 2018 pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20fed Chwefror, 2018 yn gywir.

 

 

5.3

8FED MAWRTH, 2018 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth, 2018 yn gywir.

 

 

[SYLWER: Mae'r cofnodion hyn yn dilyn trefn y materion oedd ar agenda'r cyfarfod, a allai fod yn wahanol i drefn y materion mewn unrhyw weddarllediad gan y byddid wedi ymdrin gyntaf ag unrhyw geisiadau yr oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol i siarad amdanynt.]

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau