Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Matthew Hughes
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs. V. Kenny (cynrychiolydd o'r Eglwys Gatholig Rufeinig), Mrs. K. Hill (Aelod Rhiant-lywodraethwr – Ardal Dinefwr) a Mrs. A. Pickles (Aelod Rhiant-lywodraethwr – Ardal Caerfyrddin). |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. |
|
DIWEDDARIAD RHIANTA CORFFORAETHOL PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Diweddaru Blynyddol Rhianta Corfforaethol a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Rianta Corfforaethol, plant heb gwmni oedolyn sy'n ceisio lloches a gwasanaethau maethu. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r canlyniadau llwyddiannus a gafwyd, yr heriau o gadw gofalwyr maeth a chael digon o staff ac adnoddau i fodloni'r galw cynyddol gan y sawl sy'n gadael gofal.
Pwysleisiodd y swyddogion fod Rhianta Corfforaethol yn cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 sy'n gadael gofal. Clywodd y Pwyllgor gan ddau unigolyn a oedd wedi gadael gofal am eu profiadau a'r cymorth a roddwyd iddynt. Dywedwyd wrth yr aelodau fod y Cyngor yn cynnig swyddi dan hyfforddiant i'r sawl sy'n gadael gofal, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau. Nododd yr aelodau fod sylwadau cadarnhaol am y cymorth a roddwyd iddynt ac roedd yr aelodau'n cydnabod y gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth. Diolchodd y Pwyllgor i'r bobl ifanc a oedd wedi gadael gofal am y cipolwg defnyddiol yr oeddent wedi'i roi gan nodi y bu i'r Pwyllgor glywed yn uniongyrchol gan y sawl a oedd yn cael gwasanaethau o'r fath.
Esboniodd y swyddogion fod gan yr Awdurdod Lleol Strategaeth Rhianta Corfforaethol a oedd yn amlinellu'r mesurau y byddai'n eu cymryd i sicrhau bod y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r sawl sy'n gadael gofal yn gadarnhaol. Roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi gostwng yn gyson ers 2011, gyda'r nifer cyfredol yn 210. Nodwyd bod y mwyafrif o blant sy'n derbyn gofal yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng addysg prif ffrwd gydag 11 o blant yn unig yn cael darpariaeth addysg amgen. Pwysleisiwyd bod Sir Gaerfyrddin yn llwyddiannus iawn wrth gymharu â chyfartaledd Cymru o ran cyrhaeddiad ysgol plant sy'n derbyn gofal ac roedd yr ysgolion yn cael cymorth gan y Tîm Rhianta Corfforaethol
Roedd y Gwasanaethau Rhianta Corfforaethol yn darparu mynediad i theraplay, cwnsela ac ymyriadau therapiwteg ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr. Pwysleisiwyd bod y gwasanaethau'n cefnogi un rhan o dair o blant sir sy'n derbyn gofal ac roedd gwasanaethau o'r fath y bwysig er mwyn i'r afael â'u hiechyd emosiynol. Nodwyd bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gweld 3 o blant sy'n derbyn gofal yn unig y llynedd.
Dywedodd y swyddogion y rhagwelwyd y byddai niferoedd y sawl sy'n gadael gofal yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf oherwydd newidiadau yn y ddeddfwriaeth a byddai'n cymryd tipyn o amser i'r niferoedd ostwng. Pwysleisiwyd bod y Tîm Gadael Gofal yn darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi a chymorth ar gyfer y sawl sy'n gadael gofal ac roedd yn fwriad parhau i leihau nifer y bobl ifanc sy'n gadael gofal nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Fodd bynnag, roedd Sir Gaerfyrddin yn is na chyfartaledd Cymru o ran pobl ifanc NEET sy'n gadael gofal. Gofynnodd y Pwyllgor am ffigurau er mwyn cymharu ag awdurdodau lleol eraill a bod ffigurau cyfartaledd cenedlaethol yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Roedd sicrhau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 66 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad ynghylch Adolygu'r Gwasanaethau Ymddygiad. |
|
Cofnodion: Cyfeiriwyd at gofnod 7 (Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb 2016/17) ac yn benodol paragraff saith o'r materion a drafodwyd ynghylch aildrefnu darpariaeth gynradd yn nhref Rhydaman, a nodwyd y dylai gynnwys datganiad "nodwyd bod £19 miliwn wedi'i osod naill ochr ar gyfer y prosiect hwn".
PENDERFYNWYD, ar yr amod y byddai'r newid a nodwyd uchod yn cael ei gynnwys, lofnodi cofnodion cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 15 Mawrth, 2017, i nodi eu bod yn gywir.
Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, roedd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor wedi cydnabod y gwaith rhagorol a gyflawnwyd ar ran y Pwyllgor gan Matthew Hughes, y cyn Swyddog Gwasanaethau Democrataidd. Gofynnwyd am anfon llythyr o ddiolch ato ar ran y Pwyllgor a dymuno yn dda iddo yn ei swydd newydd. |
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth