Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Matthew Hughes
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A. Campbell, A. James, P.E.M. Jones a J. Williams.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 97 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor y dylid nodi'r eitemau a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf sef dydd Mercher, 15 Mawrth, 2017.
|
|
AROLYGIAD O WASANAETHAU PLANT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN GAN AGGCC PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mrs Bobbie Jones, Arolygydd Strategaeth Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i'r cyfarfod.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu canfyddiadau AGGCC a'r argymhellion ar gyfer Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau ym mis Gorffennaf 2016. Mrs Jones oedd Arolygydd Arweiniol y tîm a ymgymerodd â'r arolygiad gan roi adborth i'r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r tîm.
Cynhaliwyd yr arolygiad yn ystod cyfnod o newid sylweddol gan fod y Cyngor yn y broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr Awdurdod hefyd yn cyflwyno modelau gweithredu diwygiedig o ran gwaith cymdeithasol ledled Gwasanaethau Plant. Roedd yr arolygiad yn defnyddio dull diwygiedig o ran arolygu Awdurdodau Lleol, gyda mwy o bwyslais ar ddeall sut y mae darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd y mae arnynt angen gofal a chymorth.
Pwysleisiodd Mrs Jones nad arolygiad llawn oedd hwn ond yn hytrach cynllun peilot yn defnyddio offer a methodoleg newydd. Adolygwyd rhwng 30 a 40 o ffeiliau achosion, cafodd nifer o weithwyr cymdeithasol eu cyfweld ac roedd y canlyniadau'n gadarnhaol iawn. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar y trefniadau mynediad i blant a nodwyd bod Sir Gaerfyrddin yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, fodd bynnag, roedd angen rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth o ran darpariaeth cymorth cynnar.
O ran darparu gwasanaethau gwybodaeth, nododd mai dim ond ers mis Ebrill y daeth y Ddeddf i rym, a chynhaliwyd yr arolygiad ym mis Gorffennaf, fodd bynnag, roedd sylfeini da yn cael eu gosod. O ran trefniadau arweinyddiaeth, rheoli a llywodraethu roedd yn glir bod gwasanaethau plant yn cael eu blaenoriaethu yn y Cyngor. Roedd hi o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i'r Pwyllgor gael adborth mwy penodol gan y teuluoedd am eu barn ynghylch y gwasanaethau ataliol a chael help yn gynnar. Roedd o'r farn bod angen rhagor o waith gyda phartneriaid i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac awgrymodd y gellid gwneud hyn drwy gyfrwng y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Roedd y tîm wedi cael argraff dda iawn o'r ffaith fod y gweithlu'n brofiadol, yn sefydlog ac yn gwbl ymroddedig i weithio mewn modd agored a thryloyw. I gloi dywedodd fod gwaith ardderchog yn cael ei wneud yn Sir Gaerfyrddin.
Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Jones am ei chyflwyniad a'r farn gyffredinol oedd bod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn, fodd bynnag, roedd meysydd i'w datblygu ymhellach.
Croesawodd y swyddogion yr adroddiad ac roeddent o'r farn ei fod yn gytbwys ac yn deg ac aethant ymlaen gan ddweud wrth y Pwyllgor eu bod eisoes yn gweithredu'r argymhellion. Roedd yn ddyddiau cynnar o ran y newid yn dilyn y ddeddfwriaeth newydd, fodd bynnag, roedd cynnydd da ar waith.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
- Mynegwyd pryderon gan fod cymeriadau plant yn datblygu yn ystod eu blynyddoedd cynnar, gofynnwyd i'r swyddogion a oeddent yn ceisio dylanwadu ar y rheini gan mai nhw ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
PERFFORMIAD A CHYRHAEDDIAD YSGOLION 2015-2016 PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a chafwyd cyflwyniad ar Berfformiad a Chyflawniad Ysgolion 2015/16 a oedd yn cynnig trosolwg o'r canlynol:-
- data perfformiad meintiol a data presenoldeb ysgolion; - dyfarniadau ansoddol allanol (Estyn); - cyflawniadau o ran gwerthoedd a sgiliau yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o asesiadau athrawon, canlyniadau profion ac arholiadau disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnodau Allweddol 2, 3, 4 a 5. Roedd y canlyniadau'n cael eu cymharu â'r targedau a osodwyd, perfformiad yn y blynyddoedd blaenorol a chyfartaledd Cymru gyfan. Roedd hefyd grynodeb o berfformiad yr ysgolion a gafodd eu harolygu gan Estyn yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Mynegwyd pryder o ran cwymp yn lefelau presenoldeb mewn ysgolion cynradd, fodd bynnag, croesawyd y cynnydd yn yr ysgolion uwchradd. Roedd yn bleser gweld bod gwella lefelau presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth;
Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), sy'n orfodol yng Nghymru, yn atal athrawon rhag dod yn brifathrawon. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y cymhwyster hwn yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru a byddai'r cwestiwn ynghylch a oedd hyn yn peri anawsterau yn cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.</AI7>
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2015, wrth ystyried Canlyniadau Arholiadau ac Asesiadau Athrawon (amodol), nododd y Pwyllgor mai un o'r blaenoriaethau ar gyfer yr Awdurdod yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16 oedd gwella perfformiad y dysgwyr hynny a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim ac roedd hyn yn flaenoriaeth genedlaethol yn ogystal â blaenoriaeth leol. Penderfynodd y Pwyllgor felly sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i adolygu ac ymchwilio i'r bwlch cyrhaeddiad o ran dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Roedd y Gr?p wedi cyfarfod ar 7 achlysur ac wedi ystyried tystiolaeth a gwybodaeth gan ystod eang o ffynonellau. Nod y sesiynau oedd rhoi'r wybodaeth, y cyd-destun a'r cefndir perthnasol i'r Gr?p am y pwnc. Yn ogystal, cafodd y Gr?p dystiolaeth gan nifer o arbenigwyr ym maes addysg.
Aeth y Pwyllgor ymlaen i ystyried yr adroddiad terfynol gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a oedd yn cynnwys 11 o ganfyddiadau allweddol ac 8 argymhelliad.
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Gr?p ac i'r swyddogion am eu hymroddiad a hefyd i'r ystod eang o arbenigwyr a oedd wedi rhoi cyflwyniadau i'r Gr?p.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad ac argymhellion Gr?p i'r Bwrdd Gweithredol eu hystyried.</AI8> <AI9>
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 66 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rheswm dros beidio â chyflwyno'r adroddiad am Amcanion Llesiant y Cyngor 2017/18.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod ar 21ain Tachwedd, 2016, yn gywir.
|