Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2016 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P.E.M. Jones, D.W.H. Richards a J. Williams. 

 

Bu i’r Cadeirydd groesawu Mrs Jean Voyle Williams i’w chyfarfod cyntaf fel Cynrychiolydd newydd yr Eglwys yng Nghymru ar y Pwyllgor. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod Mrs. Voyle Williams yn mynychu yn lle’r Canon Bryan Witt a oedd wedi penderfynu’n ddiweddar i ymddeol o’i rôl ar y Pwyllgor. Cynghorodd y Cadeirydd yr aelodau y byddai’n ysgrifennu llythyr at y Canon Witt yn diolch iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor dros lawer o flynyddoedd.

 

Hefyd estynnodd y Cadeirydd groeso i Councillor A. James i’w gyfarfod cyntaf, yr oedd yn dod yn aelod ar y Pwyllgor yn lle y diweddar T. Theophilus.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y rhai oedd yn bresennol nad oedd hawl ffilmio na recordio trafodion y cyfarfod yn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor craffu y Cyngor Sir.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Mrs. E. Heyes

 

 

Eitem 5

 

Mae’n rhiant-lywodraethwr ar Gorff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech.

 

 

Mrs. K. Hill

 

 

Eitem 6

 

Mae’n ymgynghorydd Anghenion Addysgol Arbennig annibynnol.

 

 

Y Cynghorydd W.G. Hopkins 

 

Eitem 5

 

 

Mae’n llywodraethwr ar Gorff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod Swyddog Monitro yr Awdurdod Lleol wedi cadarnhau ei fod yn cael cymryd rhan a phleidleisio wrth ystyried yr eitem hon. 

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Cafwyd a chyflwynwyd y cwestiynau canlynol yn ystod y cyfarfod.  Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y cafwyd ymddiheuriadau gan Mrs. Michaela Beddows, Mrs. Sheena Lewis a Mr. Darren Seward. Yn dilyn cais ganddynt, byddai’n darllen y cwestiynau ar eu rhan oherwydd eu habsenoldeb gan nad oeddent yn bresennol.

4.1

CWESTIWN GAN MS. NIKKI LLOYD

Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu'r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal drwy eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESPs). Roedd Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, i fesur y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac i amlinellu eu targedau i Lywodraeth Cymru.  O edrych ar y sefyllfa bresennol yn Ysgolion Llangennech, ar hyn o bryd mae 121 o blant o'r tu allan i'r dalgylch yn dod i Ysgol Llangennech, ac, ar yr un pryd, mae 111 o blant yn gadael y pentref i gael addysg. Mae'n glir bod y symudiadau hyn yn rhoi camargraff o'r galw sydd am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llangennech, ac nad oes galw amdani gan y pentref ei hun.  A oes asesiad WESP wedi cael ei wneud ar gyfer Llangennech er mwyn mesur y galw, ac os felly ble mae'r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llangennech? 

Cofnodion:

Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu’r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal drwy eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESPs). Roedd Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, i fesur y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac i amlinellu eu targedau i Lywodraeth Cymru.  O edrych ar y sefyllfa bresennol yn Ysgolion Llangennech, ar hyn o bryd mae 121 o blant o’r tu allan i’r dalgylch yn dod i Ysgol Llangennech, ac, ar yr un pryd, mae 111 o blant yn gadael y pentref i gael addysg. Mae’n glir bod y symudiadau hyn yn rhoi camargraff o’r galw sydd am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llangennech, ac nad oes galw amdani gan y pentref ei hun.  A oes asesiad WESP wedi cael ei wneud ar gyfer Llangennech er mwyn mesur y galw, ac os felly ble mae’r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llangennech?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn ofynnol i awdurdodau lleol yn sgil Rhan 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn nodi sut y byddent yn cyflawni eu swyddogaethau addysg gyda golwg benodol ar wella’r modd y mae’r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynllunio a chodi’r safonau o ran addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg.

 

Mae Adran 86 o’r Ddeddf yn nodi y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru ofyn i awdurdodau lleol, yn unol â’r rheoliadau, gynnal asesiad o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith rhieni’r ardal ar gyfer eu plant. Mae’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Rheoliadau Asesu’r Galw am Addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg (Cymru) 2013 yn nodi sut y dylai awdurdod lleol fynd ati i gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg, petai hyn yn ofynnol gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

 

Hyd yn hyn, nid oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Cymru ymgymryd ag asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ac roedd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Sir wedi cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd fod y cynnydd graddol yn nifer y disgyblion yn y ffrwd Gymraeg a’r gostyngiad yn y nifer y disgyblion yn y ffrwd Saesneg yn ysgolion Llangennech dros y blynyddoedd diwethaf, yn dangos yn glir bod galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

4.2

CWESTIWN GAN MR. STEVE HATTO

Mae'r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn nodi: Lle cynigir ysgol newydd, cynnydd mewn capasiti, neu helaethu'r ystod oedran;

 

·         bod tystiolaeth o angen/galw presennol neu yn y dyfodol yn yr ardal am leoedd ychwanegol, o ran categori iaith yr ysgol neu'r ysgol arfaethedig, cymeriad crefyddol dynodedig, a rhywedd (h.y. cydaddysgol/un rhyw);

 

·         dylai'r galw am ddarpariaeth ychwanegol o unrhyw fath mewn ardal gael ei asesu (sef dalgylch Llangennech YN EIN BARN NI) a dylid dangos tystiolaeth ohono (yn achos y ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg byddai hyn yn cynnwys asesiad o'r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi'i gynnal yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 86 o Ddeddf 2013).

 

·         a fydd y cynigion yn gwella mynediad i bobl anabl yn unol â'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Yn ôl gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Ysgol drwy Ryddid Gwybodaeth, cynhaliwyd cynllun peilot i ymchwilio i drochi disgyblion yn y Gymraeg yn y dosbarthiadau derbyn. Fodd bynnag, rydym yn dal heb weld canlyniadau'r cynllun peilot. Adeg y cynllun peilot, dim ond y rhieni a fynychodd y cyfarfod (LLAI NA DWSIN HEB FOD GWEDDILL Y RHIENI'N YMWYBODOL OHONO) a gafodd wybod amdano ac ni ddosbarthwyd llythyrau. Dylai'r dystiolaeth a ganfuwyd o'r cynllun peilot hwn fod wedi cael ei chasglu a'i chyflwyno gyda'r cynnig. Yr unig adeg y rhoddwyd gwybod inni am y cynllun peilot oedd pan fu inni wneud cais drwy Ryddid Gwybodaeth, ac nid yw'r wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi.  Nid yw'r dystiolaeth na'r canlyniadau wedi cael eu cyflwyno gyda'r cynnig ac ni roddwyd gwybod a ydynt yn effeithio ar yr angen am newid. A allwch gadarnhau pam nad yw'r asesiad hwn wedi'i wneud, ynghyd â'r asesiad cymunedol y mae'r Awdurdod wedi gwrthod ei gynnal?

Cofnodion:

Mae’r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn nodi: Lle cynigir ysgol newydd, cynnydd mewn capasiti, neu helaethu’r ystod oedran;

 

·         bod tystiolaeth o’r angen/galw ar hyn o bryd yn y dyfodol yn yr ardal am leoedd ychwanegol, o ran categori iaith yr ysgol neu’r ysgol arfaethedig, cymeriad crefyddol dynodedig, a rhywedd (h.y. cydaddysgol/un rhyw);

 

·         dylai’r galw am ddarpariaeth ychwanegol o unrhyw fath mewn ardal gael ei asesu (sef dalgylch Llangennech YN EIN BARN NI) a dylid dangos tystiolaeth ohono (yn achos y ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg byddai hyn yn cynnwys asesiad o’r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi’i gynnal yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 86 o Ddeddf 2013).

 

·         a fydd y cynigion yn gwella mynediad i bobl anabl yn unol â’r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Yn ôl gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Ysgol drwy Ryddid Gwybodaeth, cynhaliwyd cynllun peilot i ymchwilio i drochi disgyblion yn y Gymraeg yn y dosbarthiadau derbyn. Fodd bynnag, rydym yn dal heb weld canlyniadau’r cynllun peilot. Adeg y cynllun peilot, dim ond y rhieni a fynychodd y cyfarfod (LLAI NA DWSIN HEB FOD GWEDDILL Y RHIENI’N YMWYBODOL OHONO) a gafodd wybod amdano ac ni ddosbarthwyd llythyrau. Dylai’r dystiolaeth a ganfuwyd o’r cynllun peilot hwn fod wedi cael ei chasglu a’i chyflwyno gyda’r cynnig. Yr unig adeg y rhoddwyd gwybod inni am y cynllun peilot oedd pan fu inni wneud cais drwy Ryddid Gwybodaeth, ac nid yw’r wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi.  Nid yw’r dystiolaeth na’r canlyniadau wedi cael eu cyflwyno gyda’r cynnig ac ni roddwyd gwybod a ydynt yn effeithio ar yr angen am newid. A allwch gadarnhau pam nad yw’r asesiad hwn wedi’i wneud, ynghyd â’r asesiad cymunedol y mae’r Awdurdod wedi gwrthod ei gynnal?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y ddogfen ymgynghori wedi cael ei pharatoi a bod y broses ymgynghori wedi cael ei chynnal yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol, a bod yr ysgol wedi ymateb i’r newid dramatig yn y dewis o ran y ffrwd iaith yr oedd rhieni yn ei dewis.  Yn dilyn hyn, roedd nifer y disgyblion a oedd yn dewis mynychu’r ffrwd Gymraeg wedi cynyddu a chryn dipyn yn uwch na nifer y disgyblion a oedd yn mynychu’r ffrwd Saesneg.

4.3

CWESTIWN GAN MRS. MICHAELA BEDDOWS

Mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Craffu, dywedodd Mr Sully mai ei fwriad oedd newid yr holl ysgolion Dwy Ffrwd yn rhai cyfrwng Cymraeg a newid yr holl ysgolion cyfrwng Saesneg yn rhai Dwy Ffrwd ac yn y blaen....Bydd hyn yn arwain at waredu'r holl ysgolion cyfrwng Saesneg sydd yn Sir Gaerfyrddin yn y pen draw. A allwch gadarnhau ai hwn yw cynllun addysg yr Awdurdod yn y tymor hir?

Cofnodion:

Mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Craffu, dywedodd Mr Sully mai ei fwriad oedd newid yr holl ysgolion Dwy Ffrwd yn rhai cyfrwng Cymraeg a newid yr holl ysgolion cyfrwng Saesneg yn rhai Dwy Ffrwd ac yn y blaen....Bydd hyn yn arwain at waredu’r holl ysgolion cyfrwng Saesneg sydd yn Sir Gaerfyrddin yn y pen draw. A allwch gadarnhau ai hwn yw cynllun addysg yr Awdurdod yn y tymor hir?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb statudol yn sgil Rhan 4 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal, gyda golwg benodol ar wella’r modd y mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynllunio, er mwyn codi’r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg. Yn ôl y Cynllun roedd yn ofynnol i holl ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys yr ysgolion cyfrwng Saesneg, symud ar hyd y continwwm iaith, gan barhau i gynyddu cyfran yr addysg a oedd yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda golwg ar sicrhau ymhen amser y byddai’r holl blant yn gwbl ddwyieithog wrth adael yr ysgol.

4.4

CWESTIWN GAN MRS. SHEENA LEWIS

Bellach mae'n rhaid inni ofyn y cwestiwn hwn am y trydydd tro, gan nad ydych wedi rhoi ateb clir inni o hyd yn ein barn ni. Pan ofynnwyd y cwestiwn hwn gennym gyntaf, roedd 1710 o leoedd gwag mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.  Cafwyd yr un ymateb yn gwmws gennych chi a Mr Jones. Dywedodd y ddau ohonoch eich bod wedi llenwi 3500 o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid dyna oedd y cwestiwn ofynnwyd. Felly gofynnwn ichi unwaith eto. Faint o leoedd gwag sydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, ac onid ydych yn meddwl y byddai'n fwy buddiol llenwi'r lleoedd hynny cyn creu rhagor?

Cofnodion:

Bellach mae’n rhaid inni ofyn y cwestiwn hwn am y trydydd tro, gan nad ydych wedi rhoi ateb clir inni o hyd yn ein barn ni. Pan ofynnwyd y cwestiwn hwn gennym gyntaf, roedd 1710 o leoedd gwag mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.  Cafwyd yr un ymateb yn gwmws gennych chi a Mr Jones. Dywedodd y ddau ohonoch eich bod wedi llenwi 3500 o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid dyna oedd y cwestiwn a ofynnwyd. Felly gofynnwn ichi unwaith eto. Faint o leoedd gwag sydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, ac onid ydych yn meddwl y byddai’n fwy buddiol llenwi’r lleoedd hynny cyn creu rhagor?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 

 

Dywedodd y Cadeirydd ar sail y wybodaeth am Gynllunio Lleoedd Ysgol ar gyfer 2016, roedd tua 1,514 o leoedd gwag yn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg y Sir. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol ymdrechu i reoli’r lleoedd gwag yn eu hysgolion, a hynny o fewn goddefiant o 10% ar draws yr holl ysgolion, gan dderbyn bod y niferoedd mewn ysgolion unigol yn amrywio oherwydd nifer o ffactorau. Yn ôl y Côd Trefniadaeth Ysgolion "mae rhai lleoedd dros ben yn angenrheidiol er mwyn galluogi ysgolion i ymdopi â’r amrywiadau o ran niferoedd disgyblion.” Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gormod o leoedd gwag mewn ysgol unigol os oes ganddi fwy na 25% o leoedd gwag.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod bod gan nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg y Sir leoedd gwag ond bod yr ysgolion hynny mewn ardaloedd gwledig yn bennaf lle mae gostyngiad wedi bod yn nifer y teuluoedd ifanc ac yn nifer y plant. Nid yw’r sefyllfa yn dangos gostyngiad yn y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ond yn hytrach newid yn y demograffig sy’n wynebu llawer o gymunedau gwledig lle mae poblogaeth h?n yn gyffredinol. Fodd bynnag, dros y 15 mlynedd diwethaf roedd Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy ei Raglen Moderneiddio Addysg, wedi gwaredu rhyw 3150 o leoedd gwag o’i ysgolion dros y 15 mlynedd diwethaf, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig ac roedd hyn yn dangos bod y Cyngor yn effeithiol yn rheoli lleoedd gwag.

4.5

CWESTIWN GAN MRS. JULIA REES

Dim ond 3 uned Arsylwi/Asesu sydd yn Sir Gaerfyrddin. Unedau yw'r rhain lle gosodir plant ag anawsterau lleferydd a dysgu, wedi i seicolegwyr addysg Cyngor Sir Caerfyrddin benderfynu bod angen eu hasesu fel y gellir darparu ar gyfer eu hanghenion ychwanegol yn yr ysgol. Mae rhai plant yn symud oddi yma i ysgolion arbennig, tra bo eraill yn cael eu rhyddhau i ysgol brif ffrwd gyda chymorth. Ar hyn o bryd mae'r tair uned asesu yn Sir Gaerfyrddin yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.  Dywedodd Mr Sully mai nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw dod â'r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben erbyn 2022 a bod Ysgol Llangennech ond yn rhan o'r newid hwn. Rwyf yn rhiant i blentyn a gafodd ei gofrestru a'i dderbyn i'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Llangennech, ond yn ôl cyfarwyddyd arbenigwyr Cyngor Sir Caerfyrddin cafodd ei osod i'w asesu mewn uned lle roedd yr addysgu'n digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Roedd hyn wedyn yn ei atal rhag dychwelyd i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg pan gafodd ei ryddhau i addysg brif ffrwd, gan mai dim ond Saesneg y gallai siarad. Sut gall Cyngor Sir Caerfyrddin ddod â'r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben yn Llangennech, a thrwy hynny atal fy mhlentyn rhag dychwelyd i addysg yn ei ysgol gymunedol gyda'r posibilrwydd yn y tymor hir wedyn o symud gyda chymorth i ffrwd Gymraeg ei ysgol leol, pan nad yw'n gallu helpu disgyblion ag anawsterau dysgu sy'n siarad Cymraeg i integreiddio i'r cymunedau y maent wedi eu dewis?

Cofnodion:

Dim ond 3 uned Arsylwi/Asesu sydd yn Sir Gaerfyrddin. Unedau yw’r rhain lle gosodir plant ag anawsterau lleferydd a dysgu, wedi i seicolegwyr addysg Cyngor Sir Caerfyrddin benderfynu bod angen eu hasesu fel y gellir darparu ar gyfer eu hanghenion ychwanegol yn yr ysgol. Mae rhai plant yn symud oddi yma i ysgolion arbennig, tra bo eraill yn cael eu rhyddhau i ysgol brif ffrwd gyda chymorth. Ar hyn o bryd mae’r tair uned asesu yn Sir Gaerfyrddin yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.  Dywedodd Mr Sully mai nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw dod â’r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben erbyn 2022 a bod Ysgol Llangennech ond yn rhan o’r newid hwn. Rwyf yn rhiant i blentyn a gafodd ei gofrestru a’i dderbyn i’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Llangennech, ond yn ôl cyfarwyddyd arbenigwyr Cyngor Sir Caerfyrddin cafodd ei osod i’w asesu mewn uned lle’r oedd yr addysgu’n digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Roedd hyn wedyn yn ei atal rhag dychwelyd i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg pan gafodd ei ryddhau i addysg brif ffrwd, gan mai dim ond Saesneg y gallai siarad. Sut gall Cyngor Sir Caerfyrddin ddod â’r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben yn Llangennech, a thrwy hynny atal fy mhlentyn rhag dychwelyd i addysg yn ei ysgol gymunedol gyda’r posibilrwydd yn y tymor hir wedyn o symud gyda chymorth i ffrwd Gymraeg ei ysgol leol, pan nad yw’n gallu helpu disgyblion ag anawsterau dysgu sy’n siarad Cymraeg i integreiddio i’r cymunedau y maent wedi eu dewis?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Dywedodd y Cadeirydd mai polisi Cyngor Sir Caerfyrddin oedd y dylai ei holl ysgolion fod yn gynhwysol, a bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn lleoliad prif ffrwd ochr yn ochr â’u cyfoedion ble bynnag y bo modd. Roedd modd gwneud hyn yn y mwyafrif o achosion, a oedd o fudd i’r holl blant. Er bod y gyfundrefn wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr drwy ymagwedd gyffredinol a chynhwysol, yn achos nifer bychan o blant ag anghenion ychwanegol cymhleth a sylweddol, nid yw hynny’n bosibl bob amser ac roedd darpariaeth arbenigol yn cynnig lleoliadau dysgu mwy priodol.

 

Er mwyn sicrhau bod anghenion yr holl ddysgwyr yn cael eu diwallu, mae cyfundrefn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cynnwys darpariaeth helaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol. Roedd addysg mewn ysgol neu uned arbenigol yn cael ei gynnig i’r plant â’r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth pan na fo lleoliad prif ffrwd yn addas i anghenion y plant, neu pan fo’n well gan y rhieni leoliad arall. Roedd rhai ysgolion uwchradd a chynradd ledled y sir yn cynnwys unedau arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion penodol, megis awtistiaeth, namau synhwyraidd, neu oedi o ran lleferydd ac iaith. Roedd yr Adran Addysg a Phlant yn darparu cymorth ychwanegol penodol yn yr ysgolion, lle bo modd, fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.5

4.6

CWESTIWN GAN MRS. KAREN HUGHES

Yn ystod cyfarfodydd blaenorol, dywedwyd wrthym droeon nad yw'n fwriad gan yr Awdurdod i unrhyw blentyn adael Ysgol Llangennech ac o'r herwydd nad oedd asesiad trafnidiaeth neu asesiad cymunedol yn ofynnol. Fodd bynnag dengys tystiolaeth ddiweddar, yn ogystal â'r 91 sydd eisoes wedi ceisio addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn rhywle heblaw Llangennech, fod dros 20 disgybl arall wedi cael eu tynnu o'r ysgol neu heb ddechrau yn yr ysgol o achos y goblygiadau os daw'r cynnig i rym, a bydd y nifer hwn yn parhau i gynyddu. Yr unig ysgol cyfrwng Saesneg a allai ddarparu ar gyfer y disgyblion hyn yw Ysgol yr Hendy ond nid oes gan yr ysgol hon lwybr diogel i'r ysgol. Yn dilyn cael y wybodaeth hon, rydym yn credu bod angen cynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth o dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud. O ystyried y wybodaeth hon, a ydych bellach yn mynd i gynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth?

Cofnodion:

Yn ystod cyfarfodydd blaenorol, dywedwyd wrthym droeon nad yw’n fwriad gan yr Awdurdod i unrhyw blentyn adael Ysgol Llangennech ac o’r herwydd nad oedd asesiad trafnidiaeth neu asesiad cymunedol yn ofynnol. Fodd bynnag dengys tystiolaeth ddiweddar, yn ogystal â’r 91 sydd eisoes wedi ceisio addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn rhywle heblaw Llangennech, fod dros 20 disgybl arall wedi cael eu tynnu o’r ysgol neu heb ddechrau yn yr ysgol o achos y goblygiadau os daw’r cynnig i rym, a bydd y nifer hwn yn parhau i gynyddu. Yr unig ysgol cyfrwng Saesneg a allai ddarparu ar gyfer y disgyblion hyn yw Ysgol yr Hendy ond nid oes gan yr ysgol hon lwybr diogel i’r ysgol. Yn dilyn cael y wybodaeth hon, rydym yn credu bod angen cynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth o dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud. O ystyried y wybodaeth hon, a ydych bellach yn mynd i gynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Dywedodd y Cadeirydd ar sail data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gyfer 2016, roedd 96 o blant sy’n byw yn nalgylch Llangennech yn mynychu ysgolion eraill. O blith y rhain, roedd 16 o blant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, 7 yn mynychu ysgolion dwy ffrwd a 73 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg. Roedd 3 o’r plant yn mynychu ysgolion ar sail ffydd. Fodd bynnag, roedd yn gyffredin i ddisgyblion symud rhwng dalgylchoedd ysgolion a hynny ledled y sir yn yr ardaloedd gwledig a’r ardaloedd trefol.

 

Roedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o rai disgyblion a oedd wedi newid ysgolion a allai fod o ganlyniad i’r cynnig hwn. Fodd bynnag, roedd hawl gan rieni i fynegi eu bod yn dewis ysgolion gwahanol.  Ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17, roedd 31 o ymgeiswyr wedi gwrthod eu lle yn Ysgol Babanod Llangennech. Fodd bynnag, roedd 27 o’r ceisiadau hyn o’r tu allan i’r dalgylch. O blith y 4 cais o fewn y dalgylch, roedd 2 wedi derbyn lle mewn ysgolion eraill am resymau eraill, ac nid oedd 2 ymgeisydd wedi nodir rheswm dros wrthod y lle. O blith y 31 o ddisgyblion a wnaeth wrthod lle yn Ysgol Babanod Llangennech, roedd 12 o’r disgyblion wedi nodi eu bod yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg, roedd 4 wedi nodi eu bod yn dewis addysg cyfrwng Saesneg, ac nid oedd 15 o ddisgyblion wedi nodi dewis iaith wrth lenwi’r ffurflen gais.

 

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16, roedd 16 o ddisgyblion wedi gwrthod eu lle yn Ysgol Iau angennech. Fodd bynnag, roedd 10 o’r ceisiadau hyn y tu allan i’r dalgylch. O blith y 6 cais o fewn y dalgylch, roedd 1 wedi derbyn lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ac roedd un disgybl wedi symud i fyw rhywle arall. O blith y 16 o ddisgyblion a wnaeth wrthod lle yn Ysgol Iau Llangennech, roedd 10 o’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.6

4.7

CWESTIWN GAN MR. DEAN BOLGIANI

Rhoddwyd gwybod inni o'r blaen nad oedd yr ysgolion cyfrwng Saesneg agosaf, sef y Bryn a'r Bynea, yn orlawn. Fodd bynnag, yn ôl gwybodaeth a ddaeth i law o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ddiweddar, mae'r ddwy ysgol wedi gwrthod lleoedd eisoes. Rhoddwyd gwybod inni fod y rheswm dros wrthod wastad yr un peth, a'u bod ond yn gwrthod derbyn disgyblion os yw'r gr?p blwyddyn yn llawn neu'n orlawn. Mynegwyd yn glir yn yr ymateb nad ydych erioed wedi gwrthod cais am unrhyw reswm ac eithrio bod ysgolion yn orlawn. Cafodd y mater o ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg amgen i deuluoedd o Langennech ei godi hefyd gan ESTYN, fel rhan o'i ymateb i'r ymgynghori cychwynnol. A fyddech cystal ag egluro yn awr ym mhle yr ydych yn mynd i ddarparu ar gyfer disgyblion sydd am gael addysg drwy gyfrwng y Saesneg os caiff ei gwaredu o Langennech? 

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod inni o’r blaen nad oedd yr ysgolion cyfrwng Saesneg agosaf, sef y Bryn a’r Bynea, yn orlawn. Fodd bynnag, yn ôl gwybodaeth a ddaeth i law o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ddiweddar, mae’r ddwy ysgol wedi gwrthod lleoedd eisoes. Rhoddwyd gwybod inni fod y rheswm dros wrthod bob amser yr un peth, a’u bod ond yn gwrthod derbyn disgyblion os yw’r gr?p blwyddyn yn llawn neu’n orlawn. Mynegwyd yn glir yn yr ymateb nad ydych erioed wedi gwrthod cais am unrhyw reswm ac eithrio bod ysgolion yn orlawn. Cafodd y mater o ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg amgen i deuluoedd o Langennech ei godi hefyd gan ESTYN, fel rhan o’i ymateb i’r ymgynghori cychwynnol. A fyddech cystal ag egluro yn awr ym mhle yr ydych yn mynd i ddarparu ar gyfer disgyblion sydd am gael addysg drwy gyfrwng y Saesneg os caiff ei gwaredu o Langennech?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cyngor Sir yn cynnig dewisiadau eraill heblaw Ysgol Llangennech ar gyfer y plant lleol. Dymuniad yr Awdurdod Lleol oedd i’r holl ddisgyblion presennol aros yn yr ysgol, ac yn y dyfodol bod y plant lleol yn mynychu ysgol y pentref gan dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, a bod Saesneg yn bwnc a addysgir yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn gyfrwng dysgu ar gyfer rhai gwersi eraill yn ystod y blynyddoedd olaf yn yr ysgol.

 

Yr unig rwymedigaeth oedd ar y Cyngor Sir o ran hwyluso dewis y rhieni yw pan fo’r dewis hwnnw’n gyson â darparu addysg mewn modd effeithiol a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Nid oedd gan yr un rhiant hawl i fynnu lle mewn ysgol benodol i’w blentyn (neu i’w blant) ac roedd lleoedd ysgol yn cael ei dyrannu ar sail Polisi Derbyniadau cyhoeddedig y Cyngor. Roedd y polisi hwn yn ffafrio bod plant yn mynychu eu hysgol leol neu’u hysgol ddynodedig. Ar gais y rhieni caiff plant eu derbyn mewn ysgol heblaw eu hysgol ddynodedig a hynny pan fo lleoedd ar gael ac yn unol â’r meini prawf o ran goralw yn y Polisi Derbyn cyhoeddedig.

4.8

CWESTIWN GAN MR. DARREN SEWARD

Fel rhan o'r hysbysiad statudol, rydych yn nodi eich bod yn barod i dalu costau cludiant er mwyn i ddisgyblion o'r tu allan i'r dalgylch fynychu ysgol Llangennech. Rydych wedi ei gwneud yn glir eich bod yn gwrthod talu am gludiant i ddisgyblion sydd am gael addysg drwy gyfrwng y Saesneg y tu allan i Langennech. Yn y dyddiau hyn o gyfle cyfartal i bawb, beth bynnag eu rhyw, hil, lliw neu gred, sut ydych chi'n gallu cyfiawnhau gwneud rhywbeth sydd yn amlwg yn gwahaniaethu? 

Cofnodion:

Fel rhan o’r hysbysiad statudol, rydych yn nodi eich bod yn barod i dalu costau cludiant er mwyn i ddisgyblion o’r tu allan i’r dalgylch fynychu ysgol Llangennech. Rydych wedi ei gwneud yn glir eich bod yn gwrthod talu am gludiant i ddisgyblion sydd am gael addysg drwy gyfrwng y Saesneg y tu allan i Langennech. Yn y dyddiau hyn o gyfle cyfartal i bawb, beth bynnag eu rhyw, hil, lliw neu gred, sut ydych chi’n gallu cyfiawnhau gwneud rhywbeth sydd yn amlwg yn gwahaniaethu?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y cynnig hwn yn ceisio gwahaniaethu yn erbyn unrhyw aelod o’r gymuned mewn unrhyw fodd. Darparwyd cludiant i’r holl ddisgyblion yn unol â Pholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol yr Awdurdod. Ychwanegodd petai unrhyw rieni yn dewis gosod eu plant mewn ysgolion eraill, roeddent yn gwneud hynny ar ôl rhoi ystyriaeth i’r holl oblygiadau, gan gynnwys y goblygiadau o ran cludiant. Os bydd rhieni’n dewis gosod eu plant mewn ysgolion eraill nad yw’n ysgol ddynodedig nac yn ysgol agosaf, cyfrifoldeb llawn y rhieni yw cludo eu plant i’r ysgol.

4.9

CWESTIWN GAN MR. ROBERT WILLOCK

Hoffwn nodi fod Mr Dole wedi dweud yn y Llanelli Star dyddiedig 14eg Hydref 2016 "Byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd bob amser". Pam nad oedd neb wedi ymgynghori â'r cyhoedd yn ardal Llangennech a pham nad oedd yr Awdurdod wedi ymgynghori ag un o'i brif bartneriaid addysg, Ysgol Bryngwyn, ynghylch newid iaith Ysgol Llangennech? Dim ond ar ôl i'r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn y papur lleol y daeth i'r amlwg. Bellach mae gennym dystiolaeth gadarn ar ffurf dros 750 o wrthwynebiadau gan y gymuned yn Llangennech sy'n cefnogi ein safbwynt, sef y dylid cadw'r dewis dwy ffrwd ar gyfer yr ysgol. Gan fod cymaint â hyn o wrthwynebiad i'r cynnig, a ydych yn mynd i wrando ar y cyhoedd yn Llangennech nawr?

 

Cofnodion:

Hoffwn nodi fod Mr Dole wedi dweud yn y Llanelli Star dyddiedig 14eg Hydref 2016 "Byddwn yn ymgynghori â’r cyhoedd bob amser". Pam nad oedd neb wedi ymgynghori â’r cyhoedd yn ardal Llangennech a pham nad oedd yr Awdurdod wedi ymgynghori ag un o’i brif bartneriaid addysg, Ysgol Bryngwyn, ynghylch newid iaith Ysgol Llangennech? Dim ond ar ôl i’r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn y papur lleol y daeth i’r amlwg. Bellach mae gennym dystiolaeth gadarn ar ffurf dros 750 o wrthwynebiadau gan y gymuned yn Llangennech sy’n cefnogi ein safbwynt, sef y dylid cadw’r dewis dwy ffrwd ar gyfer yr ysgol. Gan fod cymaint â hyn o wrthwynebiad i’r cynnig, a ydych yn mynd i wrando ar y cyhoedd yn Llangennech nawr?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Ymatebodd y Cadeirydd gan ddweud fod y broses ymgynghori wedi cael ei chynnal yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol. Cafodd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Ysgol Bryngwyn, eu hysbysu am y cyfnod ymgynghori drwy e-bost ar ddechrau’r cyfnod ymgynghori yn unol â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion. Ychwanegodd y byddai’r penderfyniad ynghylch camu ymlaen neu beidio â’r cynnig, yn cael ei wneud er lles pennaf y dysgwyr. Felly, byddai’n rhaid penderfynu ar sail y rhinweddau addysgol yn hytrach nag ar sail nifer yr ymatebion a ddaeth i law, boed o blaid neu yn erbyn y cynnig.

4.10

CWESTIWN GAN MRS. JACQUELINE SEWARD

Tristwch mawr i ni yw gweld i ba raddau y mae ein cymuned, a oedd unwaith yn un glos, wedi cael ei rhannu gan y cynnig hwn sy'n cael ei hybu gan leiafrif o'r pentref.  Rydym wedi treulio bron blwyddyn yn ymgysylltu â'r gymuned, gan guro ar ddrysau a gwrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau. Mae'r ymarferiad diwethaf wedi rhoi tystiolaeth gadarn inni fod 750 o bobl yn erbyn y cynnig, ac mae angen inni roi gwybod ichi mai prin iawn oedd y rhai y siaradom â nhw ar drothwy'r drws oedd yn cefnogi'r cynnig, er ein bod yn annog pawb i leisio eu barn. Rydym wastad wedi cefnogi bod ein plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond rydym yn erbyn trochi llwyr, heb fod dewis rhieni yn cael ei hyrwyddo o dan y cynnig hwn.

 

Rydym yn ymwybodol fod nifer fawr o lythyrau sy'n cefnogi'r newid wedi cael eu casglu o'r tu allan i'r pentref, ac rydym wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth am fanylion ynghylch codau post i weld o ble daw'r gefnogaeth a'r gwrthwynebiad, fel y gellir gweld lle yn union y casglwyd y gefnogaeth hon. Mae'r dystiolaeth hon yn ffactor pwysig o ran galluogi'r aelodau i wneud penderfyniad.

 

Oni ddylid gwrando ar lais pobl Llangennech wrth benderfynu ar yr hyn sydd orau i drigolion ein cymuned?  Hyd yn oed heb gwestiynu o ble y daw'r llythyrau cefnogi, mae'r mwyafrif yn dal i fod o blaid cadw'r ddwy ffrwd yn yr ysgol. Yn anffodus, mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain ac mae hyn wedi rhannu'r pentref. Felly, yr ateb rhesymegol fyddai cadw'r ffrydiau Cymraeg a Saesneg yn yr ysgol a darparu ar gyfer pawb.  Felly a ydych yn cytuno mai'r ffordd orau o ddelio â hyn yw trwy ohirio'r penderfyniad hwn hyd nes ar ôl etholiad Mai 2017, sef oedi o 6 mis yn unig i'r broses gyfan, er mwyn gweld yn union beth y mae'r pentref ei eisiau? Fel hyn y dylid fod wedi camu ta beth, yn hytrach na gadael pobl o'r tu allan i'r pentref i benderfynu ar dynged ein cymuned.

Cofnodion:

Tristwch mawr i ni yw gweld i ba raddau y mae ein cymuned, a oedd unwaith yn un clos, wedi cael ei rhannu gan y cynnig hwn sy’n cael ei hybu gan leiafrif o’r pentref. Rydym wedi treulio bron blwyddyn yn ymgysylltu â’r gymuned, gan guro ar ddrysau a gwrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau. Mae’r ymarferiad diwethaf wedi rhoi tystiolaeth gadarn inni fod 750 o bobl yn erbyn y cynnig, ac mae angen inni roi gwybod ichi mai prin iawn oedd y rhai y siaradom â nhw ar drothwy’r drws oedd yn cefnogi’r cynnig, er ein bod yn annog pawb i leisio eu barn. Rydym wastad wedi cefnogi bod ein plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond rydym yn erbyn trochi llwyr, heb fod dewis rhieni yn cael ei hyrwyddo o dan y cynnig hwn.

 

Rydym yn ymwybodol fod nifer fawr o lythyrau sy’n cefnogi’r newid wedi cael eu casglu o’r tu allan i’r pentref, ac rydym wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth am fanylion ynghylch codau post i weld o ble daw’r gefnogaeth a’r gwrthwynebiad, fel y gellir gweld lle yn union y casglwyd y gefnogaeth hon. Mae’r dystiolaeth hon yn ffactor pwysig o ran galluogi’r aelodau i wneud penderfyniad.

 

Oni ddylid gwrando ar lais pobl Llangennech wrth benderfynu ar yr hyn sydd orau i drigolion ein cymuned?  Hyd yn oed heb gwestiynu o ble y daw’r llythyrau cefnogi, mae’r mwyafrif yn dal i fod o blaid cadw’r ddwy ffrwd yn yr ysgol. Yn anffodus, mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain ac mae hyn wedi rhannu’r pentref. Felly, yr ateb rhesymegol fyddai cadw’r ffrydiau Cymraeg a Saesneg yn yr ysgol a darparu ar gyfer pawb.  Felly a ydych yn cytuno mai’r ffordd orau o ddelio â hyn yw trwy ohirio’r penderfyniad hwn hyd nes ar ôl etholiad Mai 2017, sef oedi o 6 mis yn unig i’r broses gyfan, er mwyn gweld yn union beth y mae’r pentref ei eisiau? Fel hyn y dylid fod wedi camu ta beth, yn hytrach na gadael pobl o’r tu allan i’r pentref i benderfynu ar dynged ein cymuned.

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yn rhaid i’r broses ar gyfer unrhyw gynnig cael ei chynnal yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol. Roedd y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn nodi: “o dan adran 53 o Ddeddf 2013, rhaid i’r cynigydd wneud penderfyniad cyn pen 16 wythnos (112 diwrnod) o ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu. Os bydd y cynigydd yn methu â phenderfynu ar y cynnig cyn pen 16 wythnos, ystyrir ei fod wedi tynnu’r cynnig yn ôl a bydd angen iddo ailgyhoeddi’r cynigion os hoffai barhau.” Ychwanegodd unwaith eto, y byddai’n rhaid, yn statudol, i’r penderfyniad ynghylch camu ymlaen neu beidio â’r cynnig gael ei wneud er lles pennaf y dysgwyr. Felly, byddai’n rhaid penderfynu ar sail y rhinweddau addysgol yn hytrach nag ar sail nifer yr ymatebion a ddaeth i law, boed o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.10

5.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL BABANOD LLANGENNECH AC YSGOL IAU LLANGENNECH A SEFYDLU YSGOL GYMUNEDOL GYNRADD LLANGENNECH pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Mrs E. Heyes wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ei hystyried ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd y Cynghorydd W.G. Hopkins eisoes wedi datgan yn gynharach ei fod yn llywodraethwr ar Gorff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech a bod Swyddog Monitro yr Awdurdod Lleol wedi cadarnhau ei fod yn cael cymryd rhan a phleidleisio wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried cynnig i gau Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech a sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech yn eu lle a’r sylwadau a oedd wedi dod i law mewn ymateb i’r cynnig i gyhoeddi Hysbysiad Statudol. Roedd y sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori diweddaraf, fel y nodwyd yn yr adroddiad ymgynghori, wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Gwrthwynebu.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant gefndir y cynnig, cyd-destun y polisi a chynnwys a chynllun yr adroddiad a oedd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor. Nodwyd y cafwyd ymateb sylweddol (1,418 o ymatebion), fodd bynnag, gan mai’r rhinweddau addysgol oedd ffactorau pwysicaf a fyddai’n cyfrannu at y penderfyniad, ac roedd swyddogion yn parhau o’r farn nad oedd angen newidiadau i’r cynnig yn dilyn cam diweddaraf y broses.  

 

Gwnaed y sylwadau canlynol wrth ystyried y cynnig:

 

Croesawyd yr adroddiad manwl a dywedwyd bod y Cyngor yn syml yn gweithredu’r hyn yr oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd siom nad oedd ysgolion cyfrwng Saesneg yn annog disgyblion i ddod yn ddwyieithog ac mae cyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg oedd yr unig ffordd y gallai’r Cyngor sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

 

Cyfeiriwyd at yr ymchwil sylweddol a gyflawnwyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a oedd yn cefnogi’r canlyniad nad oedd ysgolion dwy ffrwd neu ysgolion cyfrwng Saesneg yn creu disgyblion gwbl ddwyieithog ac mae trochi’n llwyr mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg oedd yr unig ffordd ymlaen, yn enwedig os yw’r Sir yn mynd i’r afael â’r dirywiad sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg, fel y gwelwyd yn ystod y Cyfrifiad diwethaf yn 2011. Cyfeiriwyd hefyd at ymchwil Llywodraeth Cymru nad oedd lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn llesteirio nac yn effeithio ar berfformiad a chyrhaeddiad addysgol disgyblion, fel yr oedd rhai wedi awgrymu. Teimlwyd mai’r methiant i fod yn ddwyieithog oedd gwir achos y rhaniad mewn cymunedau. Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi amlinellu ei nod o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac roedd yn amlwg y byddai’n rhaid i addysg chwarae rhan sylweddol er mwyn gwireddu’r uchelgais hwn.

 

Er bod pwysigrwydd cynyddu siaradwyr Cymraeg ac annog y defnydd o’r iaith yn cael eu cydnabod, awgrymwyd na ddylid anwybyddu pryderon y gwrthwynebwyr. Awgrymwyd bod ganddynt bwyntiau dilys ac nid oedd eu holl gwestiynau wedi cael eu hateb yn llawn. Roedd yn hanfodol er mwyn bod yn agored a thryloyw, bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu er mwyn sicrhau bod cynigion o’r fath yn cael cefnogaeth pawb cyn symud  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWYGIO DARPARIAETH Y CYMORTH AR GYFER DYSGWYR GYDAG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Roedd Mrs. K. Hill wedi datgan yn gynharach ei bod hi yn ymgynghorydd Anghenion Addysgol Arbennig annibynnol.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad yn amlinellu trawsnewidiad y cymorth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru a’r sefyllfa bresennol yn Sir Gaerfyrddin. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil newydd i ddiwygio’r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol o’r farn bod angen diwygio’r system a hynny ers cryn dipyn o amser oherwydd:

 

·         Roedd y broses asesu bresennol yn aneffeithiol, yn fiwrocrataidd ac yn gostus ac yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl

·         Nid oedd y system bresennol yn canolbwyntio’n ddigonol ar y plentyn nac yn hawdd ei defnyddio.

·         Roedd anghenion yn cael eu nodi’n hwyr ac nid oedd yr ymyraethau’n ddigon amserol nac yn effeithiol.

·         Yn 2015, 23% yn unig o ddysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig a lwyddodd i gyrraedd y trothwy Lefel 2 cynhwysol o gymharu â 58% o’r holl ddisgyblion.

 

Disgwyliwyd y byddai Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016. Byddai’r Bil yn creu fframwaith deddfwriaethol i wella’r broses o gynllunio a darparu darpariaeth dysgu ychwanegol, drwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a fydd yn nodi anghenion yn gynnar, yn gosod cymorth effeithiol gan fonitro gwaith ac addasu ymyraethau er mwyn sicrhau y darparir y canlyniadau a ddymunir. Yna byddai’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu’r canllawiau statudol sy’n tanategu’r Bil, gan gynnwys y gofynion gorfodol. Nododd yr aelodau mai’r ddau newid allweddol fyddai:

 

·         Ymestyn yr ystod oedran o 0-18 i 0-25 – Byddai gan bob plentyn a pherson ifanc yr un hawliau i gael y ddarpariaeth yr oedd ei angen arno a byddai hyn yn cynorthwyo i wella’r broses bontio rhwng ysgol ac addysg ôl-16.

 

·         Cynllun statudol sengl – Byddai Cynlluniau Datblygu Unigol yn disodli’r amrywiaeth o gynlluniau statudol ac anstatudol ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion ac addysg amser llawn.

 

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y dull yr oedd yr Awdurdod Lleol yn ei gymryd wrth baratoi i weithredu’r ddeddfwriaeth newydd, yn bennaf drwy ddatblygu’r gweithlu, cymorth gweithredu/pontio, codi ymwybyddiaeth a pholisi cymorth.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon:

 

Gofynnwyd a oedd swyddogion yn rhagweld arbedion cost i’r Awdurdod yn yr hirdymor o ganlyniad i symleiddio’r broses asesu ac a fyddai angen llai neu ragor o staff. Roedd y Rheolwr Darpariaeth Anghenion Ychwanegol yn cydnabod y byddai angen adolygu’r gweithlu ac roedd yn debygol y byddai rhai staff yn cael eu hadleoli i weithio mewn gwahanol feysydd cyfrifoldeb (e.e. heb fod yn rhan o’r broses asesu bresennol) a byddai angen cynyddu’r capasiti mewn meysydd eraill (e.e. gwaith gyda phobl ifanc yn y categori oed 18-25 oed). Nododd fod llawer o bethau’n anhysbys a hyd nes y byddai’r rhaglen yn dechrau, byddai’n anodd darparu manylion penodol ynghylch yr effaith bosibl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynghylch arbedion posibl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf blwyddyn ariannol 2016/17 fel yr oeddynt ar 31 Awst 2016 ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant. Dywedwyd y rhagwelwyd gorwariant sylweddol o £1,550,000 yn y gyllideb refeniw ddiweddaraf ar ddiwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £13,322,000 o gymharu â chyllideb net weithredol o £19,607,000 gan roi amrywiant o £-6,285,000. Cynghorwyd yr aelodau y byddai’r amrywiant cyfalaf yn cael ei gynnwys yn y blynyddoedd sydd i ddod, oherwydd byddai’n ofynnol cael y cyllid i sicrhau bod y cynlluniau amrywiol yn cael eu cwblhau.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a fyddai’r gorwariant cyfredol yn cael ei ddileu drwy ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn. Cadarnhaodd Cyfrifydd y Gr?p mai dyma fyddai’n digwydd, ond wrth wneud hyn byddai’n effeithio ar gyllidebau yn y dyfodol. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y Pwyllgor fod cronfeydd wrth gefn yr adran wedi cael eu defnyddio hyd eleni ar gyfer rheoli ansefydlogrwydd ariannol. Fodd bynnag, cafodd y rhain eu defnyddio’n llwyr y llynedd ond nid oedd y pwysau gwaelodol ar y gwasanaethau wedi pylu. Roedd un gost sylweddol y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod, sef dileu swyddi a threfniadau ymddeol yn gynnar yn wirfoddol mewn ysgolion.

 

Mynegwyd pryder am yr oedi parhaus ynghylch ysgol gynradd newydd yn Rhydaman a gofynnwyd a oedd rhyw fath o restr oherwydd roedd yn ymddangos fel pe bai prosiectau eraill wedi neidio i frig y rhestr. Gofynnwyd hefyd a oedd gan Weithlu Rhydaman unrhyw rôl, os o gwbl, wrth gynllunio ar gyfer yr ysgol newydd. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yr aelodau fod y Pwyllgor ei hun wedi cymeradwyo’r Adolygiad Dwyflynyddol ar y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn gynharach yn ystod y flwyddyn honno, a chadarnhaodd er bod rhestr flaenoriaeth (Band A, B ac ati), roedd yn ofynnol bod yn hyblyg oherwydd y newidiadau demograffig yn y Sir. Cadarnhaodd fod gwaith ar ysgol newydd Rhydaman wedi dechrau pedair blynedd yn ôl, ond ers hynny, mae niferoedd y plant yn y dref wedi cynyddu’n sylweddol a bellach nid oedd digon o gyllid i gynnwys y newidiadau i’r prosiect yn gyffredinol. Cymhlethdod arall oedd y diffyg tir ac er bod un darn o dir wedi cael ei nodi, roedd angen £8 miliwn yn rhagor er mwyn ariannu’r prosiect. Aeth ati hefyd i sicrhau’r Pwyllgor fod y Tîm Rhaglen Moderneiddio Addysg yn gweithio’n agos gyda Thasglu’r dref ar y mater.

 

Mewn ymateb i ymholiad am brosiect Cam 1 Gorllewin Caerfyrddin, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor fod hwn yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl mawr ar ochr orllewinol Caerfyrddin. Yn sgil nifer y tai arfaethedig, byddai angen ysgol gynradd newydd ac roedd y rhagamcanion cychwynnol yn cynnwys ysgol â threfniadau derbyn dau ddosbarth i oddeutu 400 o ddisgyblion. Fodd bynnag, roedd y cynllun presennol ar gyfer datblygu ysgol mewn dau gam oherwydd bod angen hyblygrwydd o ran cynnydd y datblygiad yn gyffredinol. Cadarnhaodd fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN CWYNION A CHANMOLIAETH - 1AF O EBRILL HYD AT 30AIN O FEDI 2016 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Pwyllgor ystyried adroddiad a oedd yn darparu ystadegau a dadansoddiad i'r aelodau ynghylch cwynion, canmoliaeth ac ymholiadau a gafwyd ac yr ymdriniwyd â hwy rhwng mis Ebrill a mis Medi 2016/17.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDnodi’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 22 Rhagfyr 2016.

10.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu’r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

Cyfeiriwyd at gais y Pwyllgor i ofyn i Lywodraeth Cymru symleiddio’r broses o ran newid categori iaith ysgolion. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Alun Davies AS (Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddysgu Gydol Oes a’r Iaith Gymraeg) yn bresennol mewn cyfarfod diweddar o Fforwm Strategol yr Iaith Gymraeg yn y Sir, lle’r oedd rhai aelodau’r Pwyllgor wedi mynegi eu pryderon iddo yn uniongyrchol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor ei fod yn cydymdeimlo â phryderon yr aelodau a dywedodd wrth y Fforwm fod angen newid Mesur y Gymraeg a byddai proses ymgynghori ynghylch y mater yn cael ei chynnal yn ystod Gwanwyn 2017.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant wrth y Pwyllgor ei fod ef a’r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wedi cyfarfod yn ddiweddar â Kirsty Williams AS (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru) a’u bod hefyd wedi mynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch yr un mater. Cytunodd hi hefyd y byddai’n edrych i’r mater yn fwy manwl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf a’r atgyfeiriadau’n cael eu derbyn.

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR YR 22AIN O FEDI 2016 pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ddydd Llun 22 Medi 2016 yn gofnod cywir.

 

Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Mr. Rob Sully yn Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant oherwydd y byddai’n ymddeol ym mis Rhagfyr. Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor i Mr Sully am ei wasanaeth rhagorol ar ran y Cyngor a’i waith diflino yn Gyfarwyddwr dros y blynyddoedd, a diolchwyd iddo am ei barodrwydd i gyfarfod â’r aelodau a gwrando ar eu pryderon. Ar ran y Pwyllgor, dymunodd y Cadeirydd ymddeoliad hir a hapus iddo.