Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Llun, 10fed Hydref, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd P.E.M. Jones yn ogystal â Mrs. E. Heyes (Rhiant-lywodraethwr ar gyfer Ardal Llanelli) a’r Canon B. Witt (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru). 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai’r eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf oedd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Llun 21 Tachwedd 2016 yn cael eu nodi.

 

6.

RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) - Y NEWYDDION DIWEDDARAF pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y rhaglen ‘Trawsnewid, i Wneud Cynnydd’ (TIC). Nododd yr Aelodau fod y fenter, a sefydlwyd yn 2012, wedi cael ei lansio mewn ymateb i’r heriau ariannol sylweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol yn eu hwynebu a, hyd yma, bod y dull TIC wedi bod o gymorth i adnabod, neu’n helpu i gyflawni, arbedion effeithlonrwydd gwerth tua £6.4m. Cafodd y Pwyllgor drosolwg hefyd o brosiectau a oedd yn gysylltiedig â gwasanaethau yn yr Adran Addysg a Phlant a oedd wedi arwain at arbedion sylweddol o ran amser ac arian, yn ogystal ag arwain at ddulliau mwy effeithlon o weithio. Y prosiectau oedd:

 

·         Archebion bwyd ar gyfer ceginau ysgolion

·         Datganiadau dalenni amser timau arlwyo mewn ysgolion

·         Arian mân

·         Gwasanaeth prydau ysgol am ddim

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad: 

 

Cyfeiriwyd at y gwahanol bwyntiau cyswllt o fewn y broses archebion bwyd ar gyfer ceginau ysgolion (e.e. cyflenwr, yr Adran Addysg a’r Gwasanaethau Ariannol) a gofynnwyd a ellid rhesymoli hyn ymhellach fel mai un pwynt cyswllt oedd. Nododd y Rheolwr Datblygu Strategol fod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i’r prosiect penodol hwn, yn enwedig o safbwynt y cyflenwr. Fel cam a ddeilliodd o’r prosiect hwn, roedd yr Adran wedi adnabod prosesau eraill lle’r oedd nifer y pwyntiau cyswllt wedi cael ei herio a’i leihau’n sylweddol. Mewn un maes gwaith penodol, mae’r tîm hwn wedi cael ei dynnu allan o’r broses yn gyfan gwbl, gan ei gwneud yn bosibl cyflawni arbedion y gellir eu troi’n arian parod.

 

Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn gofyn a oedd ysgolion eu hunain wedi cyflawni arbedion o’r prosiect mewn perthynas ag archebion bwyd, nododd y Rheolwr Datblygu Strategol mai prosesau a oedd yn gysylltiedig â gwaith yr Awdurdod Lleol oedd y rhain ond bod potensial sylweddol i ysgolion gael budd o gymhwyso’r fethodoleg TIC i’w gweithgareddau. Dyma oedd y prif reswm y byddai’r Adran yn datblygu achos busnes ar y cyd â’r Tîm TIC i gyflogi swyddog a fyddai wedi’i neilltuo i weithio gydag ysgolion ar brosiectau effeithlonrwydd. 

 

Gofynnwyd a oedd yr arbedion a oedd wedi’u cyflawni hyd yma’n ddigon da ynteu a oedd yr Awdurdod yn anelu’n uwch ac yn gweithio’n ddigon masnachol i ddatrys materion gwastraff ac aneffeithlonrwydd, fel a fyddai’n digwydd yn y sector preifat. Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen TIC wybod i’r Pwyllgor bod y dull ers y cychwyn wedi ymwneud â gweithio mewn partneriaeth ac ochr yn ochr â gwasanaethau yn hytrach na mynnu arbedion gan adrannau, dull a fyddai wedi bod yn rhwystr i ddatblygu perthnasoedd â gwasanaethau. Roedd Tîm y Rhaglen TIC yn ystyried bod yr arbedion a adnabuwyd yn ganlyniad cadarnhaol ac er bod arbedion effeithlonrwydd yn cael eu croesawu, dywedodd y Rheolwr wrth y Pwyllgor fod y dull hefyd wedi arwain at brosesau symlach ac effeithlon a chyfle i wasanaethau fuddsoddi i arbed (h.y. gofyn am gyllid / staff ychwanegol er mwyn cyflawni arbedion effeithlonrwydd mwy yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN BUSNES ERW 2016/19 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad mewn perthynas â gwaith Consortiwm ERW (Ein Rhanbarth ar Waith) yn ystod 2015/16 a’i gynllun busnes ar gyfer 2016-19. Roedd y cyflwyniad yn nodi swyddogaethau ERW, parhad y cyfrifoldebau statudol o fewn pob awdurdod lleol yn ogystal â’r trefniadau cydweithio ar draws y rhanbarth. Fe wnaeth y Pwyllgor nodi’r cynnydd a oedd wedi cael ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chafodd ddiweddariad hefyd ar ganlyniadau’r arolygiad diweddar gan ESTYN o ansawdd y gwasanaethau gwella ysgolion a oedd yn cael eu darparu gan gonsortiwm ERW, ym mis Mehefin 2016. Roedd ESTYN wedi barnu bod pedair allan o bum agwedd ar waith ERW yn ‘Dda’ ac wedi barnu bod un yn ‘Ddigonol’.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad a’r cyflwyniad:

 

Gofynnwyd am eglurhad o’r trefniadau ar gyfer y swyddogion hynny o’r awdurdod lleol a oedd wedi cael eu secondio i ERW. Rhoddodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion wybod i’r Pwyllgor bod swyddogion a gaiff eu secondio’n cael eu cyllido gan ERW trwy ad-daliad i’r awdurdod lleol lletyol a oedd yn ei dro’n ei gwneud yn bosibl comisiynu swyddogion eraill. Roedd cyllideb tîm canolog ERW yn talu am ddau aelod o staff proffesiynol llawn-amser, gan gynnwys y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn ogystal ag am bedwar swyddog gweinyddol. Hefyd, roedd ERW yn comisiynu ac yn cyllido nifer fach o swyddi penodol â chyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol.    

 

Cyfeiriwyd at adroddiad diweddar yn y cyfryngau a oedd yn awgrymu na fyddai ESTYN yn arolygu awdurdodau lleol yn y dyfodol. Datganodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y gall fod rhywfaint o gamddealltwriaeth wedi bod ac y byddai ESTYN yn cynnal ymweliadau dilynol mewn perthynas â’r arolygiad diweddar o’r pedwar consortiwm gwella ysgolion yng Nghymru yn ystod yr flwyddyn academaidd bresennol. Roedd ESTYN wrthi hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer model arolygu diwygiedig ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion.

 

Awgrymwyd fod y broses categoreiddio ysgolion yn cael ei chamddeall gan rieni ledled rhanbarth ERW, wedi i hynny gael ei drafod yn y Gr?p Cynghorwyr Craffu ERW ym mis Medi. Awgrymwyd hefyd fod angen i’r system gael ei chyfleu’n effeithiol i rieni. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ei fod yn cydnabod pryderon cynghorwyr ac atgoffodd y Pwyllgor fod a wnelo’r broses gategoreiddio â lefel y cymorth yr oedd ysgol unigol yn ei gael gan ERW. Roedd nifer o ffactorau gwahanol a oedd yn dylanwadu ar y math o gymorth y gallai fod ar ysgol ei angen. Sicrhaodd y Pwyllgor fod ERW yn gwneud popeth ac unrhyw beth posibl i gynorthwyo ysgolion gydag anawsterau penodol (e.e. dim pennaeth parhaol) ac atgoffodd yr Aelodau nad oedd unrhyw ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn y categori cymorth coch ar gyfer 2015/16.

 

Gofynnwyd a oedd dull arall o gategoreiddio ysgolion, yn enwedig yr ysgolion llai hynny lle gallai un plentyn ag anghenion addysgol arbennig effeithio’n sylweddol ar berfformiad / canlyniadau’r ysgol ar y cyfan. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ei fod yn cydnabod y sylwadau ac ychwanegodd ei fod yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

PANEL GWELLA YSGOLION pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad ar waith y Panel Gwella Ysgolion a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2014 i alluogi’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant a’r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant i gyflawni cyfrifoldebau cyfansoddiadol a statudol am fonitro perfformiad ysgolion mewn modd effeithiol. Roedd yr adroddiad yn nodi’r ‘gwersi a ddysgwyd’ o gyfarfodydd y Panel hyd yma a’r cynigion o ran sut i ledaenu’r arfer da a adnabuwyd.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad a’r cyflwyniad:

 

Gofynnwyd sut yr oedd ysgolion yn cael eu monitro neu sut yr oedd camau gweithredu ar gyfer ysgolion o ganlyniad i gyfarfodydd y Panel yn cael eu tracio. Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg wybod i’r Pwyllgor mai’r bwriad oedd cysylltu rhaglen y Panel â phrif raglen y Pwyllgor ar gyfer ymweld ag ysgolion er mwyn i’r Pwyllgor ei hun allu ymweld ag ysgol benodol, rhwng chwe mis a blwyddyn wedi iddi ymddangos gerbron y Panel. Fodd bynnag, roedd achosion mwy difrifol, lle’r oedd yn briodol ac yn gymwys bod ysgol yn cael ei gwahodd yn ôl ymhen rhyw chwe mis er mwyn i’r Panel fonitro ac ystyried y cynnydd.

 

Gofynnwyd sut yr oedd ysgolion yn cael eu dethol i ymddangos gerbron y Panel. Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg wybod i’r Pwyllgor fod nifer o ffactorau a oedd yn pennu a fyddai ysgol yn cael gwahoddiad i un o gyfarfodydd y Panel. Yn gyntaf, roedd canlyniad arolygiad diweddar o’r ysgol gan ESTYN yn ffactor allweddol, yn enwedig os oedd y canlyniad wedi bod yn llai na ffafriol. Yn ail, gallai swyddogion ofyn am wahodd ysgolion penodol yn seiliedig ar bryderon a oedd ganddynt o bosibl ynghylch eu perfformiad neu faterion llywodraethu. Yn drydydd, roedd ysgolion â pherfformiad uchel yn cael eu gwahodd hefyd er mwyn i aelodau’r Panel allu cael dealltwriaeth am y rhesymau dros eu llwyddiant a sut y gellid rhannu arfer da o’r fath ar draws holl ysgolion y sir. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog Addysg fod pedwar aelod ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at aelodaeth y Panel ac mai rhestr o aelodau gwreiddiol y Panel pan gafodd ei sefydlu oedd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT - ADRODDIAD GWEITHGAREDD YNGHYLCH YMWELIADAU SAFLE 2015/16 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad gweithgarwch ar ei ymweliadau â safleoedd a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16. Roedd wedi ymweld â chyfanswm o 19 o ysgolion / cyfleusterau gwasanaethau plant rhwng mis Hydref 2015 a mis Mehefin 2016.

 

Gofynnodd y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths iddo gael ei nodi ei fod yn bresennol yn ystod ymweliadau’r Pwyllgor ag Ysgolion Tremoilet, Llanmilo a Thalacharn ar 24 Mehefin 2016.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweithgarwch ar gyfer 2015/16 yn cael ei gymeradwyo.