Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen a D. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

GWEITHIO GYDA'R RHEINY NAD YDYNT MEWN ADDYSG, CYFLOGAETH NA HYFFORDDIANT (NEET) pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg a diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).  Roedd yr adroddiad yn manylu ar ddarpariaeth y gwasanaeth a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

-       Amcanion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes gwaith hwn;

-       Amcanion a bennir yn lleol, gweithio mewn partneriaeth a pherfformiad;

-       Datblygiadau rhanbarthol;

-       Risgiau a heriau.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at effaith covid a gofynnwyd i swyddogion a fyddwn yn gallu dal i fyny â'r cyfleoedd NEET a gollwyd ac a fyddai modd i ni fod yn ôl ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth wedi parhau i weithio drwy gydol y pandemig a'i fod wedi mynd yn ôl i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn eithaf cyflym ar ôl i'r pandemig ddechrau. Ychwanegodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion yn allweddol i'r gwaith hwn ac roeddynt yn ôl mewn ysgolion ar y cyfle cynharaf posibl.  Mae llawer o waith wedi'i wneud o fewn yr adran i sicrhau bod asesiadau risg ac arferion gweithio diogel ar waith i alluogi staff i barhau i weithio'n ddiogel ac yn gyfrifol. Ychwanegodd nad oes angen iddynt ddal i fyny fel gwasanaeth gan eu bod wedi parhau i weithio drwy gydol y pandemig;
  • Cyfeiriwyd at y Warant i Bobl Ifanc a mynegwyd pryder ynghylch y diffyg cynnydd ar y fenter hon oherwydd materion adnoddau mewnol Llywodraeth Cymru. Gofynnwyd am sicrwydd y bydd y materion hyn yn cael eu datrys gan ei bod yn annheg bod ein pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o gyfleoedd oherwydd Llywodraeth Cymru. Dywedodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid wrth y Pwyllgor fod cysylltiad cryf rhwng y fenter hon a'r adolygiad o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a bod adroddiad diweddaru ar y Fframwaith i fod i ddod yn y flwyddyn newydd;
  • Gan fod yn rhaid i Awdurdodau Lleol wneud cynnig am arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin bob blwyddyn, gofynnwyd i swyddogion faint o ansicrwydd y mae hynny'n ei greu a hefyd a oes rhaid i bob Awdurdod Lleol gystadlu yn erbyn ei gilydd am yr arian hwn ac os nad yw'n dod i law yna beth ydym yn ei wneud.  Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod llawer o'r cyllid sydd ar gael ar ffurf grantiau tymor byr a gofynnwyd i swyddogion a oes unrhyw benderfyniadau'n debygol ar lefel genedlaethol i greu system hirdymor fwy cynaliadwy.  Esboniodd y Cyfarwyddwr fod nifer o'r rhaglenni yn rhai tymor byr dros 3 blynedd. Roedd yn cytuno ei bod yn anodd oherwydd bod timau'n sefydlu'n dda ystod y cyfnod hwnnw ond pan ddaw'r cyllid i ben, rhaid diddymu'r timau. Ychwanegodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod pryder y bydd pob Awdurdod Lleol a'r trydydd sector yn cyflwyno cynigion a fydd yn arwain at fod rhai ardaloedd yn colli allan, a fyddai'n destun pryder mawr.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GWASANAETHAU CYMORTH I DEULUOEDD: ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r modd y mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn darparu cymorth ataliol i deuluoedd ar draws ein sir. Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau ataliol a sut y mae'r rhain yn cael sylw.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at yr anghenion sy'n dod i'r amlwg gan deuluoedd a'r galwadau ar wasanaethau o safbwynt cymorth i deuluoedd/gwasanaeth ataliol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod gwahanol systemau casglu data yn cael eu defnyddio ledled yr Awdurdod a gofynnwyd i swyddogion beth sy'n atal pob gwasanaeth rhag defnyddio'r un system.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn ceisio gwneud camau i gyflawni hyn, ond roedd hon yn dasg anodd a chymhleth gan fod gan bob gwasanaeth ofynion casglu data penodol;
  • Mynegwyd pryder ynghylch effaith Dechrau'n Deg ar y Cynnig Gofal Plant gan fod mynediad at gymorth yn seiliedig ar gôd post yr unigolyn a gofynnwyd i swyddogion a ellid ymestyn y Cynnig Gofal Plant i gynnwys pob plentyn yn y ward.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod swyddogion, ym mhob amgylchiad, yn gwneud pob ymdrech i beidio â rhannu cymunedau; fodd bynnag, roedd y swyddogion wedi'u cyfyngu yn yr hyn y gallant ei wneud o safbwynt allgymorth oherwydd telerau'r grant.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi ymestyn y Cynnig Gofal Plant i bob plentyn 2 flwydd oed ac ar y pryd roedd swyddogion yn cydweithio i ymestyn y fenter honno.  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd unrhyw effaith ar Dechrau'n Deg yn cael ei rhagweld;
  • Cyfeiriwyd at effaith y pandemig covid ar y staff, a'r gweithlu blinedig o ganlyniad, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd llawer o'r staff yn absennol o'r gwaith yn yr is-adran. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y pandemig wedi cael effaith ac roedd y staff ar y pryd yn delio â rhai sefyllfaoedd cymhleth iawn a bod iechyd a llesiant y staff yn brif ystyriaeth.  Tynnodd sylw at y ffaith mai un o'r prif broblemau oedd yr anallu i lenwi swyddi gwag.  Pwysleisiodd na ellir diystyru'r pwysau ar y gwasanaeth.  Ychwanegodd eu bod yn ffodus o gael staff gwych sy'n gwneud gwaith anhygoel;
  • Cyfeiriwyd at y gostyngiad o 20% mewn atgyfeiriadau a gofynnwyd i swyddogion a oeddent, o ganlyniad, yn rhagweld cynnydd mawr yn nifer yr atgyfeiriadau yn y dyfodol.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr anallu i gwrdd â theuluoedd oherwydd covid yn anochel wedi arwain at y gostyngiad hwnnw, a chan fod swyddogion bellach yn gallu cynnal ymweliadau roedd yn hyderus y gwelwn y cyfraddau'n codi eto.  Mae gwir angen y cymorth hwnnw ar deuluoedd ac unwaith y byddant yn gwybod ei fod ar gael eto byddant yn manteisio arno;
  • Pan ofynnwyd faint o atgyfeiriadau sy'n dod o ysgolion a faint sy'n dod o deuluoedd, eglurodd y Cyfarwyddwr fod y data yn yr adroddiad yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD TERFYNOL DRAFFT GRŴP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2020/21 Y BROSES YMGYNGHORI YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021, cytunodd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i gynnal adolygiad o'r broses ymgynghori bresennol ar gyfer newid trefniadaeth ysgolion, gan gynnwys newidiadau i'r ddarpariaeth ieithyddol a chau ysgolion.

 

Ar ôl ystyried ystod o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2021, roedd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi llunio fersiwn drafft o adroddiad terfynol ac argymhellion. Gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r argymhellion hyn i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Cyflwynwyd y sylw canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Er eu bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, mynegwyd pryder na ddylid hwyluso rhai materion megis newid cyfrwng iaith mewn ysgol.  Esboniodd y Cadeirydd mai'r cynnig oedd y dylid cynnal ymgynghoriad anffurfiol a chyfnod ymgynghori ffurfiol a fyddai'n rhoi cyfle digonol i bawb gyflwyno unrhyw sylwadau/gwrthwynebiadau;

 

PENDERFYNWYD y dylai adroddiad terfynol drafft y Gr?p Gorchwyl a Gorffen 2020/21 ar y Broses Ymgynghori ar Drefniadaeth Ysgolion a'r argymhellion sydd ynddo gael eu cymeradwyo i'w hystyried gan y Cabinet.

 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a fydd yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr, 2022.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod atgyfeiriad wedi dod i law oddi wrth y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant ymchwilio i'r llithriad yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg.  Dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai'r atgyfeiriad yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf yng nghyd-destun trafodaeth ar yr adroddiad ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 30AIN TACHWEDD 2021. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Codwyd pwynt yngl?n â manylion y cofnodion. Eglurodd y Cadeirydd nad oedd yn bosibl cofnodi pob pwynt a wnaed yn ystod cyfarfod, ond bod recordiad llawn o holl gyfarfodydd y cyngor a we-ddarlledwyd ar gael ar wefan y cyngor.

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau