Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Llun, 23ain Mai, 2016 2.50 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.J.R. Bartlett a J. Williams a'r Canon B. Witt. 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Mrs. E. Heyes

 

 

Eitem 5

 

Mae'n rhiant-lywodraethwr ar Gorff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech.

 

 

Y Cynghorydd W.G. Hopkins 

 

Eitem 5

 

 

Mae'n llywodraethwr ar Gorff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod Swyddog Monitro yr Awdurdod Lleol wedi cadarnhau ei fod yn cael cymryd rhan a phleidleisio wrth ystyried yr eitem hon. 

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Cafodd y cwestiynau canlynol eu derbyn a’u cyflwyno yn y cyfarfod.

 

4.1       Cwestiwn gan Darren Seward, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio dogfen sy'n disgrifio ei gynnig i GAU/DIDDYMU Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac agor Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech newydd a fyddai'n ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Pam y mae CSC yn gwthio cyfarwyddebau Cynulliad Cymru ynghylch y Gymraeg mor bell pan nad yw hynny'n digwydd mewn siroedd eraill fel Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Chasnewydd?

 

4.2       Cwestiwn gan Nikki Lloyd, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Ar hyn o bryd mae 121 o ddisgyblion yn yr Ysgol nad ydynt yn byw ym mhentref Llangennech.   Fodd bynnag, mae 96 o blant sy'n byw yn y pentref yn teithio i ysgolion eraill y tu hwnt i'r ardal. Dim ond 15 o'r plant hynny sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, sy'n golygu bod 81 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg eraill. Pam y fath wahaniaeth? Gallai rhai o'r rhain fod wedi cael lle yn Llangennech ond eu bod wedi eu gwrthod gan beri bod y ffrwd Saesneg yn ymddangos fel petai'n dirywio.

 

4.3       Cwestiwn gan Nikki Lloyd, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Mae gennym eisoes un rhiant y gwrthodwyd lle i'w blentyn yn y Bryn gan fod 54 o geisiadau am 30 o leoedd yn unig. Mae'r Hendy hefyd yn llawn; ble'r rydych yn mynd i ddarparu ar gyfer y rhieni sydd yn dymuno neu sydd ANGEN addysgu eu plant drwy gyfrwng y Saesneg?

 

4.4       Cwestiwn gan Robert Willock, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

O blith y 121 o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd mae 91 yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.      Pam felly? pan fo ysgol newydd yn y Ffwrnes sydd â 132 o leoedd gwag, a 38.5 o leoedd gwag yn ysgol Brynserfiel yn ôl adran 2.3 o'r ddogfen ymgynghori. Mae lleoedd gwag yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ac nid yw hyn yn gyson â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy'n datgan nad oes mwy na 10% o leoedd gwag i fod. Yn ôl gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin mae 1,710 o leoedd gwag yn yr holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin - ystadegau yw'r rhain o wefan CSC. Nid yw hyn yn cyfiawnhau creu rhagor o leoedd. Mae Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 yn datgan y dylai cyrff perthnasol, wrth ddatblygu cynigion, roi sylw i'r cynlluniau lleol ar gyfer datblygu economaidd a datblygu tai. Pam na roddwyd ystyriaeth i'r 91 o dai sy'n cael eu codi yn yr Hendy ac i'r 700 a mwy o dai sydd ar y gweill ym Mhontarddulais? Yn sicr ddigon byddai hyn yn effeithio'n fawr ar yr ysgolion cyfagos. Yr Hendy yw un o'r ysgolion agosaf ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Saesneg os gweithredir y cynnig hwn. Fodd bynnag mae Ysgol Llanedi yn wynebu cael ei chau, a'r cyngor yw symud i'r Hendy. Mae Ysgol yr Hendy bron â bod yn llawn yn barod, ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

4.1

CWESTIWN GAN DARREN SEWARD, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio dogfen sy'n disgrifio ei gynnig i GAU/DIDDYMU Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac agor Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech newydd a fyddai'n ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Pam y mae CSC yn gwthio cyfarwyddebau Cynulliad Cymru ynghylch y Gymraeg mor bell pan nad yw hynny'n digwydd mewn siroedd eraill fel Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Chasnewydd?

4.2

CWESTIWN GAN NIKKI LLOYD, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Ar hyn o bryd mae 121 o ddisgyblion yn yr Ysgol nad ydynt yn byw ym mhentref Llangennech. Fodd bynnag, mae 96 o blant sy'n byw yn y pentref yn teithio i ysgolion eraill y tu hwnt i'r ardal. Dim ond 15 o'r plant hynny sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg sy'n golygu bod 81 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg eraill. Pam y fath wahaniaeth? Gallai rhai o'r rhain fod wedi cael lle yn Llangennech ond eu bod wedi eu gwrthod gan beri bod y ffrwd Saesneg yn ymddangos fel petai'n dirywio.

 

4.3

CWESTIWN GAN NIKKI LLOYD, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Mae gennym eisoes un rhiant y gwrthodwyd lle i'w blentyn yn y Bryn gan fod 54 o geisiadau am 30 o leoedd yn unig.  Mae'r Hendy hefyd yn llawn; ble'r rydych yn mynd i ddarparu ar gyfer y rhieni sydd yn dymuno neu sydd ANGEN addysgu eu plant drwy gyfrwng y Saesneg.

 

4.4

CWESTIWN GAN ROBERT WILLOCK, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

O blith y 121 o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd mae 91 yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Pam felly? pan fo ysgol newydd yn y Ffwrnes sydd â 132 o leoedd gwag, a 38.5 o leoedd gwag yn ysgol Brynserfiel yn ôl adran 2.3 o'r ddogfen ymgynghori. Mae lleoedd gwag yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ac nid yw hyn yn gyson â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy'n datgan nad oes mwy na 10% o leoedd gwag i fod. Yn ôl gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin mae 1,710 o leoedd gwag yn yr holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin - ystadegau yw'r rhain o wefan CSC. Nid yw hyn yn cyfiawnhau creu rhagor o leoedd. Mae Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 yn datgan y dylai cyrff perthnasol, wrth ddatblygu cynigion, roi sylw i'r cynlluniau lleol ar gyfer datblygu economaidd a datblygu tai. Pam na roddwyd ystyriaeth i'r 91 o dai sy'n cael eu codi yn yr Hendy ac i'r 700 a mwy o dai sydd ar y gweill ym Mhontarddulais? Yn sicr ddigon byddai hyn yn effeithio'n fawr ar yr ysgolion cyfagos. Yr Hendy yw un o'r ysgolion agosaf ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Saesneg os gweithredir y cynnig hwn. Fodd bynnag mae Ysgol Llanedi yn wynebu cael ei chau, a'r cyngor yw symud i'r Hendy. Mae Ysgol yr Hendy bron â bod yn llawn yn barod, ac fel ysgol ddwy ffrwd mae wedi'i chlustnodi fel ysgol fydd yn cael ei newid yn ysgol Gymraeg ei chyfrwng yn unig. Yr ysgol Saesneg ei chyfrwng agosaf arall yw Ysgol y Bryn, ond mae'r Sir wedi bod yn dosbarthu llythyron gwrthod yn barod gan eu bod wedi cael 54 o geisiadau hyd yn hyn am ddim ond 30 o leoedd. Yn ogystal â bod yr ysgol newydd arfaethedig yn anaddas i'r diben gan nad yw'n gwasanaethu ei chymuned, mae’n ymddangos nad oes gan plant sy’n siarad Saesneg dewisiadau amgen gerllaw?  

 

4.5

CWESTIWN GAN JACQUELINE SEWARD, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Ar ôl cau ysgol a cholli ffrwd iaith yn sgil hynny, dylid cynnig darpariaeth sydd o leiaf o’r un safon i ddysgwyr yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013. Fodd bynnag mae Llangennech yn Wyrdd ar hyn o bryd. Mae'r Hendy yn Felyn ac mae'r Bryn yn Oren. Sut mae hyn yn gyfwerth?

4.6

CWESTIWN GAN DARREN SEWARD, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

A oes angen lleoedd meithrin ychwanegol yn yr ardal pan fo gennym ddau ddarparwr eisoes? Mae angen rhoi ystyriaeth i ffactorau penodol o ran cynigion i ychwanegu neu i waredu dosbarthiadau meithrin fel yr amlinellwyd yng Nghôd Trefniadaeth Ysgolion 2013. Dylai cyrff perthnasol roi ystyriaeth i ffactorau penodol: safon yr addysg feithrin a digonolrwydd yr adeiladau a'r cyfleusterau a gynigir yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored, a hyfywdra unrhyw ysgol sydd am ychwanegu lleoedd meithrin; a oes angen rhagor o leoedd meithrin yn yr ardal?; • lefel y galw am rai mathau o addysg feithrin e.e. cyfrwng Cymraeg neu ddarpariaeth ac iddi natur grefyddol; • effaith y cynigion ar sefydliadau eraill, gan gynnwys darparwyr sector preifat a thrydydd sector; ac • y graddau y bydd cynigion yn cydblethu addysg y blynyddoedd cynnar â gwasanaethau gofal plant, neu'n gydnaws â dull integredig. Nid oes tystiolaeth yn y ddogfen ymgynghori fod y rhain, ac effaith y cynigion ar ddarparwyr sector preifat eraill, wedi'u hystyried. 

 

4.7

CWESTIWN GAN NIGEL HUGHES, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Mae'r ddogfen ymgynghori yn ddogfen wallus sydd heb gydnabod y rheiny o bentref Llangennech sy'n cael eu rhoi dan anfantais gan y cynigion. Mae datgan nad oes neb yn cael ei effeithio gan y newidiadau arfaethedig hyn yn beth naïf ac anwybodus ac yn dangos nad yw'r Awdurdod wedi rhoi 'sylw dyledus' o dan y Ddeddf Dyletswydd Gyhoeddus i'r rheiny a effeithiwyd, wrth iddynt ddweud yn grwn nad ydynt yn bodoli. Drwy wneud hyn nid ydynt wedi cwmpasu'r agweddau Iechyd a Diogelwch neu broblemau lleoedd yn yr ysgolion eraill. Wrth gerdded i'r Hendy, er enghraifft, bydd croesi ffordd ddeuol yn peryglu bywydau. Mae CrashMap ar gael ar-lein sy'n dangos bod un ddamwain yn digwydd bob deufis ar gyfartaledd ar y ffordd benodol honno. Felly, mae'r ymgynghoriad hwn yn amlygu'r brys i gyrraedd canlyniad a bennwyd ymlaen llaw, waeth beth fo'r safbwyntiau a gasglwyd yn ystod y broses. Credwn y gallwn ddangos tystiolaeth bod naill ai'r Awdurdod Addysg Lleol neu'r corff llywodraethu, neu'r ddau, wedi methu â chydymffurfio â Chôd Trafnidiaeth Ysgolion 2013 ac o bosibl y gyfraith. Ydych chi o'r farn ei bod hi'n dderbyniol peryglu plant bach yn ddyddiol fel hyn?

4.8

CWESTIWN GAN STEVE HATTO, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Mae'r ffigyrau wedi cael eu hystumio - O graffu ar y wybodaeth a ddarparwyd gan yr AALl, ac oherwydd bod gan y gr?p wybodaeth am yr ysgol, mae'n amlwg bod y ffigyrau wedi eu hystumio gan unigolion i gyfnerthu sefyllfa benodol. Gallwn ddangos bod y ffrydiau Saesneg presennol yn yr ysgol yn cyfrif am fwy na 30% o gyfanswm y disgyblion. Mae'r ymgynghoriad yn datgan bod cyfanswm o 186 yn y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Babanod Llangennech yn 2015. Nid yw'r ffigwr hwn yn gywir gan ei fod yn cynnwys yr holl ddisgyblion yn nosbarthiadau Derbyn 1 a 2, sy'n gyfanswm o 94 o ddisgyblion, heb ystyried a ydynt wedi'u cofrestru i gamu ymlaen i'r ffrwd Saesneg. Maent wedi eu cam-glustnodi at ddibenion y ddogfen ymgynghori fel disgyblion ffrwd Gymraeg. Hefyd os cynhwyswn y 27% sy'n dod o'r tu hwnt i'r ardal, ynghyd â'r posibilrwydd o golli'r ffrwd Saesneg, bydd y rhagamcanion cyfredol yn dangos y bydd mwy na 50% o ddisgyblion Ysgol Llangennech yn dod o'r tu hwnt i'r ardal. A ydych chi'n credu felly fod gennym 'yr ysgol briodol yn y man priodol ac a ydych chi'n gallu cadarnhau a yw'r ffigyrau hyn yn gywir?

 

4.9

CWESTIWN GAN MICHAELA BEDDOWS, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig a gynghorir fel arfer i fynd i ffrwd Saesneg yn unig, neu i'r un ffrwd ag iaith eu cartref. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn ei chael hi'n anodd ag un iaith, heb sôn am ddwy, felly drwy gael gwared ar y ddwy ffrwd bydd y plant hyn yn cael eu cau allan o'r ysgol. Nid yw plant sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn gallu ymdopi o gwbl â newid i'w trefn feunyddiol felly, pe baent yn dechrau mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ac yna'n methu ag ymdopi ac yn gorfod symud i ysgol cyfrwng Saesneg, fe fyddai'r newid hwnnw'n cael effaith anferthol arnynt. Sut y cafodd hyn ei esgeuluso a pham na chafodd sylw?

 

4.10

CWESTIWN GAN KAREN HUGHES, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Mae oddeutu 11 o ysgolion dwy ffrwd yn Sir Gaerfyrddin sydd, yn ôl Strategaeth yr Iaith Gymraeg, yn cael eu clustnodi ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn unig. Rhaid cydnabod na fyddai'r ysgolion hyn i gyd yn addas, ar sail logisteg, oherwydd maen nhw'n ysgolion dwy ffrwd am reswm, felly sut a phwy sy'n asesu'r galw a'r priodoldeb?

A gynhaliwyd ymarfer i fwrw golwg ar y gorwel o ran cymuned Llangennech? h.y. i asesu sut le fydd pentref/poblogaeth Llangennech ymhen 5, 10, 15 mlynedd?  Wrth i ragor o dai newydd gael eu hadeiladu, y mewnlifiad o bobl, lleoliad y pentref wrth goridor yr M4, a allwn ni ddweud yn hyderus y bydd Ffrwd Gymraeg yn Unig yn bodloni'r gofynion hyn o ystyried bod 80% o'r boblogaeth eisoes yn siarad Saesneg yn unig. Wedi'r cyfan, daw 27% o ddisgyblion o'r tu hwnt i'r pentref ac nid yw ffigurau'r pentref yn dangos bod cynnydd yn y galw am y Gymraeg. Hefyd, nid yw'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei hasesu'n gywir, os o gwbl. Nid oes cyfeiriad at siaradwyr Saesneg yn gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn llai os ydynt yn mynychu ffrwd Saesneg yn Unig; mae mwy o bobl yn debygol o roi cynnig ar y ffrwd Gymraeg os ydynt yn gwybod y gallant gwympo'n ôl ar y Saesneg yn yr un ysgol. Bydd hyn yn cael effaith i'r gwrthwyneb. Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn fach ac nid yw'n cyd-fynd â'r ddemograffeg ieithyddol nac ystadegau cyfrifiad 2011. Pam nad yw'r ffactorau hyn yn cael eu hystyried?

 

4.11

CWESTIWN GAN ROBERT WILLOCK, Y PWYLLGOR DWY FFRWD

Nid yw'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn Asesiad o Effaith o gwbl. Nid yw wedi cydnabod unrhyw risgiau neu risg a aseswyd ganddynt (gan roi sgôr gadarnhaol, negyddol, neu niwtral). Byddech yn disgwyl y byddai sylw wedi ei roi i'r effaith ar ysgolion cyfagos, i'r effaith ar y rhieni a'r teuluoedd, i'r effaith ar y disgyblion, i'r goblygiadau o ran teithio, i'r effaith ar ddemograffeg y gymuned, i'r effeithiau amgylcheddol, i'r effaith ar weithgareddau cymunedol ac i'r effaith ar y trigolion. Y rhain yw'r agweddau y mae'n debygol y byddent yn cael eu hasesu'n negyddol, ac maent wedi eu hesgeuluso'n llwyr! Pam?

 

5.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL BABANOD LLANGENNECH AC YSGOL IAU LLANGENNECH A SEFYDLU YSGOL GYMUNEDOL GYNRADD LLANGENNECH pdf eicon PDF 643 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Mrs E. Heyes wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ei hystyried ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd y Cynghorydd W.G. Hopkins wedi datgan yn gynharach ei fod yn un o lywodraethwyr Corff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech a bod Swyddog Monitro yr Awdurdod Lleol wedi cadarnhau ei fod yn cael cymryd rhan a phleidleisio wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cynnig i gau Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech a sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech yn eu lle a'r sylwadau a oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol, fel y nodwyd yn yr adroddiad ymgynghori a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad o dan ystyriaeth.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant gefndir y cynnig a chynnwys a chynllun yr adroddiad a oedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor. Nododd mai bwriad yr Awdurdod, ers dechrau'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, oedd sefydlu Ysgolion Cynradd Cymunedol yn lle ysgolion babanod ac ysgolion iau. Atgoffodd y Pwyllgor fod Cyrff Llywodraethu Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech wedi penderfynu ym mis Medi 2014, yn dilyn ffederasiwn 'llac', i ffedereiddio'n ffurfiol o fis Ebrill 2015 ymlaen. Roedd yr Awdurdod bellach yn dymuno bwrw ymlaen â chynnig i greu Ysgol Gynradd Gymunedol a fyddai'n cymryd lle Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech.  Fel rhan o'r cynnig ar gyfer yr ysgol gynradd newydd, cynigiwyd newid categorïau iaith presennol y ddwy ysgol o Ddwy Ffrwd i Gyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, sicrhau bod mwy o ddwyieithrwydd yn ardal Llangennech a chyflwyno addysg feithrin ran-amser yn yr ysgol newydd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ymarfer ymgynghori ffurfiol wedi dechrau ar 25ain Ionawr 2016, yn unol â chyfarwyddiadau'r Bwrdd Gweithredol. Y bwriad gwreiddiol oedd ymestyn y cyfnod ymgynghori tan 11eg Mawrth, sef y gofyniad lleiaf yn ôl y Côd Trefniadaeth Ysgolion, ond dywedodd y Cyfarwyddwr, ei fod wedi cytuno, ar gais rhai rhanddeiliaid, i ychwanegu wythnos at y cyfnod ymgynghori fel bod gan yr holl bartïon sydd â buddiant ddigon o amser i ymateb. Yn dilyn hyn daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 18fed Mawrth, 2016. Nododd y Cyfarwyddwr fod gohebiaeth helaeth wedi parhau â phobl oedd yn gwrthwynebu cynigion y Cyngor ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Nid oedd yr ohebiaeth hon wedi'i chynnwys yn yr adroddiad ymgynghori gan nad oedd yn briodol gwneud hynny, a bod angen i'r holl bartïon gael yr un cyfle i fynegi barn i'r Cyngor Sir fel rhan o'r broses trefniadaeth ysgolion ffurfiol. Atgoffodd y Pwyllgor petai'r Bwrdd Gweithredol yn penderfynu camu ymlaen i gam nesaf y broses statudol, y byddai cyfle arall i'r holl bartïon sydd â buddiant gyflwyno eu sylwadau i'r Cyngor yn ffurfiol cyn penderfynu'n derfynol ar y mater. Yn ogystal dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cyfarwyddwr, y Prif Swyddog Addysg a'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant wedi cwrdd â chynrychiolwyr o bobl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ASESIAD DIGONOLRWYDD CYFLEOEDD CHWARAE A'R CYNLLUN GWEITHREDU 2016 pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i grynodeb o'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r Cynllun Gweithredu ategol. Atgoffwyd yr Aelodau fod Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn datgan bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu, sicrhau a chyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardal. Cafodd y Pwyllgor olwg gyffredinol ar yr asesiad a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd, gan gynnwys:

 

·         Y cefndir a'r cyd-destun lleol

·         Pam mae chwarae yn bwysig

·         Yr ymgynghoriad a gynhaliwyd

·         Canfyddiadau a themâu allweddol a oedd wedi eu hamlygu gan blant a phobl ifanc, rhieni, ysgolion a chynghorau tref/cymuned

·         MeiniPrawf Asesu a Blaenoriaethau

·         Datblygiadau cadarnhaol ers 2013

·         Heriau

·         Beth all cymunedau ei wneud?

 

Yn ogystal dywedwyd wrth y Pwyllgor fod copi drafft o'r ffurflen asesu a'r cynllun gweithredu wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 31ain Mawrth 2016 ac y byddai dogfennau terfynol yn cael eu cyflwyno ar ôl i'r Bwrdd Gweithredol eu cymeradwyo.

 

Gwnaed y sylwadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad a'i atodiadau:

 

Canmolwyd y swyddogion am eu gwaith ar y mater hwn ond mynegwyd pryder y gallai eu hymdrechion fod yn ofer gan fod Llywodraeth Cymru ei hun yn aml yn mynd yn groes i'w pholisïau ei hun ar lefel leol. Cyfeiriwyd at gais cynllunio diweddar yng Nghaerfyrddin i adeiladu tai ar faes chwarae glas a ddefnyddir gan blant lleol. Roedd yr Awdurdod wedi gwrthod y cais ond yn dilyn apêl gan yr ymgeisydd, roedd Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru ei hun wedi cymeradwyo'r cynllun ac roedd y maes chwarae hwn wedi'i golli bellach.

 

Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch helpu clybiau chwaraeon lleol i oresgyn ffïoedd uwch ar gyfer defnyddio caeau chwarae a chyfleusterau eraill yn ogystal â'r costau sy'n gysylltiedig â darparu lleoedd chwarae newydd ar gyfer plant y sir. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant rwystredigaethau'r Pwyllgor o ran y diffyg adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r anghenion hynny a nodwyd gan yr asesiad. Awgrymodd fod ysgolion newydd a'u cyfleusterau yn lle delfrydol ar gyfer galluogi chwarae a gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol a bod yr Awdurdod yn agored i gynnal trafodaethau â chymunedau a llywodraethwyr ysgolion ynghylch datblygu cyfleoedd o'r fath.

 

Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod gynlluniau wrth gefn fel bod ganddo brosiectau 'barod i fynd' os bydd cyllid ar gael yn sydyn. Dywedodd y Rheolwr Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a Gofal Plant wrth y Pwyllgor fod gan y gwasanaeth gynlluniau a meysydd blaenoriaeth a nodwyd os bydd unrhyw gyllid ar gael yn y dyfodol.        

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r Cynllun Gweithredu ategol i'w hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

7.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - ADOLYGIAD DWYFLYNYDDOL pdf eicon PDF 409 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adolygiad Dwyflynyddol o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg a rhaglen flaenoriaeth ddiweddaredig ar gyfer rhesymoli ysgolion a buddsoddi ynddynt. Atgoffwyd yr Aelodau fod y Cyngor Sir wedi penderfynu yn 2010 fod y Rhaglen yn cael ei hadolygu a'i diwygio bob dwy flynedd neu fel y bo'n ofynnol er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â therfynau amser rhaglen genedlaethol Ysgolion yr 21ain Ganrif. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad arall i'r Pwyllgor ynghylch statws y Rhaglen a chyfle i gyflwyno sylwadau ar y flaenraglen waith.

 

Gwnaed y sylwadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad a'i atodiadau:

 

Mynegwyd pryder nad oedd ysgolion gwledig yn derbyn digon o fuddsoddiad a oedd, yn ei dro, yn golygu eu bod yn llai deniadol i rieni darpar disgyblion. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y pryder ond dywedodd fod y rhaglen yn seiliedig ar hyfywedd/cynaliadwyedd ysgol yn ogystal â'r galwadau ariannol sy’n cystadlu â’i gilydd ar wasanaethau'r Awdurdod. Wrth ddatblygu'r Rhaglen, penderfynwyd bod yn agored ac yn onest am hyfywedd ysgolion ond wrth wneud hynny, roedd yr Awdurdod wedi cael ei feirniadu a'i gyhuddo o geisio cau ysgolion drwy awgrymu eu bod dan fygythiad. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr nad oedd yr Awdurdod yn y pen draw yn gallu buddsoddi ym mhobman ar yr un pryd a bod y meini prawf a nodwyd yn yr adroddiad wedi cael eu defnyddio i flaenoriaethu buddsoddiadau a dyrannu cyllid i ysgol benodol. Nid oedd hyn yn hawdd ond roedd swyddogion yn ceisio bod yn agored ynghylch blaenoriaethau'r Awdurdod.

 

Croesawyd y penderfyniad i ddefnyddio safle hen ysgol Pantycelyn yn Llanymddyfri ond holwyd ynghylch dyfodol safleoedd tebyg ledled y sir. Dywedodd y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion mai'r nod yn achos safle hen Ysgol y Gwendraeth oedd gwneud y safle'n ddiogel ar gyfer y gwasanaethau hynny sy'n parhau i weithredu o'r lleoliad hwnnw ac yn enwedig gan fod Neuadd y Gwendraeth yn parhau i gael ei defnyddio'n rheolaidd. Atgoffodd y Pwyllgor fod gweithgor corfforaethol yn parhau i ystyried dewisiadau ar gyfer safleoedd hen ysgolion a bod gan yr Adran Addysg a Phlant ddyheadau o ran cadw safle Ysgol y Gwendraeth yn sefydliad addysgol yn y dyfodol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod safle hen Ysgol Tre-gib yn ddewis ar gyfer darpariaeth addysg gynradd yn Llandeilo yn y dyfodol ond bod angen gwneud llawer o waith o hyd ar y cynigion ar gyfer y safleoedd hyn.   

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL fod y Rhaglen Moderneiddio Addysg a'r rhaglen gyfalaf wedi'u diweddaru yn cael eu cymeradwyo i'w hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT AR GYFER 2016/17 pdf eicon PDF 375 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith am 2016/17, a oedd wedi cael ei datblygu yn dilyn cynnal sesiwn cynllunio anffurfiol y Pwyllgor ym mis Ebrill 2016. Gwnaed y sylwadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Nododd y Prif Swyddog Addysg y byddai adroddiad ychwanegol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mehefin mewn perthynas ag ymgynghoriad diweddar ynghylch Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor. 

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL fod y Flaenraglen Waith am 2016/17 yn cael ei chymeradwyo.