Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 23ain Ionawr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

E. Thomas a’r Parch D. Richards.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Math o Fuddiant

M.J.A. Lewis

4

Llywodraethwr Ysgol Ffederal

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd dim wedi dod i law

 

4.

ADRODDIAD DRAFFT CRAFFU UNDYDD pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd M.J.A Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn flaenorol.)

 

Cafodd yr Aelodau drosolwg o adroddiad drafft a oedd yn cynnwys canfyddiadau Ymchwiliad Craffu Un Diwrnod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019, a oedd yn cynnwys canllaw arferion da mewn perthynas â ffedereiddio ysgolion.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd datblygu'r adroddiad drafft ymhellach i greu pecyn cymorth ar gyfer ffedereiddio ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai'r arferion da a nodwyd yn yr adroddiad yn cyfrannu at ganllawiau ar gyfer y dyfodol ynghylch ffedereiddio, a chytunodd â'r Pwyllgor fod y dystiolaeth a glywyd yn ystod yr ymholiad wedi bod yn fuddiol iawn. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg ei fod ef, ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yn mynychu gr?p Cymru Gyfan a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n ystyried creu pecyn cymorth ffedereiddio ar hyn o bryd. Nodwyd y byddai'r pwyllgor yn aros i'r pecyn cymorth gael ei gyhoeddi yn y lle cyntaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

CYMERADWYAETH I WEITHREDU CYNIGION FFEDERASIWN pdf eicon PDF 362 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelodau yn adolygu adroddiad a oedd yn amlinellu cynnig i ganiatáu i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant benderfynu ar ganlyniad y cynigion ffedereiddio. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod Awdurdodau Lleol wedi cael pwerau yn 2014 i ffedereiddio ysgolion, ond nid oedd y pwerau wedi cael eu gweithredu yn yr awdurdod hwn. Byddid yn ceisio cymeradwyaeth gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol i weithredu cynigion ffedereiddio ar ddiwedd proses ymgynghori helaeth. Dywedodd hefyd fod unrhyw newidiadau sylweddol i ysgolion yn dod o dan Côd Trefniadaeth Ysgolion ar wahân sy'n gofyn am broses ymgynghori statudol gynhwysfawr sy'n cymryd tua deuddeg mis i'w chwblhau, gyda'r Cyngor Sir yn gwneud y penderfyniad terfynol. Cafodd yr Aelodau eglurhad gan Swyddogion ynghylch y broses berthnasol mewn perthynas â galw i mewn benderfyniadau a wnaed gan Aelodau unigol o'r Bwrdd Gweithredol a'r Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD argymell bod y Bwrdd Gweithredol yn penderfynu ar ganlyniad y cynigion ffedereiddio. 

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT YR ADRAN ADDYSG A PHLANT 2020/21 - 2023 pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant drosolwg i'r Aelodau o'r cynllun busnes drafft a thynnodd sylw at flaenoriaethau'r adran ar gyfer 2020-23 (t.41).

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynllun i reoli'r galw a'r cyflenwad o leoedd ysgol a oedd yn cynnwys adolygiad o ddalgylchoedd a dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrthynt ei fod ar y gweill, a'i fod yn canolbwyntio ar alinio dalgylchoedd â'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd y Cynllun Busnes yn cyfeirio at yr argymhellion a wnaed gan y Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Medi 2019. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai unrhyw argymhellion sy'n berthnasol i'r adran yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Busnes.

 

Cyfeiriwyd at Raglen Gwella'r Gwyliau Haf a'r cynlluniau i barhau i'w rhoi ar waith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant er na chynhaliwyd y rhaglen yn 2019, yn amodol ar gyllid, dylai'r cynllun gael ei gynnal yn 2020.

 

Yn ystod y drafodaeth gofynnodd yr aelodau am y wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n manteisio ar y cynnig Gofal Plant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod ffigyrau presennol yn edrych yn gadarnhaol iawn gan fod 1146 o unigolion yn manteisio ar y cynnig a bod 187 o ddarparwyr wedi cael eu nodi. Byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n manteisio ar y cynnig yn cael ei dosbarthu i Aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23 pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol drosolwg o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21-2022/23 a thynnodd sylw'r Aelodau at brif bwyntiau'r Setliad Dros Dro a nodwyd yn 2.3 yn yr adroddiad a dywedodd nad oedd y Setliad Terfynol i gael ei gyhoeddi tan 25 Chwefror 2020. Gofynnwyd i Aelodau hefyd nodi'r diweddariadau o ran 2.5 mewn perthynas â Grantiau Gwasanaethau Penodol Llywodraeth Cymru ac effaith Cyfraniadau Cyflogwr o ran Pensiwn Athrawon yn 3.2.4.

 

Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â monitro'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (tudalen 132) a gorwariant Cyllideb Ddirprwyedig Ysgolion, nododd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant fod cyfres o gyfarfodydd wedi cael eu cynnal dros y misoedd diwethaf ag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Mewn perthynas ag Ysgolion Cynradd, dywedodd o ganlyniad i'r cyfarfodydd fod Cyrff Llywodraethu yn fwy ymwybodol o'r toriadau cyllidebol sydd eu hangen, ac mewn rhai achosion p'un a yw eu darpariaeth yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd cymorth ychwanegol wedi ei roi i ysgolion sy'n wynebu diffyg ariannol sylweddol. Roedd cyfarfodydd ag Ysgolion Uwchradd hefyd wedi bod yn adeiladol iawn ac roedd cynlluniau ariannol yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan Gyfrifydd y Gr?p i nodi arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch ariannu ysgolion gwledig bach a'r anfanteision a wynebir mewn perthynas â'r fformiwla ariannu ac ariannu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod cyfleoedd i Gyrff Llywodraethu ymateb i'r mater hwn fel rhan o'r Ymgynghoriad presennol ynghylch y Gyllideb os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, realiti'r sefyllfa bresennol oedd bod cyllid yn brin ar gyfer yr holl ysgolion ac nad oedd digon o gyllid ar gael i gynnal 110 o ysgolion. Mewn perthynas â'r fformiwla ar gyfer cyllid ADY, dywedodd y Cyfarwyddwr fod newidiadau sylweddol ar y gweill o ran sut y byddai darpariaeth ADY yn cael ei hariannu ac y byddai amserau heriol i'r holl ysgolion o ran trosglwyddo.

 

Yn dilyn y pwynt blaenorol, nododd yr Aelodau fod y term 'rhesymoli' wedi ymddangos sawl gwaith yn yr adroddiad a'i fod yn cyfeirio at arbedion cymharol. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch nifer yr ysgolion sy'n wynebu'r posibilrwydd o gael eu cau mewn perthynas â rhesymoli. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod gostyngiad o rhwng 15 ac 20 o ysgolion yn cael ei ystyried ar hyn o bryd a bod 10 cynnig yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. I wireddu'r arbedion effeithlonrwydd hyn, byddai angen dechrau ar y gwaith rhesymoli yn 2020/21 er mwyn gwireddu'r arbedion yn y gyllideb yn 2021/22.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Seicoleg Addysg a Phlant a'r cynnig i leihau nifer y Seicolegwyr Addysg a Phlant. Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant y byddai newidiadau yn y dyfodol o ran darpariaeth ADY yn trosglwyddo ychydig o'r gwaith o'r adran hon i'r Gwasanaethau Cynhwysiant. Nid oedd disgwyl y byddai'r gostyngiad yn effeithio ar waith parhaus yr adran, a byddai cyllid grant yn cael ei ddefnyddio lle bo hynny'n bosibl i gynnal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL A'R BLAENRAGLEN WAITH pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelodau'n adolygu'r eitemau ar gyfer y dyfodol a'r Flaenraglen Waith a barnwyd y byddai'n rhaid symud rhai eitemau ar y rhestr oherwydd terfynau amser gweithredol. Ar ôl cael trafodaeth, nodwyd y gellid symud yr eitemau ar gyfer y cyfarfod i'w gynnal ar 19 Chwefror 2020 i gyfarfodydd yn y dyfodol a chynnal gweithdy anffurfiol a sesiwn cynllunio arall.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cadeirydd yn ystyried trefniadau eraill ar gyfer 19 Chwefror 2020 a'i fod yn rhoi gwybod i Aelodau yn unol â hynny.

 

9.

I ARWYDDO FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 15 HYDREF 2019 pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019 yn gofnod cywir.

 

10.

I ARWYDDO FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 25 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2019 yn gywir.