Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant
Dydd Iau, 14eg Ebrill, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Davies a P.E.M. Jones ac wrth Mrs A. Pickles (Rhiant-lywodraethwr) a'r Parchedig Ganon B. Witt (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs E. Heyes a Mrs K. Hill, Rhiant-lywodraethwyr a oedd newydd gael eu cyfethol, i'w cyfarfod cyntaf. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Mr Simon Pearson, yr oedd ei gyfnod fel Rhiant-lywodraethwr Cyfetholedig wedi dod i ben, a chytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Mr Pearson i ddiolch iddo am ei gyfraniad yn ystod ei gyfnod fel aelod o'r Pwyllgor.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

M.J.A. Lewis

7 – Adroddiad Diweddaru ynghylch y Gwasanaethau Ieuenctid

Mae'n hyfforddi gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc a'i merch yw Cadeirydd C.Ff.I. Sir Gaerfyrddin

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 288 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i restr o eitemau ar gyfer y dyfodol, i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf a oedd i'w gynnal ddydd Llun, 23ain Mai, 2016. Nodwyd y gallai'r rhestr o eitemau ar yr agenda newid, gan fod Blaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2016/17 yn dal i gael ei datblygu.

 

PENDERFYNWYDnodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 23ain Mai, 2016.

 

6.

GWASANAETH MABWYSIADU CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai'r manylion diweddaraf am Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2014.

 

Daeth Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, a Phowys at ei gilydd ym mis Ebrill 2014 i ffurfio Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, gyda Sir Gaerfyrddin yn Awdurdod Arweiniol. Roedd Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a gafodd ei lansio'n ffurfiol ym mis Tachwedd 2014 ac a oedd yn cynnwys tîm bach canolog a'r 5 gr?p cydweithredol rhanbarthol, sef:-

 

·         Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru

·         Gogledd Cymru

·         Bae'r Gorllewin (Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe)

·         Y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd

 

Croesawodd y Cadeirydd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, ac Eleri Harries, Uwch-ymarferydd gyda Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru i'r cyfarfod. Roeddent wedi cael gwahoddiad i roi cyflwyniad i'r Pwyllgor ar waith y gwasanaeth.

 

Roedd y cyflwyniad yn bwrw golwg gyffredinol ar y gwasanaeth o safbwynt cenedlaethol ac yn amlinellu'r cynnydd a wnaed fesul rhanbarth.

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb, ac, ar ôl hynny, diolchodd y Cadeirydd i Ms Griffiths a Ms Harries am gyflwyniad diddorol iawn a llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYDderbyn yr adroddiad.

7.

ADRODDIAD DIWEDDARU Y GWASANAETH CYMORTH IEUENCTID pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorydd M.J.A. Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys y diweddaraf am y cynnydd a wnaed gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a phartneriaid cysylltiedig yn y meysydd canlynol:-

 

·         gweithredu menter Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16;

·         adolygiad o Gynllun Gweithredu Adolygu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Craffu Clybiau Ieuenctid 2014;

·         effaith arbedion effeithlonrwydd ar y gwasanaeth a'r cynnydd a wnaed o ran ailstrwythuro

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y gwaith gwych yr oedd y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn ei wneud mewn perthynas â gwasanaethau ieuenctid a theimlwyd nad oedd yr Awdurdod yn gweithio'n ddigon agos gyda'r rhwydwaith CFfI;

·         Mynegwyd pryder ynghylch dyfodol y gwasanaeth pe bai'r toriadau mewn cyllid yn parhau o flwyddyn i flwyddyn. Dywedodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr y byddai unrhyw doriadau pellach yn effeithio ar y gwasanaeth, a phwysleisiodd yr angen i weithio'n gydlynol, rhannu adnoddau ac ati;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod nifer y Newydd-ddyfodiad (First Time Entrants) wedi lleihau o 410 i 49 a chafodd y gwasanaeth ei ganmol am gyflawni'r fath gamp.

 

PENDERFYNWYD:

 

7.1       derbyn yr adroddiad.

 

7.2       y byddai swyddogion yn gwneud ymdrech ar y cyd i gryfhau cysylltiadau rhwng yr Awdurdod a'r rhwydwaith CFfI yn y sir.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL RHIANTA CORFFORAETHOL A DIOGELU pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Panel Rhianta Corfforaethol a Diogelu, a fanylai ar sut yr oedd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau rhianta corfforaethol fel yr amlinellir yn y Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

 

Mae'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol yn ei gwneud yn ofynnol i bob adran yn y Cyngor gydweithio a chymryd cyfrifoldeb rhianta corfforaethol dros ein plant sy'n derbyn gofal. Mae dyletswydd ar Ysgolion, Gwasanaethau Hamdden, Tai, Ieuenctid ac Atal, a'r Gwasanaethau Addysg a Phlant i weithredu er budd pennaf y plentyn sy'n derbyn gofal, fel ei rieni corfforaethol.

 

Yn unol â'r strategaeth, mae'r Panel Rhianta Corfforaethol yn darparu lefel o graffu, monitro, goruchwyliaeth a her o ran i ba raddau y mae'r Cyngor yn diwallu anghenion plant sy'n derbyn gofal a'r sawl sy'n gadael gofal.

 

Nodai'r adroddiad nifer y plant yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofalu amdanynt a pha mor dda yr oeddent yn ei wneud o gymharu â'n dyheadau ar eu cyfer, fel yr amlinellir yn y Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at wall teipio ar dudalen 82 yr adroddiad, lle dylai'r ail frawddeg yn y trydydd paragraff ddarllen fel a ganlyn:"Most care leavers feel that they are in appropriate accommodation but a small number are not.”

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd unrhyw ffordd o gymharu lefelau cyrhaeddiad ysgol plant sy'n derbyn gofal â chyfartaledd Cymru ar gyfer CA1 ac uwch. Eglurodd y Prif Swyddog Addysg y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol;

·         Gofynnwyd sut yr oedd swyddogion yn sicrhau bod y mater hwn yn cael sylw digonol, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhaglen hyfforddi wedi cael ei llunio ar gyfer aelodau etholedig, ysgolion a gofalwyr maeth. Hefyd roedd yn fwriad gan swyddogion i ailystyried y Strategaeth Rhianta Corfforaethol ac atgoffa pobl o'u rhwymedigaethau;

·         Cyfeiriwyd at y rôl ganolog oedd gan ysgolion o ran darparu cymorth, ond mynegwyd pryder bod cymaint gan ysgolion i'w wneud eisoes, a gofynnwyd i swyddogion pa gymorth y gellid ei ddarparu. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hyfforddiant a chymorth 1:1 yn cael ei ddarparu, a bod adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu lle bo'r angen. Darperir ystod amrywiol o wasanaethau i ysgolion, yn cynnwys sesiynau ar ôl ysgol a sesiynau hyfforddiant pwrpasol;

·         Gofynnwyd a oedd swyddogion yn fodlon bod ysgolion yn gwbl ymwybodol o ba gymorth oedd ar gael, a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Cydgysylltydd yn yr adran a oedd yn gweithio gydag ysgolion i'r perwyl hwn. Mae'r Cydgysylltydd yn nodi plant sy'n derbyn gofal mewn ysgolion ac yn amlinellu'r cymorth sydd ar gael;

·         Gofynnwyd faint o wybodaeth oedd ar gael i Lywodraethwyr Ysgol am blant sy'n derbyn gofal yn eu hysgol. Eglurodd y Prif Swyddog Addysg fod cyfarwyddeb wedi ei chyhoeddi'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ar gryfhau cysylltiadau â llywodraethwyr ysgol, ac y byddai'n sicrhau bod yr holl lywodraethwyr ysgol yn cael gwybod am yr wybodaeth hon.

 

PENDERFYNWYDderbyn yr adroddiad.

9.

PRESENOLDEB YSGOL pdf eicon PDF 527 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion. 

 

Yn ystod arolygiad ESTYN o wasanaethau addysg yr Awdurdod ym mis Mawrth 2012, dyfarnwyd bod Sir Gaerfyrddin yn 'Dda' a bod ganddi ragolygon 'Da' ar gyfer gwella. Fodd bynnag, dyfarnwyd bod angen gwella presenoldeb mewn ysgolion. Mewn ymateb i argymhellion ESTYN, cytunodd swyddogion, mewn partneriaeth â phenaethiaid, ar gamau gweithredu penodol er mwyn mynd i'r afael â'r her o ran presenoldeb. Gofynnwyd i benaethiaid fonitro presenoldeb yn eu hysgolion, gan sicrhau bod y cofrestri yn cael eu diweddaru a bod y codau cywir yn cael eu defnyddio.

 

Er mai'r rhiant sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau bod ei blentyn yn mynychu'r ysgol y mae wedi ei chofrestru ynddi yn rheolaidd, lle bo problemau'n codi o ran presenoldeb yn yr ysgol, yr hyn sy'n allweddol i ddatrys y problemau hyn yw ymgysylltu â'r plentyn trwy waith cydweithredol rhwng y rhiant, yr ysgol, a'r Awdurdod Lleol. Mae'n bwysig monitro absenoldebau'n agos ac yn rheolaidd, er mwyn nodi unrhyw batrymau absenoldeb a chymryd camau cynnar i fynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol drostynt. Yn aml, roedd problemau absenoldeb yn arwydd o ryw broblem sylfaenol.

 

Roedd Adroddiad Estyn ar gyfer 2014/15, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016, yn nodi'r canlynol o ran presenoldeb:-

 

“Mae cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn dal i wella'n dda. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gwella 1.6 a 2.5 pwynt canran. Mae'r cynnydd hwn yn golygu bod disgyblion wedi mynychu'r ysgol, ar gyfartaledd, 3 a 4 diwrnod yn fwy yn 2014/15 nag yn 2010/11.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y blaenoriaethau ar gyfer 2016/17, a oedd yn cynnwys gweithio'n agosach gyda'r ysgolion a oedd yn perfformio'n is na'u meincnod, er mwyn sicrhau gwelliannau pellach a gweithio'n agosach gydag Ymgynghorwyr Her i helpu ysgolion i gyrraedd y targedau presenoldeb a nodwyd ar eu cyfer.

 

PENDERFYNWYDderbyn yr adroddiad.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r eglurhad ynghylch peidio â chyflwyno adroddiad craffu ar Gynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i uno Ysgolion Llangennech yn ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad dros beidio â chyflwyno'r adroddiad.