Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P.E.M. Jones a J. Williams ynghyd â Mr. S. Pearson – Cynrychiolydd y Rhiant-lywodraethwyr). 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd D.J.R. Bartlett

 

Eitemau 6–8

 

Mae’n Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiau’r pleidiau.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i’r Pwyllgor o’r eitemau a fyddai’n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf i’w gynnal ar 11eg Chwefror 2016. 

 

PENDERFYNWYDnodi’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 11eg Chwefror 2016.

 

6.

RHEOLI ABSENOLDEB OHERWYDD SALWCH MEWN YSGOLION pdf eicon PDF 409 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R. Bartlett ddatgan buddiant, sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn amlinellu’r gefnogaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol i ysgolion ar fater rheoli absenoldeb salwch.  Nododd y Pwyllgor fod y defnydd o gymorth cyflenwi mewn ysgolion adeg absenoldebau salwch wedi cael ei drafod yn ystod ymweliad ysgol blaenorol ac yn dilyn hynny fod aelodau wedi gofyn am yr adroddiad hwn fel rhan o’u rhaglen waith i’r dyfodol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno Polisi Absenoldeb Salwch newydd yr Awdurdod ym mis Ebrill 2014, fod polisi enghreifftiol wedi cael ei anfon at bob ysgol i’w fabwysiadu ganddynt yn ystod 2015. Cafodd yr aelodau wybod hefyd am y gwahanol fentrau a ddarparwyd gan yr Is-adran Rheoli Pobl a Pherfformiad (o fewn Adran y Prif Weithredwr) i gefnogi ysgolion i wella eu rheolaeth ar absenoldebau, gan gynnwys y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol a chyngor Adnoddau Dynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r materion canlynol:

 

·         Hyfforddiant pwrpasol i Benaethiaid ar reoli absenoldebau

·         Canllawiau ar atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol

·         Cyflwyno cynllun ariannu cilyddol ar gyfer absenoldebau ysgol

·         Cyflwyno darparwr Asiantaeth Athrawon Cyflenwi Cymru Gyfan

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder am y defnydd o asiantaethau athrawon cyflenwi, a gofynnwyd a allai’r Awdurdod Lleol hwyluso cronfa o athrawon i’w defnyddio gan ysgolion y Sir. Awgrymwyd y byddai hyn yn sicrhau bod yr athrawon yn gymwysedig a chymwys a’u bod yn derbyn cyflog teg. Dywedodd y Pen-swyddog Adnoddau Dynol wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi ceisio mynd i’r afael â’r pryderon hyn trwy benodi darparwr Cymru gyfan ar gyfer lleoliadau asiantaeth mewn ysgolion. Enw’r darparwr oedd New Directions, ac fel rhan o’i gontract, roedd rhaid iddo sicrhau bod yr holl archwiliadau diogelu perthnasol wedi cael eu gwneud, a bod tystlythyron da wedi’u trefnu. Roedd y contract yn mynnu hefyd bod gan y darparwr fframwaith perfformiad yn cynnwys goruchwyliaeth a hyfforddiant rheolaidd ar gyfer y rhai a gyflogir ganddo. Er hynny, ychwanegodd ei bod yn arfer cyffredin i Benaethiaid argymell staff cyflenwi cymwysedig a chymwys i’w gilydd.

 

Wrth ymateb i gwestiwn arall ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu trefniant lleol o fewn y Sir, nododd y Prif Swyddog Addysg y gellid ystyried hynny ond mai ei gyngor oedd y dylai’r Awdurdod a’r ysgolion weithredu’r cynllun ariannu cilyddol ar gyfer absenoldebau ysgol yn y lle cyntaf. Atgoffodd y Pwyllgor y byddai gweinyddu cronfa gyflenwi yn galw am dîm o swyddogion ar adeg pan oedd pwysau ar y gyllideb yn parhau i gynyddu. Atgoffodd yr aelodau hefyd nad oedd unrhyw reidrwydd ar ysgolion i ddefnyddio asiantaeth ddarparu newydd Cymru gyfan a’u bod yn rhydd i wneud trefniadau lleol fel y dywedwyd ynghynt. Fodd bynnag, roedd athrawon cyflenwi New Directions yn gymwysedig ac roeddent wedi cael eu gwirio a gallai ysgolion drafod gyda nhw er mwyn sicrhau cyflogau ac amodau teg ar gyfer yr athrawon cyflenwi.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ARGYMHELLION AR GYFER DIWYGIO TREFNIADAU CWRICWLWM AC ASESU 3-19 YN YSGOLION SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 515 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd D.J.R. Bartlett ddatgan buddiant, sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ‘Paratoi’r Ffordd: Adolygiad Strategol o Drefniadau Cwricwlwm ac Asesu 3 – 19 yn Sir Gaerfyrddin’. Datblygwyd y cynigion er mwyn gweithredu argymhellion Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus), Adolygiad Furlong a’r Fargen Newydd yn holl ysgolion a lleoliadau arbennig y Sir. Diben yr adolygiad oedd ystyried:

 

·         Amlinellu’r prif themâu a heriau wrth gynllunio cwricwlwm ac asesu yn y cyfnod presennol, wrth ymateb i ddiwygiadau sydd ar ddigwydd a rhai pellgyrhaeddol ar raddfa genedlaethol.

·         Cynnig ymatebion gwreiddiol i broblemau cymhleth a ddaw yn sgîl y diwygiadau arfaethedig i’r cwricwlwm ac asesu.

·         Cynnig strategaethau pendant ar gyfer gweithredu diwygiadau a thrawsnewidiadau ystyrlon i’r cwricwlwm, er budd addysg pob dysgwr yn Sir Gaerfyrddin.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a fyddai ymddeoliad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn effeithio ar y cynigion hyn ac a fyddai gweinyddiaeth a gweinidog addysg newydd yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai yn debygol o arwain at ragor o newidiadau. Cydnabu’r Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod hwn yn gwestiwn perthnasol ond yr ymddangosai bod consensws gwleidyddol o blaid y cynigion. Dywedodd fod cryn fomentwm y tu ôl i’r newidiadau arfaethedig oedd yn peri iddo gredu y byddai llawer o’r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu beth bynnag fyddai canlyniad etholiadau’r Cynulliad.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am gwricwlwm wedi’i deilwra i Sir Gaerfyrddin, cydnabu’r Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr na chafwyd eto unrhyw ganllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ond ei bod yn ymddangos fod y Gweinidog yn awyddus i roi hyblygrwydd i awdurdodau lleol o ran yr hyn oedd yn cael ei addysgu yn eu hysgolion. Awgrymodd, er y byddai testunau craidd y cwricwlwm yn cael eu gosod ar gyfer Cymru gyfan, y byddai athrawon yn y Sir yn gallu defnyddio hanes a thraddodiadau diwylliannol lleol er mwyn rhoi blas lleol i’w gwersi.

 

Nodwyd bod yr ‘ysgolion arloesi’ a restrir yn yr adroddiad i gyd yn ysgolion cynradd mwy o faint, ac awgrymwyd y byddai gofynion cwricwlwm ysgolion o’r fath yn wahanol iawn i rai ysgol wledig fechan a chanddi ddau neu dri o athrawon. Cydnabu’r Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod y rhai a restrwyd yn ysgolion mwy am y rheswm syml fod ganddynt y capasiti i ryddhau staff i weithio ar y datblygiadau newydd. Fodd bynnag, roedd swyddogion yn gweithio i sicrhau y gallai staff o ysgolion llai gyfrannu i’r gwahanol grwpiau datblygu’r cwricwlwm a sefydlir.  

 

Gofynnwyd a fyddai gan Goleg Sir Gâr gwricwlwm gwahanol gan nad oedd o fewn awdurdodaeth yr Awdurdod Lleol. Dywedodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr wrth y Pwyllgor i’r adolygiad o’r cwricwlwm 11-19 yn Sir Gaerfyrddin, sydd yng ngofal y Rheolwr Trawsnewid Dysgu, gael ei gynnal yn gyfochrog â datblygu’r ddogfen Paratoi’r Ffordd a’i fod yn ffrwyth trafodaethau rhwng yr Awdurdod Lleol a’r Coleg ar ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer addysg yn y Sir. Byddai’r adolygiad yn nodi sut byddai angen i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

PERFFORMIAD A CHYRHAEDDIAD YSGOLION 2014/15 pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R. Bartlett ddatgan buddiant, sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar berfformiad a chyflawniad ysgolion oedd yn crynhoi'r materion allweddol oedd yn deillio o ddadansoddiad o'r data mewn perthynas â pherfformiad ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr elfennau canlynol:

 

·         Safonau: Cyflawniadau’r Sir ar gyfer 2014/15

·         Deilliannau Arolygiadau

·         Datblygu Gwerthoedd a Sgiliau

 

Hysbyswyd y Pwyllgor sut roedd perfformiad a safonau yn ysgolion y sir yn cymharu â'r ysgolion oedd yn perfformio orau ar draws rhanbarth ERW.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd sut roedd yr adran yn bwriadu gweithredu’r meysydd gwelliant y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor y byddai’r tri phrif faes gwelliant (Perfformiad dysgwyr eFSM, perfformiad dysgwyr mwy abl a thalentog, perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen) yn cael eu cynnwys yng nghynllun busnes yr adran ar gyfer 2016/17 yn ogystal â chael eu cynnwys yng nghynllun busnes ERW yn flaenoriaethau allweddol i’r Sir ar gyfer 2016/17. Ychwanegodd Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod pob ysgol yn cael ei chategoreiddio yn ôl y math o gefnogaeth yr oedd ei hangen arni ac mai Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod cyntaf yn rhanbarth ERW i ymweld ag ysgolion yn rheolaidd i arwain gwelliannau. Roedd cynnydd yn amlwg, yn enwedig felly yn y sector uwchradd, lle’r oedd swyddogion wedi darparu cryn dipyn o gefnogaeth.

 

Holwyd ynghylch nifer yr Ymgynghorwyr Her oedd yn gweithio yn y Sir. Cadarnhaodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod 12 ymgynghorydd, er bod agweddau ar y gwaith hefyd yn cael eu cefnogi gan benaethiaid ysgolion neu swyddogion eraill o’r adran oedd yn cael eu defnyddio yn ôl y galw.

 

Cyfeiriwyd at bwysigrwydd arweinyddiaeth mewn ysgolion ond lleisiwyd pryder fod hyn wedi cael ei farnu’n anfoddhaol yn 10% o’r ysgolion a arolygwyd yn ystod 2014/15. Dywedodd Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion wrth y Pwyllgor fod hyn yn ymwneud â dwy ysgol, a oedd fel ei gilydd wedi dod allan o gategori monitro ESTYN yn ddiweddar yn dilyn eu gwahanol arolygiadau. Roedd swyddogion o’r Awdurdod wedi gweithio’n llwyddiannus gyda’r ysgolion yn ystod y cyfnod hwn ac roedd yn galonogol nodi nad oedd gan Sir Gaerfyrddin unrhyw ysgolion yn y sector isaf o ran perfformiad yng Nghymru.

 

Derbyniwyd, er bod yr adroddiad ei hun yn galonogol a bod ESTYN wedi barnu bod 75% o’r arweinyddiaeth yn rhagorol neu’n dda, fod rhaid gofyn a ddylai hyn yn ei dro effeithio ar addysgu a safonau, materion oedd ond yn cael eu barnu’n ddigonol yn 40% o’r ysgolion. Awgrymwyd y dylai fod cyfatebiaeth rhwng arweinyddiaeth ragorol a’r safonau a’r addysgu sydd i’w gweld mewn ysgolion. Cytunodd Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y dylai arweinyddiaeth gref ac effeithiol arwain mewn egwyddor at godi safonau a gwell addysgu mewn ysgolion. Fodd bynnag, er bod ESTYN yn siarad â disgyblion ac yn edrych trwy lyfrau gwaith yn y sector cynradd, roedd penderfyniadau arolygwyr ar safonau neu addysgu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG BWRIAD I NEWID CATEGORI IAITH YSGOL BRO MYRDDIN O DWYIEITHOG (2A) I'R GYFRWNG GYMRAEG (CC) pdf eicon PDF 655 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynnig i newid categori iaith Ysgol Bro Myrddin o Ddwyieithog (2A) i gyfrwng Cymraeg. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori a’r cynnig i gyhoeddi hysbysiad statudol i weithredu’r newidiadau ym mis Ebrill 2016. Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Croesawyd y bwriad i newid categori iaith ac awgrymwyd ei bod yn hen bryd cael ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Cynigiwyd felly y dylai’r Pwyllgor gymeradwyo’r cynnig ac annog y Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor Sir i fynd ati i gyhoeddi’r hysbysiad statudol. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn. 

 

Gofynnwyd am eglurhad o ran pa ddewisiadau oedd ar gael i rieni oedd yn gwrthwynebu’r cynnig. Dywedodd y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion wrth y Pwyllgor mai Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth fyddai’r dewis i rieni yn ardal Caerfyrddin oedd yn dymuno i’w plant dderbyn pynciau wedi’u haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1      bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

9.2       cymeradwyo’r cynnig i newid categori iaith Ysgol Bro Myrddin o Ddwyieithog (2A) i gyfrwng Cymraeg (CC) ac y dylid annog y Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor Sir i fynd ati i gyhoeddi’r hysbysiad statudol.   

10.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSGY BWRIAD I GAU YSGOL FABANOD A MEITHRIN COPPERWORKS AC YSGOL GYNRADD MAESLLYN A SEFYDLU YSGOL GYNRADD NEWYDD pdf eicon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y cynnig i gau Ysgol Fabanod a Meithrin Copperworks ac Ysgol Gynradd Maesllyn yn Llanelli a gweithredu’r cynnig fel y manylwyd arno yn Hysbysiad Statudol y 3ydd Tachwedd 2015. Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at ymweliad y Pwyllgor ag ysgolion Copperworks a Maesllyn a’r pryderon a leisiwyd gan aelodau lleol ynghylch materion traffig ar safle arfaethedig yr ysgol gynradd newydd ac o’i gwmpas. Dywedodd y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion wrth y Pwyllgor fod cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac y byddid yn delio â nhw fel rhan o’r broses gynllunio.

 

Gofynnwyd a fyddai’r teithwyr a fu’n meddiannu safle’r ysgol newydd yn ddiweddar yn atal y datblygiad rhag symud yn ei flaen. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth y Pwyllgor fod swyddogion o’r Is-adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd, ynghyd â’r Heddlu, yn trafod gyda’r teithwyr ac mai’r disgwyl oedd y byddent yn cael eu symud yn eu blaenau yn fuan iawn.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pennaeth yr ysgol newydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant mai’r cam cyntaf, ar yr amod y cymeradwyir cam terfynol y broses hon, fyddai sefydlu corff llywodraethu ar gyfer yr ysgol newydd, a rôl gyntaf y corff hwnnw fydd goruchwylio’r gwaith o benodi pennaeth newydd a dirprwy. Ychwanegodd fod yr Adran yn awyddus i gychwyn y broses hon cyn gynted ag y bo modd.

 

Croesawyd y bwriad i sefydlu ysgol ddwy ffrwd yn yr ardal hon, ond lleisiwyd pryder nad oedd y sector uwchradd yn Llanelli eto’n barod i dderbyn niferoedd y disgyblion sy’n siarad Cymraeg a fyddai’n barod i symud i mewn i addysg uwchradd yn y dyfodol. Cydnabu’r Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod cyflwyno ffrwd dwy iaith yn agwedd arloesol ar y cynnig ac na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i hyn. Addawodd y Prif Swyddog Addysg i’r Pwyllgor fod gwaith i baratoi ysgolion uwchradd ar gyfer y sefyllfa hon wedi cychwyn yn barod. Dywedwyd bod trafodaethau cadarnhaol wedi’u cynnal gydag ysgolion Bryngwyn a St. John Lloyd yn barod a bod Ysgol Coedcae wedi gofyn yn benodol am gymorth gan yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

9.2       y dylai’r Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor Sir gymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Fabanod a Meithrin Copperworks ac Ysgol Gynradd Maesllyn (a sefydlu ysgol gynradd newydd) a gweithredu’r cynnig fel y manylwyd arno yn Hysbysiad Statudol y 3ydd Tachwedd 2015. 

 

11.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN ADDYSG A PHLANT 2015/16 - DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y ddogfen cynllunio a chwmpasu ar gyfer yr adolygiad craffu gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i ymchwilio i’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r sawl nad oeddent. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Gr?p wedi cyfarfod ddwywaith er mis Rhagfyr 2015. Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Awgrymwyd bod diffiniad Llywodraeth Cymru o dlodi yn rhy simplistig a gofynnwyd a fyddai’r Gr?p yn ystyried effaith tlodi gwledig ar berfformiad disgyblion mewn ysgolion gwledig. Croesawodd y Prif Swyddog Addysg y sylwadau a nododd fod ysgolion gwledig yn aml iawn yn cynnig llawer mwy o gyfleoedd i ddisgyblion y tu allan i’r diwrnod ysgol arferol na phlant mewn ysgolion trefol, a hynny’n syml iawn gan fod llai o gyfleoedd a chyfleusterau yn y cymunedau gwledig hynny. Cytunodd y Cadeirydd y byddai’r Gr?p yn ystyried y cais mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYDcymeradwyo dogfen cynllunio a chwmpasu’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

12.

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT - ADRODDIAD GWEITHGAREDD YNGHYLCH YMWELIADAU SAFLE 2014/15 pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad gweithgareddau ar ei ymweliadau ag ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15. Ymwelwyd â chyfanswm o 20 ysgol rhwng Hydref 2014 a Mai 2015. Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad o ran y cynlluniau ar gyfer Ysgolion Cyfun Pantycelyn a’r Gwendraeth gynt i’r dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth y Pwyllgor nad oedd ateb pendant ar gyfer y naill safle na’r llall ar hyn o bryd. Roedd yr Awdurdod yn ystyried cynnig gan Gyngor Tref Llanymddyfri y dylai symud Ysgol Rhys Prichard i safle Pantycelyn ac roedd Pennaeth Eiddo Corfforaethol yn arwain gr?p o swyddogion oedd hefyd yn ystyried posibiliadau ar gyfer y ddau safle.

 

Awgrymwyd bod yr ymweliadau yn un o’r gweithgareddau pwysicaf a gynhelir gan bwyllgorau craffu’r Cyngor ac ailadroddodd y Cadeirydd bwysigrwydd y rhaglen ymweliadau, gan amlygu rhai o’r prif ddeilliannau o’r ymweliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 17EG RHAGFYR 2015 pdf eicon PDF 439 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad ar y gyllideb a gofynnwyd a oedd y sefyllfa o ran diogelu ysgolion yn gliriach o gwbl erbyn hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth y Pwyllgor fod trafodaethau yn parhau rhwng WLGA a Llywodraeth Cymru gan nad oedd rhai awdurdodau lleol am drosglwyddo’r Grant Gwella Addysg i’w hysgolion oherwydd yr effaith bosib ar eu cyllidebau eu hunain. Yn anffodus, er bod swyddogion yn awyddus i weld hyn yn cael ei ddatrys, nid oedd yn gallu cynnig ateb pendant ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau, 17eg Rhagfyr, 2015, gan eu bod yn gofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau