Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr P.E.M.Jones a J. Williams.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

           

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd D.J.R. Bartlett

Eitem 6

Mae’n Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd dim cwestiynau wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 251 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 21ain Ionawr 2016.  Nododd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr y byddai'r Adolygiad Strategol 11-19 bellach yn cael ei gynnwys yn yr Adolygiad Cwricwlwm ac Asesu 3-19. Dywedodd yr Uwch-ymgynghorydd fod yr Adolygiad Dwyflynyddol o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael ei ohirio, ers dosbarthu'r agenda, a bod y cynnig Rhaglen Moderneiddio Addysg (Cam 3) ar gyfer Ysgol Plant Bach Copperworks ac Ysgol Gynradd Gymunedol Maesllyn wedi cael ei gynnwys fel eitem frys.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau arfaethedig, yn amodol ar y newidiadau uchod.

6.

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2016/17 to 2018/19 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 - 2018/19 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 16eg Tachwedd 2015. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r setliad dros dro ar 9fed Rhagfyr ac y byddai cyllideb Sir Gaerfyrddin 1% yn llai yn hytrach na 3.3% yn llai sef y ganran yr oedd y Strategaeth wedi ei seilio arni. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys £35 miliwn yn y setliad i gefnogi addysg a £21 miliwn o gymorth ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol ar sail Cymru gyfan. Roedd hyn yn cyfateb i £2.1 miliwn a £1.3 miliwn yn eu tro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Petai'r cyllid cyfwerth hwn yn cael ei drosglwyddo i gyllidebau'r ysgolion, byddai hynny'n lleihau'r arbedion effeithlonrwydd o £5.5 miliwn sydd eu hangen o ran cyllidebau ysgolion yn 2016/17. Ar hyn o bryd nid oedd pob grant penodol wedi cael ei gadarnhau ac roedd posibilrwydd o hyd y gallai rhai grantiau gael eu cynnwys yn y setliad terfynol yn hytrach na bod yn grant penodol. Nid oedd amcan ynghylch setliad y blynyddoedd dilynol. I grynhoi, mae'n bosibl na fydd angen rhoi sylw i'r diffyg yn yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd ar gyfer 2016/17 bellach, ond roedd yn hanfodol cyflawni'r arbedion o £13.6 miliwn a nodwyd.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Ceisiwyd eglurhad ynghylch cyllidebau ysgolion. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod cyllidebau ysgolion wedi cael eu dilysu er mwyn rhoi ystyriaeth i bensiynau athrawon, newidiadau i yswiriant gwladol a chwyddiant mewn cyflogau. Roedd hyn yn gyfwerth ag ychydig dros £3 miliwn. Petai'r £2.1 miliwn a ddiogelir yn cael ei drosglwyddo'n llawn i ysgolion, byddai hynny'n lleihau'r arbedion effeithlonrwydd sydd eu hangen y flwyddyn nesaf i £3.4 miliwn ac felly byddai ysgolion yn cael bron yr un swm o arian.

 

Mynegwyd pryderon fod ysgolion yn gweithio ar gynlluniau ar hyn o bryd i wneud yr arbedion a nodwyd yn y cynllun gwreiddiol a allai gynnwys diswyddo staff. Gofynnwyd pryd y byddai ysgolion yn cael cadarnhad ynghylch eu sefyllfa o ran y gyllideb yn dilyn y setliad dros dro. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod hynny'n anodd gan nad oedd dim gwybodaeth gadarn am y swm sy'n cael ei ddiogelu gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod ganddo ddau bryder sef nad oedd y manylion mewn perthynas â'r setliad a diogelu cyllideb addysg yn glir eto yn ogystal â sut y byddai'r Cyngor hwn yn gweithredu pan fydd y rhain yn cael eu cadarnhau.

 

Mynegwyd pryderon nad oedd yr ansicrwydd ynghylch y setliad terfynol a'r amseru ym mis Mawrth ychydig cyn cyfarfod y Cyngor ar 11eg, yn rhoi amser i'r Aelodau roi ystyriaeth briodol i'r gyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod ei adran yn dal yn gorfod cyflawni'r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd yn yr adroddiad a'i bod yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DARPARIAETH DYSGU I OEDOLION YN Y GYMUNED YN Y DYFODOL GAN YR ADRAN ADDYSG A PHLANT pdf eicon PDF 586 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol bresennol sy'n wynebu'r Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned.  Dywedwyd nad oedd y gwasanaeth yn derbyn cyllid craidd gan y Cyngor Sir ac felly ei fod yn ddibynnol ar grantiau Llywodraeth Cymru i weithredu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu gostyngiad sylweddol yn y grantiau y mae'r gwasanaeth yn eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, sy'n cyllido darparu cyrsiau, staff ac adeiladau cysylltiedig. Gan nad oedd cyllid arall i'w gael, ni fyddai'r gwasanaeth yn gallu parhau i ddarparu'r amrywiaeth presennol o gyrsiau, rheoli'r amrywiaeth o adeiladau gwasanaeth a chyflogi'r staff sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth. Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar yr argymhellion yn yr adroddiad yng nghyd-destun y cyllid o oddeutu £435,000 a ddylai fod ar gael ym mlwyddyn ariannol 2016-2017.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder ynghylch effaith gymdeithasol rhoi'r gorau i'r amrywiaeth o gyrsiau a ddarperir ar hyn o bryd, yn ogystal ag effaith rhoi'r gorau i reoli a chostau cynnal cysylltiedig y Ganolfan Addysg Gymunedol. Dywedwyd bod Canolfan Felin-foel yn hen adeilad a oedd yn debygol o aros yn wag a denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Hefyd pwysleisiwyd pwysigrwydd Dysgu Oedolion yn y Gymuned o ran helpu pobl ifanc nad oeddent wedi cael cymwysterau yn yr ysgol.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch Canolfan Addysg Gymunedol Llandeilo. Dywedodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod y ganolfan hon yn cael ei rheoli ar hyn o bryd gan y Gwasanaeth Cymraeg i Oedolion. Ychwanegodd y Prif Swyddog Addysg/Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod rhan o'r cyllid ar gyfer Cymraeg i Oedolion yn talu am y costau cynnal tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Fel rhan o'r broses dendro Cymraeg i Oedolion newydd ar gyfer Cymru, mae'r Cyngor wedi gwneud cais am fod yn ddarparwr ar y cyd â Sir Benfro.

 

Mewn ymateb i sylwadau ynghylch y Canolfannau Addysg Gymunedol eraill, eglurodd Rheolwr y Rhwydweithiau Dysgu Gydol Oes y byddai Canolfan Glanaman yn cael ei phrydlesu i Gyngor Tref Cwmaman o dan y trefniadau trosglwyddo asedau a bod trefniadau cyllid pontio yn cael eu hystyried. Mae Canolfan Pen-bre yn cael ei chynnal gan gyngor tref Pen-bre a Phorth Tywyn ac mae'r manylion cyfreithiol i drosglwyddo'r adeilad i'r cyngor yn cael sylw ar hyn o bryd. Roedd gan Lanelli fwy na 40 o leoliadau posibl ar gyfer y ddarpariaeth DOG. Roedd y sefyllfa ynghylch Canolfan Caerfyrddin wedi newid ers ysgrifennu'r adroddiad, yng ngoleuni'r angen am amgylchedd diogel ar gyfer arholiadau er mwyn darparu sgiliau sylfaenol achrededig a SSIE.

 

Cyfeiriwyd at yr amrywiaeth eang o safleoedd sydd ar gael ar draws gwasanaethau cyhoeddus a'r angen i gydweithio a chydleoli gwasanaethau yn y dyfodol yng ngoleuni'r toriadau cyllideb ar gyfer yr holl wasanaethau.

 

PENDERFYNWYD:

 

7.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

7.2       Cymeradwyo'r argymhellion sy'n ymwneud â Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned i'r Bwrdd Gweithredol.

 

8.

EGLURHAD YNGHYLCH PEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad ynghylch peidio â chyflwyno adroddiad am Bennu Cyllideb Rhaglen Gyfalaf 2016/17 - 2018/19 a chynnig Rhaglen Moderneiddio Addysg (Cam 3) ar gyfer Ysgol Plant Bach Copperworks ac Ysgol Gynradd Gymunedol Maesllyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. 

9.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 23AIN O DACHWEDD 2015 pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23ain o Dachwedd 2015, gan eu bod yn gofnod cywir. 

10.

DERBYN A LLOFNODI COFNODION CYD-GYFARFOD Y PWYLLGORAU CRAFFU PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD AC ADDYSG A PHLANT, A GYNHALIWYD AR YR 23ain TACHWEDD 2015 pdf eicon PDF 289 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod ar y cyd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant a’r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, a gynhaliwyd ar Y 23ain O Dachwedd 2015.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau