Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bernadette Dolan
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr D.J.R. Bartlett a P.E.M. Jones.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd dim cwestiynau wedi dod i law. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 363 KB Cofnodion: Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 17eg Rhagfyr 2015.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 PDF 325 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf blwyddyn ariannol 2015/16 fel yr oeddynt ar ddiwedd Awst ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod y rhagamcan diweddaraf o ran y gyllideb refeniw yn dangos bod y sefyllfa wedi gwella ychydig mewn perthynas â'r gorwariant o £950,000, a bod posibilrwydd i'r sefyllfa wella ymhellach pe na byddid yn defnyddio cyllid wrth gefn o ran rhai o'r rhagamcanion cyn diwedd y flwyddyn.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Cyfeiriwyd at gostau ymddeol cynnar gwirfoddol a dileu swyddi, a gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod unrhyw reolaeth dros hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod dileu swyddi yn cael ei herio weithiau os oeddid yn barnu bod gwneud hynny'n ddiangen, ac yr oeddid yn gwrthod nifer bychan o'r penderfyniadau hynny. Yr oedd y gwasgfeydd ar gyllidebau'r ysgolion yn peri bod niferoedd cynyddol y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod.
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cyfraniad o £150,000 at ofal seibiant, a oedd wedi ei gynllunio gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac a oedd yn annhebygol o gael ei wireddu yn ystod y flwyddyn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod a wnelo'r drafodaeth â natur yr angen, gan fod y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried bod hynny'n gymdeithasol yn hytrach na meddygol, a bod yr Awdurdod yn dadlau bod rhesymau meddygol cymhleth yn achosi'r angen am ofal seibiant. Yr oeddynt yn cael trafferth i gytuno ar y mater.
Gofynnwyd pa ganran o'r gyllideb addysg oedd yn cyrraedd yr ysgolion. Nid oedd gan y Cyfarwyddwr yr union ffigurau wrth law ond dywedodd taw 85% oedd y targed, yr oeddid wedi llwyddo i'w gyrraedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a bod targed eleni yn rhyw 83%. Eglurodd fod cyllid yn cael ei gadw'n ganolog ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer dyletswyddau statudol megis penodi llywodraethwyr ysgolion a derbyn disgyblion. Cytunodd i ddosbarthu'r ffigurau ar ôl y cyfarfod.
Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y gorwariant o ran Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Dywedodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod adroddiad wedi ei roi gerbron y Tîm Rheoli Corfforaethol ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf, a bod yr adroddiad hwnnw'n cael ei roi gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf. Yr oedd rhai contractau wedi eu terfynu, fodd bynnag y gobaith oedd y byddid yn cael cyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Gofynnwyd a oedd unrhyw bryderon ynghylch dyfodol y gwasanaeth cerdd. Dywedodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod cyllid o gyllidebau'r ysgolion yn wariant sylweddol, felly yr oedd ysgolion yn adolygu eu polisïau codi tâl yn unol â hynny. Y nod oedd sicrhau bod y gwasanaeth yn ei gyllido ei hun. Y gobaith hefyd oedd bod rhywfaint o gyfle i gael arbedion e.e. yr oedd trafodaethau mewnol cychwynnol yn cael eu cynnal ynghylch cydweithredu posibl ar draws y canolbwynt gyda Sir Benfro.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad, a oedd yn cynnwys cynnig i gau Ysgol Plant Bach Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac i sefydlu ysgol newydd sef Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech. Byddai'r ysgol newydd yn ysgol Gymraeg ei chyfrwng ar gyfer plant 3-11 oed, ynghyd â darpariaeth feithrin.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Croesawyd y cynnig fel un oedd yn ddatblygiad naturiol i'r ysgolion presennol oherwydd y twf o ran y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yno. Yr oedd ysgolion eraill yn y gymdogaeth yn darparu addysg drwy gyfrwng y Saesneg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cynnig.
|
|
Y GYMRAEG MEWN ADDYSG PDF 386 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad uchod a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, am ddata perfformiad ynghylch y Gymraeg yn yr ysgolion, am y cynnydd ar y cyd o ran 'Codi Caerau Sir Gâr' ac o ran deunyddiau marchnata, yn ogystal ag am ddatblygiadau eraill o ran y Gymraeg ym maes addysg.
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Bu i'r Pwyllgor groesawu'r adroddiad a'r cynnydd oedd yn cael ei wneud ond mynegwyd pryder gan ddweud bod angen rhagor o leoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg eu cyfrwng i ymateb i'r twf o ran y galw. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg / Pennaeth y Gwasanaethau Addysg na wyddai ef am ddim un plentyn yr oeddid wedi gwrthod rhoi lle iddo / iddi mewn ysgol Gymraeg ei chyfrwng.
Gofynnwyd sut yr oedd dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo i'r rhieni a'r llywodraethwyr. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg / Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod pecyn deunyddiau ac adnoddau wedi ei lunio yr oedd ysgolion yn ei farchnata i'r rhieni. Yr oedd seminarau'n cael eu cynnal i lywodraethwyr yn ddiweddarach yr wythnos honno pryd y byddid yn dosbarthu'r pecyn; hefyd byddai ar gael ar y wefan gorfforaethol.
Croesawyd bod gwaith yn cael ei wneud ynghylch y rhesymau dros y lleihad o ran y niferoedd oedd yn camu ymlaen i addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnwyd beth oedd y rhwystr pennaf. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg / Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod 2 brif fater: sef gallu staff i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd y broses statudol o ran newid ieithyddol. Yr oedd gwaith wedi ei wneud eleni gyda gr?p o ysgolion oedd yn barod i gamu ar hyd y continwwm. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod y rheidrwydd i newid statws yn ffurfiol yn peri rhwystredigaeth fawr, a chyfeiriodd at 2 ysgol oedd wedi bod yn gweithredu fel ysgolion Cymraeg eu cyfrwng dros y 4 pedair blynedd diwethaf ond bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod newid biwrocrataidd ffurfiol yn digwydd. Hefyd yr oedd mater i'w ystyried o ran bod nifer y lleoedd oedd ar gael ar hyn o bryd yn ategu'r broses statudol ar gyfer yr ysgolion.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.
|
|
ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD 2015/16 PDF 330 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Hanner Blwyddyn ynghylch Rheoli Perfformiad ar gyfer y gwasanaethau o fewn ei faes gorchwyl, am y cyfnod o'r 1af Ebrill tan 30ain Medi 2015. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys:
A. Golwg Gyffredinol ar y Perfformiad gan Benaethiaid y Gwasanaethau B. Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau Perfformiad C. Data Mesurau Perfformiad Ychwanegol Heb eu Cadarnhau D. Monitro Cwynion a Chanmoliaeth
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd yn nifer y disgyblion ym Mlynyddoedd 11 a 13 oedd wedi dod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ystod 2014. Dywedodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod y cynnydd yn gymharol fach, ac ychwanegodd fod adroddiad ar y ffordd i'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ynghylch y sefyllfa bresennol a bod camau'n cael eu cymryd i unioni hynny. Hefyd yr oedd disgyblion Blwyddyn 11 yn cael addysg gyrfaoedd ac arweiniad ynghylch materion gyrfaol. Yn ogystal byddai'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ym mis Ionawr ynghylch y cwricwlwm 3 - 19 oed a fyddai'n cynnwys hoelio sylw ar lwybrau dysgu 14 - 19 oed, gan gyplysu addysg ag anghenion yr economi yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Croesawyd y gwelliannau o ran presenoldeb yn yr ysgolion cynradd a'r ysgolion uwchradd, ond gofynnwyd cwestiwn ynghylch pa welliannau eraill y gellid eu gwneud. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Strategol fod y rhain yn debygol o fod yn welliannau mân iawn o gofio'r gwelliant oedd wedi bod hyd yn hyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod y ffigurau ynghylch absenoldeb heb ganiatâd ymysg y rhai gorau yng Nghymru.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.
|
|
ATGYFEIRIAD I'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT PDF 322 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried mater oedd wedi ei gyfeirio gan y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau. Eglurodd y Cadeirydd beth oedd cefndir y mater dan sylw, a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynigion i ddefnyddio fformat newydd ar gyfer yr adroddiadau ynghylch monitro perfformiad. Ychwanegodd y byddid yn rhoi rhagor o fanylion i'r aelodau mewn sesiwn ar 14eg Ionawr 2016 (2:00pm).
PENDERFYNWYD nodi'r mater. |
|
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 24ain Medi 2015 gan eu bod yn gywir. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y Cyd-bwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, ac Addysg a Phlant oedd wedi ei gynnal ar 18fed Medi 2015. |