Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant
Dydd Mercher, 24ain Ebrill, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Apologies were received from Cllr D. Price, G. Jones, Mrs M. Jones, Mrs G. Cornock-Evans and Cllr G. Davies (Executive Board Member for Education and Children)

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

S. Najmi

5 - Adroddiad Blynyddol ynghylch Rhianta Corfforaethol

Yn gweithio i Goleg G?yr Abertawe

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Perfformiad a Gwybodaeth drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r aelodau at y cynlluniau gweithredu a adolygwyd.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod y cyflwyniad:

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at Adran C8, Amcan 3 y Mesur a oedd yn cyfeirio at y gweithdrefnau statudol sy'n gysylltiedig â ffedereiddio, a gofynnwyd a oedd yr adran wedi llwyddo i gyflawni'r mesur hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y mesur yn rhoi cyfle i ymdrin â'r heriau a wynebir yn y broses o ffedereiddio. Fel y nodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, mae'r diffyg o ran arweinwyr a darpar arweinwyr o ansawdd yn parhau i fod yn her ac mae ffedereiddio yn lleddfu hwn i ryw raddau. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen set ychwanegol o sgiliau i arwain ysgol drwy'r broses ffedereiddio. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod 13 o Ffederasiynau ar hyn o bryd, pum ffurfiol ac wyth anffurfiol; gan nodi bod gan ffederasiwn ffurfiol un corff llywodraethu sy'n fantais sylweddol. Mae Estyn wedi diwygio ei fframwaith arolygu o ystyried ysgolion ffederal. Mae Sir Gaerfyrddin wedi cefnogi'r gwaith hwn yn effeithiol drwy ddefnyddio 'cynlluniau peilot.' Mae'r fframwaith arolygu diwygiedig ar gyfer ysgolion ffederal ffurfiol yn adlewyrchu gofynion ac anghenion y lleoliadau hyn mewn ffordd well o lawer. Roedd ffederasiwn anffurfiol wedi cael ei arolygu gan Estyn ac o ganlyniad byddai rhai newidiadau yn cael eu gwneud i'r broses. Dywedodd hefyd fod ysgolion sydd â llai na 50 o ddisgyblion yn her ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dyfodol Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant na allai roi ateb manwl. Fodd bynnag, byddai'r ddarpariaeth yn cael ei hystyried yn ofalus dros y flwyddyn nesaf a byddai'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn gweithio'n agos gydag Adran y Gwasanaethau Cymunedol i barhau â'r ddarpariaeth.

 

Gofynnod yr Aelodau am ragor o wybodaeth am ganlyniadau PISA, a dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ei fod yn aros am ganlyniadau'r profion PISA diweddaraf. Nododd y bydd y cwricwlwm newydd yn symud tuag at asesiadau sy'n seiliedig ar broblemau a chanlyniadau, sef ffordd newydd o weithio sy'n fwy cydnaws ag asesiadau PISA. Roedd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant yn cydnabod nad oedd cwestiynau arddull PISA yn gyson â chwricwlwm presennol Cymru, ond mae rhai ysgolion wedi gwneud yn dda drwy adolygu'n uniongyrchol ar gyfer profion PISA. Roedd hefyd yn cytuno â safbwynt y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, y bydd symud y cwricwlwm newydd tuag at ddull datrys problemau a dysgu cymhwysol yn arwain at ganlyniadau gwell mewn profion yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i Adran E, Amcan 3 yr adroddiad, cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y pwyslais ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a tharged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi mynd drwy'r broses gorfforaethol a'i fod yn unol ag awdurdodau lleol tebyg. Dywedodd hefyd mai'r nod yw sicrhau bod disgyblion yn ddwyieithog a bod ganddynt ddwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH GWEITHGAREDD RHIANTA CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. Najmi wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

Croesawodd y Cadeirydd Tyler, Josh, Shannon, Jo-Anna a Rhian i'r cyfarfod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol Rhianta Corfforaethol, a nododd fanylion o ran pa mor dda y mae'r awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau rhianta corfforaethol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Manylodd yr adroddiad ar ganlyniadau o ran y plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol hyd at 25 oed, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyrraedd targedau a bennwyd yn y Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth (Rhianta Corfforaethol) drosolwg o'r adroddiad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau i'r bobl ifanc a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:-

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch profiadau y sawl sy'n gadael gofal mewn perthynas ag Ymgynghorwyr Personol, dywedwyd wrth yr Aelodau eu bod yn brofiadau cadarnhaol iawn a bod yr ymgynghorwyr yn darparu cymorth un-i-un ar draws ystod eang o feysydd. Wrth rannu eu profiadau, soniodd y bobl ifanc a oedd yn bresennol am y cymorth cyson a ddarperir gan Ymgynghorwyr Personol mewn perthynas ag addysg, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd ac wrth baratoi ar gyfer gadael gofal. Dywedodd y bobl ifanc nad oedd Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu rhoi cymaint o gymorth â'r Ymgynghorwyr Personol, oherwydd bod ganddynt ymrwymiadau eraill yn aml.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod cymorth ar gael i'r rheiny sy'n derbyn addysg ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin, ond cydnabuwyd bod y cymorth y mae'r rheiny sy'n mynychu coleg y tu allan i'r Sir yn ei dderbyn yn anghyson. Nodwyd bod y cyfnod pontio o'r ysgol i'r coleg yn anodd gan fod llai o gefnogaeth gyffredinol yn cael ei darparu o ran addysg ôl-16 mewn coleg na'r hyn a geir mewn ysgolion.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y rhai sy'n gadael gofal yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, a beth gellid ei wneud i wella'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Dywedodd y bobl ifanc fod pobl yn gwrando arnynt ar y cyfan a'u bod wedi cael eu cefnogi i fynd i adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal, ond fel y nodwyd eisoes, mae Gweithwyr Cymdeithasol dynodedig yn newid yn aml ac mae'n rhaid i'r rhai sy'n gadael gofal feithrin perthynas arall a dechrau'r broses o feithrin ymddiriedaeth unwaith eto.

 

Roedd yr Aelodau yn cydnabod bod gadael gofal yn golygu newid sylweddol ym mywyd person ifanc (mae awdurdod lleol yn dal i fod yn gyfrifol am gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed) a gofynnwyd pa fesurau a oedd ar waith i gefnogi pobl ifanc drwy'r cyfnod pontio hwn. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Rhianta Corfforaethol) fod y nod o ddarparu tenantiaeth tai cyngor i'r rhai sy'n gadael gofal weithiau yn arwain at gorfod rhoi'r rhai sy'n gadael gofal mewn llety dros dro am gryn amser. Roedd hyn yn rhannol oherwydd prinder llety un ystafell wely yn stoc tai'r awdurdod lleol. Fodd bynnag, darparwyd cefnogaeth barhaus yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRICHARD pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg drosolwg o'r adroddiad a'r cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Prichard i gyfrwng Cymraeg.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y penderfyniad i gategoreiddio neu newid categori'r ysgol, dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod Cyrff Llywodraethu yn categoreiddio natur ieithyddol ysgolion eu hunain a'u bod yn gallu gwneud newidiadau drwy ymgynghori a dod i gytundeb â rhieni. Fodd bynnag, mae Côd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ofynnol i'r Awdurdod ddilyn proses statudol er mwyn gwneud newid parhaol i natur y ddarpariaeth ieithyddol. Mae hyn yn rhoi cyfle i bob rhanddeiliad gael ei farn wedi'i hystyried fel rhan o broses ffurfiol. Mae'n anodd adnabod rhieni darpar ddisgyblion ond ymgynghorir â hwy fel rhan o'r gymuned ehangach, er nad yw hyn yn un o ofynion y Côd.

 

Cododd yr Aelodau bryderon o ran y diffyg dewis i rieni yn yr ardal o ran cael mynediad i addysg i'w plant yn eu dewis iaith. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad yw cynnig dewis yn ofyniad statudol, er hynny, ystyrir yn aml fod y ddarpariaeth mewn dalgylchoedd cyffiniol yn rhan o'r broses. Nododd yr Aelodau fod y diffyg dewis yn broblem sy'n effeithio'n bennaf ar ardaloedd gwledig. Ailbwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, er bod gan blant hawl i addysg, nid oes gan eu rhieni hawl awtomatig i'w dewis. Fodd bynnag, gall rhieni ddewis ysgol arall y tu allan i'w dalgylch. Dywedodd hefyd fod ffedereiddio ysgolion yn cefnogi'r agenda ar gyfer darparu addysg gryf, cynhwysol, cadarn a thymor hir mewn ardaloedd gwledig.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1 bod y cynnig yn cael ei gymeradwyo;

 

6.2 bod ARGYMHELLIAD i gynnal ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol.

7.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y DDWYLAN, YSGOL GRIFFITH JONES, YSGOL LLANGYNNWR AC YSGOL LLYS HYWEL pdf eicon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg drosolwg o'r adroddiad a'r cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel i gyfrwng Cymraeg, gyda dewis o'r cyfrwng iaith yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol:

 

Wrth ateb cwestiwn ynghylch sut y gwnaed y penderfyniad i ddatblygu'r cynnig, dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y newidiadau arfaethedig, fel y trafodwyd yn eitem flaenorol yr agenda, mewn ymateb i weledigaeth Cyrff Llywodraethu yr ysgolion dan sylw, a'i fod yn ategu nodau'r Strategaeth Gorfforaethol. Nododd ymhellach fod cymorthfeydd a sesiynau adborth wedi cael eu cynnal er mwyn rhoi gwell gwybodaeth i rieni am y strategaeth. Mae ysgolion dwy ffrwd yn gallu newid ffrwd os oes ganddynt y capasiti.

 

Gan ymateb i gwestiwn yn cyfeirio at ddarparu adnoddau ar gyfer ysgolion ffrwd Cymraeg yn Llanelli, dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod yr adran wedi cynnal cynllun peilot i uwchsgilio staff, gan ganolbwyntio ar hyder a medrusrwydd o ran defnyddio'r Gymraeg. Treialwyd cynllun sabothol yn Ysgol y Felin i annog staff a oedd yn gallu siarad Cymraeg ond nad oeddent yn teimlo'n ddigon hyderus i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan gyfeirio at y cynnydd yn y ddarpariaeth yn Llanelli, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod Ysgol Penrhos yn ysgol ddwy ffrwd a bod y ddarpariaeth yn Ysgol Ffwrnes yn cynyddu. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod ysgolion uwchradd yn Llanelli yn bwriadu datblygu ffrydiau Cymraeg mewn ymateb i'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a byddai adroddiad newid categori iaith yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu yn ystod y misoedd nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch a oes angen categori iaith newydd. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod oddeutu 14 o gategorïau gwahanol yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru yn genedlaethol ar hyn o bryd. Dywedodd hefyd y byddai'r awdurdod yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn cyn bo hir, a rhagwelwyd y byddai rhestr ddiwygiedig o'r categorïau yn cael ei dosbarthu dan ymgynghoriad ym mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1. bod y cynnig yn cael ei gymeradwyo;

 

7.2 bod ARGYMHELLIAD i gynnal ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol.

 

8.

ADRODDIAD TERFYNOL DRAFFT GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2018/19 pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Terfynol Drafft i'r gr?p.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod y cyflwyniad:

 

Nodwyd bod y pwnc a ddewiswyd ar gyfer y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn eang iawn, ac wrth ddewis y tro nesaf, dylid ystyried dewis pwnc mwy penodol.

 

Dylai'r adroddiad gydnabod y costau cudd ychwanegol i rieni sy'n cael gofal plant am ddim.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1 adolygu'r adroddiad er mwyn sicrhau y cyfeirir at y costau ychwanegol i rieni sy'n defnyddio gofal plant am ddim

 

8.2 fod yr adroddiad a'r argymhellion yn cael eu hanfon at y Bwrdd Gweithredol i'w hystyried

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno'r adroddiad canlynol:-

-  Adroddiad Blynyddol Maethu

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 6 Mehefin 2019.

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 26AIN O DACHWEDD 2018 pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2018 yn gywir.

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 13EG O FAWRTH 2019 pdf eicon PDF 206 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 13 Mawrth 2019 gan eu bod yn gywir.