Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd S. Najmi, Mrs G. Cornock-Evans (Rhiant-lywodraethwr) a Mrs J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

B.W. Jones

 

6 – Cynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i Ddarparu Darpariaeth Feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu'r Ystod Oedran o 4-11 i 3-11

 

 

Mae ei mab yn athro yn Ysgol Parc y Tywyn.

 

D. Price

 

5 – Cynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i Gynyddu Nifer Lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210

 

Ef yw'r Aelod Lleol ar gyfer Gors-las ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Gors-las sy'n trafod â'r Cyngor Sir ynghylch gwerthu'r tir.

 

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID SYDD WEDI EU GWAHARDD.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GYNYDDU NIFER Y LLEOEDD YN YSGOL GYMUNEDOL GORSLAS O 110 I 210. pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod ymarfer ymgynghori ffurfiol ynghylch y cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210 wedi cael ei gynnal o 6 Tachwedd, 2017 tan 17 Rhagfyr, 2017. Cyflwynwyd canlyniadau'r ymarfer ymgynghori i'r Pwyllgor i'w hystyried ar 25 Ionawr.

 

Ar 26 Chwefror, 2018 rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ganiatâd i gyhoeddi Hysbysiad Statudol.  Cyhoeddwyd yr Hysbysiad ar 5 Mawrth, 2018 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor.  Yn dilyn diwedd y cyfnod hwn ar 1 Ebrill, 2018, nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a ddylai'r cynnig, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, gael ei weithredu ai peidio.

 

Nodwyd petai'r Cyngor Sir yn cytuno i weithredu'r cynnig, bydd nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gors-las yn cynyddu o 110 i 210 o 1 Medi, 2019 pryd y bwriedir i adeilad newydd yr ysgol gael ei ddefnyddio.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at ymholiad Estyn ynghylch yr effaith y bydd y cynnig yn ei chael ar ysgolion cyfagos a gofynnwyd i'r swyddogion pa mor hyderus ydynt na fydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar yr ysgolion eraill yn yr ardal. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod nifer fawr o blant sy'n byw yng Ngors-las ac sy'n mynychu ysgolion eraill ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod nifer o ddatblygiadau tai yn cael eu hadeiladu hefyd yng Ngors-las ar hyn o bryd;

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pa mor hyderus y mae'r swyddogion fod y cynlluniau'n gadarn, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod y swyddogion yn hyderus iawn ynghylch cadernid y ffigurau. Mae lefel y galw yn arbennig o ddifrifol yn y pentref, ac mae dau ddosbarth symudol wedi'u gosod dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd y galw hwnnw'n cael ei ateb;

·       Gofynnwyd a oes posibilrwydd ehangu'r ysgol os ydyw'n llwyddiant a'i bod yn cyrraedd y ffigwr 210 yn gynt na'r disgwyl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio nad oes, yn ei farn ef, lawer o le i fuddsoddi rhagor yn y safle hwnnw. Wrth gamu ymlaen, bydd ysgol sydd â lle i 210 o ddisgyblion yn cael ei chreu yng Ngors-las a bydd adolygiad yn cael ei gynnal ar yr ysgolion cyfagos. Os bernir wedyn fod angen buddsoddi rhagor yn yr ardal honno yna bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r holl ysgolion yn yr ardal honno; 

·       Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad y bydd y Cyngor yn monitro effeithiau'r cynnig ar ysgolion cyfagos, ac os bydd y cynnig yn cael effaith niweidiol ar ddarpariaeth, yna bydd camau priodol yn cael eu hystyried. Gofynnwyd i'r swyddogion am ragor o wybodaeth am hyn. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio y byddai hyn yn cynnwys adolygiad o ysgolion eraill yn yr ardal a'r opsiwn o leihau'r nifer derbyn ar gyfer yr ysgol newydd petai angen gwneud hynny;

·       Gofynnwyd a oedd y swyddogion wedi edrych ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I DDARPARU DARPARIAETH FEITHRIN YN YSGOL PARC Y TYWYN DRWY GYNYDDU YR YSTOD OEDRAN O 4-11 i 3-11. pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd B. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod ymarfer ymgynghori ffurfiol wedi cael ei gynnal o 6 Tachwedd, 2017 tan 17 Rhagfyr, 2017 ynghylch y cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu'r ystod oedran o 4-11 i 3-11. Cyflwynwyd canlyniadau'r ymarfer ymgynghori i'r Pwyllgor i'w hystyried ar 25 Ionawr.

 

Ar 26 Chwefror, 2018 rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ganiatâd i gyhoeddi Hysbysiad Statudol.  Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 5 Mawrth, 2018 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor.  Yn dilyn diwedd y cyfnod hwn ar 1 Ebrill, 2018, nid oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a ddylai'r cynnig, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, gael ei weithredu ai peidio.

 

Nodwyd petai'r Cyngor Sir yn cytuno i weithredu'r cynnig, bydd Ysgol Parc y Tywyn yn gallu darparu darpariaeth feithrin yn adeilad newydd yr ysgol o 1 Medi, 2018.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch y broses gwneud cais ar gyfer addysg 3-11 a 4-11 o ran bod ymatebion yn dod i law ar gyfer y cyntaf ond nid y llall. Esboniodd y Cadeirydd y byddai'r mater hwn yn rhan o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ynghylch Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Chwarae yn Sir Gaerfyrddin;

·       Gofynnwyd ai bwriad yr Awdurdod yw gwneud pob ysgol yn un 3-11, ac eglurodd y Cadeirydd nad oes penderfyniad strategol wedi cael ei wneud ynghylch hyn. Ychwanegodd y byddai'r mater hwn hefyd yn rhan o adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu'r ystod oedran o 4-11 i 3-11, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael ei weithredu.

 

 

7.

ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN 2015/16 - MONITRO CYNLLUN GWEITHREDU. pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod ar 24 Medi, 2015, penderfynodd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant glustnodi gwella perfformiad y dysgwyr hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn un o'i flaenoriaethau ar gyfer 2015/2016. Er mwyn datblygu'r mater hwn, cytunodd y Pwyllgor i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i ymchwilio i'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr sydd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, a'i adolygu.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y camau a gawsai eu cymryd o ran gweithredoedd allweddol yn deillio o gasgliadau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ynghylch datblygiadau pellach o fewn y maes darpariaeth hwn.

 

Darparodd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen sylfaen gref ar gyfer camau gweithredu a meddylfryd presennol yr adran o ran darparu gwasanaethau yn y maes hwn. Mae'r adran yn parhau i roi pwyslais cryf ar gau bylchau cyrhaeddiad, gan gydweithio'n agos ag ysgolion. Mae trefniadau arolygu newydd Estyn, ar gyfer awdurdodau lleol, yn cyfiawnhau rhoi sylw manwl i gynnydd yr holl grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ar y cyrion a'r rhai sy'n agored i niwed. Mae hyn yn gymhelliad pellach i fynd ar drywydd ein nod o sicrhau llesiant, tegwch a chyflawniadau uchel i'n holl bobl ifanc, waeth beth yw eu magwraeth neu eu hamgylchiadau presennol neu yn y gorffennol. Felly, bydd y datblygiad strategol a gweithredol yn parhau, gan ddarparu rhywbeth o werth ar ôl gwaith gwerthfawr y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd i'r swyddogion a oes ganddynt unrhyw wybodaeth ynghylch yr effaith y bydd Credyd Cynhwysol yn ei chael ar brydau ysgol am ddim, oherwydd nid oes llawer o deuluoedd sydd ar incwm isel yn gymwys ar hyn o bryd. Er nad oedd ateb pendant gan swyddogion ar hyn o bryd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod ysgolion yn rhagweithiol o ran annog rhieni i gael prydau ysgol am ddim. Mae yna broblemau hefyd gan fod rhai teuluoedd yn rhy falch i hawlio, fodd bynnag, mae cyflwyno'r systemau biometrig yn helpu yn hyn o beth;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gweld cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim pan gyflwynwyd Credyd Cynhwysol a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai'r arferion da hyn yn cael eu rhannu. Rhoddodd Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod i'r Pwyllgor ein bod yn cau'r bwlch rhwng dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a rhai nad ydynt yn eu cael am ddim, a bydd rhannu arferion da yn cael lle amlwg yn hyn o beth;

·       Er y gobeithir y bydd cais Erasmus yr Awdurdod yn llwyddiannus, gofynnwyd i'r swyddogion a oes Cynllun B yn ei le. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gweithio ar nifer o ddewisiadau eraill;

·       Cyfeiriwyd at bwysigrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion a mynegwyd pryder nad oedd y ffigurau ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi dod i law o hyd, felly nid oes modd cwblhau'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARIAD RHAGLEN TIC I YSGOLION. pdf eicon PDF 133 KB

Cofnodion:

Gan gyfeirio at Gofnod 6 cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2018, cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) ar gyfer Ysgolion.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod nifer o ffrydiau gwaith wedi cael eu datblygu sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer ysgolion gan ystod o wasanaethau'r cyngor drwy Gytundebau Lefel Gwasanaeth, ac ystod o faterion craffu lle y gallai trefniadau corfforaethol neu gydweithredol greu arbedion i ysgolion sy'n eu gweithredu.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad yn crynhoi'r cynnydd hyd yn hyn oedd yn dangos yr arbedion posibl a'r union arbedion y gellid bod wedi eu gwneud/sydd wedi cael eu gwneud.

 

PENDERFYNWYD

 

8.1    derbyn yr adroddiad a'r cyflwyniad;

 

8.2    bod y Pwyllgor yn cael adroddiad arall am y wybodaeth

         ddiweddaraf ymhen chwe mis.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau