Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant
Dydd Iau, 20fed Rhagfyr, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D.T. Williams a Mrs G. Cornock-Evans (Rhiant-lywodraethwr - Caerfyrddin).

 

Wrth nodi mai hwn fyddai'r cyfarfod olaf lle byddai Mrs Jean Voyle-Williams yn bresennol ac yn cyflawni ei rôl fel Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru, diolchodd y Cadeirydd i Mrs Voyle-Williams am ei gwasanaeth a dymunodd yn dda iddi ar gyfer y dyfodol. Diolchodd Mrs Voyle-Williams i'r Cadeirydd, i'r Pwyllgor ac i'r swyddogion am eu gwaith caled o ran craffu maes gwaith mor bwysig sydd o fudd i blant ac addysg yn y Sir.

 

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Math o Fuddiant

L. Bowen

4, 5, 6 a 7

Mae ei fam yn gweithio yn Ysgol Llangynnwr, a'i ddyweddi yn gweithio yn yr Uned Gyfieithu

B.W. Jones

4, 5, 6 a 7

Mae ei mab yn athro yn Ysgol Parc y Tywyn

D. Jones

4 a 5

Mae ei chwaer a'i brawd-yng-nghyfraith yn gweithio yn yr Adran Addysg

D. Jones

4, 5, 6 a 7

Mae ei meibion yn aelodau o Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin

G. Jones

4 a 5

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

V. Kenny

4 a 5

Mae ei merch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

E. Schiavone

4, 5, 6 a 7

 

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[noder:  Roedd y Cynghorwyr L. Bowen, B.W. Jones, D. Jones, G. Jones, E. Schiavone a Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2018, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 i 2021/22 a chymeradwyodd yr adroddiad at ddibenion ymgynghori.

 

Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol drosolwg ar gyfer yr aelodau o'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod yna bosibilrwydd o setliad negyddol, a bod setliad negyddol o 0.5% yn gyfwerth ag £1.1 miliwn mewn termau real. Wrth baratoi at y toriadau i'r setliad, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i nodi arbedion effeithlonrwydd/rhesymoliadau pellach yn y gwasanaeth.

 

Mae'r Gyllideb Ddrafft yn ystyried effaith y cynnydd yng Nghyfraniadau'r Cyflogwr ar gyfer Pensiynau Athrawon o 16.48% i 23.6%, sef cost o £2.75 miliwn yn 2019/20 ac £1.75 yn 2020/21. Mae'n debygol y bydd hyn yn cael ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru drwy'r Llywodraeth Ganolog.

 

Mae grant o £15 miliwn bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol a disgwylir mai oddeutu £900,000 fydd cyfran Sir Gaerfyrddin, ond nodwyd bod rhaid defnyddio'r grant ar gyfer hyfforddiant proffesiynol ar hyn o bryd. Nid ydym yn gwybod a fydd hyn yn newid.

 

Yn bennaf mae'r pwysau ar y gyllideb ynghylch Addysg a Gwasanaethau Plant oherwydd Diswyddiadau Cynnar Gwirfoddol mewn ysgolion, darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig, diffyg ariannol yn incwm CLG y Gwasanaeth Cerdd a Lleoliadau'r tu allan i'r Sir. Yn gyffredinol, mae'r Awdurdod yn rhagweld amrywiant o £2.237 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn y bydd rhaid ei fodloni o'r Gweddillion Cyffredinol.

 

Crynhodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol drwy ddweud bod cyllidebau ysgol wedi cael eu diogelu'n rhannol yn y blynyddoedd blaenorol a'u bod yn cael 1% yn uwch na'r taliad cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae newidiadau diweddar wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r Awdurdod a gofynnir i ysgolion reoli eu costau eu hunain yn unol â chyllideb niwtral (gan gynnwys codiadau cyflog a'r costau cyffredinol megis cyfleustodau a gwasanaethau). Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol a byddai'r £900,000 a gynigir ar gyfer hyfforddiant proffesiynol yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran cael gwared ag unrhyw ddiffyg cyllidebol yn y maes hwn.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr adran o dan bwysau cynyddol yn ariannol gan nad oes newid wedi bod yn y gyllideb, a'i bod yn anodd nodi'r meysydd ar gyfer gostyngiadau.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y toriadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Lles Addysg a gofynnodd fod y rhain yn cael eu hailystyried. Teimlwyd y byddai gostyngiad yn y gwasanaeth hwn yn rhoi pwysau ychwanegol ar ysgolion i reoli absenoldeb a mynd i'r afael â materion ynghylch absenoldeb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y Gwasanaeth Lles Addysg yn darparu gwasanaeth statudol o ran mynd i'r afael ag absenoldeb, felly byddai angen i'r ddarpariaeth barhau er y byddai ar ffurf wahanol. Y lefel bresennol o ran absenoldeb a bennir gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES YR ADRAN ADDYSG A PHLANT 2019/20 - 2022 pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr L. Bowen, B.W. Jones, D. Jones, G. Jones ac E. Schiavone a Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant drosolwg o'r adroddiad ac yn benodol tynnodd sylw'r aelodau at yr eitemau canlynol-

  • Roedd nifer y staff cymorth mewn ysgolion (rhai nad ydynt yn dysgu - mewn ysgolion) ar gyfradd uwch nag o'r blaen; gyda 1800 o staff cymorth a 1700 o staff addysgu
  • Blaenoriaethau'r adran ar gyfer 2019-2023

 

 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad –

  • Yn wreiddiol roedd Rhaglen Gwella'r Gwyliau'r Haf yn gynllun peilot dwy flynedd a ariannwyd gan grant. Bydd yr Awdurdod yn ariannu'r prosiect o hyn ymlaen, ond bydd £0.4 miliwn ar gael ledled Cymru cyn hir er mwyn ariannu'r math hwn o waith.
  • O dan y Gwasanaeth Trawsnewid Dysgu yn y Cynllun Gweithredu Cryno Is-adrannol, nodwyd y byddai'r Adran yn 'gweithio gyda phartneriaid yn y Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu Ranbarthol i ddatblygu mwy o gyfleoedd ar gyfer llwybrau dysgu a dilyniant gan gynnwys Addysg Bellach/Addysg Uwch a gwaith.' Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wrth yr aelodau fod perthynas waith dda wedi'i meithrin â'r Adran Adfywio Economaidd a bod cynnydd yn cael ei gyflawni. Roedd trefniadau cyllido'r prosiect yn dal i gael eu hystyried.
  • Pwysleisiodd yr aelodau pa mor bwysig yw'r Gwasanaeth Cerdd gan ddweud ei fod wedi'i restru fel cryfder mawr yn yr adroddiad, ond mae hefyd wedi'i restru fel maes allweddol i'w wella. Gofynnwyd am sicrwydd y byddai'r Gwasanaeth Cerdd yn parhau ac y byddir yn dod o hyd i gyllid i sicrhau hyn. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wrth y Pwyllgor fod adroddiad "Dyfodol Cynaliadwy a Llwyddiannus i'r Gwasanaeth Cerdd" yn cael ei baratoi sy'n amlinellu opsiynau amrywiol i ddiogelu dyfodol y gwasanaeth. Mae Sir Gaerfyrddin yn disgwyl cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru yn 2019.
  • Cyfeiriodd yr adroddiad at y gweithdrefnau statudol sy'n gysylltiedig â ffedereiddio, ynghyd â chyfeirio'n benodol at resymoli, a gofynnodd yr aelodau a oedd gyriant i ffedereiddio ysgolion. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Moderneiddio fod y term "rhesymoli" yn cyfeirio at y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion a'r gyriant o blaid ffedereiddio.  Ychwanegodd fod cau ysgol yn cynnwys proses statudol y mae'n rhaid i bob Awdurdod ei dilyn. Mae ysgolion wedi cael eu nodi ond mae cau unrhyw ysgol yn fater emosiynol ac nid yw'n cael ei wneud heb broses ymgynghori helaeth.
  • Ym mesur 11 yr adroddiad, nodwyd 'nifer y diwrnodau y mae wedi'i gymryd i'r holl blant a roddwyd i'w mabwysiadu (yn chwarter 4) gael eu mabwysiadu, o'r dyddiad pryd y penderfynwyd y dylid eu mabwysiadu i'r dyddiad pryd y cawsant eu rhoi i'w mabwysiadu.' Nododd yr aelodau gynnydd sylweddol o 625 o ddiwrnodau yn 2016/17 i 2,388 o ddiwrnodau yn 2017/18. Dywedodd y Rheolwr Perfformiad a Gwybodaeth fod hyn wedi digwydd yn fwy na thebyg oherwydd achos cymhleth, ac ychwanegodd y byddai hi'n gofyn i Bennaeth y Gwasanaethau Plant ddarparu ymateb mwy manwl ar gyfer yr aelodau.
  • Cyfeiriwyd at  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES ERW 2018/19 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y  Cynghorwyr L. Bowen, B.W. Jones, D. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cynghrair â chyfansoddiad cyfreithiol o chwe Awdurdod Lleol Cyfagos yw ERW (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro a Phowys).  Mae ei swyddogaethau'n cyd-fynd ac yn cydymffurfio â'r canllawiau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ynghylch Cynllun Busnes ERW 2018/19 a oedd yn nodi'r amcanion allweddol, arferion a chyfeiriad gwaith y rhanbarth. Mae'r cynllun busnes yn cyd-fynd yn broffidiol ag agenda gwella ysgolion lleol yr Awdurdod, ac felly'n sicrhau buddion a chynnydd ar gyfer holl leoliadau ysgol Sir Gaerfyrddin. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol mewn perthynas â'r cyflwyniad a'r adroddiad -

  • Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhai Awdurdodau Lleol wedi beirniadu ERW a chyhuddo'r cynghrair o osgoi rhoi arian i'r gwasanaethau rheng flaen. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn bygwth tynnu'n ôl o'r cynghrair a gofynnwyd i'r swyddogion a ydynt yn pryderu. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod pryderon wedi bod ond bod profiad yr Awdurdod o ran ERW wedi bod yn addawol iawn. Fel cynghrair cymharol newydd, dim ond dechrau ydyw ar hyn o bryd ac mae rhai tensiynau rhwng y Cynghorau ac ERW ond mae pwyslais cryf ar oresgyn y tensiynau hyn a dod o hyd i ffordd o symud ymlaen. Mae strwythur rheoli newydd yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r broses hon.
  • Nodwyd mai ar gyfer 2018/19 yr oedd y Cynllun Busnes a gyflwynwyd, sef cyfnod sy'n dod i ben erbyn hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod hyn wedi digwydd oherwydd newid yn yr arweinyddiaeth a'r gofyniad i fodloni Llywodraeth Cymru er mwyn i gronfeydd gael eu rhyddhau.
  • Mae'r elfen Arweinwyr Dysgu o'r prosiect wedi arwain at secondio staff talentog o ysgolion lleol. Cafwyd ymateb cymysg i'r Arweinwyr Dysgu gan fod diffyg amser i wneud y gwaith sy'n ofynnol a chafwyd ymateb cymysg gan benaethiaid. O ganlyniad i hyn mae'n debygol na fydd y rhan hon o'r prosiect yn parhau.
  • Codwyd y mater o ddiffyg cynllunio olyniaeth o ran hyfforddi penaethiaid fel pryder, a gofynnodd yr aelodau pa gamau a oedd yn cael eu cymryd i wella'r sefyllfa. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yna gyfleoedd am hyfforddiant ond roedd y rheiny a gwblhaodd yr hyfforddiant yn llwyddiannus yn symud i ysgolion mwy o faint yn syth. Yn ogystal mae yna raglen arwain estynedig i annog dirprwy benaethiaid i symud i arweinyddiaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

7.

DIWEDDARIAD RHAGLEN TIC I YSGOLION pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr L. Bowen, B.W. Jones, D. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd cyflwyniad gan yr Uwch-reolwr - Ysgolion TIC, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) – Cymorth ar gyfer Ysgolion.

 

Nod y Rhaglen TIC i Ysgolion yw defnyddio egwyddorion TIC o weithio ar y cyd, lleihau gwastraff a rhannu arfer da i gynorthwyo ysgolion i leihau costau, ond ar yr un pryd, diogelu ansawdd gwasanaethau rheng flaen a gwella deilliannau.  Mae hefyd yn ceisio cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion a'r Awdurdod Lleol drwy weithio mewn partneriaeth.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol mewn perthynas â'r cyflwyniad a'r adroddiad -

 

  • Pan ofynnwyd a oedd unrhyw brosiectau'n cynnwys ynni adnewyddadwy, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod 16 o ysgolion wedi'u nodi ar gyfer rhaglen adnewyddu gan Lywodraeth Cymru lle caiff y benthyciad ei ad-dalu yn sgil unrhyw arbedion effeithlonrwydd a wneir o ran ynni;
  • Cyfeiriwyd at yr ysgolion gwledig sy'n cael trafferth â chostau o ran cludo plant i weithgareddau amrywiol a gofynnwyd i'r swyddogion a ydynt wedi ystyried cysylltu â chwmnïau bysiau lleol i drafod y prisiau.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod hyn yn rhywbeth y mae'n bosibl ei ychwanegu at y prosiect, ond ei fod yn broblemus gan fod y ddarpariaeth yn tueddu i fod yn lleol;

 

PENDERFYNWYD 

 

7.1       bod y wybodaeth yn cael ei nodi;

 

7.2       bod y Pwyllgor yn cael y copi diweddaraf o'r arbedion sydd wedi'u gwneud hyd yn hyn drwy'r rhaglen.

 

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o eitemau sydd i ddod.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor na fyddai Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol yn cael ei gwblhau cyn y cyfarfod ym mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 24 Ionawr 2019, heb Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol.