Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr L. Bowen ac I.W. Davies a Mrs G. Cornock-Evans a Mr J. Davies (Aelodau rhiant-lywodraethwyr) ac oddi wrth y Cynghorydd K. Davies, A. McPherson ac E. Morgan (aelodau o'r Pwyllgor Gofal Cymdeithasol ac Iechyd).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Math o Fuddiant

B.W. Jones

6 – Fforwm Derbyniadau Sir Gaerfyrddin – Adolygu Cylch Derbyn 2018/19 a Threfniadau Derbyn 2019/20 a 2020/21

Mae ei mab yn athro yn Ysgol Parc y Tywyn

B.W. Jones

7 – Côd Trefniadaeth Ysgolion Rhaglen Moderneiddio Addysg 2018

Mae ei mab yn athro yn Ysgol Parc y Tywyn

D. Jones

5 – Cyllideb Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar a Dileu Swyddi

Mae ei chwaer a'i brawd-yng-nghyfraith yn gweithio yn yr Adran AddysgDD

D. Jones

8 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2018/19

Mae ei meibion yn aelodau o Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin

G. Jones

5 – Cyllideb Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar a Dileu Swyddi

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

E. Schiavone

5 – Cyllideb Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar a Dileu Swyddi

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

GOFALWYR IFANC SIR GAERFYRDDIN A GWASANAETH OEDOLION IFANC. pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ddarparu trosolwg o'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

-  gofalwr ifanc yw rhywun o dan 18 oed y mae ei fywyd yn gyfyngedig oherwydd yr angen i  gymryd cyfrifoldeb am aelod o'r teulu oherwydd salwch, anabledd, iechyd meddwl neu broblemau alcohol a chyffuriau;

-  gofalwr sy'n oedolyn ifanc yw rhywun sydd rhwng 16 a 25 oed;

-  Mae 11,500 o ofalwyr ifanc yng Nghymru;

-  cyfartaledd oedran gofalwr ifanc yw 12 mlwydd oed;

-  mae 64% o ofalwyr ifanc wedi bod yn gofalu am 3 blynedd neu ragor ac mae 1:5 yn colli ysgol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu;

-  mae 1 ym mhob 3 gofalwr ifanc yn treulio rhwng 11 ac 20 awr yr wythnos yn gofalu;

-  mae 1 ym mhob 12 disgybl uwchradd yn ofalwyr ifanc;

-  mae llawer o faterion yn gallu effeithio ar ofalwyr ifanc gan gynnwys unigrwydd, iselder; diffyg cwsg, anawsterau addysgol, ynysu cymdeithasol, materion ymddiriedaeth, bwlio a meddwl am hunanladdiad.

 

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn cefnogi tua 40 o ofalwyr ifanc hyd at 18 oed.  Mae'r cymorth hwn yn cynnwys gweithgareddau yn ystod y gwyliau, cyfeirio at asiantaethau priodol, seibiant oddi wrth ofalu, cymorth â ffocws, eiriolaeth a chefnogaeth cymheiriaid. 

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr y cyflwyniad:-

 

·       Gofynnwyd sut yr oedd y gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo mewn colegau, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc sy'n ymwneud yn bennaf â cholegau lle maent yn cynnal sesiynau galw heibio ddwywaith yr wythnos.  Mae'r gan y gwasanaeth gysylltiadau rhagorol â mentoriaid yn y colegau yn y Sir;

·       Gofynnwyd sut y mae'r gwasanaeth yn cefnogi plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, y dywedwyd wrth y Pwyllgor, fel awdurdod, bod gennym bolisi Addysg Ddewisol yn y Cartref ac mae'r plant hynny sy'n cael eu haddysgu yn y cartref wedi cael eu nodi fel gofalwyr a gallent fod yn agored i newid felly maent yn cael eu monitro a'u cefnogi gan y gwasanaeth.  Rhaid i unrhyw blant sydd wedi cofrestru mewn ysgol ond yn dewis tynnu'n ôl hysbysu'r Awdurdod Lleol, fodd bynnag, os nad yw plentyn erioed wedi cofrestru mewn ysgol nid oes gofyniad i gofrestru ac mae'n fwy anodd i nodi'r plant hyn.  Yn y gorffennol, roedd y ffurflenni a ddefnyddiwyd gan y gwasanaeth o ran iechyd meddwl rhieni dim ond yn gofyn a oes unrhyw blant yn y cartref.  Mae'r ffurflenni hyn yn cael eu diwygio i ofyn a yw'r plant mewn addysg llawn amser a fydd yn cynorthwyo yn hyn o beth;

·       Cyfeiriwyd at bwysigrwydd nodi gofalwyr ifanc a gofynnwyd i swyddogion a ydynt yn mynychu gwasanaethau ysgol a holi'r rhai hynny sy'n gofalu am aelodau o'r teulu i godi eu dwylo.  Cynghorwyd y Pwyllgor nad yw hyn yn cael ei wneud mwyach gan nad oes llawer o ofalwyr ifanc am i bobl wybod.  Yn lle hynny, defnyddir mentrau eraill fel cystadlaethau i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYLLIDEB YMDDEOLIAD GWIRFODDOL CYNNAR A DISWYDDO. pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

NODER:  Roedd y Cynghorwyr D, Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar a Diswyddo, yn dilyn cais gan y Pwyllgor yn gynharach yn y flwyddyn am fanylion pellach am y dull a ddefnyddir a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Dileu Swyddi mewn Ysgolion ac Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar.

 

Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn nodi bod gwariant mewn perthynas â diswyddo neu ymddeoliad cynnar unrhyw berson a gwariant mewn perthynas ag enillion athrawon yn rhan o gyllideb yr Awdurdod Lleol.  Mae'r costau hyn yn y tu allan i reolaeth uniongyrchol yr adran ond bydd yr adran yn ceisio gweithio gydag ysgolion ac undebau llafur i leihau effaith gyffredinol y costau o ran terfynu staff.

 

Mae staff ysgolion yn cael eu recriwtio gan Gyrff Llywodraethu ac maent yn weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin.  Gall ysgolion gael diffyg yn y gyllideb oherwydd ystod o faterion ond mae hyn yn bennaf o  ganlyniad i ostyngiad yn nifer y disgyblion ar y gofrestr. Pan fydd hynny'n digwydd gall arwain at adolygiad o ran staffio a gostyngiadau posibl yng ngweithlu'r ysgol.  Pan nad oes angen y staff mwyach y Cyngor sy'n gyfrifol am y costau o ryddhau'r staff. 

 

Mae'r gyllideb a ddyrannwyd i fynd i'r afael â Chostau Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar a Diswyddo gan yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant.  Mae'r rhan fwyaf o'r gyllideb mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn a chostau eraill ar gyfer staff a gafodd eu rhyddhau yn ystod y blynyddoedd blaenorol.  Bydd elfennau o'r costau hyn yn parhau hyd nes y bydd pensiynwyr yn marw.  Mae llai na £100k ar gael yn y gyllideb i fodloni'r gwariant newydd a ddaw yn y flwyddyn, a rhagamcanir y bydd gorwariant sylweddol yn ystod y flwyddyn bresennol. Am nifer o flynyddoedd mae'r gyllideb hon wedi bod o dan bwysau sylweddol ac mae wedi gorwario symiau sylweddol yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf.  Y rhagolygon presennol yw y bydd gorwariant o £300k yn y gyllideb yn 2018/19.

 

Gyda chynlluniau pellach i resymoli'r rhwydwaith ysgolion drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, mae rhai ysgolion cynradd gwledig yn rhag-gweld gostyngiad yn nifer y disgyblion er gwaethaf cynnydd cyffredinol yn y gyfradd geni, a gyda rhagolwg y bydd nifer y disgyblion ysgol uwchradd yn gostwng am ychydig flynyddoedd eto, nid oes fawr o obaith y bydd y pwysau hyn ar y gyllideb yn lleihau yn y dyfodol agos.  Mae swyddogion wedi bod yn adolygu prosesau ac arferion er mwyn rheoli gwariant yn well a sicrhau bod pob achos busnes a gyflwynwyd yn cael ei herio'n gadarn.  Mae rhai newidiadau a wnaed hyd yma yn cynnwys:-

 

- Y Polisi Dewisol ynghylch Ymddeol yn Gynnar a Dileu Swyddi ac mae polisïau Recriwtio Mwy Diogel Ysgol wedi'u hadolygu a'u diweddaru;

- mae'r elfen "blynyddoedd ychwanegol" dewisol wedi'i dileu;

- cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng Cyllid, Adnoddau Dynol ac

  Addysg i ystyried yr agenda hwn;

- mae'r holl strwythurau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

FFORWM DERBYN SIR GAERFYRDDIN - ADOLYGU CYLCH DERBYN 2018/19 A THREFNIADAU DERBYN 2019/20 A 2020/21. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd B.W. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai adolygiad o Gylch Derbyn 2018/19 a'r Trefniadau Derbyn ar gyfer 2019/20 a 2020/21, yn dilyn cais gan y Pwyllgor yn gynharach yn y flwyddyn am adroddiad ar y broses derbyn i ysgolion ac apeliadau.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn cynnig trosolwg manwl a datganiad sefyllfa o ran y trefniadau derbyn i ysgolion. Mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Fforwm Derbyniadau bob blwyddyn i'w ystyried a'i adolygu.   

 

Nodwyd o dan y Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1988 pennwyd swyddogaethau derbyn i Awdurdodau Lleol, cyrff llywodraethu Ysgolion a gynhelir, Panelau Apeliadau Derbyn a Fforymau Derbyn.  Mae dyletswydd statudol ar bob un o'r cyrff hyn i weithredu yn unol â'r Côd Derbyn i Ysgolion a'r Côd Apelau Derbyn i Ysgolion.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a oedd unrhyw fwriad i symud o dderbyn tair gwaith flwyddyn i unwaith ar gyfer plant 3 a 4 oed, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod hyn yn cael ei drafod ar hyn o bryd fel rhan o'r adolygiad o drefniadau derbyn yr Awdurdod;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith pan fydd plentyn ag AAA yn ymuno ag ysgol nid oes unrhyw gymorth ychwanegol ar gyfer yr ysgol a gofynnwyd i'r swyddogion a oes unrhyw gynlluniau i newid hynny oherwydd mae'n rhoi llawer o straen ar yr ysgol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor mewn amgylchiadau o'r fath bod pob achos yn cael ei ystyried ar sail unigol.  Nid oes arian ar gael, fodd bynnag, defnyddir yr adnoddau mor effeithiol ac effeithlon â phosibl;

·       Cyfeiriwyd at y capasiti yn y sector a gofynnwyd i swyddogion a yw'r Rhaglen Moderneiddio Addysg a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi cael eu hystyried yn hyn. Dywedwyd wrth y Pwyllgor o ran ysgolion cynradd fod hyn yn bennaf ar sail buddsoddiad. Ar gyfer ysgolion uwchradd, os byddai cynnydd neu ostyngiad sylweddol yn y capasiti yna mae'n rhaid dilyn proses statudol.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

 

7.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - COD TREFNIADAETH YSGOLION 2018. pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

NODER:  Roedd y Cynghorydd B.W. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Moderneiddio Addysg a’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018.  Daeth y Côd blaenorol i rym ar 1 Hydref 2013.  Yn dilyn tair blynedd o weithredu roedd Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r Côd, gan fyfyrio ynghylch y dysgu a'r adborth a gafwyd.

 

O 1 Tachwedd, 2018 roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi ar waith Côd Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig. Mae'r newidiadau hyn yn newid y gofynion o ran bwrw ymlaen â chynigion sy'n cynnwys newidiadau i ysgolion, ysgolion newydd neu gau ysgolion.  Y newid mwyaf sylweddol yw cryfhau'r Côd o ran rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Holwyd ynghylch y diffiniad o "ysgol wledig" a gofynnwyd i swyddogion a yw'r ysgolion ar y rhestr wedi'u dilysu er mwyn sicrhau eu bod mewn gwirionedd yn ysgolion gwledig.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd y wybodaeth wedi cael ei dilysu gan yr Awdurdod oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio fformiwla dosbarthu "gwledig a threfol" ar gyfer nodi ysgolion ar draws Cymru;

·       Cyfeiriwyd at y rhestr o ysgolion gwledig a gofynnwyd i swyddogion pam nad oedd Ysgol Llanddarog ar y rhestr. Cynghorwyd y Pwyllgor dyma pam mae swyddogion wedi cymryd y cam i gynnwys y cam ychwanegol yn y broses ymgynghori ar gyfer yr holl ysgolion er mwyn cadw'r broses mor deg â phosibl.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd D. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Addysg a Phlant a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Roedd y Gwasanaeth Addysg a Phlant yn rhagweld gorwariant o £1,905k o ran y gyllideb refeniw a +£756k o amrywiant  yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod ysgolion yn pennu eu cyllidebau ym mis Mawrth, ond nid ydynt yn cael eu dyraniad grant tan fis Hydref a mynegwyd pryder eu bod erbyn diwedd y flwyddyn mewn diffyg oherwydd nad oeddent wedi cael cymaint ag yr oeddent yn ei ddisgwyl.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion hefyd yn rhwystredig â'r sefyllfa hon. Y llynedd cafwyd yr oedi hiraf, fodd bynnag, yr oedd hyn y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod;

·       Gofynnwyd i swyddogion am y sefyllfa bresennol o ran cyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhwng £52k-£58k wedi cael eu neilltuo ar gyfer y gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf.  Mae papur yn cael ei gynhyrchu ar ddyfodol y gwasanaeth a gaiff ei gyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol i'w hystyried yn y lle cyntaf;

·       Cyfeiriwyd at broblemau gyda'r Gwasanaeth Iechyd o ran nad yw'n cyfrannu ei gyfran a gofynnwyd i swyddogion am y sefyllfa bresennol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn parhau i wynebu anawsterau wrth geisio argyhoeddi cydweithwyr yn y maes iechyd i roi eu cyfraniad.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG & PHLANT 2017/18. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2017/18.  Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y materion hynny a gyfeiriwyd at y Bwrdd Gweithredol a Phwyllgorau Craffu eraill, neu a gafwyd ganddynt.  Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 2017/18.

 

 

10.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG & PHLANT. pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar y cynnydd a gyflawnwyd mewn perthynas â

gweithredoedd, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd yn deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno’r adroddiadau canlynol:-

 

-  Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid

-  Hunan-werthuso Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr o eitemau sydd ar y gweill ar gyfer y cyfarfod nesaf. 

O ystyried yr angen i neilltuo digon o amser ar gyfer craffu effeithiol ar y gyllideb refeniw a'r cynllun busnes adrannol, teimlwyd y dylid cyfyngu ar nifer yr eitemau eraill ar yr agenda.  Felly, cynigiwyd symud y fenter Ysgolion Iach i gyfarfod ym mis Ionawr ac o ganlyniad, symud y Parth Plant newydd o gyfarfod mis Ionawr i gyfarfod mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Rhagfyr, 2018 heb

 yr adroddiad ar y fenter Ysgolion Iach, yn cytuno.

 

 

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 27AIN MEDI, 2018. pdf eicon PDF 192 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Medi 2018, gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau