Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.W. Jones ac E.G. Thomas ac wrth Mrs J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

D. Jones

 

5 – Y wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

 

Mae ei chwaer a'i brawd-yng-nghyfraith yn gweithio yn yr Adran Addysg.

 

G. Jones

 

5 – Y wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

 

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg.

 

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

RHAGLEN TRAWSNEWID ADY (ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL). pdf eicon PDF 431 KB

Cofnodion:

[NODER:  Y Cynghorwyr D. Jones a G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a derbyn cyflwyniad a roddai drosolwg ar y cynnydd a'r datblygiadau ynghylch Rhaglen Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Cafodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ei basio'n unfrydol gan Lywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr, 2017.  Cefnogir y Ddeddf gan reoliadau a Chôd Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, a fydd yn cael eu diwygio cyn ymgynghori yn ystod tymor yr Hydref 2018. Byddant wedyn yn cael eu cyflwyno ger bron Llywodraeth Cymru ac yn cael eu cyhoeddi, a rhagwelwyd y byddent ar waith erbyn diwedd 2019.

 

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg "Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yw canolbwynt ein rhaglen i weddnewid yr addysg a'r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu ein diwygiadau, rydym wedi ymgynghori'n eang ynghylch sut y dylem roi'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd ar waith.

 

Tri amcan cyffredinol y Bil yw:-

 

·       Fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu iau sydd ag ADY, a phobl ifanc ag ADY mewn ysgolion neu addysg bellach (yn hytrach na dwy system ar wahân ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig hyd at 16 oed a Chynlluniau Dysgu Sgiliau ôl 16-19, y mae deddfwriaeth ar wahân ar gyfer y ddau ar hyn o bryd);

·       Proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro, sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol (gan gynnwys dyletswyddau ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i gydweithio â'i gilydd drwy Gynllun Datblygu Unigol statudol i bob dysgwr sydd ag ADY);

·       System deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol wneud trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau, diwygio system y barnwyd gan adolygiadau blaenorol ei bod yn 'gymhleth, dryslyd a gwrthwynebol’).

 

Fel rhan o'r Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach, cychwynnodd Llywodraeth Cymru grant ddwy flynedd, cyn y broses ddeddfu, i gefnogi prosiectau cydweithredol ar draws pob un o'r pedwar consortia. Y diben oedd datblygu arferion arloesol yn barod ar gyfer cyflwyno'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. 

 

O safbwynt Sir Gaerfyrddin, mae cynnydd wedi cael ei wneud o ran dull cydweithredol ar gyfer gwella darpariaeth ADY yn ein holl ysgolion.  Mae gennym sail gadarn o sgiliau a phrofiad sy'n cefnogi'r agenda Trawsnewid yn dda. 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a fyddai'r rhai sydd eisoes â datganiad yn trosglwyddo'n awtomatig i'r system newydd a sut y bydd hyn yn effeithio arnynt hyd nes bod y system newydd yn cael ei chyflwyno yn 2020. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod datganiad yn ddogfen gyfreithiol a bydd yn aros yr un fath hyd nes y bydd yn troi'n Gynllun Datblygu Unigol dan y system newydd;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd yn rhaid i ysgolion benodi swyddogion hyfforddedig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT AR GYFER 2018/19. pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2018/19, a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Cafwyd ceisiadau am gynnwys yr adroddiadau canlynol yn rhan o'r Blaenraglen Waith:-

 

- £0.5m o gyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion;

- continwwm iaith y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a throsglwyddo o ysgolion cynradd;

- TIC;

- fformiwla cyllido ysgolion dirprwyedig (gan gynnwys cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol);

- proses derbyn i ysgolion ac apeliadau;

- dysgu oedolion yn y gymuned.

 

Nid oedd rheidrwydd, ym marn y Pwyllgor, i gynnwys adroddiadau gwybodaeth megis monitro cyllideb a chwynion a chanmoliaeth yn y Flaenraglen Waith oherwydd gellid dosbarthu'r rhain i'r Pwyllgor drwy e-bost a phetai unrhyw faterion yn peri pryder, gellid tynnu sylw at y rhain yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Graffu.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1     i gynnwys yr eitemau a nodwyd uchod ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19;

6.2     dosbarthu adroddiadau ynghylch Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ac adroddiadau Cwynion a Chanmoliaeth i aelodau'r Pwyllgor drwy e-bost yn y dyfodol.

 

 

 

7.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG & PHLANT. pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.


 

 

 

8.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 23AIN EBRILL, 2018. pdf eicon PDF 316 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 23 Ebrill, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau