Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Jones, G. Jones ac E.G. Thomas; Mrs Jean Voyle-Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru) a Mrs Kate Hill a Mrs Alex Pickles (Aelodau Rhiant-lywodraethwyr)

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd D. Price

Cofnod Rhif 10 – Cynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i Gynyddu Nifer Lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210

Ef yw'r Aelod Lleol ac mae'n aelod o Gyngor Cymuned Gors-las sydd mewn trafodaethau â'r Cyngor Sir ynghylch y safle.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD & CHYRHAEDDIAD YSGOLION 2016/17. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad a Chyflawniad Ysgolion ar gyfer 2016/17 a ddarparodd drosolwg ar y meysydd allweddol isod ynghylch darpariaeth ysgolion a chyflawniad disgyblion:-

 

-        Data perfformiad meintiol a data presenoldeb ysgolion;

-        Barn ansoddol allanol (Estyn);

-        Cyflawniadau o ran gwerthoedd a sgiliau yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod y data'n anodd iawn ei ddadansoddi ac esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod data pellach ar gael a allai fod o gymorth wrth ddeall y ffigurau;

·       Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad sy'n nodi bod y data'n dangos cynnydd sylweddol mewn absenoldeb oherwydd salwch disgyblion, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd y data hwn yn awgrymu bod yna fwy o salwch yng Nghymru nag unrhyw wlad arall.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod angen bod yn ofalus wrth ddarllen y data ynghylch absenoldeb salwch. Gallai cynnydd bach yn y ganran gael effaith sylweddol ar y darlun cenedlaethol.  Gall hefyd fod yn anodd sicrhau presenoldeb da i bob plentyn, ond rydym yn ennill tir o ran ein prosesau mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Llesiant Addysg heb orfod erlyn bob tro.  Mae Penaethiaid Ysgol yn fodlon ar y dull a ddefnyddir gan y sir a phwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ei bod yn hanfodol bod pob pennaeth yn gyson yn y modd y mae'n ymdrin â cheisiadau am wyliau yn ystod y tymor.  Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod yn falch bod cynnydd yn cael ei wneud;

·       Tynnwyd sylw at y ffaith y caiff cofrestrau ysgol eu cau am 9.00am ac y bydd unrhyw ddisgybl sy'n cyrraedd ar ôl hyn yn cael ei gofnodi'n absennol. Mynegwyd pryder bod hyn yn anodd mewn ardaloedd gwledig a bod angen rhagor o gysondeb;

·       Cyfeiriwyd at darged lefel 2 cynhwysol Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer 2017/18 sef 65.2%, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd hyn yn gyraeddadwy gan ystyried ein sefyllfa bresennol.  Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y targed o 65.2% yn heriol a chytunodd y dylai gael ei adolygu ac y byddai hynny'n digwydd, yn seiliedig ar drefniadau arholi cenedlaethol diwygiedig;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion sut y gellir mynd i'r afael â'r diffyg cynnydd yn y Cyfnod Sylfaen ac a yw hyn yn gysylltiedig â'r problemau o ran llenwi swyddi mewn ysgolion cynradd.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg nad oedd ateb pendant.  Mae recriwtio i'r proffesiwn yn parhau i fod yn her yn genedlaethol.  Ychwanegodd ei bod yn bwysig ystyried a yw asesiadau athrawon yn cael eu cynnal mewn modd cyson ledled Cymru, yn ogystal â sut y gwneir hyn.  Mae llawer o waith wedi'i wneud i gryfhau hyn.  Rydym bellach yn wynebu cyfnod o sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar fesur 'cynnydd disgyblion' dros amser.  Mae'r Swyddog Cyfnod Sylfaen yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion er mwyn cefnogi anghenion lleol a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y meysydd iawn.  Mae Sir Gaerfyrddin hefyd yn annog cydweithio 'ysgol i ysgol' er mwyn cefnogi hyn a meysydd gweithgarwch  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

PAPUR CYD-DESTUNOL ARWEINYDDIAETH A DATA YSGOLION - 2016/17. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Papur Cyd-destunol Arweinyddiaeth Ysgolion 2016/17, a amlinellodd rai o'r heriau y mae ein hysgolion a'r Gwasanaeth Addysg yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a rhoddodd drosolwg ar ddata cyd-destunol o ran ysgolion a threfniadau arwain fel a ganlyn:-

 

(1)  Ystadegau ysgolion

 

(a)  Nifer yr ysgolion/disgyblion

(b)  Nifer y disgyblion (Cymru)

(c)  Nifer y disgyblion mewn ysgolion Cymraeg

(d)  Nifer yr athrawon/staff cymorth (CALL)

(e)  Prydau ysgol am ddim (yr holl ddisgyblion)

(f)    Prydau ysgol am ddim (5-15 oed)

(g)  Anghenion Dysgu Ychwanegol

(h)  Absenoldeb (cynradd)

(i)    Absenoldeb (uwchradd)

(j)    Cronfeydd ariannol wrth gefn

(k)  NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant)

 

(2)  Ôl troed Ffederasiwn Ysgolion

 

(3)  Ôl troed Arweinyddiaeth/Pennaeth Dros Dro

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd i'r swyddogion am yr oedi o ran diwallu anghenion addysgol arbennig ar gyfer plant ar ôl i'r angen gael ei nodi.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaeth Addysg fod y tîm yn ymateb yn gyflym i unrhyw angen a nodir a bod unrhyw oedi yn tueddu i fod o natur benodol.  Mae cynnydd pob ysgol yn cael ei fonitro ac mae Swyddogion Cyswllt â'r Teulu yn gweithio er mwyn cynorthwyo ysgolion, teuluoedd a phlant;

·       Pan ofynnwyd iddo a oedd unrhyw dueddiadau amlwg yn y data, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor mai un o'r tueddiadau a welwyd yng Nghaerfyrddin dros y pum mlynedd diwethaf yw'r lleihad yn nifer y plant sydd â datganiad.  Mae 500 yn llai o blant â datganiad oherwydd y cymorth ychwanegol a roddir i ysgolion;

·       Pan ofynnwyd i Bennaeth y Gwasanaethau Addysg sut mae anghenion a hyfforddiant yn cael eu nodi, esboniodd fod yr Awdurdod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Rhaglen Cynnydd a bod swyddogion yn ymyrryd lle bo angen.  Ychwanegodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu fod yna gyfrifoldeb ar yr Awdurdod Lleol i ddatblygu rhaglen o gamau, y Fframwaith Ymgysylltu ag Ieuenctid, mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol.  Mae'r Prosiect Cymorth hefyd yn cynnig ystod o ymyriadau lle gellir nodi pobl ifanc yn CA3, CA4 a'r rhai sydd wedi gadael yr ysgol er mwyn dilyn eu cynnydd ac ymgysylltu â nhw;

·       Mynegwyd pryder y gallai fod yna ormod o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a bod hyn felly'n cael effaith ar y gyllideb. O gofio hyn, gofynnwyd i'r swyddogion beth oedd y bwriad o ran y ffedereiddio gan fod dim ond pedwar ffederasiwn ffurfiol yn y sir.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau fod hyn yn destun pryder i'r swyddogion oherwydd bod staff yn wynebu nifer o heriau a phwysau o ran gweinyddu 98 o ysgolion cynradd, ac nid yw rhai ohonynt yn gallu gweithredu o fewn y gyllideb a ddyrannwyd iddynt.  Roedd y swyddogion yn gweithio i lunio adroddiad i fynd i'r afael â'r her hon a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ei ystyried.  Pwysleisiodd fod rhaid i swyddogion ystyried pob opsiwn posibl cyn penderfynu cau ysgol;

·       Mynegwyd pryder am y trafferthion wrth recriwtio penaethiaid a fydd yn cael eu dwysáu oherwydd nifer y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD ADOLYGIAD CWRICWLWM 11-19 SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y cynhaliwyd Adolygiad Cwricwlwm 11–19 Sir Gaerfyrddin yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16 yn dilyn ymgynghoriad helaeth ag aelodau staff yr Awdurdod Lleol, yr ysgolion uwchradd, Coleg Sir Gâr ac ystod o sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, ystyriodd Adolygiad Cwricwlwm 11–19 Sir Gaerfyrddin gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant ar 17 Mehefin 2016, a chymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 17 Hydref 2017. 

 

Ers i'r adolygiad gael ei gymeradwyo, mae swyddogion wedi bod yn blaenoriaethu ystod o gamau sy'n gysylltiedig â'r argymhellion yn y ddogfen a rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed yn y cynllun gweithredu. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - ADRODDIAD CYNNYDD HYD AT RAGFYR 2017. pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Addysg a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf hyd at fis Rhagfyr 2017 ar gyfer Band A a chyflymu'r cynlluniau Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Ar hyn o bryd, mae gan 69% o'r prosiectau (11 allan o 16) gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn Llywodraeth Cymru.  Roedd tua 48% (£20.6m) o'r cyllid Band A wedi'i hawlio a'i gwario erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Roedd rhai o'r prosiectau a oedd yn cael eu datblygu ym Mand A yn achosi pryder o ganlyniad i rai materion mewn perthynas â'r prosesau statudol cymhleth a'r ffaith bod y cyhoedd yn gwrthwynebu'r safleoedd a ffefrir.  Bydd cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch adolygu Côd Trefniadaeth Ysgolion i gynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu y bydd cwblhau prosesau statudol yn fwy anodd ac yn cymryd mwy o amser, gan y bydd angen i Awdurdodau Lleol ddangos eu bod wedi ystyried pob opsiwn ffedereiddio cyn cynnig aildrefnu.  Mae rhai ysgolion a nodwyd yn rhai gwledig yn yr ymgynghoriad ynghylch y Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd wedi'u cynnwys mewn prosiect sydd ym Mand A ar hyn o bryd.

 

Er mwyn lleihau'r risg o oedi, mae prosiectau a nodir ym Mand B y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael eu datblygu'n gynnar pe deuid i'r gasgliad na fydd prosiectau Band A yn gallu hawlio grant Llywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth 2019. 

 

Codwyd y cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod cyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer y rhaglen am ddwy flynedd ychwanegol a gofynnwyd i'r swyddogion a ydynt yn hyderus y bydd arian ar gael yn y gyllideb ar ôl hynny.  Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Moderneiddio fod y proffil Band A yn cael ei ariannu'n llwyr gan y rhaglen gyfalaf a bod achosion busnes yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru am grant arian cyfatebol.  Mae yna ychydig o arian cyfatebol yn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd ar gyfer Band B, a fydd yn mynd ymlaen ar sail cymeradwyo'r achos busnes, fel Band A.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I DDARPARU DARPARIAETH FEITHRIN YN YSGOL PARC-Y-TYWYN DRWY GYNYDDU YR YSTOD OEDRAN O 4-11 I 3-11. pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn y cyfarfod ar 28 Medi 2017, (gweler Cofnod 14), ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynnig i safoni darpariaeth addysg feithrin yr Awdurdod Lleol yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-bre. 

 

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori rhwng 6 Tachwedd a 17 Rhagfyr 2017 ynghylch y cynnig i ddarparu addysg feithrin yn Ysgol Parc-y-Tywyn drwy gynyddu ei hystod oedran o 4-11 i 3-11, a chyflwynodd y canlyniadau i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd y cynnig hwn yn effeithio ar rai o'r darparwyr preifat a gofynnodd y Cylch Meithrin a ellid ei symud i'r ysgol newydd.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y bydd yr ysgol yn darparu ei haddysg feithrin ei hun, ond mae cais wedi'i gyflwyno i gynnal cynllun peilot o'r ddarpariaeth 30 awr fel y bydd yna gyfleoedd i ddarparwyr weithio gyda'n hysgolion i ddiwallu'r angen hwnnw.  Mae'r effaith ar ddarparwyr preifat wedi'i chydnabod ac mae'r swyddogion yn gweithio gyda nhw er mwyn gwella'r sefyllfa.

·        

 

PENDERFYNWYD

 

9.1       Nodi'r sylwadau a ddaeth i law yn dilyn y cyfnod ymgynghori ac ymatebion yr Awdurdod Lleol iddynt;

9.2       Cymeradwyo'r Bwrdd Gweithredol y cyhoeddiad Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig i ddarparu addysg feithrin yn Ysgol Parc-y-Tywyn drwy gynyddu ei hystod oedran o 4-11 i 3-11.

 

 

10.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GYNYDDU NIFER Y LLEOEDD YN YSGOL GYMUNEDOL GORSLAS O 110 I 210. pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd D. Price, y Cadeirydd, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ond nid oedd yn bwriadu sôn am y mater.]

 

Yn y cyfarfod ar 28 Medi 2017 (gweler Cofnod 13), ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210. 

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori ffurfiol rhwng 6 Tachwedd a 17 Rhagfyr 2017 ynghylch y cynnig, a chyflwynodd y canlyniadau i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD

 

9.1       Nodi'r sylwadau a ddaeth i law yn dilyn y cyfnod ymgynghori ac ymatebion yr Awdurdod Lleol iddynt;

9.2       Cymeradwyo'r Bwrdd Gweithredol y cyhoeddiad Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gymunedol Gors-las o 110 i 210.

 

 

11.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG & PHLANT. pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a gododd o gyfarfodydd ers 28 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.


 

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd yr awgrymwyd bod Chwarae ac Addysg Blynyddoedd Cynnar yn bwnc delfrydol, ar ôl iddo ofyn i aelodau argymell pynciau posibl ar gyfer adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf ynghylch sefydlu'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen a fyddai'n cynnwys maes gorchwyl, cwmpas, aelodaeth ac ati.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher, 14 Mawrth 2018, a fydd yn cynnwys adroddiad ynghylch sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

13.1

27AIN TACHWEDD, 2017; pdf eicon PDF 294 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 27 Tachwedd 2017 gan eu bod yn gywir.

 

13.2

21AIN RHAGFYR, 2017. pdf eicon PDF 189 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 21 Rhagfyr 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau