Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Davies, J.James a J.E. Williams a Mrs. Vera Kenny, cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

 

Talwyd teyrnged gan y Cadeirydd i'r diweddar Gynghorydd Keith Davies, cyn Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ac aelod o'r Pwyllgor, a fu farw ym mis Awst. Dangosodd y Pwyllgor eu parch ato drwy gael munud o dawelwch.

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL.

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Tachwedd 2015.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.

 

5.

CYSUR (BWRDD RHANBARTHOL DIOGELU PLANT) - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2014/15 pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn tynnu sylw at yr hyn a gyflawnodd CYSUR yn y flwyddyn diwethaf a'r blaenoriaethau i'r dyfodol ar gyfer y bwrdd rhanbarthol, gan gynnwys adolygiad o'r trefniadau presennol.  Hefyd roedd yr adroddiad yn ystyried y tueddiadau a'r themâu o fewn Sir Gaerfyrddin. Estynnodd y Cadeirydd groeso i Liz Blazey, Rheolwr Bwrdd Rhanbarthol CYSUR, i'r cyfarfod.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y broses ymgysylltu â'r Aelodau Etholedig. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod Aelod Arweiniol enwebedig pob Awdurdod yn derbyn agendâu perthnasol Bwrdd Gweithredol CYSUR ac yna'n cael eu briffio gan y Cadeirydd, sef Jake Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr Aelodau Lleol yn cael hyfforddiant cyffredinol ynghylch diogelu ac roedd Aelodau'r Pwyllgor yn cael cynnig i ymweld â thimau rheng flaen. Roedd ef yn barod cynnig sesiynau ychwanegol a fyddai'n cael eu cynnal yn fwy rheolaidd. Yn ateb i sylwadau ynghylch diffyg cyfranogiad gan Aelodau Etholedig yn Mwrdd Gweithredol CYSUR a'r broses gwneud penderfyniadau, dywedodd nad oedd dim cynrychiolwyr o blith yr Aelodau Etholedig ar Fwrdd Gweithredol CYSUR. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr mai nod CYSUR oedd sefydlu'r systemau diogelu gorau posibl ar draws y rhanbarth, sef arferion proffesiynol yn hytrach na materion llywodraethu.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y trefniadau ariannol ar gyfer CYSUR. Eglurodd Rheolwr y Bwrdd Rhanbarthol fod cyllideb o £100k wedi cael ei chytuno gyda chyfraniadau gan bob Awdurdod. Roedd hyn yn cynnwys cymorth busnes a hyfforddiant wedi'i gomisiynu'n rhanbarthol. Mae'n bosibl y byddai gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn pennu'r cyfraniadau gan bartneriaid i'r dyfodol.

 

Gofynnwyd beth oedd manteision gweithio'n rhanbarthol yn y modd hwn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y rhan fwyaf o'r manteision heb gael eu gwireddu eto ond roedd y partneriaid megis Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a'r Gwasanaeth Prawf yn ei chael yn haws cyfathrebu materion strategol yn rhanbarthol.  Roedd yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) wedi creu'r gallu i rannu gwybodaeth werthfawr ac i ymateb yn dra chyflym lle roedd y cyfeirio'n digwydd.  Roedd yn bosibl y gallai MASH rhanbarthol fod yn ddefnydd mwy effeithiol o adnoddau.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch Plant sy'n Derbyn Gofal sy'n cael eu lleoli gan awdurdodau eraill. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y Panel Rhianta Corfforaethol a Diogelu yn monitro nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal oedd yn cael eu lleoli gan awdurdodau eraill ac yn codi'r materion risg gyda Llywodraeth Cymru ond ni chafwyd ymateb hyd yma.

 

Gofynnwyd pam roedd cynnydd yn nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant sy'n cael eu cam-drin yn emosiynol ac yn nifer y rhai sy'n cael eu hailgofrestru. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod plant yn cael eu cofrestru am un prif fater ond eu bod yn aml yn destun amryw o faterion. Roedd nifer cynyddol o blant yn dioddef cam-drin domestig oedd yn destun pryder a fyddai'n cael ei roi fel arfer yn y categori Cam-drin Emosiynol; a dyna oedd i gyfrif am y cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf blwyddyn ariannol 2015/16 fel yr oeddynt ar ddiwedd Mehefin ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau cyllidebol a achoswyd gan gostau Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol a Dileu Swyddi yn yr ysgolion. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg/Pennaeth Gwasanaethau Addysg fod y Cyngor yn dal y gyllideb ar gyfer dileu swyddi yn yr ysgolion ond nad oedd ganddo ddim rheolaeth drosti mewn gwirionedd gan fod y penderfyniadau'n cael eu gwneud gan y Cyrff Llywodraethu. Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i adolygu'r polisi oedd yn cynnwys 3 blynedd o ychwanegiad ar hyn o bryd sy'n fwy hael nag awdurdodau eraill. Hefyd roedd protocol adleoli ar gyfer ysgolion wrthi'n cael ei llunio ac roeddynt yn gweithio'n effeithiol gyda rhai ysgolion uwchradd. Hefyd roeddynt yn olrhain athrawon a ryddhawyd drwy ddileu swyddi'n wirfoddol er mwyn sicrhau nad oeddynt yn cael eu hailgyflogi mewn swyddi oedd ychydig yn wahanol a hynny o fewn amser byr. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan ysgolion unigol ac nad oedd gan yr Adran unrhyw reolaeth dros y rhain.

 

Nodwyd bod y £602k o orwariant a ragwelwyd yn cael ei fantoli o'r cronfeydd wrth gefn adrannol. Gofynnwyd faint o gronfa wrth gefn oedd yn weddill. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y gorwariant a ragwelwyd wedi cynyddu i £1 miliwn ar ddiwedd Awst oedd yn golygu nad oedd dim cronfeydd wrth gefn adrannol ar ôl. Roedd hyn hefyd yn golygu y byddai'n rhaid rhoi'r gorau i'w defnyddio yn y modd a gynlluniwyd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch prosiect ysgol newydd Seaside. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynllun terfynol wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd Adran yr Amgylchedd yn gweithio gyda'r contractwr penodedig i leihau'r costau a byddai'r gwaith adeiladu'n dechrau yng ngwanwyn 2016. Yn dilyn pryderon ynghylch y mynediad o Heol Copperworks, rhannodd y siom fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ariannu unrhyw waith y tu allan i safle'r ysgol, a bod hynny'n cyfyngu ar welliannau i'r mynediad.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod rhieni'n achwyn am yr oedi o ran bwrw ymlaen â phrosiect ysgol Trimsaran. Atebodd y Cyfarwyddwr drwy ddweud y dylai'r ysgol fod yn cyfathrebu â rhieni ond bod y prosiect wedi dioddef cymhlethdodau niferus o ran dewis safle, gyda sawl newid cyfeiriad. Roedd y contractwyr wedi dechrau'r gwaith o ddymchwel y bloc plant bach ond roedd natur y gwaith hefyd wedi mynd yn fwy anodd.

 

Yn ateb i gwestiwn am Gwm Tywi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod yr ymgynghori'n parhau. Y bwriad ar hyn o bryd oedd cynyddu capasiti safle ysgol Llangadog er mwyn sicrhau darpariaeth yn yr ardal.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.

 

 

7.

CYFLWYNO POLISI DIOGELU CORFFORAETHOL SY'N YMDRIN Â HOLL FEYSYDD GWASANAETH Y CYNGOR pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi Diogelu Corfforaethol drafft a luniwyd mewn ymateb i adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2014 o drefniadau sicrwydd ac atebolrwydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer sicrhau fod polisïau a gweithdrefnau diogelu ar waith ac y cydymffurfir â nhw. Roedd yr adolygiad yn ymwneud yn benodol â phlant a'r casgliadau'n gyffredinol oedd bod systemau'r Awdurdod yn ddigonol. Un o'r argymhellion oedd y dylid llunio a chyflwyno Polisi Diogelu Corfforaethol sy'n ymdrin â holl feysydd gwasanaeth y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r polisi arfaethedig.

 

8.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU AC ASESIADAU ATHRAWON A DATA PRESENOLDEB YSGOLION (HEB EU CADARNHAU) pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Canlyniadau Arholiadau ac Asesiadau Athrawon a Data Presenoldeb yn yr Ysgolion (heb eu cadarnhau) ar gyfer 2015 a chafodd gyflwyniad arnynt. Nodwyd y byddai'r data'n cael ei wirio a'i gyflwyno yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch effaith bosibl amseroedd teithio ar berfformiad disgyblion. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y gellid edrych ar hyn yn rhanbarthol drwy samplu 10 ysgol a chymharu sampl o ddisgyblion oedd yn byw gryn bellter o'r ysgol o gymharu â sampl o ddisgyblion oedd yn byw'n lleol.

 

Estynnodd y Pwyllgor longyfarchiadau i'r swyddogion ar y gwelliannau mewn perfformiad a phresenoldeb. Gofynnwyd a oedd digon o gyhoeddusrwydd wedi cael ei roi i hyn. Nododd y Pryf Swyddog Addysg/Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod datganiadau i'r wasg ynghylch canlyniadau Ysgol Glanymôr wedi cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod y canlyniadau. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r adroddiad data (wedi'i wirio) a fyddai'n cael ei roi gerbron y Pwyllgor yn gyfle arall i ddathlu'r canlyniadau.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod asesiadau athrawon cyson ar gyfer CA2 a CA3 yn rhan o feini prawf Estyn ar gyfer ysgol lwyddiannus. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod Llywodraeth Cymru wedi rhagdybio fod athrawon yn ddigon aeddfed i wneud asesiadau cywir ond ni chafwyd dim canllawiau cenedlaethol ac roedd yr arweiniad ar gyfer y model "ffit-orau" wedi cael ei ddehongli mewn ffyrdd gwahanol. Roedd Aneirin Thomas (Ymgynghorydd Her, Arweinydd Tîm) yn arwain adolygiad rhanbarthol ERW oedd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellid gwella'r system a'i phlismona. Un o'r awgrymiadau oedd bwrw golwg ar bortffolio cyfan plentyn ac roedd Estyn bellach yn gofyn i weld llyfrau'r disgyblion. Hefyd roedd yn fwriad cymedroli asesiadau iaith yn y Gymraeg a'r Saesneg flwyddyn nesaf i wella cysondeb. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod adolygiad Llywodraeth Cymru o asesiadau yn 2013 wedi dod i'r casgliad nad oedd dim gwerth iddynt at bwrpas cymharu perfformiad. Dylai canlyniadau'r peilot cymedroli gael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.

 

Hefyd gofynnwyd a fyddai modd cyflwyno canlyniadau CA3 yn ôl categori iaith yr ysgolion. Cytunodd y Cyfarwyddwr i gynnwys hyn yn yr adroddiad data (wedi'i wirio) a gynlluniwyd ar gyfer Ionawr 2016.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr ystod oedran ar gyfer y profion cenedlaethol llythrennedd a rhifedd a gofynnwyd pam roedd canlyniadau'r iaith Gymraeg yn is na chyfartaledd Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg/Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod hwn yn ffigur cyffredinol ar gyfer blynyddoedd 2 i 9. Ychwanegodd fod y profion llythrennedd Cymraeg yn asesu Cymraeg iaith gyntaf yn unig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Roedd dros 60% o'r disgyblion a oedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o aelwydydd nad oeddynt yn siarad Cymraeg ond byddai angen dadansoddi'r canlyniadau a'u cymharu â siroedd eraill tebyg i weld lle gellid gwneud gwelliannau.

 

Nodwyd mai un o'r blaenoriaethau eleni oedd gwella perfformiad dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM). Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod y mater hwn yn flaenoriaeth genedlaethol yn ogystal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

STRATEGAETH CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 2015-18, Y CYNLLUN GWEITHREDU A'R ADDEWID HAWLIAU PLANT pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn cynnwys Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc 2015-18, y Cynllun Gweithredu ar gyfer cyflawni'r 10 blaenoriaeth ac Addewid Hawliau Plant, a luniwyd gan blant a phobl ifanc ar draws y sir i roi gwell dealltwriaeth o hawliau plant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc 2015-18, y Cynllun Gweithredu a'r Addewid Hawliau Plant i'r Bwrdd Gweithredol.

 

10.

POBL IFANC NAD YDYNT MEWN ADDYSG, CYFLOGAETH NEU HYFFORDDIANT - PERSBECTIF SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried diweddariad ynghylch y camau presennol i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET), yn unol â'r cais a wnaed yn y cyfarfod ar 18 Mai 2015.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch i ba raddau y gallai'r Awdurdod olrhain pobl ifanc NEET. Dywedodd y Cyfarwyddwr y gellid cael data ynghylch pobl ifanc NEET wrth iddynt adael ysgol ond na allai'r Awdurdod gael dim mwy o wybodaeth ar ôl hynny. Ychwanegodd Rheolwr y Rhwydweithiau Dysgu Gydol Oes fod Gyrfa Cymru yn cael data ynghylch cyrchfannau ysgolion a data a roddai "gipolwg" o'r sefyllfa o ran pobl ifanc NEET ar ddiwedd mis Hydref yn ymwneud â dysgwyr blynyddoedd 11, 12 a 13. Hefyd roedd olrhain misol yn digwydd rhwng sectorau'r gronfa ddata 5 haen a gallai gweithwyr ieuenctid gael gwybodaeth ynghylch y gr?p NEET hwnnw.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y ffaith fod y dyraniad i gyllideb graidd y Gwasanaethau Ieuenctid o'r dyraniad tybiannol yn y Grant Cynnal Refeniw yr isaf yng Nghymru. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod fformwla asesu angen wedi'i chytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yr elfen dybiannol ar gyfer y Gwasanaethau Ieuenctid oedd £1.9 miliwn ond roedd y Cyngor wedi penderfynu y byddai'n rhoi £563k yn unig i'r gyllideb graidd. Roedd y Gwasanaeth wedi llwyddo i gael grantiau ond roedd y lefelau'n gostwng.

 

Cyfeiriwyd at y datganiad terfynol yn yr adroddiad ynghylch y risg sylweddol iawn y byddai nifer y bobl ifanc a fyddai'n mynd yn bobl ifanc NEET yn cynyddu yn y 5 mlynedd nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr gan fod y gyllideb yn lleihau bod llai o weithwyr ieuenctid yn gallu cael eu cyflogi. Y gobaith oedd y gellid cael cyllid o brosiectau newydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop ym mis Tachwedd ond byddai hynny'n llawer llai na'r hyn oedd ei angen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.

 

 

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 31 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau diweddaru ynghylch Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi pam nad oedd yr adroddiadau wedi eu cyflwyno.

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 6ed GORFFENNAF, 2015. pdf eicon PDF 308 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2015, yn gofnod cywir.

 

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y Cyd Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Addysg & Phlant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, A GYNHALIWD AR Y 18fed MAI 2015 pdf eicon PDF 243 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd rhwng y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant a'r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 18 Mai 2015 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau