Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mrs Alex Pickles, sy'n aelod fel Rhiant-lywodraethwr. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor fod Mrs Emma Heyes, sydd hefyd yn aelod fel Rhiant-lywodraethwr, wedi ymddiswyddo'n ddiweddar fel aelod o'r Pwyllgor. Ychwanegodd fod cyfnod y tri Rhiant-lywodraethwr mewn swydd yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2018, ac y byddai'r broses recriwtio yn dechrau ym mis Ionawr 2018.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2018/19 hyd 2020/21 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/19, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017 a chan adlewyrchu cynigion presennol yr adrannau ar gyfer arbedion.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod y setliad terfynol wedi'i gyhoeddi'r diwrnod cynt a bod £1.4m ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol sy'n berthnasol i'w faes gorchwyl ac a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad: -
· Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant; · Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant; · Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r Adran Addysg a Phlant; · Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant.
I grynhoi, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cyflawni'n llawn y cynigion o ran arbedion, sef £25.6m, ynghyd â nodi'r diffyg o £0.198m yn 2018/19, £2.4m yn 2019/20 a £2.7m yn 2020/21, a chynnig arbedion i wneud yn iawn am hynny. Byddai angen nodi rhagor o arbedion costau er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys ym mhob un o'r tair blynedd.
Mae'r cynigion cyfredol ar gyfer y gyllideb yn rhagdybio y bydd cynnydd yn Nhreth y Cyngor, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, o 4.12% yn 2018/19, o 3.88% yn 2019/20 ac o 5.00% yn 2020/21. Mae newid o 1% yn Nhreth y Cyngor yn cyfateb i +/– £820k.
Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder ynghylch y lleihad arfaethedig o ran gofal seibiant a'r effaith ar rieni sydd angen seibiant. Pwysleisiwyd mor bwysig yw ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau ar gynigion o'r fath. Sicrhawyd y Pwyllgor gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant fod rhywfaint o ymgynghori wedi digwydd eisoes o ran hyn ac y bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau wrth i'r cynigion gael eu symud yn eu blaenau. Eglurodd nad oedd unrhyw fwriad i roi'r gorau'n sydyn i seibiant i deuluoedd a'i fod yn hytrach yn fater o ystyried a ellid darparu'r gwasanaeth mewn ffordd wahanol, well; · Cyfeiriwyd at y cynnydd arfaethedig ym mhrisiau prydau ysgol a gofynnwyd i'r swyddogion sut mae Sir Gaerfyrddin yn cymharu ag Awdurdodau Lleol eraill o ran pris a'r nifer sy'n cymryd prydau ysgol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Strategol wrth y Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd ymhlith yr Awdurdodau sy'n codi'r tâl uchaf. Eglurodd ei bod yn anodd cael ffigurau cywir gan Awdurdodau Lleol eraill o ran y rhai sy'n gymwys ac yn cymryd prydau ysgol am ddim, ond bod Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd o gwmpas 58%-60%; · Mynegwyd pryder ynghylch ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN BUSNES YR ADRAN ADDYSG A PHLANT 2018/19 - 2021 PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Busnes Drafft yr Adran Addysg a Phlant 2018/19 - 2021 a oedd yn amlinellu nodau ac amcanion yr adran ar gyfer y cyfnod 2018-21.
Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd i'r swyddogion sut yr oedd athrawon yn rhannu arferion da. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod canlyniadau'r arholiadau yn cael eu dadansoddi pan ddônt i law ym mis Awst a bod swyddogion yn cwrdd â'r ysgolion sydd wedi gwneud y gwelliant mwyaf i drafod sut y gwnaethant ymdrin â'r her; · Pan ofynnwyd iddo a ellir gwneud mwy i hybu'r defnydd o'r Gymraeg, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant at Strategaeth Iaith Gymraeg yr Awdurdod a'i nod o allu darparu'r holl wasanaethau drwy'r Gymraeg. Cynigir y cyfle i bob aelod o staff ddysgu Cymraeg. O ran ysgolion, bydd prosiect peilot yn cychwyn yn Llanelli yn 2018 lle bydd staff ysgolion yn cael y cyfle i gael eu rhyddhau o'r ysgol i ddysgu Cymraeg. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wybod i'r Pwyllgor fod yr adran wedi gwneud cais am arian gan Lywodraeth Cymru i gyflogi tri athro er mwyn cyflenwi a hefyd i hyrwyddo'r Gymraeg mewn clwstwr o ysgolion yn Llanelli; · Pan ofynnwyd iddo sut y caiff y cynllun busnes ei greu a sut yr ymgynghorir, esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod ei Benaethiaid Gwasanaeth a'i Reolwyr yn paratoi'r cynllun busnes ar ôl ymgynghori ag amrywiol is-adrannau sy'n pennu eu blaenoriaethau. Ymgynghorir drwy Fforwm Strategaeth a Chyllido Ysgolion sy'n cynnwys penaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd; · O ran y gostyngiad parhaus yn nifer y plant sy'n derbyn gofal dros y pum mlynedd diwethaf, gofynnwyd i'r swyddogion a oedd y lefel bellach wedi gwastatáu yn naturiol. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y niferoedd wedi gwastatáu ychydig ond, o ganlyniad i gamau sy'n cael eu gweithredu, y gobaith oedd lleiháu'r ffigwr ymhellach i 150 dros y ddwy flynedd nesaf; · Cyfeiriwyd at yr anhawster a geir wrth recriwtio a chadw gofalwyr maeth a gofynnwyd i'r swyddogion beth sy'n cael ei wneud ar lefel genedlaethol i wrthbwyso hyn. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr Awdurdod yn talu llawer yn llai i ofalwyr maeth nag Awdurdodau cyfagos, ond y gobaith oedd cyfateb â thâl rhai o'r rhain. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod isafswm tâl sylfaenol, fodd bynnag, ni all reoli'r taliadau ychwanegol a wneir gan Awdurdodau Lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes Drafft yr Adran Addysg a Phlant 2018/19 – 2021.
|
|
ADOLYGIAD CYNNAL YMDDYGIAD PDF 188 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar yr ad-drefnu arfaethedig yng Ngwasanaethau Cymorth ag Ymddygiad Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Gwasanaethau Cymorth ag Ymddygiad yr Awdurdod eu datblygu yng nghanol y degawd diwethaf ac yng ngoleuni'r pryderon diweddar ystyriwyd ei fod yn amserol adolygu ein harferion presennol. Mae hyn yn cyd-ddigwydd ag ad-drefnu adrannol wrth i Wasanaethau Cymorth ag Ymddygiad drosglwyddo i'r portffolio Cwricwlwm a Llesiant i gyd-fynd â'r cwricwlwm, cymorth dysgwyr a llesiant. Mae hyn wedi caniatáu inni gynnal adolygiad holistig o'r Gwasanaethau Cymorth ag Ymddygiad.
Gofynnwyd y cwestiwn canlynol ynghylch yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith y dylai polisi ymddygiad fod ar waith ym mhob ysgol a gofynnwyd i'r swyddogion a oes polisi enghreifftiol ledled y sir. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant y dylai pob ysgol gael polisi ymddygiad a ddylai gael ei ddatblygu mewn partneriaeth â disgyblion, staff, Llywodraethwyr a rhieni i gydweddu â'u hanghenion a'u gofynion unigol. Gellir darparu templed ond dylid ei addasu i gydweddu â'r anghenion lleol, lle bo angen.
PENDERFYNWYD nodi'r cynigion ar gyfer ad-drefnu Gwasanaethau Cymorth ag Ymddygiad Sir Gaerfyrddin.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 64 KB Cofnodion: Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd yr adroddiad craffu canlynol a oedd i fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod heddiw :-
- Ymgynghoriad ar y Gyllideb Gyfalaf 5 mlynedd
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 71 KB Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y bydd adroddiad ar sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen hefyd yn cael ei gynnwys yn agenda'r cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys adroddiad ar sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Iau, 25 Ionawr, 2018.
|