Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen ac I.W. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

G. Jones

5 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2017/18

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

G. Jones

6 – Adroddiad Categoreiddio Llywodraeth Cymru 2017/18

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

G. Jones

7 – Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Addysg Ddewisol yn y Cartref – Mawrth 2018

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Yr oedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Addysg a Phlant a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Addysg a Phlant yn gorwario £516k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai yna £2,004k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2017/18. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       O ran dileu swyddi ysgolion ac Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol, gofynnwyd i'r swyddogion pryd y byddai'r Pwyllgor yn gallu gweld cynlluniau penodol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater hwn.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod swyddogion wedi bod yn gweithio ar hyn ers 3-4 mlynedd ac yr oedd yn falch bod yr hyn sydd wedi'i weithredu'n cael effaith, gan fod y gwariant wedi'i haneru eleni.  Cyfeiriodd at yr Adolygiad Her, sy'n cynorthwyo ysgolion i wneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg gywir.  Anogir ymddeoliad naturiol, fodd bynnag, bydd yna bob amser adegau pryd y bydd rhaid i'r Awdurdod ystyried dileu swyddi ac ysgwyddo'r gost o wneud hyn;

·       Cyfeiriwyd at y Gwasanaeth Cerdd a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd unrhyw fygythiad gwirioneddol i'r gwasanaeth ac os oedd, yr hyn y gellid ei wneud i'w gadw.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant ei fod yn her ariannol a bod rhaid i ysgolion wneud penderfyniadau anodd oherwydd trefniadau cyd-gyllido. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £2 miliwn i edrych ar ddarpariaeth y gwasanaethau cerdd ar draws y wlad.  Cytunodd ei fod yn her a bod mwy a mwy o ysgolion yn defnyddio'r gwasanaeth i ddysgu cerddoriaeth yn hytrach na dysgu sut i ganu offeryn gerddorol.  Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg pa mor bwysig yw cynyddu incwm a lleihau costau;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion am y swyddi addysg arbennig nad ydynt wedi'u llenwi a dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth y Pwyllgor fod yna nifer uchel o staff yn yr Adran Addysg a phan fydd swydd yn dod yn wag, bydd swyddogion yn ystyried a oes angen ei llenwi.  Maent hefyd yn cael problemau o ran recriwtio ar gyfer rhai swyddi megis namau synhwyraidd.  Mae gwaith yn cael ei wneud ynghylch y mater hwn, gan fod nifer fawr o aelodau staff yn y maes arbenigol hwn yn agosáu at oedran ymddeol.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd gyda'r trydydd sector er mwyn gweld a ydynt mewn sefyllfa well i ddarparu'r gwasanaethau hyn, gan fod yr Awdurdodau Lleol weithiau'n darparu gwasanaethau sy'n fwy dwys o lawer na'r hyn sydd ei angen ar deuluoedd. Yr hyn sy'n bwysig yw adlinio'r gwasanaethau a darparu'r hyn sydd ei angen ar deuluoedd.

·       Mynegwyd pryder am y gostyngiad yn y galw am brydau ysgol am ddim a gofynnwyd i'r swyddogion beth sy'n cael ei wneud i liniaru'r cynnydd yn y gost ym mis Ebrill.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD CATEGOREIDDIO CENEDLAETHOL LLYWODRAETH CYMRU (DEILLIANNAU SIR GAR) 2017/18. pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Categoreiddio Llywodraeth Cymru (Canlyniadau Sir Gaerfyrddin) 2017/18.

 

Yn 2014 bu'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn rhoi ysgolion mewn un o bedwar categori cefnogaeth â chôd lliw i ddangos lefel y cymorth sydd ei angen arnynt - gwyrdd, oren a choch.  Mae pob categori cymorth yn nodi swm amrywiol o gymorth unigryw sydd wedi'i deilwra ar gyfer yr ysgol e.e. mae ysgolion gwyrdd yn cael hyd at 4 diwrnod o gymorth tra bod ysgolion coch yn cael hyd at 25 diwrnod o gymorth.

 

Mae'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion wedi'i datblygu gan Lywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol y mae Sir Gaerfyrddin a'r holl Awdurdodau Lleol yn bartneriaid allweddol ynddynt. Prif diben y system yw nodi'r ysgolion y mae angen y cymorth mwyaf arnynt ar draws Cymru.

 

Rhoddodd yr adroddiad drosolwg manwl o'r canlyniadau ar gyfer cyfres categoreiddio cenedlaethol 2017/18 yn ogystal â data i ddangos cymorth categoreiddio cenedlaethol pob ysgol a'i chynnydd ers 2014. 

 

Mae cyfres categoreiddio cenedlaethol 2017/18 wedi gweld newid sylweddol sydd wedi'i groesawu yn y broses, gyda'r grwpiau 'Safonau' blaenorol (1 i 4) ar gyfer ysgolion yn cael eu dileu.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Pan ofynnwyd iddo a oes problemau i'w cael o hyd wrth benodi mewn ysgolion gwledig, cyfaddefodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod recriwtio'n anodd ar lawer o lefelau a bod hysbysebu ar gyfer ysgol sydd â llai na 50 o ddisgyblion yn heriol.   Ychwanegodd nad oedd hyn yn broblem yn Sir Gaerfyrddin yn unig, mae'n broblem genedlaethol.

·        Pan ofynnwyd iddo faint o ysgolion y mae Ymgynghorwyr Her yn gyfrifol amdanynt ac a ydynt o safon ddigon uchel, a hefyd a fyddant yn gweithio o dan ymbarél ERW neu'r Cyngor yn y dyfodol, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod angen mwy o Ymgynghorwyr Her arnom.  Ni ddylent weithio gyda mwy na 10 o ysgolion ar gyfartaledd, fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt weithio gyda mwy oherwydd yr angen ac roedd hynny'n bryder.  Os oedd llai o ysgolion gennym, gallem ddarparu gwasanaeth cryfach.  Roedd ERW yn cynnal arolwg ar y pryd a rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gweithio'n galed i sicrhau y gall Sir Gaerfyrddin gyfrannu at yr arolwg.  O ran y cwestiwn a oedd yn gofyn a yw Ymgynghorwyr Her o safon ddigon uchel, esboniodd y Prif Ymgynghorydd Her fod y tîm yn cael mynediad at ystod eang o hyfforddiant ac maent yn gweithio'n agos mewn partneriaeth ag Estyn i sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei gynnal ar bob agwedd.  Mae'r tîm yn gryf a dyna pam y ceir gwelliannau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

7.

ADDYSG DDEWISIOL YN Y CARTREF - PAPUR BRIFFIO MAWRTH 2018. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai Addysg Ddewisol yn y Cartref yw lle mae rhieni'n penderfynu darparu addysg yn y cartref i'w plant yn hytrach na'u hanfon i'r ysgol.  Nid cynllun gwersi cartref yw hwn sy'n cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Addysg Lleol neu lle mae'r Awdurdod Addysg Lleol yn darparu addysg mewn rhywle arall heblaw'r ysgol.

 

Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod bod addysg ddewisol yn y cartref yn agwedd allweddol ar ddewis rhieni ac felly yr amcan yw annog arferion da mewn perthynas â'r rhai sy'n addysgu yn y cartref.  Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy osod y polisïau'n glir a darparu gwybodaeth a chyngor ar rolau a chyfrifoldebau'r Awdurdod Lleol a'r rhieni o ran plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.

 

Efallai y bydd rhieni'n dewis arfer eu hawliau i addysgu eu plant yn y cartref oherwydd amrywiaeth o resymau.  Ni ddylai'r rhesymau eu hunain gael unrhyw effaith ar sut y mae'r Awdurdod Lleol yn ymdrin â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, gan mai ein prif diddordeb yw darpariaeth addysgol y rhieni ar gyfer eu plant.

 

Mae swyddogion am adeiladu perthnasoedd effeithiol â'r rhai sy'n addysgu yn y cartref er mwyn diogelu addysg a llesiant y plant a'r bobl ifanc.  Mae rhieni sy'n addysgu yn y cartref, neu'r rhai sy'n ystyried hyn, yn cael person cyswllt enwebedig yn yr Awdurdod Lleol sy'n gyfarwydd â pholisïau ac arferion addysgu yn y cartref ac sydd â dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol ac ystod o athroniaethau addysgol.

 

Er nad oes fframwaith cyfreithiol er mwyn i'r Awdurdod Lleol fonitro darpariaeth addysg yn y cartref, mae swyddogion yn ymwybodol o ddyletswyddau gofal ehangach yr Awdurdod a byddant yn cysylltu â rhieni i drafod eu darpariaeth barhaus o ran addysg yn y cartref.  Mae'r Awdurdod Lleol yn ymwybodol o arweiniad anstatudol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017, sy'n sylfaen i'n dull o weithredu. 

 

Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr Awdurdod Lleol i ddarparu unrhyw adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, fodd bynnag, byddwn yn:-

 

·        darparu cyngor a chymorth ar faterion y cwricwlwm;

·        darparu gwybodaeth ar sefydliadau sy'n cynorthwyo'r rheiny sy'n addysgu yn y cartref;

·        hwyluso mynediad at rai gwasanaethau e.e. gyrfaoedd, cwnsela.

 

Mae'r Awdurdod Lleol wedi sefydlu cronfa ddata ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.  Bydd angen i'r holl ysgolion roi gwybod i'r swyddog priodol am fwriad rhiant i addysgu yn y cartref, a chadwir cofnod ymweliadau gan y swyddog sy'n gyfrifol am y maes gwaith hwn.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mynegwyd pryder bod gan rieni hawl i ddewis yr addysg ar gyfer eu plant, fodd bynnag, mae dyletswydd ar yr Awdurdod i ddarparu'r addysg honno hefyd.  Esboniodd yr Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref nad oes dyletswydd gyfreithiol benodol i asesu, ond bod dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Lleol i wneud trefniadau sy'n eu galluogi i nodi pwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT - DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU. pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd bod y Pwyllgor wedi ystyried nifer o awgrymiadau ac wedi cytuno i adolygu  darpariaeth Chwarae ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar, ar ôl i'r aelodau ofyn am awgrymiadau ar gyfer prosiectau posibl y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Cafodd trafodaethau'r Pwyllgor o ran prif nodau ac amcanion yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen eu cofnodi a'u datblygu mewn dogfen gynllunio a chwmpasu drafft, a oedd yn cynnwys nodau a chwmpas yr adolygiad, ac a oedd yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor i'w hystyried a'i chymeradwyo. 

 

Yn ogystal, roedd angen i'r Pwyllgor gytuno ar yr aelodau a ddylai fod yn rhan o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a ddylai gynnwys hyd at 6 aelod sy'n wleidyddol gytbwys.

 

Roedd swyddogion yn gweithio i lunio amserlen y cyfarfodydd, a byddai'r cyntaf ohonynt yn cael ei gynnal cyn gynted ag y bo modd pan fyddai Cadeirydd ac Is-gadeirydd wedi'u penodi o blith aelodau'r Gr?p.  Bydd swyddogion yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant a'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

PENDERFYNWYD

 

8.1 derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.2       cadarnhau nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.3   bod aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

 

·        Y Cynghorydd Kim Broom

·        Y Cynghorydd Dot Jones

·        Y Cynghorydd Jean Lewis

·        Y Cynghorydd Darren Price

·        Y Cynghorydd Bill Thomas

·        Y Cynghorydd Edward Thomas

 

 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno’r adroddiadau canlynol:-

 

- Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbennig

- Adroddiad Rheoli Perfformiad Chwarter 3 ar gyfer Amcanion Llesiant y Cyngor 2017/18

   Amcanion Llesiant

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 23 Ebrill 2018.

 

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 25AIN IONAWR, 2018. pdf eicon PDF 244 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau