Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Llun, 23ain Ebrill, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Broom.  Estynnodd y Cadeirydd groeso i'w cyfarfod cyntaf i Riant-lywodraethwyr newydd eu hethol, Mrs Melanie Jones, Mrs Georgina Cornock-Evans a Mr James Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

D. Jones

 

5 - Y Newyddion Diweddaraf ynghylch Cwricwlwm ERW

Mae ei meibion yn aelodau o Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin

 

G. Jones

 

8 - Fersiwn Ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-2023

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

 

G. Jones

10 - Adroddiad Monitro Perfformiad ynghylch yr Amcanion Llesiant, Chwarter 3 2017/18

 

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

 

G. Jones

11 - Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018-2021

 

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

 

Mrs V. Kenny

 

6 - Adroddiad Blynyddol Rhianta Corfforaethol

 

Mae ei merch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Mrs V. Kenny

9 - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Maethu

 

Mae ei merch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

D. Price

5 - Y Newyddion Diweddaraf ynghylch Cwricwlwm ERW

 

Mae ei wraig yn darlithio yng Nghanolfan Peniarth

 

D. Price

 

7 -Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Mae ei wraig yn darlithio yng Nghanolfan Peniarth

 

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

ERW - DIWEDDARIAD Y CWRICWLWM. pdf eicon PDF 133 KB

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr D. Jones a D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Alan Edwards, Pennaeth Dysgu ac Addysgu ERW, a gafodd wahoddiad i roi cyflwyniad i'r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg ar y cynnydd a'r datblygiadau yn y cwricwlwm ysgol.  Cyfeiriwyd at agenda newidiol y cwricwlwm ar draws Cymru ar hyn o bryd sy'n cefnogi'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd Cabinet Cynulliad Cymru dros Addysg:-

 

"Rydym yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym, yn mynd yn fwy cystadleuol ac yn fwy cysylltiedig yn fyd-eang, ac sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae'n rhaid i ysgolion baratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt wedi'u creu eto a heriau nad ydynt wedi'u hwynebu eto.  Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad o'r newydd er mwyn gwella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc, wrth i ni godi safonau yn ein cwricwlwm trawsnewidiol.  Mae addysg yn bwysicach nag erioed.  Gwella addysg yw ein nod cenedlaethol."

 

Roedd y cyflwyniad yn talu sylw i'r meysydd allweddol isod:-

 

- Cynnydd o ran y rhaglen Dyfodol Llwyddiannus

- Ymgysylltu

- Dylunio'r Cwricwlwm

- Safonau Addysgu Proffesiynol

- Rheoli Newid

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Pan ofynnwyd faint y mae disgyblion blaenorol yn cyfranogi at y broses, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad yw disgyblion wedi bod yn cyfranogi llawer iawn hyd yn hyn, ond o hyn ymlaen gofynnir i ddisgyblion ysgol am yr hyn y maent yn meddwl sy'n bwysig ar gyfer cwricwlwm effeithiol;

·       O ran paratoi adnoddau yn y Gymraeg a'r Saesneg, gofynnwyd i'r swyddogion a ydym yn cyrraedd y cam lle mae angen defnyddio dull tebyg i PISA.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, o ran PISA, fod ystod o adnoddau dwyieithog wedi'u datblygu a'u bod eisoes ar gael mewn ysgolion uwchradd.  Mae prosiect hefyd wedi'i ddechrau eleni sy'n cynorthwyo ysgolion uwchradd i ddefnyddio'r adnoddau hyn mewn modd effeithiol.  Yn ogystal mae gwaith yn dechrau gydag ysgolion cynradd yngl?n â hyn; nid yw adnoddau wedi'u dyrannu eto gan y byddai'r rhain yn cael eu teilwra yn ôl anghenion unigol yr ysgol;

·       Gofynnwyd am y cyfleoedd sydd ar gael i lunio cwricwlwm Sir Gaerfyrddin a sut y gallai'r ysgolion fod yn rhan o'r broses honno.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor na fyddai'r cwricwlwm newydd yn rhy benodol, felly byddai modd datblygu cwricwlwm lleol. O ran cwricwlwm lleol, ni fyddai'n rhy benodol.

·       Cyfeiriwyd at Arweinwyr Dysgu a gofynnwyd i'r swyddogion pa mor hyderus ydynt o ran niferoedd.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai llawer iawn o newidiadau'n digwydd, fodd bynnag, mae pob Arweinydd Dysgu sydd wedi'i recriwtio wedi cael hyfforddiant ar gyfer rheoli newid.  Hefyd mae penaethiaid yn cael hyfforddiant i gynorthwyo'r newid hwnnw.  Mae'r swyddogion yn weddol hapus gyda'r niferoedd a chynhaliwyd adolygiad allanol yn ddiweddar o'r system newydd cyn iddi gael ei chyflwyno. Oren/gwyrdd oedd y canlyniad, sy'n gadarnhaol iawn ar y cam hwn o'r broses.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y RHIANTA CORFFORAETHOL. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol Rhianta Corfforaethol, a nododd fanylion o ran pa mor dda y mae'r Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau rhianta corfforaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Manylodd yr adroddiad ar ganlyniadau o ran y plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol hyd at 25 oed, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyrraedd targedau a bennwyd yn y Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

 

Roedd Rheolwr y Gwasanaeth (Rhianta Corfforaethol) wedi dod â pherson ifanc sy'n derbyn gofal i'r cyfarfod, a rhoddodd i'r Pwyllgor amlinelliad byr o'i phrofiadau tra bod mewn gofal maeth.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at yr angen i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn mynd i weld y meddyg a'r deintydd yn rheolaidd, a gofynnwyd i'r swyddogion pam nad oedd hyn wedi'i gynnwys yn y strategaeth.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hyn wedi'i hepgor a chadarnhawyd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn y strategaeth;

·       Cyfeiriwyd at gynllunio ar gyfer parhad a gofynnwyd i'r swyddogion a yw plant sy'n derbyn gofal a gofalwyr maeth yn cael eu paru er mwyn sicrhau cyfnod hwy o ofal gan eu bod yn methu â datblygu perthynas os nad felly y mae hi.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yna broses o baru gofalwyr maeth, ond mae gan Sir Gaerfyrddin nifer fach o blant sydd wedi symud llawer o weithiau ac fel arfer mae hyn yn digwydd oherwydd materion cymhleth;

·       Mynegwyd pryder bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu symud pan fyddant yn 16 oed, ac nad oes ganddynt yr un lefel o gefnogaeth pan fyddant yn 18 oed.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cefnogi hyd at 25 oed yn Sir Gaerfyrddin, ac mae nifer eithaf uchel yn aros gyda'u teuluoedd maeth ar ôl 18 oed.  Hefyd mae nifer o bobl ifanc sy'n derbyn gofal yn symud i lety byw'n annibynnol yn 16/17/18 oed ac maent yn cael cefnogaeth i sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt.  Ar hyn o bryd mae diffyg cefnogaeth i'r rhai sy'n byw'n annibynnol, fodd bynnag, mae swyddogion yn gweithio i fynd i'r afael â hynny;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion a fydd cyswllt yn parhau â phobl ifanc sy'n gadael yr Awdurdod Lleol, ac esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth (Rhianta Corfforaethol) fod yna gyfrifoldeb ar yr Awdurdod i barhau i gefnogi ein plant sy'n derbyn gofal hyd at 25 oed, pa un ai ydynt yn byw yn ardal yr Awdurdod ai peidio.  Mae'r bobl ifanc hyn yn cael eu hôl-rhain, eu monitro a'u cefnogi.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

7.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG (CSGmA). pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (gan gynnwys disgyblion sy'n trosglwyddo o addysg gynradd cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg).

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod llunio a gweithredu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ofyniad statudol ar yr Awdurdod Lleol.  Cymeradwywyd Cynllun Sir Gaerfyrddin gan Lywodraeth Cymru yn gynnar ym mis Mawrth 2018, heb angen ei ddiwygio ymhellach, ac roedd yn galonogol bod Cynllun Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ganmol gan uwch-weision sifil.

 

Roedd y Cynllun yn rhoi amlinelliad o'r canlynol:-

 

- Cefndir polisi a deddfwriaethol

- Cronoleg o'r broses ailadroddus

- Egwyddorion a rhesymeg sylfaenol

- Heriau a chyfleoedd;

- Amcanion y Cynllun;

- 7 canlyniad y Cynllun;

- Gweithredu;

- Cymorth i ysgolion;

- Y camau nesaf

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a gofynnwyd i'r swyddogion faint o ysgolion sy'n cynnig gwersi Cymraeg i rieni gan y credwyd y byddai hyn yn helpu i gyrraedd y targed hwnnw.  Dywedodd Rheolwr Datblygu'r Gymraeg ei bod yn bwysig bod rhieni'n teimlo eu bod yn rhan o addysg eu plant ac ychwanegodd fod yr adran wedi llwyddo i sicrhau grant i weithio gyda rhieni ynghylch hynny;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith na restrir amcanion na dyddiadau erbyn pryd y gellir mesur cynnydd o dan yr adran nodau ac amcanion.  Esboniodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y nodau a'r amcanion wedi dod yn uniongyrchol o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ei hun.  Ychwanegodd y cytunodd Fforwm y Gymraeg mewn Addysg i fonitro cynnydd y Cynllun yn ei gyfarfod diwethaf.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg, o ran targedau mesuradwy, fod yr adran yn defnyddio nifer o ddangosyddion perfformiad ac mae llawer o'r rhain yn sail i'r amcanion hefyd.

 

PENDERFYNWYD

 

7.1     bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

7.3     bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diweddaru ynghylch astudiaethau achos sy'n cynnwys trosglwyddo disgyblion o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd. 

 

8.

FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH CORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23. pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r aelodau yn ystyried adrannau o ddrafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant.

 

Bydd drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol yn cymryd lle'r un presennol a gyhoeddwyd yn 2015 a bydd yn cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-

 

-  Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

-  yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol

   2009;

-  yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r

Dyfodol (Cymru) 2015;

-  Prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin am y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn “Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf.”

 

Nodwyd nad oes angen inni newid ein Hamcanion Llesiant bob blwyddyn, na gorfod eu rhoi ar waith o fewn blwyddyn, a bod nodi amcanion sy'n parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith y gofynnir i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant wneud sylw ar y meysydd hynny o'r strategaeth sydd yn ei faes gorchwyl yn unig, fodd bynnag, nodwyd bod yna feysydd eraill y mae eu camau gweithredu a'u mesurau yn effeithio ar ei faes gorchwyl hefyd.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod ei adran yn cyfrannu at lawer o amcanion a arweinir gan adrannau eraill ac awgrymodd y dylid rhoi'r strategaeth gyfan gerbron y Pwyllgor yn y dyfodol gan bwysleisio'r elfennau sy'n ymwneud ag Addysg a Phlant. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod unrhyw faterion trawsbynciol wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu;

·       O ran y plant y mae angen cymorth penodol arnynt, gofynnwyd i'r swyddogion sut y byddant yn sicrhau bod y datganiadau'n cael eu cynnal yn gynnar yn ystod addysg y plentyn.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod yna ddyletswydd ar yr Awdurdod tuag at y plant hyn.  Bydd ysgolion sydd â dros 100 o ddisgyblion yn cael arian ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), a gall yr ysgolion hynny sydd â llai na 100 o ddisgyblion gysylltu â'r Awdurdod ar gyfer adnoddau ychwanegol sydd eu hangen er mwyn helpu plant sydd ag AAA.  Mae'r arian yn cael ei ddyrannu yn y ffordd hon gan nad yw'r fformiwla a ddefnyddir yn gweithio ar gyfer yr ysgolion sydd â llai na 100 o ddisgyblion;

·       Cyfeiriwyd at y cyllid Ewropeaidd sy'n cael ei dderbyn ar hyn o bryd a gofynnwyd i'r swyddogion beth fydd yn digwydd i'r arian hwnnw yn y dyfodol.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wybod i'r Pwyllgor fod cadarnhad wedi dod i law y bydd yr arian ar gael tan 2020;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y datganiad yn yr adroddiad sy'n dweud "Ein nod yw cadw i leiafswm ganran y plant sy'n derbyn gofal a chanddynt brofiad o symud ysgol unwaith neu ragor yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, ac nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau pontio" gan y credwyd y dylai hyn ddweud "Byddwn yn parhau i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH MAETHU. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddir gwybodaeth am berfformiad ac ansawdd y gofal a ddarperir mewn perthynas â'r gwasanaeth maethu yn Sir Gaerfyrddin, a oedd yn ofynnol o dan reoliadau statudol y Gwasanaethau Maethu yng Nghymru.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adran wedi recriwtio 9 gofalwr maeth eleni a gofynnwyd i'r swyddogion a yw'r nifer hon yn uchel o'i chymharu ag ardaloedd eraill.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod yn perfformio'n weddol dda yn y rhanbarth ac yng Nghymru yn y maes hwn a phwysleisiodd mai sylwedd nid swm sy'n bwysig;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod Awdurdodau cyfagos yn talu mwy a bod hyn yn rhwystro'r broses recriwtio.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gweithio tuag at gynyddu'r taliadau i fod yn gyfartal ac oherwydd hynny cynyddwyd taliadau eleni a'r gobaith yw parhau i adolygu a chynyddu'r taliadau o hyn ymlaen.  Mae yna amrywiaeth yn y ffïoedd a delir ar draws Cymru ac mae'r Fframwaith Maethu Cenedlaethol yn ceisio cysoni'r ffïoedd hynny;

·       Wrth gydnabod bod tipyn o wahaniaeth yn y taliadau rhwng yr Awdurdodau, gofynnwyd i'r swyddogion a yw'r cymorth a ddarperir hefyd yn amrywio o Awdurdod i Awdurdod.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin yn cynnig llawer o gymorth emosiynol felly rydym yn cadw ein gofalwyr maeth.  Rydym yn cynnig llawer o becynnau wedi'u teilwra i helpu ein gofalwyr maeth e.e. cymorth pan nad yw'r plant yn yr ysgol.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

10.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 - CWARTER 3. pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2017.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd siom bod dros 50% o'r amcanion heb gael eu hadrodd a mynegwyd pryder bod y data nad yw wedi'i adrodd yn ymddangos yng nghanol y data sydd heb gadw at y targed a'r data sy'n cyrraedd y targed.  Esboniodd y Swyddog Gwybodaeth Plant ac Ysgolion fod y data o chwarter 4 yn hwyr ac felly mae'n cael ei nodi'n ddata heb ei adrodd;

·       Cyfeiriwyd at y materion annisgwyl o ran capasiti a nodwyd yn yr adroddiad a gofynnwyd i'r swyddogion a yw hyn yn gysylltiedig â'r Bwrdd Iechyd neu'r Cyngor.  Dywedodd y Swyddog Gwybodaeth Plant ac Ysgolion fod y materion o ran capasiti yn gysylltiedig â'r Bwrdd Iechyd a'r Cyngor fel ei gilydd, a bod swyddogion ar y ddwy ochr yn cydweithio'n agos i'w datrys.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

11.

STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION 2018-2021. pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynarach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018-2021, sef y strategaeth ddigidol gyntaf oll ar gyfer ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n nodi gweledigaeth yr Awdurdod, yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a'r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer darparu Gwasanaethau TGCh i ysgolion. 

 

Mae Is-adran Gwasanaethau TGCh Sir Gaerfyrddin yn rhoi cymorth a gwasanaethau helaeth i'r holl ysgolion ledled yr Awdurdod. Mae defnydd yr ysgolion o dechnoleg yn hyrwyddo dysgu arloesol gan fyfyrwyr a oedd yn hyderus yn ddigidol, a ysbrydolwyd gan addysgu medrus a chreadigol.  Mae'r Strategaeth Ddigidol dair blynedd ar gyfer Ysgolion yn nodi bwriad yr Awdurdod o ran y ddarpariaeth TGCh mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd nesaf, er mwyn sicrhau bod gan ysgolion y dechnoleg briodol i gyflawni'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

 

Rhoddodd y strategaeth eglurdeb ar y meysydd canlynol:-

 

- Pam mae arnom angen Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion;

- Ein gweledigaeth ddigidol ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin;

- Ein hegwyddorion cyffredinol ar gyfer darparu'r strategaeth;

- Ystad Ddigidol Ysgolion Sir Gaerfyrddin;

- Meysydd blaenoriaeth allweddol:

   - HWB yn gyntaf

   - Diogeledd data a gwasanaethau ar-lein

   - Rhwydweithiau effeithiol ac effeithlon

   - Ysgolion a dosbarthiadau digidol

- Y prosiectau allweddol sydd i'w cyflawni

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y problemau o ran plant nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith ysgol ar-lein gartref mwyach.  Esboniodd y Rheolwr Strategol Technegol fod plant yn arfer clicio ar ddolen i gael mynediad i fodiwlau ar-lein, ond roedd yna risgiau o ran diogelwch felly roedd rhaid i ni roi'r gorau i ddefnyddio'r system honno. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio ar system newydd;

·       Mynegwyd pryder bod llawer o blant yn ddifreintiedig gan nad oes ganddynt iPads ac na ellir trosglwyddo'r apiau a ddefnyddir mewn ysgolion i systemau Android a gofynnwyd i'r swyddogion a oes unrhyw gynlluniau i ddefnyddio'r ddwy system.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gweithio ar y mater hwn ac mai'r bwriad yw y bydd yr holl apiau sy'n cael ei symud i'r system newydd, HWB, ar gael ar nifer o blatfformau;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith nad oes gennym ddarpariaeth o'r un safon o ran y systemau yn y Gymraeg a'r Saesneg a gofynnwyd i'r swyddogion pa mor hyderus ydynt y gellir cyflawni hyn.  Cytunodd y Pennaeth TGCh ei fod yn her gan fod y cwmnïau sy'n darparu systemau megis Office 365 ond yn gwneud hyn yn y Saesneg;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod y strategaeth ond yn cyfeirio at isadeiledd a chredwyd bod cyfle wedi'i golli o ran sicrhau bod staff yn meddu ar y sgiliau priodol sydd eu hangen arnynt.  Esboniodd y Pennaeth TGCh mai ei is-adran sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr isadeiledd sydd ei angen er mwyn darparu'r gwasanaeth yn bresennol ac mai'r Adran Addysg sy'n gyfrifol am ddarparu sgiliau TG i athrawon.  Ychwanegodd fod llawer o waith yn cael ei wneud yn ogystal â'r strategaeth er mwyn cyflawni  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

ADRODDIAD ADBORTH YMWELIADAU YSGOLION. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddodd drosolwg ar yr ymweliadau ag ysgolion a gynhaliwyd yn ystod Tymor y Gwanwyn 2018.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

13.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rheswm dros beidio â chyflwyno adroddiad canlynol:-

 

- Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbennig

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

 

14.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y nifer sylweddol o adroddiadau i'w hystyried yn y cyfarfod a gynhelir ar 7 Mehefin ac o ystyried y ffaith bod cyfarfod ychwanegol wedi'i drefnu ar gyfer 14 Mai, awgrymwyd bod rhai eitemau'n cael eu hystyried yn y cyfarfod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD

 

14.1    rhoi'r Diweddariad Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC)           a'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen 2015/16 a gwaith monitro'r           Cynllun Gweithredu ar agenda y cyfarfod a gynhelir ar 14 Mawrth           2018;

 

14.2    nodi'r eitemau sydd ar ôl i'w hystyried yn y cyfarfod a gynhelir ar           7 Mehefin 2018.

 

 

 

15.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 14EG MAWRTH, 2018. pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at gwestiwn a ofynnwyd yn y cyfarfod diwethaf o dan gofnod rhif 5 mewn perthynas â'r £500k a ddyrannir i ysgolion a'r cais am adroddiad ynghylch y mater hwn. Dywedodd y Cadeirydd y byddai swyddogion yn llunio adroddiad o ganlyniad, a fyddai'n cael ei gynnwys yn y Blaenraglen Waith.

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 14 Mawrth 2018 yn gywir, yn amodol ar gynnwys y newid uchod.