Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, I.W. Davies, J.P. Jenkins, G. Jones a S. Najmi a gan Mrs E. Heyes a Mrs K. Hill (Rhiant-Lywodraethwyr) a Mrs J. Voyle Williams (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd B.W. Jones

 

 

Rhif y Cofnod 14 – Cynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i Ddarparu Darpariaeth Feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn trwy gynyddu ei Hystod Oedran o 4-11 i 3-11

 

 

Mae ei mab yn dysgu blwyddyn 5 yn yr ysgol.

 

Y Cynghorydd M.J.A. Lewis

Rhif y Cofnod 6 - Cynllun Busnes Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr 2017-20

Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ac mae hi'n ymwneud â'r Urdd.

 

Y Cynghorydd D. Price

Rhif y Cofnod 13 – Cynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i Gynyddu Nifer Lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210

Ef yw'r Aelod Lleol ac mae'n aelod o Gyngor Cymuned Gors-las sydd mewn trafodaethau â'r Cyngor Sir ynghylch y safle.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU AC ASESIADAU ATHRAWON A DATA PRESENOLDEB YSGOLION (HEB EU CADARNHAU). pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr Adroddiad Amodol ar Ganlyniadau Arholiadau ac Asesiadau Athrawon a oedd yn cynnwys Data Amodol ar Bresenoldeb yn yr Ysgolion.  Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn cynnwys peth data heb ei gadarnhau mewn perthynas â 2017 ac y byddai'r adroddiad ar ddata perfformiad wedi'i gadarnhau yn cael ei gyflwyno i'r aelodau yn gynnar yn 2018.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod Dangosyddion y Cam Sylfaen wedi bod islaw'r cyfartaledd am bum mlynedd. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg mai ystadegau ar draws Cymru gyfan yw'r rhain a'i bod hi'n bwysig sicrhau bod unrhyw waith monitro ac asesu a wneir yn gyson. Ychwanegodd ei bod yn ofynnol gan y swyddogion fod ysgolion yn dangos sut y gwnaethant sicrhau cynnydd i bob disgybl.  Mae'r cyfan yn fater o ddal ysgolion yn atebol;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith fod tlodi'n mynd yn broblem fawr yn sgil cwymp mewn incwm a thoriadau mewn budd-daliadau, ac y gallai hyn gael effaith ddifrifol ar y ffigurau.  Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg yn cydnabod bod yna broblem yn ymwneud â thlodi ac ymddieithrio; fodd bynnag, mae'r swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn;

·       Cyfeiriwyd at y cyswllt rhwng cynnydd yn y Cyfnod Sylfaen ac absenoldeb gan fod hyn wrth gwrs yn effeithio ar gynnydd a holwyd y swyddogion beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag absenoldeb.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Lles a'r ysgolion yn hyn o beth.  Caiff asiantaethau eraill hefyd eu galw i mewn os oes angen i gefnogi'r teulu gan ei bod hi'n bwysig gwybod pam nad yw plentyn penodol eisiau bod yn yr ysgol.  Mae'r cyfan yn ymwneud â gweithio gyda'r teulu a gwneud yn si?r fod y plant yn hapus;

·       Cyfeiriwyd at amrywiol lefelau perfformiad y dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim o ysgol i ysgol.    Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod hyn yn gymhleth gan fod yna wahanol broblemau mewn gwahanol ardaloedd.  Ychwanegodd fod gweithdy yn cael ei drefnu ar gyfer yr holl ysgolion er mwyn rhannu arferion gorau yn y maes hwn;

·       Cyfeiriwyd at y gwelliant prin a fu ym mherfformiad disgyblion mewn gwyddoniaeth a holwyd y swyddogion p'un ai'r bwriad oedd trefnu hyfforddiant ar gyfer ysgolion yn hyn o beth.  Rhoddodd y Prif Ymgynghorydd Her wybod i'r Pwyllgor fod yna gynllun peilot wedi'i gynnal yn ardal Bro Dinefwr ddwy flynedd yn ôl a oedd yn ymwneud â rhannu arbenigedd a chyfarpar.  O ganlyniad rhoddodd y staff a'r disgyblion gyflwyniad i'r holl Benaethiaid Ysgolion Uwchradd ac mae'r prosiect hwn bellach wedi cael ei gyflwyno ar draws yr holl glystyrau eraill ar gyfer y flwyddyn academaidd hon;

·       Mynegwyd pryder ynghylch nifer y plant sy'n dechrau yn yr ysgol gyda sgiliau gwan o safbwynt eu hiaith a'u datblygiad, a gellir priodoli hyn i ddibyniaeth ar declynnau technolegol.  Cytunai'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod yna dystiolaeth o hyn mewn rhai ysgolion a bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES 2017-20 GWASANAETH CYMORTH IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd M.J.A. Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2017-20 a oedd yn darparu gwybodaeth am y strwythur, y trefniadau llywodraethu a'r adnoddau a oedd ar gael.  Roedd y Cynllun hefyd yn nodi'r prif feysydd gweithgarwch a'r prif risgiau sy'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc sydd yn y System Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Ionawr 2016, gan ddod â Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ynghyd o dan un strwythur rheoli integredig.  Mae'r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yn caniatáu i ddull mwy cyfannol o gyflwyno gwasanaethau cymorth ieuenctid gael ei ddatblygu ledled Sir Gaerfyrddin.  Roedd y gwasanaeth yn cadw swyddogaethau statudol y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid, yn hyrwyddo'r ethos o weithio gyda'n gilydd i gyflwyno cymorth wedi'i dargedu ac yn cadw elfennau o ddarpariaeth gwaith ieuenctid cyffredinol uniongyrchol.

 

Nodwyd bod rhaid i'r Cynllun Busnes fodloni gofynion o safbwynt deddfwriaethol, gwneud grantiau a chynllunio busnes.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Holwyd y swyddogion yngl?n â natur ac iaith y clybiau Ieuenctid yn y sir a ph'un a oes unrhyw gysylltiad wedi'i wneud â'r Clybiau Ffermwyr Ifanc a'r Urdd.  Esboniodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth i Ieuenctid fod yna Gytundeb Lefel Gwasanaeth ar waith gyda'r Urdd i gyflwyno gwasanaethau Cymraeg i'r tîm.  Mae cyswllt wedi'i wneud hefyd â'r Clybiau Ffermwyr Ifanc.  Ychwanegodd fod y swyddogion yn gweithio ar ddarparu cyfleusterau Cymraeg mewn clybiau ieuenctid gan eu bod am hyrwyddo diwylliant Cymraeg bywiog;

·       Cyfeiriwyd at yr hinsawdd ariannol presennol a'r ansicrwydd a brofir gan aelodau'r tîm mewn perthynas â'u gwaith yn y dyfodol.  Esboniodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth i Ieuenctid fod rhaid, yn anffodus, i'r tîm wneud arbedion effeithlonrwydd ac felly ei fod wedi llunio rhai opsiynau er mwyn i'r aelodau eu hystyried.  Bu rhaid edrych ar ba wasanaethau a ddarperir sy'n rhai statudol, a pha rai nad ydynt.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro ei bod yn bwysig ceisio cael dull economi cymysg yn y dyfodol gan na allwn ddarparu rhai o'r gwasanaethau hyn ar ein pen ein hunain mwyach.  Dyma pam ei bod yn bwysig creu cysylltiadau â'r Urdd a sefydliadau eraill.  Ychwanegodd y gallai fod yn syniad da i greu Fforwm a chael yr holl sefydliadau ynghyd i ffurfio rhwydwaith fel bod pobl yn gwybod beth sydd ar gael.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 - CWARTER 1. pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2017.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y data a oedd yn ymwneud â chanran y datganiadau terfynol o anghenion addysgol arbennig a roddwyd o fewn 26 wythnos a holwyd y swyddogion a oedd hyn o ganlyniad i'r ffaith fod y Pennaeth Seicoleg wedi gadael.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro bod yna welliant wedi bod gan y byddai yna 20 o ddatganiadau hwyr wedi bod ddwy flynedd yn ôl. Mae'r swyddogion wedi newid y modd y caiff datganiadau eu gwneud ac maent yn gweithio gyda chydweithwyr ym maes seicoleg, ac yn y dyfodol bydd plentyn yn cael cynllun dysgu unigol yn hytrach na datganiad. Ychwanegodd eu bod wedi cael grant i brynu adnoddau ychwanegol.  Nid oedd yn pryderu am y dangosydd hwn ar hyn o bryd;

·       Mewn perthynas â hyrwyddo sgiliau ieithyddol, holwyd y swyddogion yngl?n â pha gyswllt sydd wedi'i wneud â theuluoedd o Syria.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Dros Dro fod aelod o staff sy'n siarad Arabeg wedi cael ei recriwtio a'i fod felly'n gallu siarad â'r teuluoedd, mynd i'r ysgolion i sicrhau bod y plant yn cael eu trosglwyddo iddynt yn hwylus ac ati.  Mae'r teuluoedd hefyd yn cael cyfle i fynd ar gyrsiau i helpu gyda'u sgiliau iaith;

·       Cyfeiriwyd at yr ysgolion newydd a gaiff eu hadeiladu fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg a mynegwyd pryder ynghylch y ffaith fod yr arwyddion Cymraeg yn aml yn anghywir ac felly'n wastraff arian.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro wrth y Pwyllgor ei fod yn ymwybodol o'r problemau ac y byddai'n mynd ar ôl y mater hwn gyda'r contractwr.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW A CYFALAF. pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Addysg a Phlant a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Addysg a Phlant yn gorwario £1,389k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai yna -£176k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2017/18. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y defnydd o asiantaethau maethu a bod hyn fwy na thebyg oherwydd bod Awdurdodau cyfagos yn talu mwy.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Dros Dro fod yna drafodaethau'n mynd rhagddynt gyda golwg ar gysoni lwfansau'n genedlaethol, a bod y swyddogion bellach yn gallu cymharu'r lefelau a delir gan wahanol Awdurdodau.  Roedd y swyddogion wrthi'n paratoi adroddiad ar lwfansau i gael ei ystyried gan y Cyngor.  Ychwanegodd fod angen prynu darpariaeth arbenigol ychwanegol oherwydd gofynion cymhleth rhai plant.  Yr hyn sy'n peri her yw'r ffaith y byddai'n costio £1m ychwanegol i'r Awdurdod pe baem yn talu'r un lefelau â'r Awdurdodau cyfagos;

·       Y gorwariant a nodwyd yn yr adroddiad oedd y rhagamcaniad fel yr oedd ar 30 Mehefin a gofynnwyd i'r swyddogion am sicrwydd bod y ffigur hwn yn cael ei leihau.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro wrth y Pwyllgor fod y ffigur wedi gwella'r mis hwn a'i fod o gwmpas £1m ar hyn o bryd.  Ychwanegodd ei fod wedi cwrdd â'i reolwyr 3ydd haen y diwrnod blaenorol i drafod y gyllideb a'u bod i gyd wedi cael eu hatgoffa am yr angen i reoli eu cyllidebau ac i fod yn effro i'r ffaith fod angen iddynt gadw o fewn eu cyllideb;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion am esboniad gyda golwg ar y papur drafft ar gynaliadwyedd y Gwasanaeth Cerdd.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Dros Dro fod y swyddogion wrthi'n gweithio ar ffigurau ar gyfer y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd er mwyn canfod y costau craidd a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH MABWYSIADU. pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu ar gyfer 2016/17 a luniwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac a oedd yn rhoi manylion am waith a pherfformiad y pum Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol sydd yn ffurfio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.  Nodwyd mai Sir Gaerfyrddin yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer un o'r gwasanaethau rhanbarthol, sef Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol ynghylch yr adroddiad:-

·       Pan ofynnwyd pa broblemau y daethpwyd ar eu traws gyda'r cynllun peilot Maethu i Fabwysiadu, cynghorwyd y Pwyllgor fod fersiwn Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol iawn i fersiwn Lloegr. Yng Nghymru mae Maethu i Fabwysiadu ond yn berthnasol i bobl sydd eisoes yn fabwysiadwyr ac fel cynllun peilot nid yw wedi gweithio ar draws y wlad gan nad oes unrhyw un wedi dod o hyd i ffordd o'i wneud yn hyfyw.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2016/17 – DRAFFT pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2016/17 a oedd yn cynnwys adroddiad cynnydd yr ail flwyddyn ar Strategaeth Gorfforaethol 2015-20, y Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2016/17 a'r Adroddiad Blynyddol llawn.

 

Pan gyhoeddwyd y Strategaeth Gorfforaethol yn 2015/20 cytunwyd y byddai adroddiad cynnydd blynyddol yn cael ei gynhyrchu a fyddai'n pennu 24 o fesurau canlyniadau er mwyn barnu ein cynnydd yn eu herbyn.  Byddai'r Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei hadolygu ar gyfer 2018/19 gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu bod ein Hamcanion Llesiant yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth Gorfforaethol.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol roedd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwella wedi cael eu cyfuno yn yr un ddogfen.  Fodd bynnag, mae'r dogfennau hyn wedi cael eu gwahanu eleni oherwydd mae'n ofynnol inni, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyhoeddi ein Hamcanion Llesiant erbyn 31ain Mawrth ac felly roedd yn gwneud synnwyr inni gyhoeddi'r Cynllun Gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ar y cyd â nhw.  Ni fyddai wedi bod yn bosibl llunio'r Adroddiad Blynyddol cyn diwedd y flwyddyn.

 

Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Cyflwynwyd y sylw canlynol am yr adroddiad:-

·       Mynegwyd pryder ynghylch lefelau'r salwch a straen ymhlith staff mewn ysgolion.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro wrth y Pwyllgor fod y swyddogion yn ceisio mynd i'r afael â'r her hon ac i'r perwyl hwn bydd gweithdy yn cael ei gynnal ar y mater hwn ar gyfer penaethiaid fis nesaf.

PENDERFYNWYD bod yr Adroddiad Blynyddol drafft, yn cynnwys Adroddiad Cynnydd yr Ail Flwyddyn ar y Strategaeth Gorfforaethol, yn cael ei dderbyn.

 

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2016/17. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2016/17.  Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y materion hynny a gyfeiriwyd at y Bwrdd Gweithredol a Phwyllgorau Craffu eraill, neu a gafwyd ganddynt.  Yn ogystal roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 2016/17.

 

 

12.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT AR GYFER 2017/18. pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2017/18 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar gyfer 2017/18.

 

 

13.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GYNYDDU NIFER Y LLEOEDD YN YSGOL GYMUNEDOL GORSLAS O 110 I 210. pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan fod y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, gadawodd y Gadair tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.  Arhosodd yr Is-gadeirydd, sef y Cynghorydd E.G. Thomas, tra oedd yr eitem dan sylw.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210.

 

Mae Ysgol Gynradd Gors-las yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng nghanol pentref Gors-las ger Cross Hands.  Mae gan yr ysgol le i 110 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed.  Sefydlwyd yr ysgol yn y 1920au ac mae'n darparu ar gyfer disgyblion yn ardal Gors-las a'r ardaloedd cyfagos.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn cynyddu ac mae hyn hefyd yn wir am niferoedd y disgyblion yn yr ysgol, ac ar hyn o bryd mae nifer y disgyblion yn uwch na'r lleoedd sydd ar gael.

 

Roedd adolygiad o'r problemau, yr anawsterau a'r bylchau yn y gwasanaeth a oedd yn gysylltiedig â'r trefniadau presennol yn Ysgol Gynradd Gors-las wedi nodi'r canlynol yn glir:-  

         

-         bod diffyg cysondeb rhwng nifer y lleoedd yn yr ysgol a'r galw am leoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg; 

-         nid yw adeilad presennol yr ysgol yn bodloni safonau Sir Gaerfyrddin o ran y cyfleusterau sy'n cael eu cynnig a'r gofod sy'n ofynnol;

-         nid yw'r safle na'r adeiladau yn ddigonol o ran bodloni anghenion y gymuned ehangach;

-         mae'n rhaid i staff a disgyblion symud rhwng yr ystafelloedd dosbarth symudol a phrif adeilad yr ysgol;

-         nid oes digon o le, dan do nac yn yr awyr agored, i ddarparu a gwella cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a chyfleoedd chwarae ar gyfer pob dysgwr;

-         mae'r mynediad/meysydd parcio yn yr ysgol yn gyfyngedig ac yn tarfu ar yr ysgol yn ystod cyfnodau gollwng/casglu plant.

 

Ar 20 Mehefin, 206 cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol Raglen Moderneiddio Addysg ddiwygiedig a Rhaglen Band “A” Ysgolion yr 21ain Ganrif, a oedd yn cynnwys datblygu cynllun i ddarparu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gors-las a fyddai'n mynd i'r afael â'r materion a nodir uchod.

 

Cynigiwyd y byddai gan yr ysgol newydd le ar gyfer 210 o ddisgyblion, a fyddai'n caniatáu i'r ysgol ddiwallu'r galw presennol ac yn y dyfodol am leoedd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.  Byddai adeilad newydd yr ysgol hefyd yn darparu lle i gynnwys meithrinfa allanol â 30 o leoedd a chyfleusterau addas ar gyfer dysgu ac addysgu yn yr 21ain ganrif.  Roedd y cynllun yn cael ei ddatblygu ar y pryd a'r bwriad oedd y byddai adeilad newydd yr ysgol yn barod i'w ddefnyddio erbyn 1 Medi, 2019.

 

Gan mai'r bwriad oedd gwneud cynnydd o fwy na 25% i nifer lleoedd presennol yr ysgol, rhaid dilyn proses statudol yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 i ffurfioli'r trefniant.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y ffaith mai dim ond 122 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol ar hyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I DDARPARU DARPARIAETH FEITHRIN YN YSGOL PARC Y TYWYN DRWY GYNYDDU YR YSTOD OEDRAN O 4-11 I 3-11. pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd B.J. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynnig i safoni darpariaeth addysg feithrin yr awdurdod lleol yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-bre.

 

Ysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Parc y Tywyn sydd ag ystod oedran rhwng 4-11 ac sy'n rhannu'r un dalgylch ag Ysgol Gymunedol Porth Tywyn ac Ysgol Pen-bre gyda'i gilydd, sydd ill dwy yn ysgolion cyfrwng Saesneg ag ystod oedran rhwng 3-11.

 

Roedd y cynnig hwn felly'n ceisio safoni'r addysg feithrin yn yr ardal drwy sicrhau bod yr un lefel o ddarpariaeth yn cael ei darparu ar gyfer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r ysgolion cyfrwng Saesneg yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-bre. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

·       Holwyd y swyddogion a fyddai'r cynnig yn effeithio ar ddarparwyr addysg feithrin yn yr ardal o ran colli swyddi.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro wrth y Pwyllgor fod y swyddogion wedi bod mewn trafodaeth â'r darparwyr gofal plant yn yr ardal yngl?n â'r cynnig a phe bai yna unrhyw swyddi yn y ddarpariaeth newydd yna byddent mewn sefyllfa addas ar eu cyfer;

·       Cyfeiriwyd at yr anghysondeb yn y ddarpariaeth feithrin ledled y Sir a holai'r swyddogion sut oedd hyn yn cael ei ddatrys.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Dros Dro fod yna gymysgedd o ddarpariaeth 3-11 oed a 4-11 oed yn Sir Gaerfyrddin ac mai'r bwriad yw bod pob ysgol yn symud i ddarpariaeth 3-11 oed.  Yn anffodus, nid oedd hyn heb ei heriau gan gynnwys rhai ariannol, a hefyd o ran y canlyniadau ar gyfer darparwyr gofal plant sydd yn cael elfen o'u cyllid oddi wrth yr Adran Addysg.  Rhaid felly oedd edrych ar ysgolion yn unigol ac yn yr achos hwn cododd y cyfle i newid y ddarpariaeth gyda golwg ar y ffaith fod ysgol newydd yn cael ei hadeiladu.  Mae yna anghysondeb ac mae angen i ni gael darpariaeth ledled y sir ar gyfer plant 3-11 oed.  I'r perwyl hwn mae angen i ni gydweithio â sefydliadau eraill i sicrhau, os nad oes yna ddarpariaeth mewn ardal, ein bod yn ceisio gwneud yn si?r bod hynny ar gael.

PENDERFYNWYD

 

14.1    bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

14.2    cymeradwyo, i'r Bwrdd Gweithredol, y cynnig i safoni'r           ddarpariaeth addysg feithrin yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-          bre.

 

 

 

 

15.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, 27 Tachwedd, 2017.

 

16.

DERBYN COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 24AIN EBRILL, 2017. pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2017 yn cael eu derbyn.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau