Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs. V. Kenny (cynrychiolydd o'r Eglwys Gatholig Rufeinig), Mrs. K. Hill (Aelod Rhiant-lywodraethwr – Ardal Dinefwr) a Mrs. A. Pickles (Aelod Rhiant-lywodraethwr – Ardal Caerfyrddin).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

DIWEDDARIAD RHIANTA CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Diweddaru Blynyddol Rhianta Corfforaethol a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Rianta Corfforaethol, plant heb gwmni oedolyn sy'n ceisio lloches a gwasanaethau maethu. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r canlyniadau llwyddiannus a gafwyd, yr heriau o gadw gofalwyr maeth a chael digon o staff ac adnoddau i fodloni'r galw cynyddol gan y sawl sy'n gadael gofal.

 

Pwysleisiodd y swyddogion fod Rhianta Corfforaethol yn cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 sy'n gadael gofal. Clywodd y Pwyllgor gan ddau unigolyn a oedd wedi gadael gofal am eu profiadau a'r cymorth a roddwyd iddynt. Dywedwyd wrth yr aelodau fod y Cyngor yn cynnig swyddi dan hyfforddiant i'r sawl sy'n gadael gofal, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau. Nododd yr aelodau fod sylwadau cadarnhaol am y cymorth a roddwyd iddynt ac roedd yr aelodau'n cydnabod y gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth. Diolchodd y Pwyllgor i'r bobl ifanc a oedd wedi gadael gofal am y cipolwg defnyddiol yr oeddent wedi'i roi gan nodi y bu i'r Pwyllgor glywed yn uniongyrchol gan y sawl a oedd yn cael gwasanaethau o'r fath.

 

Esboniodd y swyddogion fod gan yr Awdurdod Lleol Strategaeth Rhianta Corfforaethol a oedd yn amlinellu'r mesurau y byddai'n eu cymryd i sicrhau bod y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r sawl sy'n gadael gofal yn gadarnhaol. Roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi gostwng yn gyson ers 2011, gyda'r nifer cyfredol yn 210. Nodwyd bod y mwyafrif o blant sy'n derbyn gofal yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng addysg prif ffrwd gydag 11 o blant yn unig yn cael darpariaeth addysg amgen. Pwysleisiwyd bod Sir Gaerfyrddin yn llwyddiannus iawn wrth gymharu â chyfartaledd Cymru o ran cyrhaeddiad ysgol plant sy'n derbyn gofal ac roedd yr ysgolion yn cael cymorth gan y Tîm Rhianta Corfforaethol

 

Roedd y Gwasanaethau Rhianta Corfforaethol yn darparu mynediad i theraplay, cwnsela ac ymyriadau therapiwteg ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr. Pwysleisiwyd bod y gwasanaethau'n cefnogi un rhan o dair o blant sir sy'n derbyn gofal ac roedd gwasanaethau o'r fath y bwysig er mwyn i'r afael â'u hiechyd emosiynol. Nodwyd bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gweld 3 o blant sy'n derbyn gofal yn unig y llynedd.

 

Dywedodd y swyddogion y rhagwelwyd y byddai niferoedd y sawl sy'n gadael gofal yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf oherwydd newidiadau yn y ddeddfwriaeth a byddai'n cymryd tipyn o amser i'r niferoedd ostwng. Pwysleisiwyd bod y Tîm Gadael Gofal yn darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi a chymorth ar gyfer y sawl sy'n gadael gofal ac roedd yn fwriad parhau i leihau nifer y bobl ifanc sy'n gadael gofal nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Fodd bynnag, roedd Sir Gaerfyrddin yn is na chyfartaledd Cymru o ran pobl ifanc NEET sy'n gadael gofal. Gofynnodd y Pwyllgor am ffigurau er mwyn cymharu ag awdurdodau lleol eraill a bod ffigurau cyfartaledd cenedlaethol yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Roedd sicrhau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad ynghylch Adolygu'r Gwasanaethau Ymddygiad.

7.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 15EG MAWRTH, 2017 pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at gofnod 7 (Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb 2016/17) ac yn benodol paragraff saith o'r materion a drafodwyd ynghylch aildrefnu darpariaeth gynradd yn nhref Rhydaman, a nodwyd y dylai gynnwys datganiad "nodwyd bod £19 miliwn wedi'i osod naill ochr ar gyfer y prosiect hwn".

 

PENDERFYNWYD, ar yr amod y byddai'r newid a nodwyd uchod yn cael ei gynnwys, lofnodi cofnodion cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 15 Mawrth, 2017, i nodi eu bod yn gywir.

 

Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, roedd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor wedi cydnabod y gwaith rhagorol a gyflawnwyd ar ran y Pwyllgor gan Matthew Hughes, y cyn Swyddog Gwasanaethau Democrataidd. Gofynnwyd am anfon llythyr o ddiolch ato ar ran y Pwyllgor a dymuno yn dda iddo yn ei swydd newydd.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau