Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd T.J. Jones.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd oedd wedi ei gynnal ar 14eg Mawrth 2017 gan eu bod yn gywir.
|
|
PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD - SWYDDOGAETH PDF 236 KB Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r fframwaith statudol y mae Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn gweithredu ynddo, ynghyd â'i faes gorchwyl a'i bwerau fel y nodir ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a chyfrifoldebau ychwanegol a gafodd eu cymeradwyo gan y Cyngor ar 17eg Ebrill 2013.
PENDERFYNWYD nodi darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a'r Canllawiau Statudol sy'n ymwneud â Swyddogaeth Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
|
|
PENODI HYRWYDDWR DATBLYGU AELODAU PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn manylu ar yr angen i benodi Hyrwyddwr Datblygu Aelodau a chadarnhau ymrwymiad yr Awdurdod i ddatblygu Aelodau. Byddai'r Hyrwyddwr Datblygu Aelodau yn gweithio'n agos gyda'r Arweinydd Datblygu Aelodau ar ran y Bwrdd Gweithredol a swyddogion y Tîm Dysgu a Datblygu er mwyn nodi a hybu materion sy'n ymwneud â datblygu Aelodau.
Awgrymwyd y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ymgymryd hefyd â swyddogaeth yr Hyrwyddwr Datblygu Aelodau.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid ymgorffori rôl Hyrwyddwr Datblygu Aelodau'r Cyngor i swyddogaethau Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
|
|
AROLWG – AMSERAU CYFARFODYDD Y CYNGOR PDF 293 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn manylu ar ganlyniadau cychwynnol arolwg ynghylch amseriad cyfarfodydd, y bu'n rhaid i'r Cyngor ymgymryd ag ef yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Nododd y canlyniadau y byddai'n well gan y mwyafrif o'r aelodau gadw'r trefniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ystyriwyd adroddiad ar y canfyddiadau gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad a oedd wedi gofyn am ddadansoddiad pellach o'r ymatebion i ganfod proffil oedran yr aelodau hynny oedd yn ffafrio cyfarfodydd gyda'r nos, a pha Bwyllgorau maent yn eistedd arnynt. Roedd y Gweithgor wedi argymell hefyd y dylid ystyried y posibilrwydd o gynnal sesiwn datblygu Aelodau gyda'r nos.
PENDERFYNWYD 6.1 cyflwyno adroddiad pellach ynghylch amseriadau cyfarfodydd i'r cyfarfod nesaf; 6.2 ystyried y posibilrwydd o gynnal sesiwn datblygu Aelodau gyda'r nos.
|
|
PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016-2017 PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod 18fed Mai 2016 – 24ain Mai 2017. Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwaith y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
Y NEWYDDION DIWEDDARAF YNGHYLCH RHAGLEN SEFYDLU'R AELODAU 2017 PDF 533 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 4 y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 1af Medi 2016, cafodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd ynghylch Rhaglen Sefydlu'r Aelodau 2017a gwahoddwyd y Pwyllgor i roi sylwadau arno. Er mwyn sicrhau bod y Rhaglen wedi bod yn effeithiol wrth ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth ddigonol i'r Aelodau, gofynnwyd am adborth hefyd gan Aelodau ynghylch cynnig i gynnal grwpiau ffocws.
Dywedwyd bod un neu ddwy sesiwn wedi cyd-daro â chyfarfodydd pwyllgorau, yn anffodus, ac y byddai rhai sesiynau wedi bod ar eu hennill o gael eu cynnal dros ddau ddiwrnod. Dywedodd Swyddogion y byddai gwybodaeth am yr holl sesiynau ar gael ar-lein ar gyfer Aelodau nad oeddent wedi gallu bod yn bresennol. Mynegwyd pryder ynghylch y niferoedd bychain oedd yn bresennol mewn rhai sesiynau, yn arbennig o gofio faint o waith paratoi a wnaed gan swyddogion, ond derbyniwyd nad oedd hi'n ofynnol yn gyfreithiol i fynychu. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai hyn fod yn fater i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei ystyried.
PENDERFYNWYD 8.1 derbyn yr adroddiad;
8.2 edrych ymhellach ar y posibilrwydd o aildrefnu'r daith ymgynefino â gogledd a gorllewin y Sir ar gyfer yr Aelodau sydd newydd gael eu hethol;
8.3. croesawu'r cynnig i gynnal grwpiau ffocws.
|
|
BLAENRAGLEN WAITH PWYLLGOR Y GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 393 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried blaenraglen waith ar gyfer 2017/18 a oedd yn rhoi Eitemau Agenda i'r Aelodau ar gyfer Cylch 2017/18 y Pwyllgor Democrataidd.
Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r flaenraglen waith hefyd gynnwys eitemau ar ddarpariaeth TG yr Aelodau ac adolygiadau/ gwaith mentora ar ddatblygiad personol.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Flaenraglen Waith yn amodol ar gynnwys yr awgrymiadau uchod.
|