Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 1af Medi, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.D. James a H.B.  Shepardson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 17EG MAWRTH 2016 pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd oedd wedi ei gynnal ar 17eg Mawrth 2016 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

Y TREFNIADAU SEFYDLU A DATBLYGU AR GYFER AELODAU 2016/17 pdf eicon PDF 549 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a geisiai gymorth i hyrwyddo cyfarfodydd un i un Datblygu Aelodau er mwyn cael darlun clir o unrhyw ddatblygu yr oedd angen mynd i'r afael ag ef dros y 6-8 mis nesaf. Hefyd gwahoddwyd sylwadau'rPwyllgor ar y cwestiynau allweddol yr oedd angen eu gofyn i'r aelodau fel rhan o Arolwg Sefydlu Cynghorwyr er mwyn llywio'r modd y gweithredir rhaglen sefydlu gyflawn, wybodus ac effeithiol ar gyfer 2017.

Roedd consensws cyffredinol y dylid anfon nodyn atgoffa arall at Arweinwyr pob Gr?p Gwleidyddol yn pwysleisio'r angen i gynnal cyfarfodydd un i un gyda'u haelodau er mwyn penderfynu ar eu hanghenion hyfforddiant. Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith ei bod hi a'r Prif Weithredwr yn cwrdd ag Arweinwyr y Grwpiau yn rheolaidd, ac y byddai'n codi'r mater yn y cyfarfod nesaf. Cytunwyd bod nodyn atgoffa yn cael ei anfon at Arweinwyr y Grwpiau gan yr Hyrwyddwr Datblygu Aelodau, y Cynghorydd W.T. Evans, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Dynol, Effeithlonrwydd a Chydweithio.

 

O ran yr Arolwg Sefydlu Cynghorwyr, croesawodd yr aelodau y syniad o fentora aelodau newydd a barnwyd y gallai pob aelod newydd gael ei fentora gan swyddog ac aelod profiadol.  Hefyd awgrymwyd y dylai'r rhaglen Sefydlu roi golwg gyffredinol i'r aelodau ar faterion cynllunio gan bwysleisio pa mor bwysig yw bod yn ddiduedd. Yn ogystal cafodd cynnal cyfweliadau ei awgrymu fel pwnc.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 cymeradwyo'r cam gweithredu uchod sy'n ymwneud â phenderfynu ar anghenion hyfforddiant yr aelodau;

 

4.2 rhoi gwybod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am unrhyw faterion yn ymwneud ag anghenion hyfforddiant a sefydlu Aelodau.

 

 

5.

ADOLYGU GWYBODAETH AR-LEIN Y CYNGOR O DAN Y PENNAWD CYNGOR A DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

Soniwyd wrth y Pwyllgor am y wybodaeth oedd ar gael ar hyn o bryd ar adran Cyngor a Democratiaeth y wefan gorfforaethol, a oedd bellach yn cynnwys dolen i'r Côd Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig. Yn ogystal, dros y misoedd nesaf, byddai gwybodaeth am 'Sut mae bod yn Gynghorydd' yn cael ei hychwanegu yn barod ar gyfer etholiadau'r llywodraeth leol ym mis Mai 2017.

Mynegodd y Cadeirydd ei siom ynghylch cyn lleied o Aelodau oedd wedi llwytho Adroddiadau Blynyddol ar gyfer 2015, a chytunwyd y byddai'n ddefnyddiol cael manylion ynghylch faint o bobl oedd wedi bwrw golwg ar yr adroddiadau. 

Mewn ymateb i ymholiadau, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r Flaenraglen Waith newydd ar gyfer y Bwrdd Gweithredol yn cael ei llwytho i'r wefan yn fuan, a bod materion hyrwyddo cwestiynau gan y cyhoedd a hwyluso deisebau ar-lein yn cael sylw.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.