Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.I Jones. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23AIN MAWRTH 2021 PDF 301 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021, gan eu bod yn gofnod cywir. |
|
SWYDDOGAETH GRAFFU CYNGOR SIR CAERFYRDDIN -ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020/21 PDF 321 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: The Committee considered a report providing an overview of the Council’s Scrutiny Function and the respective Scrutiny Committees’ work during the 2020/21 municipal year.
Roedd gan y Cyngor bum Pwyllgor Craffu a oedd fel arfer yn cyfarfod bob chwe wythnos. Rhoddodd yr adroddiad olwg gyffredinol ar Swyddogaeth Graffu y Cyngor a chyfeiriodd yn benodol at waith y 5 Pwyllgor Craffu:-
· Polisi ac Adnoddau · Adfywio Cymunedol · Addysg a Phlant · Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd · Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Dywedodd y Cynghorydd Giles Morgan (Cadeirydd Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu) fod y pwyllgorau wedi treulio cryn dipyn o amser yn adolygu materion yn ymwneud â Covid. Mynegwyd diolch i'r Gwasanaethau Democrataidd am hwyluso'r newidiadau a oedd wedi galluogi cyfarfodydd i barhau.
Gofynnwyd faint o gostau teithio oedd wedi'u harbed drwy gael cyfarfodydd rhithwir. Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor y byddai'r union ffigwr yn cael ei ddosbarthu i'r pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
DARPARIAETH TGCH I'R AELODAU PDF 431 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd roi sylwadau ar ddarparu offer TG i'r Aelodau yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022.
Dywedodd Pennaeth TGCh a Pholisi mai'r bwriad oedd parhau i ddarparu gliniadur, iPad a chyfleuster BYOD ar gyfer dyfeisiau symudol. Nodwyd bod yr Awdurdod hefyd yn bwriadu cyflwyno meddalwedd ffonau meddal i alluogi galwadau ffôn dros y rhyngrwyd ac i gael gwared ar linell band eang a ddarperir gan yr Awdurdod.
Gofynnwyd i'r Pwyllgor hefyd ystyried a oedd y lwfans cyfathrebu o £20 yn gyfraniad digonol tuag at gostau gwaith sy'n gysylltiedig â'r Cyngor ar gyfer band eang a defnyddio'r ffôn.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Cyfeiriwyd at aelodau'n prynu eu hoffer eu hunain, a dywedwyd y byddai'n fuddiol ymchwilio i'r opsiwn hwn. Dywedodd Pennaeth TGCh a Pholisi y byddai cael gliniaduron ac iPads a roddir gan yr Awdurdod yn gwneud darparu cymorth yn llawer haws a phwysleisiodd na fyddai aelodau bellach yn elwa o gymorth TG mewnol pe baent yn caffael eu hoffer gan ddarparwr allanol. · Gofynnwyd beth oedd yn cael ei ystyried fel yr isafswm Mbps sy'n ofynnol ar gyfer gweithio o bell. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod tua 30 mbps yn cael ei ystyried yn feincnod. Dywedwyd bod rhai ardaloedd gwledig yn profi problemau cysylltedd a bod yr adran TG yn annog aelodau i adolygu eu pecynnau band eang presennol. · Cytunodd y Pwyllgor fod y lwfans cyfathrebu o £20 yn gyfraniad digonol tuag at gost band eang, a nododd y byddai cyfle i aelodau etholedig drafod cwestiynau ynghylch gofynion cysylltedd gyda'r is-adran TG.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Adran 147 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, roedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol drafft gan nodi ei benderfyniadau ar gyfer blwyddyn y cyngor 2022/23. Ystyriodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad, yn unol â'i Gylch Gwaith o ran gweithredu adroddiadau a gyhoeddwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Panel wedi manteisio ar y cyfle i ailosod cyflogau aelodau etholedig i gyd-fynd â'r enillion cyfartalog yng Nghymru. Nodwyd, o ystyried Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022, fod y Panel wedi penderfynu y byddai'r penderfyniadau cyflog newydd yn weithredol o 9 Mai 2022 y tro hwn. Codwyd y cwestiynau canlynol ar yr adroddiad:-
· Dywedwyd na ddylid cefnogi'r codiad cyflog arfaethedig ac y byddai cynnydd yn unol â chwyddiant yn fwy rhesymol. Mynegwyd pryder y byddai codiad cyflog arfaethedig IRPW yn cyfleu'r neges anghywir ar adeg ariannol anodd. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a allai aelodau ddewis peidio â bod yn rhan o'r codiad cyflog arfaethedig, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai aelodau benderfynu peidio â chymryd y lwfans llawn. Fodd bynnag, nodwyd bod IRPW yn annog aelodau i gymryd yr hawliad llawn.
· derbyn yr adroddiad a · fel rhan o'r broses ymgynghori, bod y Cadeirydd yn cyflwyno sylwadau i'r IRPW y byddai codiad cyflog yn unol â'r gyfradd chwyddiant yn fwy priodol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2020-21 PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2020-21 a nododd, oherwydd effaith Covid-19, na fu'n bosibl cynnal cylch llawn cyfarfodydd Pwyllgor am y flwyddyn.
Er bod amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor wedi'i leihau eleni, roedd y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar sicrhau yr ymdrinnir ag anghenion a gofynion Aelodau a bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud i gefnogi aelodau yn eu dyletswyddau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i fod ar gael i aelodau’r Cyngor er gwybodaeth. |
|
SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddynodi un o'i swyddogion i swydd statudol Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a darparu digon o adnoddau i'r swyddog hwnnw gyflawni'r swyddogaethau statudol cysylltiedig.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar y staff, y swyddfeydd a'r adnoddau eraill a oedd ar gael i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hynny.
Gofynnwyd i'r Pwyllgor benderfynu a oedd y gwasanaethau a ddarperir yn ddigonol i gyflawni'r broses ddemocrataidd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Codwyd y cwestiynau canlynol:-
· Nododd y Pwyllgor yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer cyfarfodydd Hybrid a dywedwyd y byddai'n fwy priodol cael staff ychwanegol o fewn Gwasanaethau Democrataidd yn hytrach na dibynnu ar gymorth gan adrannau eraill. Er nad oedd y cais twf am staff ychwanegol wedi bod yn llwyddiannus, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod penodiadau bellach wedi'u gwneud i'r ddwy swydd wag yn yr uned a dylai'r cynnig o gael cymorth gan rannau eraill o'r adrannau fod yn ddigonol, ond byddai angen adolygu adnoddau'n gyson.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y PECYN CYMORTH DATBLYGU AELODAU PDF 491 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y Pecyn Cymorth Datblygu Aelodau, tudalen bwrpasol ar y Tudalennau Democratiaeth a fyddai'n cefnogi'r Cynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2021/22.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:
· Dywedwyd bod yr aelodau wedi cyflawni cryn dipyn o hyfforddiant, ond ni cheir manylion am hyn ar wefan y Cyngor. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod cyhoeddi data presenoldeb hyfforddiant ar wefan y Cyngor yn cael ei ystyried ac y byddai'n debygol o fod ar gael ar ôl mis Mai 2022. · Gofynnwyd pryd y byddai'r Pecyn Cymorth Datblygu ar gael i'r Aelodau. Dywedodd yr Ymgynghorydd Datblygu Corfforaethol y byddai Cam 2 y pecyn cymorth ar gael ym mis Ionawr i'r Aelodau wneud sylwadau a rhoi adborth. Rhagwelid y byddai'r system lawn yn fyw erbyn mis Mai 2022. · Dywedwyd bod mynd i ddigwyddiadau hyfforddi a chyfarfodydd yn ystod y dydd yn anodd i rai aelodau a oedd yn gweithio'n llawn amser. Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i gynnal arolwg gyda'r holl Gynghorwyr ynghylch amserau cyfarfodydd ac y byddai hyn yn cael ei wneud ar ôl yr etholiad. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
· Derbyn y Pecyn Cymorth dysgu i gefnogi'r Rhaglen Datblygu Aelodau. · Cytuno ar gyfres o weithdai arddangos i bob aelod. |