Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd T.J. Jones

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15FED HYDREF 2019 pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 15 Hydref 2018 yn gofnod cywir.

 

4.

SWYDDOGAETH GRAFFU CYNGOR SIR CAERFYRDDIN - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2017/18 pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2017/18 Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch ei Swyddogaeth Graffu a oedd yn rhoi trosolwg o Swyddogaeth Graffu'r Cyngor ac yn cyfeirio'n benodol at y gwaith yr oedd y pum Pwyllgor Craffu wedi ymgymryd ag ef. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at rôl allweddol y pwyllgorau craffu o ran hyrwyddo atebolrwydd ym mhroses gwneud penderfyniadau awdurdodau lleol, roedd yn adnodd gwerthfawr o ran sicrhau bod polisïau'r cyngor yn adlewyrchu'r blaenoriaethau presennol, yn ogystal â hyrwyddo effeithlonrwydd ac annog gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol.

 

Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion i'r cyfarfod a rhoddwyd y cyfle iddo gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor. Dywedodd fod rhai o'r prif feysydd sydd wedi / yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cynnwys yr angen am gyflwyno adroddiadau amserol o ran monitro'r gyllideb, datblygu aelodau a swyddogion i sicrhau craffu effeithiol, ynghyd â chraffu ar Raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe a chwmnïau hyd braich y Cyngor. Yn ogystal, roedd yr holl bwyllgorau craffu yn cael eu hannog i sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen i edrych yn feirniadol ar unrhyw faes o bryder a allai godi o fewn eu portffolios.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

GWEITHIO'N DDI-BAPUR - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn ystod ei gyfarfod ym mis Medi 2018 wedi penderfynu "Bod yr Awdurdod yn dechrau mabwysiadu system gyfathrebu ddi-bapur â'r holl Gynghorwyr, a fydd ar waith o 2 Medi er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon a bod rhaglen hyfforddiant briodol yn cael ei threfnu cyn y dyddiad hwn"

 

Fel rhan o'r drafodaeth ar weithio'n ddi-bapur, cafwyd ymrwymiad i ddarparu rhaglen hyfforddi ar yr ap modern.gov.; i gynnal arolwg o'r holl aelodau'r o ran eu gofynion T.G. a'r ddarpariaeth bresennol o ran band eang yn eu cartrefi, i lunio dogfen ganllaw ar gyfer Cynghorwyr a Swyddogion ar sicrhau bod gweithio'n ddi-bapur yn llwyddiant. Yn unol â'r ymrwymiad hwnnw, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi'r manylion diweddaraf ynghylch cyflwyno gweithio'n ddi-bapur gan gynnwys:

 

·        Holiadur T.G. drafft

·        Rhesymwaith o ran paratoi a mynychu cyfarfodydd di-bapur

·        Rhestr o hyfforddiant a sesiynau 'galw heibio' ar gyfer aelodau etholedig a swyddogion.

 

Yn ychwanegol at yr uchod, roedd Gweithgor Datblygu Neuadd y Sir yn trafod yr opsiynau o osod systemau gwefru priodol yn y Siambr yn Neuadd y Sir a'r posibilrwydd o uwchraddio'r system gynadledda i sicrhau ei bod yn addas at y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y posibilrwydd o arddangos agenda'r cyfarfod ar sgrin dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai modd edrych ar hyn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth TGCh mewn ymateb i gwestiwn ar argaeledd band eang o fewn ardaloedd gwledig y sir nad oedd wedi cael gwybod am unrhyw anawsterau o'r fath. Fodd bynnag, os oedd Aelodau yn wynebu problemau cysylltedd, dylid rhoi gwybod i'r adran TGCh er mwyn ymchwilio i'r mater.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a bod yr holiadur TGCh yn cael ei gymeradwyo i'w ddosbarthu i bob aelod o'r Cyngor

 

6.

ADOLYGAETH BLYNYDDOL SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried  Adroddiad Blynyddol 2017/18 y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn rhoi amlinelliad o'r adnoddau staff yn yr Adain Gwasanaethau Democrataidd sy'n rhan o adran y Prif Weithredwr, crynodeb o'r ystod eang o ddyletswyddau yr ymgymerir â hwy, datblygiadau parhaus ynghyd ag unrhyw gynigion yn y dyfodol i gefnogi aelodau etholedig yn eu priod swyddogaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer 2019/20, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd eu bod yn cynnwys cyflwyno gweithio'n ddi-bapur, hyfforddiant craffu ar gyfer aelodau a swyddogion;  archwiliad o aliniad swyddogaethau'r pwyllgorau craffu i adlewyrchu'r strwythurau adrannol a phortffolios Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol (cyhyd ag y bo'n ymarferol); cyflwyno system dreuliau ar-lein i aelodau ynghyd ag adolygiad o'r ystafelloedd cyfarfod yn neuadd y sir a chyfleusterau cynadledda.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth TGCh, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darpariaeth offer TGCh ar gyfer aelodau etholedig, nad oedd cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd i adnewyddu'r offer ar raddfa fawr, oherwydd byddai angen darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer hyn. Fodd bynnag, petai unrhyw aelod yn cael anhawster byddai'r offer yn cael eu newid am ddewis priodol arall.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau